Einion ap Madog ap Rhahawd
Un o Feirdd y Tywysogion a ganai yn ail chwarter y 13g oedd Einion ap Madog ap Rhahawd (fl. 1237). Roedd yn fardd llys yn oes Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd.[1]
Einion ap Madog ap Rhahawd | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1237 |
Llinach
golyguYchydig a wyddys am fywyd personol Einion. Hanai o deulu o gyfreithwyr Cymreig a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu', a oedd yn gysylltiedig â Llanddyfnan ym Môn ond yn wreiddiol o ardal cwmwd Uwch Gwyrfai yn Arfon. Roedd yn geifn (perthynas nesaf ar ôl cyfyrder) i'r bardd diweddarach Gruffudd ab yr Ynad Coch, a ganodd farwnad enwog i'r tywysog Llywelyn ap Gruffudd. Enwir tad Einion, Madog ap Rhahawd, yn y testun achyddol 'Bonedd Gwŷr Arfon' a chofnodir 'gwely (tir teuluol) Gwyrion Rhahawd' yn ardal Dinas Dinlle, Uwch Gwyrfai, ar ddechrau'r 14g.[1]
Cerdd
golyguDim ond un gerdd o waith Einion ap Madog ap Rhahawd sydd wedi goroesi. Mae'r testun ar glawr yn Llawysgrif Hendregadredd a chwech llawysgrif diweddarach sy'n deillio o'r llawysgrif honno. Mae'n awdl foliant fer i Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Cafodd ei chyfansoddi ar ôl i Gruffudd gael ei ryddhau o gaethiwed yn 1234 a chyn ei ail-garcharu yn 1239, cyfnod pan reolai Gruffudd dros ei dir etifeddol yn Llŷn ac Eifionydd a rhan o Bowys, dan awdurdod ei dad, â'i lys yng Nghastell Cricieth yn ôl pob tebyg.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Gruffydd Aled Williams (gol.), 'Gwaith Einion ap Madog ap Rhahawd', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
Cyfeiriadau
golygu