Gruffudd ap Gwrgenau
Roedd Gruffudd ap Gwrgenau (fl. tua 1175 - 1210) yn un o Feirdd y Tywysogion, a gysylltir â Gwynedd.[1]
Gruffudd ap Gwrgenau | |
---|---|
Ganwyd | 12 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 12 g |
Cysylltir gyda | Gruffudd ap Cynan ab Owain |
Cefndir
golyguNi wyddys llawer o gwbl am fywyd y bardd. Ceir yr unig gyfeiriad cyfoes at ŵr o'r cyfnod yn ach teulu o Frycheiniog, lle nodir fod un o'i hynafiaid, Gruffudd ap Gwrgenau, wedi ei eni tua 1170, ond gan fod y bardd yn cael ei gysylltu â Gwynedd mae'n annhebygol mai'r un un ydoedd, er bod yr enw yn un pur anghyffredin.[1]
Cerddi
golyguDim ond dwy gerdd gan Gruffudd ap Gwrgenau sydd wedi goroesi. Mae un ohonynt yn awdl farwnad i Gruffudd ap Cynan ab Owain, arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Maredudd). Bu farw Gruffudd ap Cynan yn Abaty Aberconwy yn y flwyddyn 1200, yn ôl cofnod ym Mrut y Tywysogion. Mae'n wahanol i farwnadau arferol beirdd y cyfnod am ei fod yn pwysleisio breuder oes dyn ac yn erfyn i Dduw am faddeuant cyn symud i glodfori ei wrhydri a'i haelioni ar nodyn mwy confensiynol.[1]
Mae'r ail gerdd yn gyfres fer o englynion yn cofnodi marwolaeth pedwar neu bump o gyfeillion y bardd - yn eu plith y bardd-ryfelwr Gwilym Rhyfel - sydd ar gywair lleddf a dwys. Mae'r gerdd yn perthyn i genre o gerddi i aelodau gosgordd a gyslltir a chanu'r bardd teulu. Unwaith eto ceir pwyslais ar freuder bywyd. Mae oes dyn fel oes drych (yr un mor fregus a diflanedig):
Marw Merwydd hirlwydd, a'm hirwlych—dagrau,
Digrawn ynt a mynych;
Nid henaint gŵr a'i gwrthrych,
Nid hŷn oes dyn nog oes drych.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Morfudd E. Owen (gol.), "Gwaith Gruffudd ap Gwrgenau", yn Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif, gol. Kathleen A. Bramley et al., Cyfres Beirdd y Tywysogion (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
Cyfeiriadau
golygu