Tansanïa
Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Unedig Tansanïa neu Tansanïa.[1] Mae'n ffinio ag Wganda a Chenia i'r gogledd, Rwanda, Bwrwndi a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo i'r gorllewin, Sambia, Malawi a Mosambic i'r de a Chefnfor India i'r dwyrain. Saif mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro, yng ngogledd-ddwyrain Tansanïa.
![]() | |
Math |
gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Tanganica, Sansibar ![]() |
![]() | |
Prifddinas |
Dodoma ![]() |
Poblogaeth |
57,310,019 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
Mungu ibariki Afrika ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
John Magufuli ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+03:00, East Africa Time ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Swahili, Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Dwyrain Affrica ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
947,303 ±1 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Cenia, Wganda, Rwanda, Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Sambia, Malawi, Mosambic, Llyn Victoria, Seychelles ![]() |
Cyfesurynnau |
6.307°S 34.854°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Cabinet of Tanzania ![]() |
Corff deddfwriaethol |
National Assembly ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Arlywydd Tansanïa ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
John Magufuli ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Arlywydd Tansanïa ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
John Magufuli ![]() |
![]() | |
Arian |
Swllt Tansanïa ![]() |
Canran y diwaith |
3 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
5.145 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.538 ![]() |
Mae yno boblogaeth o tua 45 miliwn o bobl o amrywiol ddiwylliannau, iaith a chrefydd. Yn swyddogol, diffinir y wlad fel 'Gweriniaeth Llywodraethol, Cyfansoddiadol' (presidential constitutional republic) ers 1996, a'i phrifddinas swyddogol yw Dodoma, ac yno hefyd mae Swyddfa'r Llywydd, y Cynulliad Cenedlaethol a llawer o swyddfeydd y Llywodraeth.[2] Yn Dar es Salaam, sef yr hen Brifddinas mae'r rhan fwyaf o swyddfeydd y Llywodraeth, a hi hefyd yw dinas fwya'r wlad, y prif borthladd a phrif ganolfan marchnata.[3][4][5]
Gwladychwyd y wlad gan Ewropead yn gyntaf yn niwedd y 19g a hynny gan yr Almaenwyr ac yna'r Prydeinwyr wedi'r Ail Ryfel Byd. Llywodraethwyd y tir mawr Tanganyika ar wahân i ynysfor Sansibar, ond wedi iddynt ddod yn annibynnol (yn 1961 ac yn 1963) cafwyd cytundeb rhyngddynt i uno, yn Ebrill 1964, gan ffurfio Gwladwriaeth Unedig Tansanïa.[3]
Gweler hefydGolygu
- Hadsa: tylwyth brodorol o ogledd-canolbarth Tansanïa
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Tansanïa].
- ↑ Aloysius C. Mosha. "The planning of the new capital of Tanzania: Dodoma, an unfulfilled dream" (PDF). University of Botswana. Cyrchwyd 13 March 2013.
- ↑ 3.0 3.1 Central Intelligence Agency (2013). "Tanzania". The World Factbook. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2013.
- ↑ "The Tanzania National Website: Country Profile". Tanzania.go.tz. Cyrchwyd 1 Maiy 2010. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Dar es Salaam Port". Tanzaniaports.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-22. Cyrchwyd 19 February 2014.