Agor y brif ddewislen

Bardd llys Cymraeg o Wynedd yn chwarter cyntaf y 13g oedd Einion ap Gwgon (weithiau Einion ap Gwgan) (fl. 1215).[1]

Einion ap Gwgon
Ganwyd 12G Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd 1215 Edit this on Wikidata
Tad Gwgon Brydydd Edit this on Wikidata

LlinachGolygu

Mae'n bosibl fod Einion yn fab i'r bardd Gwgon Brydydd (fl. tua 1200-1220), ond ni ellir profi hynny'n derfynnol. Ceir cyfeiriad at rywun o'r enw 'Einion ap Gwgon' neu 'Einion ap Caradog ap Gwgon' yn yr achau fel un o lwyth Gollwyn ap Tangno. Os gellir uniaethu'r bardd â'r gŵr hwnnw, byddai'n medru olrhain ei ach yn ôl at Goel Hen ac arwyr yr Hen Ogledd. Roedd Llywelyn Fawr ei hun yn perthyn i'r un llinach.[1]

CerddGolygu

Yr unig gerdd gan Einion a gadwyd yw awdl foliant i Lywelyn Fawr. Ceir y testun cynharaf yn Llawysgrif Hendregadredd ac mae pob testun diweddarach yn deillio o'r llawysgrif honno. Mae'n gerdd hir o naws orfoleddus sy'n dathlu buddugoliaethau Llywelyn yn y de o ardal Dyffryn Tanad a'r Mers i Gaerfyrddin ac Aberteifi. Gellir ei dyddio i'r flwyddyn 1215 neu'n fuan ar ôl hynny. Ceir nifer o gyfeiriadau at arwyr yr Hen Ogledd a chymherir Llywelyn i arwyr fel Rhydderch Hael a Rhun ap Maelgwn Gwynedd.[1]

LlyfryddiaethGolygu

  • R. Geraint Gruffudd (gol.), 'Gwaith Einion ap Gwgon', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.

CyfeiriadauGolygu