Gwlad Groeg
Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw'r Weriniaeth Helenaidd neu Gwlad Groeg. Gwledydd cyfagos yw Albania, Gogledd Macedonia, Bwlgaria a Thwrci. I'r gogledd mae'r Môr Egeaidd ac i'r de a'r dwyrain Môr Ionia a'r Môr Canoldir.
Ελληνική Δημοκρατία (Ellinikí Dimokratía) | |
Arwyddair | Rhyddid neu farwolaeth |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Enwyd ar ôl | Groegiaid |
Prifddinas | Athen |
Poblogaeth | 10,482,487 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Emyn Rhyddid |
Pennaeth llywodraeth | Kyriakos Mitsotakis |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Groeg, Groeg y Werin, Groeg Modern |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Ddwyrain Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Y Cenhedloedd Unedig, De Ewrop |
Arwynebedd | 131,957 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Albania, Bwlgaria, Gogledd Macedonia, Twrci |
Cyfesurynnau | 38.5°N 23°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Gwlad Groeg |
Corff deddfwriaethol | Senedd Helenos |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Llywydd Gwlad Groeg |
Pennaeth y wladwriaeth | Katerina Sakellaropoulou |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad Groeg |
Pennaeth y Llywodraeth | Kyriakos Mitsotakis |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $214,874 million, $219,066 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 18.5 canran |
Cyfartaledd plant | 1.3 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.887 |
Ystyrir Groeg gan lawer fel crud diwylliant y Gorllewin a man geni democratiaeth, athroniaeth orllewinol, campau chwaraeon, llenyddiaeth orllewinol, gwleidyddiaeth a drama. Mae ganddi hanes hir a chyfoethog. Ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 1981 a chyflwynwyd yr ewro fel arian y wlad yn 2001.
Yn Olympia gwlad Groeg y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Gwreiddiol o 776 CC hyd 393 OC. Yn 2004 cynhaliwyd y Gêmau Olympaidd Modern yn Athen.
Daearyddiaeth
golyguSaif Gwlad Groeg yn ne-ddwyrain Ewrop, ar ran ddeheuol Penrhyn y Balcanau a'r ynysoedd o'i amgylch ym Môr y Canoldir. Dim ond darn cul o dir sy'n cysylltu rhan ddeheuol y penrhyn, y Peloponnesos, a'r tir mawr. Yn y gogledd, mae Groeg yn ffinio ar Bwlgaria, Weriniaeth Macedonia ac Albania, ac yn y dwyrain ar Twrci. Mae rhwng 1,400 a 2,000 o ynysoedd yng Ngwlad Groeg, yn dibynnu sut y diffinnir ynys, ond dim ond ar 227 ohonynt mae poblogaeth barhaol, a dim ond ar 78 o'r rhain mae mwy na 100 o drigolion. Ymhlith y rhain mae Creta, Euboea, Lesbos, Chios, Rhodos, Kerkyra, y Dodecanese a'r Cyclades.
Gwlad fynyddig yw Groeg, gyda tua 80% o'i harwynebedd yn fynyddig. Ynghanol y penrhyn, mae mynyddoedd y Pindus yn ymestyn o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, ac yn codi i 2637 medr o uchder. Copa uchaf Groeg yw Mynydd Olympus, 2919 medr o uchder. Ar y ffin rhwng Groeg a Bwlgaria mae Mynyddoedd Rhodope.
Hanes
golygu- Prif: Hanes Groeg
Ar lannau'r Môr Aegeaidd y datblygodd gwareiddiadau cyntaf Ewrop. Y cynharaf oedd y Gwareiddiad Minoaidd ar ynys Creta, gyda Knossos fel ei ganolfan. Yn ddiweddarach, datblygodd y Gwareiddiad Myceneaidd ar y tir mawr. Wedi diwedd y gwareiddiad yma, bu cyfnod a adwaenir fel Oesodd Tywyll Groeg, ond yna blodeuodd y cyfnod clasurol. Yn draddodiadol, dyddir hwn o ddyddiad cynnal y Gemau Olympaidd cyntaf yn 776 CC.
Y ffurf nodweddiadol ar lywodraeth yn y cyfnod yma oedd y polis (dinas-wladwriaeth). Lledaenodd y diwylliant Groegaidd a gwladychwyr Groegaidd i Asia Leiaf a de yr Eidal (Magna Graecia). Ymladdodd Athen a Sparta gyda'i gilydd i drechu ymosodiad Ymerodraeth Persia yn y 5 CC. Yn ddiweddarach, ymladdwyd Rhyfel y Peloponnesos rhyngddynt, gyda Sparta yn gorchfygu Athen i ddod yn brif rym milwrol Groeg am gyfnod. Yn ddiweddarch, gorchfygwyd Sparta gan Thebai.
Daeth Macedonia yn feistr ar y ddinas-wladwriaethau Groegaidd gan Philip II, brenin Macedon, a than ei fab ef, Alecsander Fawr, gorchfygwyd a dinistriwyd yr Ymerodraeth Bersaidd. Dechreuodd hyn y Cyfnod Helenistaidd. Wedi marwolaeth Alecsander, bu ymladd rhwng ei gadfridogion, a rhannwyd ei ymerodraeth. Concrwyd Groeg yn derfynol gan y Rhufeiniaid yn 146 CC, a daeth yn rhan o Ymerodraeth Rhufain.
Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, datblygodd yr Ymerodraeth Fysantaidd, gyda Chaergystennin fel prifddinas. Parhaodd yr ymerodraeth hyd at gwymp Caergystennin yn 1453. Daeth Groeg yn rhan o'r Ymerodraeth Otomanaidd, a pharhaodd dan reolaeth Otomanaidd hyd at Ryfel Annibyniaeth Groeg (1821–1829). Sefydlwyd teyrnas gan y brenin Otto.
Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymladdodd Groeg yn erbyn Twrci (1919-1922), gan feddiannu tiriogaethau sylweddol am gyfnod cyn cael eu gyrru'n ôl gan |Mustafa Kemal Atatürk. Yn 1940, ymosododd yr Eidal ar Wlad Groeg, ond gorchfygwyd yr Eidalwyr gan y Groegiaid, a bu'n rhaid i fyddin yr Almaen ymyrryd a meddiannu Groeg.
Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ymladdwyd Rhyfel Cartref Groeg rhwng byddinoedd Comiwnyddol a Brenhinol. Yn 1967, cipiwyd grym gan junta milwrol adain-dde. Adferwyd democratiaeth yn 1975. Ymunodd Groeg a'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1981, ac arweiniodd hyn at gynnydd economaidd sylweddol. Mabwysiadwyd yr Ewro yn 2001.
Demograffiaeth
golyguYn ôl Cyfrifiad 2001, roedd poblogaeth Groeg yn 10,964,020. Yn Ionawr 2008, amcangyfrifwyd fod y boblogaeth yn 11,240,000. Yn 2005. roedd y boblogaeth yn cynyddu o 0.19% y flwyddyn. Roedd disgwyliad bywyd yn 76.59 mlynedd i ddynion a 81.76 mlynedd i ferched.
O ran crefydd, mae tua 98% yn perthyn i Eglwys Uniongred y Dwyrain, gyda 1.3% yn ddilynwyr Islam.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, bu cyfnewid poblogaeth ar raddfa fawr rhwng Groeg a gwledydd fel Twrci a Bwlgaria, gyda tua 2 filiwn o Roegiaid o ardaloedd megis Asia Leiaf, Bwlgaria, Albania a'r Balcanau yn symud i Wlad Groeg, a nifer cyffelyb yn gadael.
Dinasoedd mwyaf Groeg yw Athen, Thessaloniki, Piraeus a Patras.
Rhaniadau Gweinyddol
golygu- Prif: Periffereiau Groeg
Rhennir Gwlad Groeg yn dair ar ddeg o raniadau a elwir yn "peripheriau". Rhennir y rhain yn 54 o nomau.
Map | Rhif | Peripheri | Prifddinas | Arwynebedd | Poblogaeth |
---|---|---|---|---|---|
1 | Attica | Athen | 3,808 km² | 3,761,810 | |
2 | Canolbarth Groeg | Lamia | 15,549 km² | 605,329 | |
3 | Canolbarth Macedonia | Thessaloniki | 18,811 km² | 1,871,952 | |
4 | Creta | Heraklion | 8,259 km² | 601,131 | |
5 | Dwyrain Macedonia a Thrace | Kavála | 14,157 km² | 611,067 | |
6 | Epirus | Ioannina | 9,203 km² | 353,820 | |
7 | Ynysoedd Ionia | Corfu | 2,307 km² | 212,984 | |
8 | Gogledd Aegea | Mytilene | 3,836 km² | 206,121 | |
9 | Peloponnesos | Kalamata | 15,490 km² | 638,942 | |
10 | De Aegea | Ermoupoli | 5,286 km² | 302,686 | |
11 | Thessalia | Lárisa | 14.037 km² | 753,888 | |
12 | Gorllewin Groeg | Patras | 11,350 km² | 740,506 | |
13 | Gorllewin Macedonia | Kozani | 9,451 km² | 301,522 | |
- | Mynydd Athos (Ymreolaethol) | Karyes | 390 km² | 2,262 |