Y Blaid Lafur (DU)
Plaid wleidyddol Brydeinig, ganol-chwith yw'r Blaid Lafur a sefydlwyd ar 27 Chwefror 1900. Gellir ei hystyried yn brif gynrychiolydd y canol-chwith gwleidyddol ym Mhrydain ers y 1920au, pan esblygodd o'r undebau llafur a phleidiau sosialaidd y 19g. Symudodd tua'r canol o dan bolisi "Y Drydedd Ffordd" dan arweinyddiaeth Tony Blair ac o ganlyniad cyfeirir ati yn y 2000au fel "Llafur Newydd". Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru (gweler isod) yn rhan o Blaid Lafur y DU; yr un sefyllfa a'r Alban. Yn 2015 roedd gan y blaid oddeutu 292,000 o aelodau.[4][5]
Y Blaid Lafur | |
---|---|
Arweinydd | Keir Starmer AS |
Dirprwy Arweinydd | Angela Rayner AS |
Sefydlwyd | 27 Chwefror 1900[1][2] |
Pencadlys | One Brewer's Green, Llundain |
Asgell myfyrwyr | Myfyrwyr Llafur |
Asgell yr ifanc | Llafur ifanc |
Aelodaeth (2019) | 485,000[3] |
Rhestr o idiolegau | Sosialaeth Democrataidd Democratiaeth cymdeithasol |
Sbectrwm gwleidyddol | Chwith-canol |
Partner rhyngwladol | Cynghrair er Cynnydd (Progressive Alliance) |
Cysylltiadau Ewropeaidd | Plaid y Sosialwyr Ewropeaidd |
Grŵp yn Senedd Ewrop | Progressive Alliance of Socialists and Democrats |
Lliw | Coch |
Tŷ'r Cyffredin | 199 / 650 |
Tŷ'r Arglwyddi | 175 / 790 |
Senedd yr Alban | 23 / 129 |
Senedd Cymru | 30 / 60 |
Cynulliad Llundain | 12 / 25 |
Llywodraeth leol yn y DU | 5,976 / 19,698 |
Gwefan | |
www.labour.org.uk |
Hanes
golyguFe'i sefydlwyd yn 1900, gan oddiweddwyd y Blaid Ryddfrydol ddechrau'r 1920au a ffurfiodd lywodraeth (leiafrifol) dan arweinyddiaeth Ramsay MacDonald yn 1924 ac eto yn 1929–31. Ffurfiodd rhan o glymblaid yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd rhwng 1940 a 1945 ac ar ddiwedd y Rhyfel, ffurfiodd lywodraeth eto - y tro hwn o dan arweinyddiaeth Clement Attlee - a daliodd ei gafael fel y brif blaid rhwng 1964 a 1970 gyda Harold Wilson wrth y llyw, ac yna'i olynydd James Callaghan.
Y Blaid Lafur yng Nghymru
golygu- Prif: Llafur Cymru
Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yw arweinydd presennol y Blaid Lafur Gymreig (Llafur Cymru).
Mae gan y blaid 29 (allan o 60) Aelodau o'r Senedd yn Senedd Cymru ers etholiad Mai 2016, pan ddewisodd y blaid i ffurfio clymblaid gyda dau aelod arall, Kirsty Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol) a Dafydd Elis-Thomas (annibynnol).[6]
Perfformiad mewn etholiadau
golyguEtholiad | Nifer y pleidleisiau i Lafur | Canran y pleidlais | Seddi | Enillydd |
1900 | 62,698 | 1.8% | 2 / 670 |
Ceidwadwyr |
1906 | 321,663 | 5.7% | 29 / 670 |
Rhyddfrydwyr |
1910 (Ion.) | 505,657 | 7.6% | 40 / 670 |
Senedd grog (llyw. leiafrifol Ryddfrydol) |
1910 (Rhag.) | 371,802 | 7.1% | 42 / 670 |
Senedd grog (llyw. leiafrifol Ryddfrydol) |
1918† | 2,245,777 | 21.5% | 57 / 707 |
Clymblaid |
1922 | 4,076,665 | 29.7% | 142 / 615 |
Ceidwadwyr |
1923 | 4,267,831 | 30.7% | 191 / 625 |
Senedd grog (Llyw. leiafrifol Llafur) |
1924 | 5,281,626 | 33.3% | 151 / 615 |
Ceidwadwyr |
1929‡ | 8,048,968 | 37.1% | 287 / 615 |
Senedd grog (Llyw. leiafrifol Llafur) |
1931 | 6,339,306 | 30.8% | 52 / 615 |
Llywodraeth Cenedlaethol |
1935 | 7,984,988 | 38.0% | 154 / 615 |
Llywodraeth Cenedlaethol |
1945 | 11,967,746 | 49.7% | 393 / 640 |
Llafur |
1950 | 13,266,176 | 46.1% | 315 / 625 |
Llafur |
1951 | 13,948,883 | 48.8% | 295 / 625 |
Ceidwadwyr |
1955 | 12,405,254 | 46.4% | 277 / 630 |
Ceidwadwyr |
1959 | 12,216,172 | 43.8% | 258 / 630 |
Ceidwadwyr |
1964 | 12,205,808 | 44.1% | 317 / 630 |
Llafur |
1966 | 13,096,629 | 48.0% | 364 / 630 |
Llafur |
1970 | 12,208,758 | 43.1% | 288 / 630 |
Ceidwadwyr |
1974 (Chwefr.) | 11,645,616 | 37.2% | 301 / 635 |
Senedd grog (Llyw. leiafrifol Llafur) |
1974 (Hyd.) | 11,457,079 | 39.2% | 319 / 635 |
Llafur |
1979 | 11,532,218 | 36.9% | 269 / 635 |
Ceidwadwyr |
1983 | 8,456,934 | 27.6% | 209 / 650 |
Ceidwadwyr |
1987 | 10,029,807 | 30.8% | 229 / 650 |
Ceidwadwyr |
1992 | 11,560,484 | 34.4% | 271 / 651 |
Ceidwadwyr |
1997 | 13,518,167 | 43.2% | 419 / 659 |
Llafur |
2001 | 10,724,953 | 40.7% | 413 / 659 |
Llafur |
2005 | 9,562,122 | 35.3% | 356 / 646 |
Llafur |
2010 | 8,601,441 | 29.1% | 258 / 650 |
Senedd grog (Clymblaid Ceid./Rhyddfr.) |
2015 | 9,347,304 | 30.4% | 232 / 650 |
Ceidwadwyr |
2017 | 12,874,985 | 40.0% | 262 / 650 |
Ceidwadwyr |
2019 | 10,269,076 | 32.1% | 202 / 650 |
Ceidwadwyr |
†Yr etholiad cyntaf o dan Ddeddf Cynrychioliad y Bobl 1918 pan roddwyd yr hawl i'r rhan fwyaf o ddynion dros 21 oed a merched dros 30 oed i bleidleisio.
‡Yr etholiad cyntaf i ferched dros 21 gael pleidlais.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Brivati, Brian; Heffernan, Richard (2000). The Labour Party: A Centenary History. Basingstoke [u.a.]: Macmillan [u.a.] ISBN 9780312234584.
On 27 February 1900, the Labour Representation Committee was formed to campaign for the election of working class representatives to parliament.
- ↑ Thorpe, Andrew (2008). A History of the British Labour Party (arg. 3rd). Macmillan. t. 8. ISBN 9781137114853. Cyrchwyd 2 Mehefin 2015.
- ↑ "Membership of UK political parties". House of Commons Library. UK Parliament. 9 Awst 2019.
- ↑ Oliver Wright (10 Medi 2015). "Labour leadership contest: After 88 days of campaigning, how did Labour's candidates do?". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-14. Cyrchwyd 11 Medi 2015.
the electorate is divided into three groups: 292,000 members, 148,000 union “affiliates” and 112,000 registered supporters who each paid £3 to take part
- ↑ Dan Bloom (25 Awst 2015). "All four Labour leadership candidates rule out legal fight - despite voter count plummeting by 60,000". Daily Mirror. Cyrchwyd 11 Medi 2015.
total of those who can vote now stands at 550,816 ... The total still eligible to vote are now 292,505 full paid-up members, 147,134 supporters affiliated through the unions and 110,827 who've paid a £3 fee.
- ↑ "Cynnig swydd cabinet i Kirsty Williams". BBC Cymru Fyw. 2016-05-19. Cyrchwyd 2020-06-04.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Llafur Cymru Archifwyd 2015-07-01 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Gwefan Plaid Lafur y DU