Agor y brif ddewislen

Roedd Einion Wan (fl. tua 1210 - 1245) yn un o Feirdd y Tywysogion a gysylltir â theyrnasoedd Gwynedd a Phowys yn ail chwarter y 13g.[1]

Einion Wan
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd 1230 Edit this on Wikidata

Cynnwys

BywgraffiadGolygu

Ni wyddys dim am fywyd y bardd ac eithrio'r hyn y gellir ei gasglu o dystiolaeth y chwech gerdd ganddo sydd wedi goroesi. Mewn canlyniad y cwbl y medrem ddweud â sicrwydd yw ei fod wedi canu i Lywelyn Fawr a'i feibion Dafydd a Gruffudd yng Ngwynedd tua diwedd ei deyrnasiad ac i'r tywysog Madog ap Gruffudd Maelor o Bowys tua'r un adeg. Gan fod cyfran sylweddol o'i waith ar goll ni ellir dweud yn bendant ei fod yn frodor o un o'r teyrnasoedd hynny, er bod hynny'n ymddangos yn dra thebygol. Ar un adeg ceisiai rhai ysgolheigion uniaethu Einion Wan a'i gyfoeswr Einion ap Gwgon, ond ni dderbynnir hynny bellach. Dichon fod yr epithet (g)wan yn cyfeirio at eiddilwch ei gorff.[1]

CerddiGolygu

Chwech o gerddi gan Einion Wan sydd wedi goroesi, a cheir y testunau cynharaf yn Llawysgrif Hendregadredd a Llyfr Coch Hergest. Canodd gerdd o fawl ar ffurf cadwyn o englynion i Lywelyn Fawr, sydd efallai i'w ddyddio i'r cyfnod cyn 1215-1218. Ceir cerddi mawl i Ddafydd ap Llywelyn a'i frawd Gruffudd yn ogystal. Mae'r gerdd i Ddafydd yn enghraifft o gerdd dadolwch, sy'n ceisio cymod rhwng y bardd a'i noddwr. Ym Mhowys, canodd gerdd o foliant i'r tywysog Madog ap Gruffudd, un o ddeiliaid mwyaf ffyddlon Llywelyn Fawr.[1]

Cedwir dwy farwnad nodedig o waith y bardd.[1] Mae un ohonynt yn farwnad i Fadog ap Gruffudd a'r llall yn farnwad i Lywelyn Fawr ei hun. Mae marwnad Llywelyn ar ffurf cadwyn o englynion, ac ar sail hynny mae modd awgrymu iddi gael ei ganu o flaen gosgordd y tywysog, efallai yn ei brif lys yn Aberffraw gan fod pwyslais yn y canu ar gysylltiadau Llywelyn â Môn a'r golled i wŷr yr ynys ar ôl Llywelyn. Dyma un o'r englynion:

Iorferth esillydd! Arfogion——ei hil!
Hael gynnil gynrheinion!
Gwae ni, Wynedd orchorddion,
Gweled llawr ar llyw mawr Môn.[1]

LlyfryddiaethGolygu

  • Peredur I. Lynch (gol.), 'Gwaith Einion Wan', yn Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol VI.

CyfeiriadauGolygu