Tansanïa

(Ailgyfeiriad o Tansania)

Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Unedig Tansanïa neu Tansanïa.[1] Saif yn ardal Llynnoedd Mawr Affrica. Mae'n ffinio ag Wganda a Chenia i'r gogledd, Rwanda, Bwrwndi a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo i'r gorllewin, Sambia, Malawi a Mosambic i'r de a Chefnfor India i'r dwyrain. Saif mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro, yng ngogledd-ddwyrain Tansanïa. Ei phoblogaeth yn ôl y Cyfrifiad cenedlaethol diwethaf oedd 57,310,019 (2017)[2] a phoblogaeth ei phrifddinas, Dodoma, oedd 213,636 (2012), 213,636 (2020), 150,604 (2002), 45,807 (1978).

Tansanïa
Gweriniaeth Unedig Tansanïa
Jamhuri ya Muungano wa Tanzania (Swahili)
Mathgweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTanganica, Sansibar Edit this on Wikidata
PrifddinasDodoma Edit this on Wikidata
Poblogaeth57,310,019 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Rhagfyr 1961 Tanganyika
  • 10 Rhagfyr 1963 Zanzibar a Pemba
  • 26 Ebrill 1964 Unwyd
  • 25 Ebrill 1977 Cyfansoddiad y wlad
AnthemMungu ibariki Afrika Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSamia Hassan Suluhu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Amser Dwyrain Affrica, Africa/Dar_es_Salaam Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Swahili, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Tansanïa Tansanïa
Arwynebedd947,303 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCenia, Wganda, Rwanda, Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Sambia, Malawi, Mosambic, Llyn Victoria, Seychelles Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau6.3°S 34.9°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabinet Tansanïa Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Tansanïa Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSamia Hassan Suluhu Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Tansanïa Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSamia Hassan Suluhu Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$70,656 million, $75,709 million Edit this on Wikidata
ArianSwllt Tansanïa Edit this on Wikidata
Canran y diwaith3 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant5.145 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.549 Edit this on Wikidata

Yn swyddogol, diffinnir y wlad fel 'Gweriniaeth Llywodraethol, Cyfansoddiadol' (presidential constitutional republic) ers 1996. Ei phrifddinas swyddogol yw Dodoma, ac yno hefyd mae Swyddfa'r Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a llawer o swyddfeydd y Llywodraeth.[3] Yn Dar es Salaam, sef yr hen Brifddinas mae'r rhan fwyaf o swyddfeydd y Llywodraeth, a hi hefyd yw dinas fwya'r wlad, y prif borthladd a phrif ganolfan marchnata.[4][4][5][6]

Gwladychwyd y wlad gan Ewropead yn gyntaf yn niwedd y 19g a hynny gan yr Almaenwyr ac yna'r Prydeinwyr wedi'r Ail Ryfel Byd. Llywodraethwyd y tir mawr Tanganyika ar wahân i ynysfor Sansibar, ond wedi iddynt ddod yn annibynnol (yn 1961 ac yn 1963) cafwyd cytundeb rhyngddynt i uno, yn Ebrill 1964, gan ffurfio Gwladwriaeth Unedig Tansanïa.

Amcangyfrifodd y Cenhedloedd Unedig fod ei poblogaeth tua 56.31 miliwn, sydd ychydig yn llai na De Affrica, gan ei gwneud yr ail wlad fwyaf poblog sydd wedi'i lleoli'n gyfan gwbl i'r de o'r Cyhydedd. Mae'r boblogaeth yn cynnwys tua 120 o grwpiau ethnig, ieithyddol a chrefyddol. Gwladwriaeth sofran yw Tansanïa, gweriniaeth gyfansoddiadol arlywyddol ac ers 1996 ei phrifddinas swyddogol yw Dodoma lle mae swyddfa'r arlywydd, y Cynulliad Cenedlaethol, a holl weinidogaethau'r llywodraeth.[7] Dar es Salaam, y brifddinas gynt, sy'n cadw'r mwyafrif o swyddfeydd y llywodraeth a hi yw dinas fwyaf, prif borthladd a phrif ganolfan fasnachol y wlad.[4][5][8] Mae Tansanïa'n wladwriaeth un blaid de facto< gyda'r blaid sosialaidd ddemocrataidd Chama Cha Mapinduzi mewn grym.

Gwlad fynyddig a choediog iawn yn y gogledd-ddwyrain yw Tansanïa. Gorwedda tri o Lynnoedd Mawr Affrica yn rhannol o fewn y wlad. I'r gogledd a'r gorllewin mae Llyn Victoria, llyn mwyaf Affrica, a Llyn Tanganyika, llyn dyfnaf y cyfandir, sy'n adnabyddus am ei rywogaethau unigryw o bysgod. I'r de ceir Llyn Malawi. Mae'r lan ddwyreiniol yn boeth a llaith, gydag ynysfor Sansibar ychydig allan ar y môr. Ardal Cadwraeth Bae Menai yw ardal forol warchodedig fwyaf Zanzibar. Lleolir Rhaeadr Kalambo, ar Afon Kalambo ar y ffin â Sambia, a hi yw'r rhaeadr ddi-dor ail uchaf yn Affrica.[9]

Cristnogaeth yw'r grefydd fwyaf yn Tansanïa, ond mae yna leiafrifoedd sylweddol sy'n dilyn Islam ac eraill sy'n dilyn y gredo Eneidyddiaeth hefyd.[10] Siaredir dros 100 o wahanol ieithoedd yn Tansanïa, sy'n golygu mai hon yw'r wlad fwyaf amrywiol ei hieithoedd yn Nwyrain Affrica.[11] Nid oes gan y wlad iaith swyddogol de jure [12] er mai Swahili yw'r iaith genedlaethol.[13] Defnyddir Swahili mewn dadl seneddol, yn y llysoedd is, ac fel cyfrwng addysgu yn yr ysgol gynradd. Defnyddir Saesneg mewn masnach dramor, mewn diplomyddiaeth, mewn llysoedd uwch, ac fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion uwchradd a cholegau;[11] er bod llywodraeth Tansanïa'n bwriadu rhoi'r gorau i'r Saesneg fel prif iaith yr addysgu, bydd ar gael fel cwrs dewisol.[14] Ceir tua 10 y cant o Dansanïaid sy'n siarad Swahili fel iaith gyntaf, ac mae hyd at 90 y cant yn ei siarad fel ail iaith.[11]

Geirdarddiad

golygu

Cafodd yr enw "Tanzania" ei greu fel cyfansoddyn wedi'i dorri o enwau'r ddwy wladwriaeth a unodd i greu'r wlad: Tanganyika a Zanzibar. Mae'n cynnwys tair llythyren gyntaf enwau'r ddwy wladwriaeth ("Tan" a "Zan") a'r ôl-ddodiad, "ia" gan ffurfio 'Tansanïa'.

Mae'r enw "Tanganyika" yn deillio o'r geiriau Swahili tanga ("hwylio") a nyika ("gwastadedd anghyfannedd", "anialwch"), gan greu'r ymadrodd "hwylio yn yr anialwch". Weithiau fe'i deellir fel cyfeiriad at Lyn Tanganyika.

Mae llawer o ffosiliau hominid pwysig wedi'u darganfod yn Tansanïa, e.e. ffosiliau hominid o'rPliocene (6-miliwn-mlwydd-oed). Roedd y genws Australopithecus yn byw ledled Affrica 4 i 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl a cheir olion hynaf y genws Homo ger Llyn Olduvai. O ran esblygiad yr hil ddynol, felly, mae'r wlad yn anrhaethol bwysig. Yn dilyn datblygiad Homo erectus 1.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ymledodd dynoliaeth ledled yr Hen Fyd, ac yn ddiweddarach i'r Byd Newydd ac Awstralia o dan y rhywogaeth Homo sapiens. Daeth H. sapiens hefyd i boblogi bron i holl Affrica gan gymryd lle rhywogaethau hynafol ac isrywogaeth eraill dynoliaeth.

Yn ddiweddarach yn Oes y Cerrig a'r Efydd, roedd ymfudiadau cynhanesyddol i Dansanïa yn cynnwys siaradwyr De Cushiteg a symudodd i'r de o'r fan ble mae Ethiopia heddiw;[15] Pobl Cushitig Ddwyreiniol a symudodd i mewn i Tansanïa o'r gogledd o Lyn Turkana tua 2,000 a 4,000 o flynyddoedd yn ôl;[15] a Nilotes y De, gan gynnwys y Datoog, a darddodd o ranbarth ffiniol De Swdan-Ethiopia heddiw rhwng 2,900 a 2,400 o flynyddoedd yn ôl.[15] Digwyddodd y symudiadau hyn tua'r un amser ag anheddiad y Mashariki Bantu o Orllewin Affrica yn ardaloedd Llyn Victoria a Llyn Tanganyika. Yn dilyn hynny fe fudon nhw ar draws gweddill Tansanïa rhwng 2,300 a 1,700 o flynyddoedd yn ôl.[15][16]

Dechreuodd rheolaeth yr Almaen ar dir mawr Tansanïa ar ddiwedd y 19g pan ffurfiodd yr Almaen yr hyn a elwir yn 'Ddwyrain Affrica'r Almaen' (German East Africa neu Deutsch-Ostafrika). Cymerodd Llywodraeth Prydain y wlad, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Llywodraethwyd y tir mawr fel "Tanganyika", gydag ynysfor Sansibar yn parhau i fod yn awdurdodaeth drefedigaethol ar wahân. Yn dilyn eu h annibyniaeth oddi wrth Lloegr ym 1961 a 1963, unodd y ddwy ran ym 1964 i ffurfio Gweriniaeth Unedig Tansanïa.[4] Roedd y gwledydd wedi ymuno â Chymanwlad Lloegr ym 1961 ac mae Tansanïa yn dal i fod yn aelod o'r Gymanwlad fel un weriniaeth.[17]

Daearyddiaeth

golygu

Gydag arwynebedd o 947,303 km sg (365,756 mi sg)[18] Tansanïa yw'r 13eg wlad fwyaf yn Affrica a'r 31fed fwyaf yn y byd, wedi'i rhestru rhwng yr Aifft a Nigeria.[19] Lleolir y wlad ar arfordir dwyreiniol Affrica ac mae ganddi arfordir ar Gefnfor India, sydd oddeutu 1,424 km o hyd.[20] Oddi fewn i'w ffiniau, ceir sawl ynys alltraeth, gan gynnwys Unguja (Sansibar), Pemba, a Mafia.  O fewn y wlad ceir y mannau uchaf ac isaf yn Affrica: Mynydd Kilimanjaro, sy'n 5,895 metr (19,341 tr) uwch lefel y môr, a llawr Llyn Tanganyika, sy'n 1,471 metr (4,826 tr) islaw lefel y môr, yn y drefn honno.[21]

 
Ymfudo'r gnwod (neu'r Wildebeest) yn y Serengeti

Fel y nodwyd, mae Tansanïa'n fynyddig ac yn goediog iawn yn y gogledd-ddwyrain, lle saif Kilimanjaro. Llwyfandir mawr yw Canol Tansanïa, gyda gwastadeddau a thir âr. Mae'r lan ddwyreiniol yn boeth a llaith.

Hinsawdd

golygu
 
Map Tanzania o ddosbarthiad hinsawdd Köppen

Mae'r hinsawdd yn amrywio'n fawr o fewn Tansanïa. Yn yr ucheldiroedd, mae'r tymheredd yn amrywio rhwng 10 a 20 gradd Canradd (C) yn ystod tymhorau oer a phoeth, yn y drefn honno. Mae tymheredd gweddill y wlad yn anaml yn gostwng yn is nag 20 gradd C. Mae'r cyfnod poethaf rhwng Tachwedd a Chwefror (25-31 C) tra bo'r cyfnod oeraf yn digwydd rhwng Mai ac Awst (15-20 C). Mae'r hinsawdd yn cŵl mewn rhanbarthau mynyddig.

Daw'r glaw mawr ar ddau gyfnod: mae un yn Hydref-Ebrill a'r llall Hydref-Rhagfyr a Mawrth-Mai.[22] Mae'r cyntaf yn y rhannau deheuol, canolog a gorllewinol y wlad, ac mae'r olaf i'w gael yn y gogledd o Lyn Victoria sy'n ymestyn i'r dwyrain i'r arfordir.[22]

Mae newid hinsawdd yn Tansanïa'n arwain at dymereddau'n codi gyda thebygolrwydd uwch o lawiad dwys (gan arwain at lifogydd) a chyfnodau sych (gan arwain at sychder).[23][24] Mae cynhesu byd eang eisoes yn effeithio ar sectorau amaethyddiaeth, adnoddau dŵr, iechyd ac ynni yn Nhansanïa. Disgwylir i godiad yn lefel y môr a newidiadau yn ansawdd y dŵr effeithio ar bysgodfeydd a dyframaeth.[25]

Cynhyrchodd Tansanïa Raglenni Gweithredu Addasu Cenedlaethol (NAPAs) yn 2007 fel y'i gorchmynnwyd gan Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd. Yn 2012, cynhyrchodd Tansanïa Strategaeth Genedlaethol ar Newid Hinsawdd mewn ymateb i bryder cynyddol.[26]

Bywyd gwyllt a chadwraeth

golygu

Mae Tansanïa'n cynnwys tua 20% o rywogaethau poblogaeth enfawr gwaed cynnes Affrica, a gaiff eu gwasgaru dros ei 21 parc cenedlaethol, gwarchodfeydd, 1 ardal gadwraeth, a 3 pharc morol. Mae'r 21 parc yma oddeutu 38% o dir y genedl.[27][28] Yng ngorllewin Tanzania, Parc Cenedlaethol Gombe Stream yw safle astudiaeth barhaus Jane Goodall sy'n astudio'r tsimpansî, a ddechreuodd ym 1960.[29][30]

Mae Tansanïa'n fioamrywiol iawn ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd anifeiliaid.[31] Ar baith y Serengeti ceir gnwod gwyn-barfog (wildebeest o fath Connochaetes taurinus mearnsi), bufilod a sebra [32] sy'n mudo'n flynyddol ar raddfa fawr. Mae Tansanïa'n gartref i oddeutu 130 o rywogaethau amffibiaidd a dros 275 o rywogaethau o ymlusgiaid, gyda llawer ohonynt yn gwbl frodorol ac wedi'u cynnwys yn Rhestrau Coch gwledydd yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Tansanïa sydd â'r boblogaeth fwyaf o lewod y byd.[33]

Gwleidyddiaeth

golygu

Llywodraeth

golygu

Mae Tanzania'n wladwriaeth lle mae un blaid yn dominyddu: gyda phlaid Chama Cha Mapinduzi (CCM) mewn grym. O'i sefydlu, hyd at 1992, hi oedd yr unig blaid a ganiateir yn gyfreithiol yn y wlad. Newidiodd hyn ar 1 Gorffennaf 1992, pan ddiwygiwyd y cyfansoddiad.[34] Mae wedi dal pŵer ers annibyniaeth ym 1961, a hi yw'r blaid sydd wedi gwasanaethu hiraf yn Affrica gyfan.[35]

Yn Sansibar, mae gwladwriaeth lled-ymreolaethol The Alliance for Change a Transparency-Wazalendois (ACT-Wazalendo; neu Chama cha Wazalendo mewn Swahili) yn cael ei hystyried yn brif blaid wleidyddol yr wrthblaid. Mae cyfansoddiad Sansibar yn ei gwneud yn ofynnol i'r blaid sy'n dod yn ail yn y polau ymuno â chlymblaid gyda'r blaid fuddugol. Ymunodd ACT-Wazalendo â llywodraeth glymblaid gyda'r brif blaid (Chama Cha Mapinduzi) yn Rhagfyr 2020 ar ôl i cryn ddadlau ynghylch etholiadau.[36]

 
Archipelago Zanzibar lled-ymreolaethol

Mae'r awdurdod deddfwriaethol yn Sansibar dros yr holl faterion nad ydynt yn undebau wedi'u breinio yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr (yn unol â chyfansoddiad Tansanïa) [37] neu'r Cyngor Deddfwriaethol (yn unol â chyfansoddiad Sansibar).

Mae gan yr arlywydd ac aelodau Tŷ'r Cynrychiolwyr dymhorau pum mlynedd a gellir eu hethol am ail dymor.[38]

Israniadau gweinyddol

golygu
 
Rhanbarthau Tanzania

Ym 1972, diddymwyd llywodraeth leol ar y tir mawr a disodlwyd rheol uniongyrchol gan y llywodraeth ganolog. Fodd bynnag, ailgyflwynwyd llywodraeth leol ar ddechrau'r 1980au, pan ailsefydlwyd y cynghorau gwledig a'r awdurdodau gwledig. Cynhaliwyd etholiadau llywodraeth leol ym 1983, a dechreuodd cynghorau gweithredol ym 1984. Yn 1999, deddfwyd Rhaglen Ddiwygio Llywodraeth Leol gan y Cynulliad Cenedlaethol, gan osod "agenda gynhwysfawr ac uchelgeisiol yn cwmpasu pedwar maes: datganoli gwleidyddol, datganoli ariannol, datganoli gweinyddol a newid cysylltiadau canolog-lleol, gyda llywodraeth y tir mawr yn cael pwerauuwch o fewn fframwaith y Cyfansoddiad.[39]

Yn 2016, rhannwyd Tansanïa yn dri deg un rhanbarth (neu mkoa),[40][41] dau ddeg chwech ar y tir mawr a phump yn Sansibar (tri ar Unguja, dau ar Pemba).[42] Yn 2012, rhannwyd y tri deg rhanbarth blaenorol yn 169 o ardaloedd (wilaya), a elwir hefyd yn "awdurdodau llywodraeth leol". O'r ardaloedd hynny, roedd 34 yn unedau trefol, a ddosbarthwyd ymhellach fel tri chyngor dinas (Arusha, Mbeya, a Mwanza), un deg naw o gynghorau trefol, a deuddeg cyngor tref.[43]

Milwrol

golygu
 
Lluoedd arbennig FIB Tanzanian yn ystod hyfforddiant

Lluoedd arfog Tansanïa yw 'Llu Amddiffyn y Bobl Tansanïa' (neu'r TPDF; Kiswlarus: Jeshi la Wananchi wa Tanzania (JWTZ)), sy'n gweithredu fel llu pobl o dan reolaeth sifil. Mae'n cynnwys pum cangen neu orchymyn: Llu Tir (byddin), Llu Awyr, y Llynges, Gwasanaeth Cenedlaethol a Phencadlys (MMJ).[44] Gall dinasyddion Tansanïa wirfoddoli ar gyfer gwasanaeth milwrol pan yn 15 oed, a 18 oed ar gyfer gwasanaeth milwrol gorfodol ar ôl graddio o'r ysgol uwchradd.

Hawliau Dynol

golygu

Ledled Tansanïa, mae gweithredoedd rhyw rhwng dynion yn anghyfreithlon ac yn cario cosb uchaf o garchar am oes.[45] Yn ôl arolwg o Ganolfan Ymchwil Pew yn 2007, roedd 95 y cant o Tansanïaid yn credu na ddylai cymdeithas dderbyn gwrywgydiaeth.[46]

Ymosodir ar bobl gydag Albinedd yn aml neu eu lladd neu eu llurgunio oherwydd ofergoelion sy'n gysylltiedig â'r arfer black-magic o'r enw muti sy'n dweud bod rhannau o gorff albino briodweddau hudol.[47] Tansanïa sydd â'r nifer uchaf o'r achosion hyn o dorri hawliau dynol ymhlith 27 o wledydd Affrica lle mae'n hysbys bod muti yn cael ei ymarfer.[48]

Yn Rhagfyr 2019, adroddodd Amnest Rhyngwladol fod llywodraeth Tansanïa wedi dirymu hawl cyrff anllywodraethol (NGOs) yn ogystal ag unigolion i ffeilio unrhyw achos yn ei herbyn yn Llys Hawliau Dynol a Phobl Affrica.[49]

Economi a seilwaith

golygu
 
Tyrau Banc Tansanïa

O 2021, yn ôl yr IMF, amcangyfrifwyd bod cynnyrch mewnwladol crynswth Tansanïa (GDP) yn $71 biliwn (enwol), neu $218.5 biliwn ar sail cydraddoldeb pŵer prynu (PPP). CMC y pen (PPP) oedd $3,574: gellir cymharu hyn gyda GDP y pen Cymru o $31,148 yn 2018.

Roedd allforion y wlad yn 2017 yn UD $ 5.3 biliwn; a phartneriaid masnachu mwyaf Tansanïa yn yr un flwyddyn oedd India, Fietnam, De Affrica, y Swistir a China.[50] Cyfanswm ei fewnforion oedd US $8.17 biliwn, gydag India, y Swistir, Saudi Arabia, China, a'r Emiraethau Arabaidd Unedig yn bartneriaid mwyaf.[50]

 
Marchnad Kariakoo yn Dar es Salaam

Hwyliodd Tansanïa drwy'r Ddirwasgiad Mawr 2008, yn gymharol dda, llawer gwell na gwledydd Prydain. Fe wnaeth prisiau uchel aur gryfhau diwydiant mwyngloddio’r wlad.[21]  Ers i'r dirwasgiad ddod i ben, mae economi Tansanïa wedi ehangu'n gyflym diolch i sectorau twristiaeth, telathrebu a bancio cryf.[21]

Newyn a thlodi

golygu

Mae Tansanïa wedi gwneud rhywfaint o gynnydd tuag at leihau newyn a diffyg maeth eithafol. Graddiodd y Mynegai Newyn Byd-eang y sefyllfa fel un "brawychus" gyda sgôr o 42 yn y flwyddyn 2000; ers hynny mae'r GHI wedi dirywio i 29.5.[51] Mae plant mewn ardaloedd gwledig yn dioddef cyfraddau sylweddol uwch o ddiffyg maeth a newyn cronig, er bod gwahaniaethau trefol-gwledig wedi lleihau o ran pwysau plant.[52] Mae cynhyrchiant bwyd isel yn y sector gwledig yn deillio'n bennaf o fuddsoddiad seilwaith annigonol; mynediad cyfyngedig i sgiliau ac offer fferm, gwasanaethau credyd; technoleg gyfyngedig yn ogystal â chymorth masnach a marchnata annigonol.[52]

Ceir tua 68% o boblogaeth y wlad yn byw o dan y llinell dlodi o $1.25 y dydd. Mae 32% o'r boblogaeth yn dioddef o ddiffyg maeth.[51] Yr heriau amlycaf y mae Tanzania yn eu hwynebu wrth leihau tlodi yw cynaeafu anghynaliadwy ei adnoddau naturiol, newid hinsawdd a diffyg ffynhonnell ddŵr, yn ôl Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig (UNDP).[53]

Dangosodd adroddiad Banc y Byd yn 2019 fod tlodi wedi gostwng 8% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, o 34.4% yn 2007 i 26.4% yn 2018.[54]

Twristiaeth

golygu
 
Copa Uhuru dan gap gwyn o eira

Cyfrannodd teithio a thwristiaeth 17.5% o gynnyrch mewnwladol crynswth Tansanïa yn 2016[55] a chyflogwyd 11.0% o weithlu'r wlad (1,189,300 o swyddi) yn 2013.[56] Cododd y derbyniadau cyffredinol o US $1.74 biliwn yn 2004 i UD $4.48 biliwn yn 2013,[56] a chododd derbyniadau gan dwristiaid rhyngwladol o US $1.255 biliwn yn 2010 i UD $2 biliwn yn 2016.[55][57] Yn 2016, cyrhaeddodd 1,284,279 o dwristiaid y wlad o'i gymharu â 590,000 yn 2005.[58] Mae mwyafrif llethol y twristiaid yn ymweld â Sansibar neu "gylched ogleddol" Parc Cenedlaethol Serengeti, Ardal Gadwraeth Ngorongoro, Parc Cenedlaethol Tarangire , Parc Cenedlaethol Llyn Manyara, a Mynydd Kilimanjaro.[21]  Yn 2013, y parc cenedlaethol yr ymwelwyd ag ef fwyaf oedd y Serengeti (452,485 o dwristiaid), ac yna Manyara (187,773) a Tarangire (165,949).[59]

Demograffeg

golygu

Mae dosbarthiad y boblogaeth yn Tansanïa'n anwastad, gyda'r rhan fwyaf o bobl yn byw ar y ffin ogleddol neu'r arfordir dwyreiniol, a cheir poblogaeth denau yn ngweddill y wlad.[21]  Mae'r dwysedd yn amrywio o 12 person y km sg i 3,133 person y km sg yn Rhanbarth Dar es Salaam.[60]

Mae tua 70% o'r boblogaeth yn wledig, er bod y ganran hon wedi bod yn gostwng ers o leiaf 1967.[61] Dar es Salaam (poblogaeth 4,364,541) [62] yw'r brif ddinas o ran poblogaeth. Ond Dodoma (poblogaeth 410,956) [62] yng nghanol Tansanïa, yw prifddinas y wlad, ac mae'n gartref i'r Cynulliad Cenedlaethol.

 
Mae'r Hadza yn parhau i fyw fel helwyr-gasglwyr .

Mae'r boblogaeth yn cynnwys tua 125 o grwpiau ethnig.[63] Mae gan bobloedd Sukuma, Nyamwezi, Chagga a Haya boblogaeth sy'n fwy na 1 filiwn.[64] Mae tua 99% o Dansaniaid o dras Affricanaidd frodorol, gyda niferoedd bach o dras Arabaidd, Ewropeaidd ac Asiaidd.[63] Mae mwyafrif y Tansaniaid, gan gynnwys y Sukuma a'r Nyamwezi, yn Bantu.[65]

Addysg

golygu
 
Neuadd Nkrumah ym Mhrifysgol Dar es Salaam

Yn 2012, amcangyfrifwyd bod y gyfradd llythrennedd yn Tanzania ar gyfer pobl 15 oed a hŷn yn 67.8%.[66] Mae addysg yn orfodol nes bod plant yn cyrraedd 15 oed.[67] Yn 2010, roedd 74.1% o blant rhwng 5 a 14 oed yn mynychu'r ysgol.[67] Cyfradd cwblhau ysgolion cynradd oedd 80.8% yn 2012.[67]

Gweler hefyd

golygu
  • Hadsa: tylwyth brodorol o ogledd-canolbarth Tansanïa

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, [Tansanïa].
  2. https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.
  3. Aloysius C. Mosha. "The planning of the new capital of Tanzania: Dodoma, an unfulfilled dream" (PDF). University of Botswana. Cyrchwyd 13 Mawrth 2013.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 "Tanzania". The World Factbook. Central Intelligence Agency. 29 Medi 2021.
  5. 5.0 5.1 "The Tanzania National Website: Country Profile". Tanzania.go.tz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-25. Cyrchwyd 1 Maiy 2010. Check date values in: |accessdate= (help)CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  6. "Dar es Salaam Port". Tanzaniaports.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-22. Cyrchwyd 19 Chwefror 2014.
  7. Mosha, Aloysius C. "The planning of the new capital of Tanzania: Dodoma, an unfulfilled dream" (PDF). University of Botswana. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 13 Mawrth 2013.
  8. "Dar es Salaam Port". Tanzaniaports.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2014. Cyrchwyd 19 Chwefror 2014.
  9. "Kalambo Falls".
  10. Religion in Tanzania Archifwyd 2021-03-04 yn y Peiriant Wayback, Pew Research Center
  11. 11.0 11.1 11.2 Ammon, Ulrich; Dittmar, Norbert; Mattheier, Klaus J. (2006). Sociolinguistics: An International Handbook of the Science of Language and Society. Walter de Gruyter. t. 1967. ISBN 978-3-11-018418-1.
  12. "Tanzania Country Information – All about Tanzania". expogr.com. Cyrchwyd 26 April 2020.
  13. "Tanzania Profile". Tanzania.go.tz. Tanzanian Government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Awst 2017. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2017.
  14. "Tanzania Ditches English In Education Overhaul Plan". AFK Insider. 17 Chwefror 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-24. Cyrchwyd 23 Chwefror 2015.
  15. 15.0 15.1 15.2 15.3 Tishkoff, S. A.; Reed, F. A.; Friedlaender, F. R.; Ehret, C.; Ranciaro, A.; Froment, A.; Hirbo, J. B.; Awomoyi, A. A. et al. (2009). "The Genetic Structure and History of Africans and African Americans". Science 324 (5930): 1035–44. Bibcode 2009Sci...324.1035T. doi:10.1126/science.1172257. PMC 2947357. PMID 19407144. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2947357.
  16. Ehret, Christopher (2001). An African Classical Age: Eastern and Southern Africa in World History, 1000 B.C. to A.D. 400. University Press of Virginia. ISBN 978-0-8139-2057-3.
  17. "United Republic of Tanzania | The Commonwealth". thecommonwealth.org. 15 Awst 2013.
  18. ""Basic Facts and Figures on Human Settlements, 2012", National Bureau of Statistics, Tanzania Ministry of Finance, 2013, page 1. Retrieved 10 November 2014".
  19. "CIA – The World Factbook – Rank Order – Area". Cia.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-09. Cyrchwyd 16 Hydref 2014.
  20. "Country review: United Republic of Tanzania". Fisheries and Aquaculture Depart, United Nations. (FAO). December 2003.
  21. 21.0 21.1 21.2 21.3 21.4 Joseph Lake (2013) "Economy" in Africa South of the Sahara, edited by Europa Publications and Iain Frame, Routledge. ISBN 1-85743-659-8
  22. 22.0 22.1 Zorita, Eduardo; Tilya, Faustine F. (12 Chwefror 2002). "Rainfall variability in Northern Tanzania in the March–May season (long rains) and its links to large-scale climate forcing". Climate Research 20: 31–40. Bibcode 2002ClRes..20...31Z. doi:10.3354/cr020031. https://www.int-res.com/articles/cr2002/20/c020p031.pdf. Adalwyd 16 Hydref 2014.
  23. "Tanzania". Climatelinks (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Tachwedd 2020.
  24. Future Climate for Africa (2017). "Future Climate Projections for Tanzania" (PDF). Future Climate for Africa.
  25. "Tanzania | UNDP Climate Change Adaptation". www.adaptation-undp.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-08. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2020.
  26. "Tanzania: National climate change strategy - National Policy, Plans & Statements - PreventionWeb.net". preventionweb.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2020.
  27. "Tanzania travel guide". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 December 2020. Cyrchwyd 12 Ionawr 2021.
  28. Laher, Ridwan; SingíOei, Korir (2014). Indigenous People in Africa.: Contestations, Empowerment and Group Rights. Africa Institute of South Africa. t. 57. ISBN 978-0-7983-0464-1.
  29. "Gombe Stream National Park". Tanzania National Parks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2014. Cyrchwyd 16 Hydref 2014.
  30. Riley, Laura; Riley, William (2005). Nature's Strongholds: The World's Great Wildlife Reserves. Princeton University Press. ISBN 978-0-691-12219-9.
  31. S. N. Stuart; Jenkins, Martin (1990). Biodiversity in Sub-Saharan Africa and Its Islands: Conservation, Management, and Sustainable Use. IUCN. t. 204. ISBN 978-2-8317-0021-2.
  32. "Serengeti wildebeest migration". Cyrchwyd 20 Mawrth 2019.
  33. Arusha, Edward Qorro in (12 Awst 2019). "Africa: Tanzania Has Largest Number of Lions in Africa, New Report Says". allAfrica.com.
  34. "Constitution of the United Republic of Tanzania" (PDF). Judiciary of Tanzania. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 December 2010. Cyrchwyd 19 Chwefror 2014.
  35. "Magufuli is Transforming Tanzania's Ruling Party From a "Benign Hegemon" Into a Malevolent One". Council on Foreign Relations (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-02.
  36. Sultan, Ali (6 December 2020). "Zanzibar's opposition party to join coalition government". AP News. Cyrchwyd 29 Mehefin 2021.
  37. "Constitution of the United Republic of Tanzania" (PDF). Judiciary of Tanzania. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 December 2010. Cyrchwyd 19 Chwefror 2014."Constitution of the United Republic of Tanzania" (PDF).
  38. The Constitution of Zanzibar. zltb.go.tz. 2006.
  39. "LOCAL GOVERNMENT SYSTEM IN TANZANIA" (PDF). 31 Mai 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 18 April 2013.
  40. Kilyinga, Nasongelya (10 Gorffennaf 2015). "Enter Songwe Region as Six Districts Created". Daily News. Cyrchwyd 21 Chwefror 2017.
  41. Mwakyusa, Alvar (4 Chwefror 2016). "Songwe is new region – with four districts". Daily News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Chwefror 2016. Cyrchwyd 21 Chwefror 2017.
  42. Regions. tanzania.go.tz
  43. "Population Distribution by Administrative Areas, 2012 Population and Housing Census, National Bureau of Statistics, United Republic of Tanzania, 2013".
  44. [1]
  45. "State Sponsored Homophobia 2016: A world survey of sexual orientation laws: criminalisation, protection and recognition" (PDF). International Lesbian, Gay, Bisexual, Trans and Intersex Association. 17 Mai 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 10 Hydref 2017.
  46. "Pew Global Attitudes Project" (PDF). Pew Research Centre. tt. 35, 84, and 117. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 14 Chwefror 2010. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2017.
  47. "Tanzania albino murders: 'More than 200 witchdoctors' arrested".
  48. Charlotte Baker (22 Medi 2017) "The trade in body parts of people with albinism is driven by myths and international inaction".
  49. "Tanzania: Withdrawal of individual rights to African Court will deepen repression". Amnesty International. 2 December 2019. Cyrchwyd 2 December 2019.
  50. 50.0 50.1 "OEC – Tanzania (TZA) Exports, Imports, and Trade Partners". atlas.media.mit.edu (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 April 2019. Cyrchwyd 9 April 2019.
  51. 51.0 51.1 "Tanzania". Global Hunger Index – Official Website of the Peer-Reviewed Publication (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mawrth 2019.
  52. 52.0 52.1 "About us". UNDP. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-11. Cyrchwyd 2021-10-23.
  53. "Tanzania". Heifer International.
  54. "Tanzania's Path to Poverty Reduction and Pro-Poor Growth". World Bank. 1 December 2019.
  55. 55.0 55.1 "Tanzania Tourist Arrivals Increase by 12.9% in 2016 to Reach 1,28 M – TanzaniaInvest". TanzaniaInvest (yn Saesneg). 26 Mai 2017. Cyrchwyd 12 Awst 2017.
  56. 56.0 56.1 "World Travel and Tourism Council Data, 2013".
  57. "UNWTO Tourism Highlights: 2014 Edition, United Nations World Tourism Organization, page 11. Retrieved 17 November 2014" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 8 Chwefror 2015.
  58. "OEC – Tanzania (TZA) Exports, Imports, and Trade Partners". atlas.media.mit.edu (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 April 2019. Cyrchwyd 9 April 2019."OEC – Tanzania (TZA) Exports, Imports, and Trade Partners". atlas.media.mit.edu.
  59. "Statistical Abstract 2013, National Bureau of Statistics" (PDF). Tanzania Ministry of Finance. July 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 23 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 23 Hydref 2014.
  60. "Population Distribution by Administrative Areas, 2012 Population and Housing Census, National Bureau of Statistics, United Republic of Tanzania, 2013"."Population Distribution by Administrative Areas, 2012 Population and Housing Census, National Bureau of Statistics, United Republic of Tanzania, 2013".
  61. Athuman Mtulya (26 Medi 2013) "Report reveals rapid rural -urban migration" Archifwyd 2018-07-10 yn y Peiriant Wayback. thecitizen.co.tz.
  62. 62.0 62.1 2012 Census General Report. nbs.go.tz.
  63. 63.0 63.1 Levinson, David (1998). Ethnic Groups Worldwide: A Ready Reference Handbook. Oryx Press. t. 173. ISBN 978-1-57356-019-1.
  64. Otiso, Kefa M. (2013). Culture and Customs of Tanzania. ABC-CLIO. ISBN 978-0-313-08708-0.
  65. "Tanzania (06/02)". U.S. Department of State. Cyrchwyd 17 Ionawr 2017.
  66. "Tanzania, United Republic of – Statistics". UNICEF. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-12. Cyrchwyd 15 Hydref 2014.
  67. 67.0 67.1 67.2 "2013 Findings on the Worst Forms of Child Labor" (PDF). U.S. Department of Labor. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 27 Mehefin 2017. Cyrchwyd 23 Medi 2017.