Agor y brif ddewislen

Roedd Einion ap Gwalchmai (fl. 1203 - 1223) yn fardd llys Cymraeg a drigai ym Môn. Mae'n perthyn i ddosbarth o feirdd llys Cymraeg a adnabyddir fel Beirdd y Tywysogion. Daeth yn gymeriad llên gwerin.[1]

Einion ap Gwalchmai
Ganwyd 12G Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd 1203 Edit this on Wikidata

LlinachGolygu

Roedd Einion yn perthyn i deulu barddol nodedig, yn y drydedd genhedlaeth o linach o feirdd sy'n dechrau gyda'i daid Meilyr Brydydd, bardd llys Gruffudd ap Cynan. Ei dad oedd Gwalchmai ap Meilyr. Ei frawd oedd Meilyr ap Gwalchmai ac mae'n bosibl fod y bardd Elidir Sais naill ai'n frawd iddo neu'n ewythr iddo.[1]

CerddiGolygu

Cedwir tair awdl hir i Dduw gan Einion ynghyd â llinellau agoriadol mawl i Lywelyn Fawr.[1] Ei gerdd fwyaf nodedig efallai yw ei farwnad ddwys i Nest ferch Hywel, o Dywyn, Meirionnydd. Mae'n agor â chwech llinell telynegol iawn i fis Mai:

Amser Mai, maith dydd, neud rhydd rhoddi,
Neud coed nad ceithiw, ceinlliw celli.
Neud llafar adar, neud gwâr gweilgi,
Neud gwaeddgreg gwaneg gwynt yn edwi,
Neud erfai ddoniau goddau gweddi,
Neud argel dawel, nid mau dewi.[2]

Einion mewn llên gwerinGolygu

Cysylltir Einion â chwedl werin a elwir "Einion ap Gwalchmai a Rhiain y Glasgoed". Yn ogystal fe'i cysylltir â "Naid Abernodwydd", ger Pentraeth ar ynys Môn; dywedir iddo neidio hanner can troedfedd dros afon Nodwydd yn Abernodwydd o flaen llygaid ei gariad er mwyn ei hennill yn wraig iddo.[3]

LlyfryddiaethGolygu

Testunau
  • J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Caerdydd, 1994).
Erthygl
  • Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Y Bala, 1979). Erthygl gan Tomos Roberts.

CyfeiriadauGolygu