Iorwerth Fychan

bardd

Un o'r Gogynfeirdd diweddar oedd Iorwerth Fychan (fl. ail hanner y 13g). Ymddengys fod Iorwerth yn canu er mwyn pleser yn hytrach nac fel bardd proffesiynol, ac felly'n perthyn i'r un dosbarth o feirdd canoloesol uchelwrol â'r bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd.[1]

Iorwerth Fychan
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1300 Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ychydig iawn a wyddys amdano. Ar sail enw a roddir ar gopi diweddarach o un o'i gerddi mae'n bosibl mai Iorwerth Fychan ab Iorwerth ap Rhotbert oedd ei enw llawn. Ceir marwnad i Iorwerth ap Rhotbert, uchelwr o ardal Arwystli, yn yr un llawysgrif a briodolir i Lywarch ap Llywelyn ("Prydydd y Moch"), ond awgryma'r arbenigwr ar lawysgrifau Cymreig cynnar Daniel Huws ei bod efallai'n waith Iorwerth Fychan ei hun. Mae ffynhonfell arall yn cysylltu Iorwerth ag Arllechwedd yng Ngwynedd, tra bod tystiolaeth ei gerddi yn dangos ei fod yn gyfarwydd â Meirionnydd.[1]

Cerddi golygu

Cedwir yr unig destunau o'i gerddi sydd wedi goroesi yn Llawysgrif Hendregadredd a llawysgrif Peniarth 20. Dwy gerdd serch ac englyn a ddaeth yn boblogaidd fel enghraifft o'r mesur yng Ngramadegau'r Penceirddiaid ydynt, cyfanswm o gant ac wyth o linellau.[1]

Mae Iorwerth yn fardd medrus a gellir fod yn sicr fod cyfran mawr o'i waith wedi mynd ar goll. Mae'r ddwy awdl serch i ferched anhysbys yn dangos dylanwad gwaith Hywel ab Owain Gwynedd, Einion ap Gwalchmai ac eraill o Feirdd y Tywysogion. Diau fod y math yma o ganu yn ddyledus i raddau i ganu serch y Trwbadwriaid o'r cyfandir yn ogystal. Gweirfyl (Gwerful) a Gwenllïan yw enwau'r merched uchelwrol yn yr awdlau hyn, ond mae'n debyg eu bod yn enwau dychmygol. Yn yr awdl i Weirfyl ceir adleisiau o 'Rieingerdd Efa ferch Madog ap Maredudd' o waith Cynddelw Brydydd Mawr. Er bod y canu'n gonfensiynol mae mynegiant y bardd yn ffres a naturiol ac mae ganddo lygad da am harddwch merch a byd natur.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Ceir y golygiad safonol o waith Iorwerth Fychan gan Christine James yn,

  • Rhian M. Andrews et al (gol.), Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 1996). Cyfres Beirdd y Tywysogion.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 1996).



Beirdd y Tywysogion  
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch