Meilyr ap Gwalchmai
bardd Cymreig
Bardd Cymraeg y cysylltir ef a'i gyndeidiau â Threwalchmai ym Môn oedd Meilyr ap Gwalchmai (fl. ail hanner y 12g).[1]
Meilyr ap Gwalchmai | |
---|---|
Ganwyd | 12 g ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Tad | Gwalchmai ap Meilyr ![]() |
BywgraffiadGolygu
Roedd yn fab i Walchmai ap Meilyr, ac felly'n wŷr i Feilyr Brydydd, ac yn frawd i Einion ap Gwalchmai, yn ôl pob tebyg, a hefyd i'r bardd Elidir Sais, efallai.[1]
CerddiGolygu
Dim ond pedair o'i gerddi sydd wedi goroesi, ill pedair yn awdlau i Dduw. Cadwyd yr pedair awdl yn Llyfr Coch Hergest a cheir rhan o un ohonynt yn Llawysgrif Hendregadredd yn ogystal.[1]
LlyfryddiaethGolygu
- Testun
- J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994).
- Erthygl
- Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Y Bala, 1979). Erthygl gan Tomos Roberts.