Tal-y-cafn
Pentref bychan ym mwrdeistref sirol Conwy yw Tal-y-cafn (hefyd Tal-y-Cafn). Saif ger y briffordd A470, lle mae pont yn croesi Afon Conwy i gysylltu â'r ffordd B5106 ger Tyn-y-groes ar lan orllewinol yr afon. Mae ychydig i'r de o bentref Llansanffraid Glan Conwy.
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2167°N 3.8167°W ![]() |
Cod OS | SH787716 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Dim ond dyrnaid o dai a geir yn y pentref ond ceir gorsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy gerllaw Bryn Castell, sef hen domen amddiffynol o'r Oesoedd Canol.
Ceir Gardd Bodnant tua milltir i'r dwyrain.
Fferi TalycafnGolygu
Cyn codi’r bont dros yr afon yng Nghonwy roedd Fferi neu ysgraff Talycafn yn fodd bwysig o groesi i berfeddwlad Eryri. Ar un cyfnod cymerodd yr Iarll Londsdale, enw adnabyddus ym myd bocsio, ofal o’r fferi a digwyddodd ddamwain ddifrifol i un o’i weision pan yn croesi. Roedd rhaff wedi ei gosod ar draws yr afon er mwyn cario ‘windlass’ windlass ar yr ysgraff. Daeth cwch mawr o gyfeiriad Conwy, cyffwrdd â’r rhaff a dragio’r cychwr i’r dŵr ac fe’i lladdwyd. Derbyniodd gweddw’r cychwr gini o iawndal gan yr Iarll a thraddododd Ficer Conwy bregeth i goffau amdano.[1]
Mae Stan Wicklen yn cyfeirio at windlass, sef, yn ôl yr OED:
- A mechanical contrivance working on the principle of the wheel and axle, on a horizontal axis (thus distinguished from a capstan); consisting of a roller or beam, resting on supports, round which a rope or chain is wound; used for various purposes, esp. on board ship for weighing the anchor or hauling upon a purchase, at the head of a mine-shaft for hoisting coal or other mineral, or for raising a bucket from a well.
A dyma esbonio efallai y cofnod canlynol gan Y Parch. Hugh Davies (awdur Welsh Botanology) yn nodi mewn llythyr i’w gyfaill Thomas Pennant am y trafferthion a gafodd ar y 3 Rhagfyr 1794 wrth ddychwelyd o Sir y Fflint i’w gartref yn Abergwyngregyn ar noson stormus:
- I do not delay to let you know that I have survived the drefsing? [sic] [drenching?] I underwent on “Wednesday [3ydd Rhagfyr] by the continual rain. My hand is blistered in holding the bridle; the current of water at Talycafn was really frightful, and no line [windlass?] to conduct us across the river as usual! A tremendous gale of wind which continued about eight and forty hours and came on the next day after I came to Downing, has caused great losses in this neighbourhood, and in some part [sic] of Anglesea [sic]; many ricks of hay have been entirely swept away; fruit & other trees torn up; houses unroofed?i thank God by the activity of my servants and neighbours my little stack of hay was with difficulty saved.[2]
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan