Agor y brif ddewislen

Un o Feirdd y Tywysogion a ganai yng Ngwynedd a Deheubarth yn hanner cyntaf y 13g oedd Phylip Brydydd (fl. 1222). Roedd yn frodor o Geredigion.[1]

Cynnwys

BywgraffiadGolygu

Ni wyddys dim am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi a chyfeiriad tebygol ato mewn cerdd ddiweddarach gan Gwilym Ddu sy'n ei gysylltu â Cheredigion. Er nad oes sicrwydd am hynny, mae'n bosibl mai ef yw'r Phylip ab Ifor ap Cydifor ap Gwaithfoed a geir yn achau Deheubarth ac a gysylltir â Llanbadarn Odwyn, Pennardd, yng Ngheredigion. Mae ei enw yn dangos ei fod yn brydydd yng nghyfundrefn y beirdd.[1]

CerddiGolygu

Cedwir ar glawr yn y llawysgrifau bedair o gerddi mawl gan y bardd i Rhys Gryg, mab Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth, Rhys Ieuanc (nai Rhys Gryg), ac i'r Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) o Wynedd. Yn ogystal ceir dwy gerdd ymryson arbennig sy bron yn unigryw yng ngwaith y Gogynfeirdd ac sy'n cynnig golwg gwerthfawr ar y Traddodiad Barddol yn Oes y Tywysogion.[1]

LlyfryddiaethGolygu

  • Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Phylip Brydydd', yn N. G. Costigan et al. (gol.), Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). Y golygiad safonol o waith y bardd, yng 'Nghyfres Beirdd y Tywysogion'.

CyfeiriadauGolygu