Agor y brif ddewislen

Roedd Gwilym Rhyfel neu Gwilym Ryfel (fl. 1170au), yn fardd llys a ganai yng Ngwynedd a Phowys yn hanner olaf y 12g.[1]

BywgraffiadGolygu

Ychydig a wyddys am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o'i cerddi. Canai i noddwyr yng Ngwynedd Uwch Conwy ond ceir cyfeiriad at Degeingl hefyd sy'n awgrymu cysylltiad posibl â'r rhan honno o'r Berfeddwlad. Canodd ei gyd-fardd Gruffudd ap Gwrgenau farwnad iddo sy'n dangos ei fod yn frodor o Bowys a'i fod wedi marw mewn brwydr ymhell o'i fro enedigol. Mae hynny yn ei dro yn ategu'r awgrym yn enw'r bardd mai bardd-ryfelwr ydoedd, fel Dafydd Benfras a rhai eraill o'r Gogynfeirdd. Cyfeirir ato gyda pharch gan Iorwerth Beli (14g) fel un o brif feirdd y traddodiad, gyda Cynddelw Brydydd Mawr, Llywarch ap Llywelyn ("Prydydd y Moch") a Dafydd Benfras.[1]

CerddiGolygu

Dim ond pedair cerdd o waith y bardd sydd wedi goroesi, sef dwy gyfres o englynion i'r tywysog Dafydd ab Owain Gwynedd, ynghyd â dau englyn i farch a ddyfynnir yng Ngramadeg Einion Offeiriad (14g) fel enghraifft o'i waith.[1]

Roedd Dafydd ab Owain yn fab hynaf Owain Gwynedd trwy ei gyfnither Cristin. Mae un o'r cerddi iddo yn gerdd dadolwch (cerdd sy'n erfyn am gymod) ac ymddengys fod y bardd wedi digio'i noddwr. Mae'r ail yn gyfres o dri englyn unodl union a ganwyd, mae'n debyg, tua 1174-1175 yn y flwyddyn brin pan ymestynnai awdurdod Dafydd dros y rhan fwyaf o Wynedd.[1]

Ac eithrio'r ddau englyn yng Ngramadeg Einion Offeiriad, cedwir y testunau yn Llawysgrif Hendregadredd.[1]

LlyfryddiaethGolygu

  • J. E. Caerwyn Williams (gol.), 'Gwaith Gwilym Rhyfel', yn Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol VI.

CyfeiriadauGolygu