Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000/Archif 2

Tudalen archif yw hon. Peidiwch ag ychwanegu ati, os gwelwch yn dda.

Diolch Llywelyn2000. Mae hyn yn hwyl, ond wn i ddim pryd fydd gen i amser i wneud rhagor...

User Page

golygu

Hi, Llywelyn2000. I don´t know welsh (and my english is basic), so I would like to know, if you could translate these three sentences in english to welsh, because I would like to use in my user page a basque / welsh personal presentation: 1. Hi, my name is Euskalduna and I´m from Basque Country. This is my user page. Greetings. 2. My images 3. Here you have a sample of my more recent photos on Basque Country

Thanks. - Euskalduna 20:45, 10 Chwefror 2011 (UTC)

Pa hwyl Euskalduna? Croeso i Wicipedia - welcome to Wicipedia Cymraeg.

1. Pa hwyl? Fy enw i ydy Euskalduna a mi rydw i o Wlad y Basg. Dyma fy Nhudalen Defnyddiwr. Henffych! 2. Fy nelweddau 3. Dyma enghreifftiau o rai o fy ffotograffau diweddar o Wlad y Basg.

Pob hwyl! All the best! Llywelyn2000 22:55, 12 Chwefror 2011 (UTC)Ateb

Gabon. Zer moduz? Nos da. Sut mae?
Eskerrik asko / Diolch for answer so quick. Only the last question? Could I use the word Shw mae to say hello?
Ongi izan! Pob hwl! - Euskalduna 0:16, 13 Chwefror 2011 (UTC)
Yes, you can, or more formally "Shwd mae?". It's South Wales lingo, and I'm from the North. Let me know if I can help you further with anything. Llywelyn2000 23:20, 12 Chwefror 2011 (UTC)Ateb
Diolch again. Could you help me to translate the english text of my pictures to welsh? By the way, I was in North Wales in 2006 summer. I did a travel from Bilbao to Bristol, Bristol-Cardiff, from Cardiff to the North Wales by train: Bangor, I climbed Snowdonia mountain, Holyhead, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch, Caernarfon, Pwlhelli, Blaenau Ffestiniog, Tremadog, Harlech, Llanbedr... and again to Cardiff (Millenium Stadium, Cardiff Castle, City Hall, Cardiff University, Welsh Parlament, Tiger Bay...), Bristol, Bilbao. - Euskalduna 0:16, 13 Chwefror 2011 (UTC)

Egunon / Bore da, Llywelyn2000. Good work.  Eskerrik asko / Diolch from Euskal Herria to Cymru!   - Euskalduna 10:45, 13 Chwefror 2011 (UTC)

Please, could you translate en:Podolsk into Cymraeg? Naturally if you have available time!

golygu

Good day to you! Could you, please, translate into Cymraeg the article, containing two-three sentences, about this city in Russia? I’d like to thank you in advance :)--Переход Артур 09:51, 13 Chwefror 2011 (UTC)Ateb

Why? Llywelyn2000 17:21, 13 Chwefror 2011 (UTC)Ateb
The goal is: The creation of the articles about the city in as many languages as it's possible :) Anyway, I can't say that it's a small town without any significance and history, that's why the creation of the article coincides with the policy and goals of Wikipedia. Moreover, If you need any support in Russian Wikipedia (e.g. translation of the article in Russian), you can address me here and I'm ready to help ^_^ --Переход Артур 15:55, 14 Chwefror 2011 (UTC)Ateb
Fair enough. This is the deal: I'll translate what you requested, if you translate into Russian the article on Meibion Glyndŵr. Deal? Llywelyn2000 17:01, 15 Chwefror 2011 (UTC)Ateb
Done. See ru:Сыны Глиндура.--Переход Артур 11:03, 16 Chwefror 2011 (UTC)Ateb
Deal kept! Many thanks. Gweler erthygl ar Feibion Glyndwr, yma. Gweler hefyd fy nghyfieithiad o ran o'r erthygl ar Podolsk. Llywelyn2000 06:05, 17 Chwefror 2011 (UTC)Ateb
Thanks again.--Переход Артур 09:10, 17 Chwefror 2011 (UTC)Ateb

Bore da

golygu

R'wyf wedi blino! Deb 04:55, 22 Chwefror 2011 (UTC)Ateb

Cwsg ni ddaw i'm hamrant heno,
Geiriau ddaw ynghynt...
Sorri JMJ!
Dw i ddim, Deb! Mae teirawr o gwsg yn fwy na digon! Dal i fynd! Mae 'r genedl wedi cysgu gormod dros y blynyddoedd!

Llywelyn2000 05:02, 22 Chwefror 2011 (UTC)Ateb

Fy gŵr (ngŵr?) yn chwyrniad! Deb 05:05, 22 Chwefror 2011 (UTC)Ateb
Os ydy dy ŵr yn chwyrnu fel mochyn, gwell i ti ffeindio gwely arall!


Golygu Tudalen Defnyddiwr

golygu

Rydw i'n gwerthfawrogi'r cynnig, diolch! Os oes amser gyda chi, mae croeso i chi gwirio fy nhudalen i. Dwi wedi siomi gan fy ngramadeg i ac mae'n peri embaras imi - wrth ddarllen newidiadau, mi fydd hynny'n helpu fi i gofio pethau :) Beca 21:53, 19 Mawrth 2011 (UTC)Ateb

Diolch yn fawr i chi eto :) Rydw i am ysgrifennu mwy o erthyglau Naruto, felly bydd lot o gywiro gyda chi i wneud :P Beca 12:48, 30 Mawrth 2011 (UTC)Ateb

ymehangu

golygu

Dadwnaethoch chi fy newidiad "ehangodd y wasg" -> "ymehangodd y wasg". Gwnes i'r golygiad yn wreiddiol gan ddysgais i mai berf cyflawn ydy "ehangu", ond ehangodd y wasg ddim ond ei hun yn hytrach na rhywbeth arall, felly newidiais i fo i'r berf anghyflawn. Mae'n ymddangos 'roeddwn i'n anghywir. Dwi'n tybio mai siaradwr iaith gyntaf rydych chi - fedrech chi egluro'r gramadeg os gwelch yn dda? Diolch. Peredur ap Rhodri 07:15, 31 Mawrth 2011 (UTC)Ateb

Henffych! Keep it simple! Ehangodd y wasg sy'n gywir. Ym: os gelli beidio a'i ddefnyddio, paid! oni bai ei fod yn rhan o air sydd wed'i sefydlu e.e. ymestyn. Dw i'n gwerthfawrogi dy gyfraniadau diddorol. Llywelyn2000 04:00, 1 Ebrill 2011 (UTC)Ateb
Iawn, diolch. Peredur ap Rhodri 09:09, 1 Ebrill 2011 (UTC)Ateb

Gynnar!

golygu

"Beinn a'Bheithir - Sgorr Dhearg‎; 05:06"

^ 5 yn y bore? Tipyn yn gynnar! Methu cysgu? :P beca 05:15, 22 Mai 2011 (UTC)Ateb

Bore da, Becca. Yr unig debygrwydd rhyngof a Thatcher (hyd y gwn i!) yw'r ffaith mai prin tair i bedair awr o gwsg sydd ei angen arnaf! Mae dy gyfraniadau diweddar yn dod a ffresni braf i Wici! Llywelyn2000 07:09, 22 Mai 2011 (UTC)Ateb
Rhaid cofio bod yr amseroedd yn cael eu dangos yn UTC, hefyd. Peredur ap Rhodri 21:12, 23 Mai 2011 (UTC)Ateb

Lingua Franca Nova

golygu

Please, could you correct Lingua Franca Nova? If you want to translate any article onot Spanish, please, tellit to me.

Yes I will, if you register as a recognised User. Llywelyn2000 09:40, 29 Mai 2011 (UTC)Ateb


Im' sorry. I used to be logged in all wikis at the same time. --Jeneme 09:45, 29 Mai 2011 (UTC)Ateb
Thanks for your help. --Jeneme 09:59, 29 Mai 2011 (UTC)Ateb
All done. Llywelyn2000 10:02, 29 Mai 2011 (UTC)Ateb
Here it is. --Jeneme 10:48, 29 Mai 2011 (UTC)Ateb
Diolch! You are a person to trust. My hand reaches out to you... Llywelyn2000 10:53, 29 Mai 2011 (UTC)Ateb

Myfanwy

golygu

Thank you for your congratulations, Llywelyn2000. It is curious that in the Basque Country also have a female name like Myfanwy, this is Maite, it also wants to say in basque language "beloved". The basque translate of your sentence: I'm a Welshman who tries to further the Welsh Wikipedia, as it is a very valuable resource, free to all! My User Page is here... is Galeserazko Wikipedia hobetzen diarduen galestar bat naiz, lanabes baliotsua eta gainera dohakoa baita! Nire Lankide Orria honako hau da..... Greeting from Euskal Herria to Cymru. Agur! P.D.: I also writed the article: Sospan Fach, after I saw this videclip Euskalduna - 19:26, 11 Mehefin 2011 (UTC)

Llun Salem

golygu

Annwyl Llywelyn2000

Gwelaf mai chi a dynnodd y llun o gapel Salem Llanbedr, Meirionnydd a welir ar Wicipedia. Tybed a alla i ofyn caniatâd i'w atgynhyrchu yng nghylchgrawn Barn os gwelwch yn dda? Rydym yn cyhoeddi darn yn rhifyn dwbl Gorffennaf / Awst (rhifyn mawr y Steddfod) gan Dr D Ben Rees am baentiad enwog Vosper ac am Lever a'i ddylanwad ar Lerpwl ac yn anuniongyrchol ar Gymru. Mae eich llun o'r capel yn un hyfryd.

Mae croeso i chi anfon ataf yn uniongyrchol – geiriau@gmail.com

Diolch

Bethan Mair

Wel dyna fraint! Bore da, Bethan. Wrth gwrs fe gewch! Ychwanegwch y geiriau "Llun drwy garedigrwydd Wicipedia" yng nghorff yr erthygl, os gwelwch yn dda. Pob hwyl. Edrychaf ymlaen at ddarllen y gwaith. Llywelyn2000 03:04, 15 Mehefin 2011 (UTC)Ateb

Saer Rydd

golygu

Dw i wedi gosod pwt bach ar dudalen sgwrs yr erthygl am y seiri rhyddion ac ro'n i'n gobeithio cael dy farn/ymateb. Rho wybod beth ti'n feddwl! Diolch ;) Pwyll 19:05, 25 Gorffennaf 2011 (UTC)Ateb

Diolch Pwyll! Newidiwyd y darn. Llywelyn2000 06:21, 30 Gorffennaf 2011 (UTC)Ateb

Lluniau'r Eisteddfod

golygu

Helo, hen gyfaill! Mae wedi bod yn dro'r byd ers inni siarad â'n gilydd, yndo?! Sut mae? Bellach mae gennym y nodyn

  Rhyddhawyd y ddelwedd hon gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru, i'w defnyddio mewn erthyglau'r Wicipedia Cymraeg yn unig. Gweler y drafodaeth a gafwyd yma.
iti ddefnyddio os rwyt am ddefnyddio lluniau'r 'Steddfod :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:13, 29 Gorffennaf 2011 (UTC)Ateb
Henffych Glenn! Ydy wir. Ond eto, dw i'n dilyn dy waith gwych ar Wici o ddydd i ddydd ac mae hynny'n braf. Y Nodyn - gwych a syml! Mi fydd yn handi yn ystod yr wythnos nesaf. Cadwa lygad ar wefan y steddfod a mi wna inna'r un peth. Mae'n biti na fyddai cyfarfod i drafod Wici yno - neu gyhoeddusrwydd o ryw fath. Llywelyn2000 06:20, 30 Gorffennaf 2011 (UTC)Ateb

Eugène Labuset

golygu

Nos da ! Ni chlywais eirioed am y dyn. Nid wyf yn gwybod paham y dylai gael erthygl amdano fe yma. Categori:Pobl o Bretagne: "braidd yn fler", fel ysgrifennaist ti :-(. Mae Categori:Llydawyr yn barod! Rhyfedd hefyd yw gweld Categori:Pobl o Finistère a Categori:Pobl o Penn-ar-Bed, Pobl o Ille-et-Vilaine a Pobl o Il-ha-Gwilun ac yn y blaen. --Llydawr 21:31, 19 Awst 2011 (UTC)Ateb

Diolch gyfaill! mi af ati rwan i'w ddileu! Dau funud sy gen i a bydd rhaid mynd, felly mi adawa i'r cats am blwc. Diolch eto! Llywelyn2000 21:45, 19 Awst 2011 (UTC)Ateb

Croeso'n ôl!

golygu

Heia! Croeso nôl! Sut oedd dy daith/gwyliau yn yr Alban? Siaradaist ti Aeleg o gwbl? :p -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 05:55, 29 Awst 2011 (UTC)Ateb

Yn fy mreuddwydion! Dw i bron a gorffen y copaon: llond dwrn ar ol! O'r diwedd. Ymlaen wedyn i orffen copaon Cymru. Unrhyw syniadau wedyn? Llywelyn2000 06:00, 29 Awst 2011 (UTC)Ateb
Hehe! Da iawn iti! Ym, stwff efo'r UK infobox falle? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 13:15, 29 Awst 2011 (UTC)Ateb
Ia, trefi Cymru, Lloegr, yr Alban... Mae na waith i'w wneud rhen Glenn! A dim digon ohonom ni! Llywelyn2000 06:30, 30 Awst 2011 (UTC)Ateb

Dyneiddiaeth

golygu

Dwi'n meddwl bod angen trafod yr erthygl hon, ac dwi'n teimlo rhywfaint o sarhad am gael fy nhrin fel fandal. Mi fuasai o leia ychydid o eiriau o eglurhad am y gwrthdroi wedi bod yn fwy weddus. Garik 15:50, 3 Medi 2011 (UTC)Ateb

Gweler yma. Llywelyn2000 23:02, 3 Medi 2011 (UTC)Ateb

Karkwa

golygu

Helo Llywelyn, a diolch am gywiro fy nhudalen am Karkwa! I always love being corrected =] There's a part I think you might have misunderstand (my fault, of course, not yours), but I can't be sure with my limited Welsh. The sentence Sylwodd aelodau yr Office franco-québécois pour la jeunesse perfformiad y band (which you changed to Sylwodd aelodau o'r Office... ar berfformiad y band) was supposed to mean "Members of the Office... noticed the band's performance" -- your correction seems to me like "Members of the Office... commented on the band's performance." Am I right? If so, how would you go about saying "to notice"? My dictionary only gives "sylw." Thank you, and sorry about the English, Mattie 19:27, 5 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb

That's the problem with dictionaries and software built to "correct" y Gymraeg. They're very fallible! "Sylwi ar..." is correct; it means to notice an event etc. The sentence I wrote means, "Members of the Office... noticed the band's performance". To comment is "Rhoi sylw", which is very different. Thanks for your great contributions. Llywelyn2000 20:14, 5 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Great! I just learned a new idiom, then. I haven't contributed all that much as of yet, but as I get more assured of my Welsh, I should write more and more. :) Take care, Mattie 06:08, 6 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Croeso ;-} Llywelyn2000 06:11, 6 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb

Camlas Llangollen

golygu

Nos da! I have just seen your comment (from February). I'll have a go at translating a map for Camlas Llangollen. Bob1960evens 21:22, 8 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb

I look forwards! Diolch. Llywelyn2000 06:13, 10 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Nos da! I have a first attempt at a map for Camlas Llangollen at Defnyddiwr:Bob1960evens/Bocstywod_Map. I am not sure what to do about Prees Branch, Ellesmere Arm, Horseshoe Falls, and the various places in England. Any help with some Welsh would be greatly appreciated, and any comment on my guesswork at some of the existing text. I also note that the Camlas Llangollen article uses Traphont Pontcysyllte, and not Dyfrbont Pontcysyllte. Should I change every Dyfrbont to Traphont? Bob1960evens 17:50, 26 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
I would also like to do one for Camlas Cydweli a Llanelli, but there is no article for it. I got the article to GA quality on Wikipedia. Bob1960evens 18:00, 26 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
I would also like to translate the WW_template template, which goes on the talk page and shows where the map is. A copy is on Defnyddiwr:Bob1960evens/Bocstywod7. I think the WW stands for Waterway, and wondered if you could think of a suitable name for it in Welsh. Bob1960evens 18:57, 26 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Hi Bob! Noswaith dda! Great stuff. Now then, to answer some of your questions now.... (and one or two later!):
1. I suggest: Prees Branch = Cangen Prees; Tafarn yr Ellesmere Arms = Ellesmere Arm and Rhaeadr y Bedol for the Horseshoe Falls. The places in England can be kept as they are, in English.
2. I'll also go through the rest with a fine toothcombe.
3. Traphont = viaduct; Dyfrbont = aquaduct. Dyfr = dŵr = water. I've left a message on this page, which I'll leave for a few days. I think you're right, but let's wait a while.
4. Is there an article on Camlas Cydweli a Llanelli on en? Is this canal the same as Camlas Cymer?
5. Waterways = Dyfrffyrdd as used here and here. DFf? It's recognised as an acceptable term, but is a bit of a tongue twister!
The map looks great - bendigedig! Diolch i ti. Llywelyn2000 19:50, 26 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Bore da. Camlas Cymer became part of Camlas Cydweli a Llanelli. The en article is Kidwelly and Llanelli Canal. For the WW template, would Nodyn_dwr be a suitable name? Bob1960evens 21:21, 26 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Bore da Bob! I didn't think people still used that archaic spelling (Kidwelly); at least they've got Llanelli up to the 21st century! I'll create a stub of an article called Camlas Cydweli a Llanelli ready for you. Nodyn_dwr sounds good; simple and to the point. Diolch yn fawr. Llywelyn2000 05:32, 27 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Nos da! I have created Nodyn_dwr, and used it on the talk pages of articles which have maps. It could do with some better Welsh. The en template said "The map template can be found at ...". I'm visiting Dwr Cymru this week, so will ask someone there for suitable text. Bob1960evens 19:00, 27 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
I see that Glenn has changed the Nodyn name to include a circumflex. The Nodyn:Nodyn, however doesn't seem to link correctly. But this is a very minor matter! I think what you've done with the maps are really superb. Diolch. Llywelyn2000 05:55, 28 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb

┌─────────────────────────────────┘
Llywelyn, pa nodyn wyt ti'n ei olygu? Nodyn:Nodyn neu Nodyn:Nodyn dŵr? Dwi ddim yn cofio ychwanegu unrhyw acen grom, haha! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 12:20, 28 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb

Haia. Nodyn:Nodyn dwr i Nodyn:Nodyn dŵr ? Neu ai fi sy wedi camddeall? Llywelyn2000 23:18, 28 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Aaaaa, deallaf! Jyst meddwl o ran cysondeb o'n i :) Wrth ddefnyddio'r nodyn, mae'n rhaid cofio defnyddio y actiwl gair 'nodyn' (Nodyn:Nodyn dwr... neu Nodyn:Nodyn dŵr...) gyda fe. Edrycha ar Sgwrs:Camlas Morgannwg a'r Saesneg gyfateb en:Talk:Glamorganshire Canal - mae'r nodiadau'r un peth. Ond mae'n rhaid i Bob gofio i ychwanegu'r interwikis... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:35, 28 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb

Infobox Camlas

golygu

Nos da! I have had a go at creating Infobox Camlas on cy:. Defnyddiwr:Bob1960evens/Bocstywod shows how it might look, and the template is at Defnyddiwr:Bob1960evens/Infobox. I wondered if you could have a quick look, to see if you think it might be a useful addition. I am stuck with some of the measurements, as Nodyn:Convert on cy: does not support feet and inches, and all the units seem to be in English, anyway. If you think it might be OK, I might need a bit of help with some of the Cymraig. Bob1960evens 18:52, 3 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb

Monmouthpedia

golygu

Hi Thats wonderful, thanks very much. I'm going to redo the project pages in the next day or so to make it easier for people to contribute and know what languages have been translated. I spoke to another editor on Wicipedia and they said that Monmouthshire County Council have a list somewhere that was possibly compiled with the Welsh Language Board of Welsh names for places in Monmouthshire. It would be really nice to have some Welsh language on the Monmouthpedia pages, not sure if it will break the autotranslate for other languages, I will investigate. --Mrjohncummings 22:30, 9 Ionawr 2012 (UTC)Ateb

Brwydr Trefynwy (1233)

golygu

Just a comment - the battle did not involve William Marshal, who died in 1219, but rather his son, Richard. Ghmyrtle 08:08, 10 Ionawr 2012 (UTC)Ateb

Diolch. Corrected and developed the article. Llywelyn2000 22:22, 10 Ionawr 2012 (UTC)Ateb

Hacio'r Iaith

golygu

Er gywbodaeth, dwi wedi dechrau [hwn]. Croeso i ti ei olygu.--Ben Bore 11:19, 10 Ionawr 2012 (UTC)Ateb

Gwych! I'r dim. Llywelyn2000 23:04, 10 Ionawr 2012 (UTC)Ateb

Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012

golygu

Heia. Elli di gael pîp ar Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012, plîs, yn enwedig y "cyfraniadau" yma? Dwi wedi dweud yn sgwrs yr erthygl mai cred fi ydyw y defnyddiwyd peiriant cyfieithu... Diolch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:29, 20 Ionawr 2012 (UTC)Ateb

Bore da! Ia, ond nid en bloc: eithr bob yn dipyn, brawddeg wrth frawddeg. A chwarae teg, nid ymdrech "slap it on" sydd yma, ond defnydd gofalus. Pe bai Google Translate yn gwneud ei waith yn iawn, yna fe fyddai'n hynod o handi ac yn dderbyniol, ond mae ugain mlynedd tan hynny!
Cymharer y ddau hyn:
Ar 16 Mai 2011, cyhoeddwyd y cyfadeilad cyngerdd arbennig â 23,000 o seddi ar gyfer y Cystadleuaeth 2012 yn cael ei hadeiladu...
On 16 May 2011, it was announced that a special concert complex with 23,000 seats for the 2012 Contest is to be built...
Byddai person go iawn wedi defnyddio'r ferf bydd /bod: "cyhoeddwyd y byddai cyngerdd...".

Yn y diwedd, nid y defnydd o beiriant cyfieithu yw'r drosedd, ond Cymraeg gwallus. Gan fod cymaint o gangymeriaidau yma, yna dw i'n cytuno efo ti Glenn: mi wnest yn iawn: ei ddadwneud. Fel arfer mi faswn i'n ei gywiro, ond ar hyn o bryd does gen i mo'r amser. Llywelyn2000 03:58, 20 Ionawr 2012 (UTC)Ateb

Thanks

golygu

Tŷ'r Barnwr !! Victuallers 10:33, 28 Ionawr 2012 (UTC)Ateb

Ysgol Trefynwy ! Tŷ'r Barnwr Victuallers 23:24, 30 Ionawr 2012 (UTC)Ateb
& William Jones (haberdasher) ! Victuallers 10:15, 4 Chwefror 2012 (UTC)Ateb

The full list is available here: Categori:Erthygl Pedia Trefynwy. Pob hwyl! Llywelyn2000 06:26, 7 Chwefror 2012 (UTC)Ateb

Weather box

golygu

I've posted the updated template at http://en.wikipedia.org/wiki/User:CambridgeBayWeather/Sandbox and you can see the results at http://en.wikipedia.org/wiki/User:CambridgeBayWeather/Airports_with_no_infobox_01. Are there any more parts that need translating? By the way it also required adjusting four of the sub-templates as well. Cheers. CambridgeBayWeather (sgwrs) 23:37, 22 Mawrth 2012 (UTC)Ateb

Adminstats

golygu

Adminstats for cy.wikipedia are now operational thanks to the help of TParis. I see flagged by bot as a bot however, for loggin purposes I need a formal approval on that page to start the bot there. Will also post this on your en.wiki page as well. See this for the bot approval request. Thanks. Cyberpower678 (sgwrs) 11:00, 27 Mawrth 2012 (UTC)Ateb

All done... I think; first time. Diolch.Llywelyn2000 (sgwrs) 02:43, 28 Mawrth 2012 (UTC)Ateb
Adminstats are now running. Spread the word and give other admins the template as well.Cyberpower678 (sgwrs) 11:13, 28 Mawrth 2012 (UTC)Ateb
According to statistics, only 2 admins are using it. You could make a watchlist notice advertising the adminstats to admins of this Wikipedia.—cyberpower SgwrsHalo! 12:05, 19 Ebrill 2012 (UTC)Ateb
Thanks. I left a message in the Caffi; but I also need to inform each one. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:29, 19 Ebrill 2012 (UTC)Ateb
Caffi?—cyberpower SgwrsHalo! 22:13, 21 Ebrill 2012 (UTC)Ateb
The notice can be found here.—cyberpower SgwrsHalo! 14:06, 23 Ebrill 2012 (UTC)Ateb

Monmouth Heritage Trail

golygu

Hi Llywelyn2000, pleased to see so many articles arriving. Brilliant. I spent Friday upgrading the en version of [Monmouth Heritage Trail]. Do you think it would be a good idea to move the map to the Welsh version? I'd be willing to do it but I'm sure I would need you to check it for errors for me Victuallers (sgwrs) 09:15, 7 Ebrill 2012 (UTC)Ateb

Hi. Croeso. It's the underlying Templates that need transfering. Yes, of course, I'll check it. Great to see that Wales is in the limelight! You've offered help over the last few months, without much response from us. It's time to reciprocate! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:34, 7 Ebrill 2012 (UTC)Ateb

E-bost

golygu

Already set up! At the request of the friends we met today, we need an article on en:Monmouth cap. Deb (sgwrs) 14:41, 21 Ebrill 2012 (UTC)Ateb

Should it be "Cap Trefynwy" or "Cap Drefynwy"? Deb (sgwrs) 15:38, 21 Ebrill 2012 (UTC)Ateb
'Cap Trefynwy' gan mai gair gwrywaidd ydy 'cap' :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 18:20, 21 Ebrill 2012 (UTC)Ateb
Cyfarfod arall y bore ma! Mi dria i ei greu yn ystod y dyddiau nesaf. Diolch Deb. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:39, 22 Ebrill 2012 (UTC)Ateb

Monmouthpedia

golygu

Hey

Really nice to meet you, send me an email when you get the chance so we can talk about wikimeets etc. john.cummings@monmouthpedia.org

Cheers

Mrjohncummings (sgwrs) 17:32, 24 Ebrill 2012 (UTC)Ateb

Thanks John. Defnyddiwr:Ben Bore will contact you regarding getting the Welsh phone moving; we had a Skype conference last night with Hacio'r Iaith - and one or two great ideas came up. Wikimeet down in Cardiff - I'll email you asap. Diolch i ti. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:32, 25 Ebrill 2012 (UTC)Ateb

Gwybodlen Eisteddfod

golygu

Rhag ofn y methaist hyn. --Ben Bore (sgwrs) 10:58, 2 Mai 2012 (UTC)Ateb

Hello. I have replied, if you're still interested. I have already generated some of them. Hazard-SJ (sgwrs) 23:10, 5 Mai 2012 (UTC)Ateb

Yes please! Go ahead! Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:01, 6 Mai 2012 ==(UTC)

Again, I will need the bot flag for User:Hazard-Bot, as it is a large number of edits to be made, and I need it to skip captchas as well so it can do the job automatically. Also, as I have previously asked, would you like to provide a translation so the bot won't go around using English all over the site? The translations needed include: edit summary, the title of the section to create on the talk page, the message to post (currently "During several automated bot runs the following external link was found to be unavailable. Please check if the link is in fact down and fix or remove it in that case!"), link to an archive if any (currently "The web page has been saved by the Internet Archive. Please consider linking to an appropriate archived version:").
You may want the bot to transclude templates instead (store the text in a template), which is perfectly fine as well (and may aid in your local tracking here via Special:WhatLinksHere). Hazard-SJ (sgwrs) 01:34, 8 Mai 2012 (UTC)Ateb
Thanks. This would be a great help!
  1. You now have a bot flag.
  2. The wording for During several ... in that case! = Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.
  3. Title of section to create on talk page = Dolen wallus
  4. The web page has been saved ... archived version: = Arbedwyd y ddalen darged yn Archif y Rhyngrwyd. Gallwch ddolennu i'r fersiwn hon, os dymunwch:
  5. Shall we try a test of 50 to begin with? Llywelyn2000 (sgwrs) 02:09, 8 Mai 2012 (UTC)Ateb
Thanks, but I'll have to work on this tomorrow as I have to go offline in a few minutes. Hazard-SJ (sgwrs) 02:54, 8 Mai 2012 (UTC)Ateb
I've made 58 more edits (more than asked for, but I was busy commenting on a bug at bugzilla:) and I believe you might want some more translations, including the edit summary? Hazard-SJ (sgwrs) 02:09, 9 Mai 2012 (UTC)Ateb
Again, would you like me to add something like a template or category to the pages so you can track them better? I'll continue the running tomorrow. Hazard-SJ (sgwrs) 03:42, 9 Mai 2012 (UTC)Ateb
Doing... Hazard-SJ (sgwrs) 01:54, 10 Mai 2012 (UTC)Ateb
I left 95 pages in Categori:Tudalen gyda dolen wallus, so you can start working on them. Overtime, I'll have more generated and let the bot tag them as well. Hazard-SJ (sgwrs) 02:34, 10 Mai 2012 (UTC)Ateb
Rydych yn croeso! (You're welcome!) Hazard-SJ (sgwrs) 22:19, 10 Mai 2012 (UTC)Ateb

Hello again. A few nights ago I checked the links of the entire site, and so, will, with time, go through them. However, I am not able to do it as you have recently suggested on Meta. I'm not much of a programmer currently, and I've noticed only few people have been successful in doing this perfectly. If you would like me to proceed with adding more notifications, I am able to do so, but am awaiting your response first. Hazard-SJ (sgwrs) 02:38, 19 Mai 2012 (UTC)Ateb

Cyfeiriadau

golygu

Diolch am ychwanegu cyfeiriad at Papillon. Rhywbeth dw i yn methu wneud. Elli di fy nghyfeirio at ddalen gymorth lle gallaf ddysgu sut i wneud. Diolch Dyfrig (sgwrs) 14:38, 7 Mai 2012 (UTC)Ateb

Croeso. Mae creu cyfeiriadau syml yn syml, ac mae creu rhai cymhleth yn g.... Ystrydeb, wrth gwrs! Mae'r rhan fwyaf o gyfeiriadau'n rhai gwe; ceir hefyd cyfeiriadau sy'n dod o lyfr. Gad i ni edrych ar y we. Y cwbwl sydd ei angen mewn gwirionedd ydy copio'r refs (neu'r cyfeiriadau) o'r Saesneg a'i bastio i Wici-cy. Hawdd yn de? Weithiau bydd yn rhaid newid rhyw ychydig e.e. enw'r mis. Gelli greu un syml iawn dy hun, hefyd e.e.
  • [www.rhybeth-neu-gilydd.com Teitl y Gwaith; Adalwyd dyddiad]
Mae 3 peth angenrheidiol o fewn y cromfachau [bladibla]
sef 1. yr URL (www bondigrybwyll.com) 2. Teitl yr Erthygl neu'r Wefan a 3. y dyddiad rwyt ti'n gwneud y gwaith.
Hawdd yn de?
Os wyt ti isio mynd a hyn gam ymhellach, mi alli gopio a phastio llinell redi-mêd, fel hon:
 Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Adalwyd ar 7 Mai 2012. ac yna ar gyfer y cyfeiriad nesaf:
wedyn dechreua ei llenwi hi i mewn efo'r tri manylyn, fel cynt:
 Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
... ac os wyt ti isio, mi fedri lenwi rhannau eraill e.e. awdur; ond does dim angen.
Ar waelod yr erthygl stwffia:
== Cyfeiriadau ==

Os oes gen ti gof sal, fel fi, mi fedri di gadw'r linell uchod on tap - ar dy dudalen Defnyddiwr! Os ti isio defnyddio ffynhonnell sy'n dod o lyfr, yna yn syml:

Rawls, John. A Theory of Justice. Harvard University Press, 1971, p. 1.
hy Awdur. Teitl, y wasg, dyddiad a thudalen. Unwaith eto, gelli gael template wrth gefn i ti ei gopio / pastio. Mae yna ganllaw yn rhywle, dwn i ddim ymhle! Pob hwl! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:49, 7 Mai 2012 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr. Fe wna i gynnig arni yn y manm Dyfrig (sgwrs) 13:54, 8 Mai 2012 (UTC)Ateb

Descriptions

golygu

I have written: Without unofficial descriptions. Descriptions I have removed from those articles are not official in Croatia. Is this not full reason?! --IvanOS (sgwrs) 17:36, 11 Mai 2012 (UTC)Ateb

Whether or not they are official in Croatia is irrelevant; people are more important than seals of approval, in my opinion. The alternative description here inform the readers of other (Serbian) name which is used by the local minority of which there are 204 Serbian speakers in this particular village. We have a responsibility towards the minority languages and people of this planet. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:44, 11 Mai 2012 (UTC)Ateb
First I apologize for writing in English. I see that this discussion unnecessary moved to this Wikipedia where user who follows me unfortunately again use the same untruths. As you noticed these names exist and they are relevant for this comunities (article talks about them and not about Croatian state as a whole). Secondly, they even have full official status in these municipalities, you can see it here en:Trpinja#Languages and names. I do not understand why after so many warnings on this topic on his talk page (first case,second case, third case, fourth case, fifth case...) this user still insists on its extreme positions. I apologize for disturbance and I wish you all success in editing.--MirkoS18 (sgwrs) 18:33, 16 Mai 2012 (UTC)Ateb

Archifo

golygu

Rwyf wedi adfer ychydig o sgyrsiau (y rhai ers 28 Ebrill) o'r archif i'r Caffi. Yr arfer yw i adael y sgyrsiau diweddaraf a chyfoes wrth archifo, fel nad ydynt yn cael eu diweddu'n rhy gynnar. (Mae nodyn "cwblhawyd" yn yr adran Angen Job?, ond rwyf wedi adfer hon er mwyn cadw trefn gronolegol yr adrannau pan y cânt eu harchifo.) Hwyl, —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:55, 12 Mai 2012 (UTC)Ateb

Diolch yn fawr. Mae hyn yn llawer mwy cyfleus. Mi wnes i godi hyn tua mis yn ol, heb fawr o ymateb, felly ail-godi dau o'r prif sgyrsiau wnes i yn y diwedd! Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 03:35, 13 Mai 2012 (UTC)Ateb

Rename

golygu

Hello, thanks for your quick reply. At first please click here - Then make the tick below the red warning and click on the button below. After this, use this link and do the same. It should work. Best, -Barras (sgwrs) 10:49, 16 Mai 2012 (UTC)Ateb

Euskarazko Wikipedia - Wicipedia Cymraeg

golygu

Gabon! Lehenbizi, barkatu geleseraz ez mintzatzeagatik. Bigarrenik, Euskal Wikipediako lankide soila naiz, baina laguntza nahi izan ezkero, gai hortan lagun zaitzakeen Euskal Wikipediako administratzailea hau da:

Theklan

Hirugarrenik: Nola esan dezaket "I want to live in basque" galeseraz? (Nire lankide orrian jartzeko da). Eskerrik asko.

Agur!


Nos da! First, sorry cause I can´t speak you in cymraeg. Second, I'm just a user of Basque Wikipedia, but if you want help, this is an administrator of Basque Wikipedia that can help you in that topic:

Theklan

Third: How can I say "I want to live in basque" in cymraeg? (It´s to put that sentence in my usuary page). Diolch.

Hwyl!

-Euskalduna - 1:41, 21 Mai 2012 (UTC)

Wicipedia Cymraeg

golygu

You're more than welcome! Working with the Brythonic languages helps me to develop and understanding of them. Wikipedia helps keep them alive. Pob hwyl!Jhendin (sgwrs) 11:11, 27 Mai 2012 (UTC)Ateb

MonmouthpediA Banrnstar

golygu
  MonmouthpediA Barnstar
This is a Barnstar to say thank you for all the work you've put into MonmouthpediA, I can't quite believe how successful the project has been, opening all sorts of doors for lots of people I hope. Many thanks and see you soon Mrjohncummings (sgwrs) 21:35, 14 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

USA

golygu

Sorry about that. I will make the changes tonight after I get home from work. Jhendin (sgwrs) 08:33, 18 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

PDF gloÿnnod byw

golygu

Efallai bydd yn cynnwys hwn yn ddiddorol i blant a rhieni? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 12:15, 23 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

Bendigedig! Diolch Glen! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:30, 24 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

See the bot request page for status

golygu

Rich Farmbrough, 01:48, 1 Gorffennaf 2012 (UTC).Ateb

Great work by all concerned on the bot. I have done a bit of debugging on Nodyn:Mynydd2 - centering the map, and ending the 'IF coord' clause, which now means the Alban ones don't show their map until they get some coords. That is presumably going to be more tricky, because the coords are not on the individual pages. I can provide the coords and names as text in whatever form is helpful, if there is any way for a bot to then add them to the pages automatically. (I also still owe you a few Alban dot maps - I will try and get them done in the next few days.) RobinLeicester (sgwrs) 01:42, 2 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb

Eisteddfod Genedlaethol 2012

golygu

Rhag ofn bod gweithgarwch y bot wedi golygu dy fod wedi methu fy ngolygiad diweddaraf yn Y Caffi ar bwnc Gweithdai Wicipedia yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012, plis cer draw ASAP, mae angen i ni drefnu pethau cyn gynted a bo modd. Diolch. --Ben Bore (sgwrs) 20:55, 5 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb

Ailenwi

golygu

Hello. I request renaming my following accounts:

  • محمد الجداوي → Avocato
  • GedawyBot → AvocatoBot
  • Confirmation link: [1]
  • Reason: Privacy reasons

Please, delete all my userpages and talk pages of these accounts before renaming and I will create them later .Thanks in advance.--M.Gedawy 07:03, 15 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb

  Cwblhawyd
Llywelyn2000 (sgwrs) 17:44, 15 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb
Diolch! I was away for the weekend. Deb (sgwrs) 17:53, 15 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb

Abercynnon ac Abernant

golygu

Am ryw reswm tydy'r wybodlen ti wedi ychwenegu yma ddim yn cynnwys etholaethau y Cynulliad. Ydy nhw'n rai gwahanol?

Na, doedden nhw ddim ar en, a thydw i ddim yn nabod yr ardal yn ddigon da i ddarganfod yr etholaeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:24, 22 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb

Erthyglau newydd

golygu

I've given it a haircut. It wasn't actually getting longer, as I always delete the last entry when I add a new one. Do you think we should have a specific time limit on these? Deb (sgwrs) 09:06, 22 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb

Great; thanks Deb. The last one - the oldest on the list - goes back to April. Time limit - or we all vouch to create 5 new articles a day! Diolch. PS Will you be at the Eisteddfod on the Wednesday? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:41, 23 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb
No, I can only manage the weekend. Please can I have some instructions/directions? Deb (sgwrs) 20:21, 23 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb
What is the stand I have to look for and how do I get into the field without paying £15? Deb (sgwrs) 15:00, 30 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb
Sorry Deb, missed this one! Ben Bore has the ins and outs of the Eisteddfod; can you email him. However, I know that he's really busy at the moment! Did you find out where it is? Llywelyn2000 (sgwrs) 16:35, 30 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb

baner Saesneg

golygu

Wedi chwilio am y dudalen cyfieithu i'r faner newydd ar meta, ond heb ei chael! Wedi holi mewn 3 man. Mae'n edrych yn debyg i mi nad yw'r faner wedi cael ei gosod i'w chyfieithu, naill ai am nad oedd gweinyddwyr y cyfieithu wedi cael gwybod amdani, neu am nad oes neb o'r gweinyddwyr (sydd i gyd yn wirfoddolwyr) ar gael ar hyn o bryd i'w gosod. Lloffiwr (sgwrs) 12:56, 23 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb

Wedi cyfieithu'r hysbyseb ganolog, ac yn disgwyl iddi gael ei chyhoeddi gan un o weinyddwyr meta. Dylai pob cais am gyfieithiad gael ei roi ar y rhestr Open requests ar y dudalen Translation requests. Am ryw reswm roedd yn eisiau o'r rhestr ond mae Jon Harald Soby wedi ei ychwanegu erbyn hyn. Os digwydd hyn eto a mod i ddim ar gael, gelli drio dy lwc gyda'r rhestr. Lloffiwr (sgwrs) 22:52, 23 Gorffennaf 2012 (UTC)Ateb

Sgwrs Delwedd:Tocyncambrian.png

golygu

Hi mate, just to let you know that I have responded at Sgwrs Delwedd:Tocyncambrian.png. Cheers, Russavia (sgwrs) 13:47, 12 Awst 2012 (UTC)Ateb

Polandball barnstar

golygu
  The Polandball Barnstar
Hello Walesball, Australiaball be approvings of your translatings of Pelenpwyl. With Walesball help, we provings that whilst Poland can not into space, Polandball can into Wikipedia. As Australiaball making note of on his page of user, he will continue to make uploadings of aviation picturings to Commons. Many of greetings and exultations. Russavia (sgwrs) 00:19, 14 Awst 2012 (UTC)Ateb
Hey mate, I've uploaded 50 photos so far, and I will continue to add more photos into the future. If you, or any other Welsh Wikipedia editors, feel like turning some of the red links into blue links in the future, then "mission accomplished". I must say that Wales is lucky to have Machynlleth Loop as some of the best action photos are taken there; this might be an article I would interested in pursuing some collaboration on in future...I guess expanding the English Wikipedia article will the first step, in order to give other projects something to work from....get a bit of Wales aviation onto other projects. If it's ok, I'll contact you in future about that? Cheers, Russavia (sgwrs) 00:35, 14 Awst 2012 (UTC)Ateb

Cymdeithas Owain Cyfeiliog

golygu

Helo eto. Ro'n i'n barod i greu'r dudalen, a chofiais ryw sôn am Ddewin; felly es i i'r dudalen y Dewin, a doedd neb wedi creu'r dudalen eto. Chwiliais yn ofer am ddatrysiad am sbêl, ac erbyn i mi ddychwelyd i'r tywod, roedd fy nhudalen i wedi diflannu. Felly, os dw i'n ailgreu'r dudalen, beth ydi'r broses? Ro'n i wedi byw yn yr ardal ers chwe blynedd heb sylweddoli bod y fath gymdeithasau'n bodoli. Mae'n hen amser iddyn nhw ymdangos ar y we'.

Les

Diolch. Dw i wedi ychwanegu a chywiro pethau, a dw i'n meddwl bod yr erthygl yn barod; be' di'r proses? Cymdeithas y Felin, Coedpoeth nesaf, ac wedyn Llandegla os dw i'n gallu cael hyd o'r wybodaeth.

Lesbardd (sgwrs) 10:00, 8 Medi 2012 (UTC)Ateb

Manylion hanesyddol Coedpoeth

golygu

Mi ges i wahoddiad i ymweld a Moira Humphreys wr wythnos diwethaf. Mae Moira'n weddw Dewi Humphreys, un o'r enwogion y pentref yn ôl y dudalen Coedpoeth (a dw i'n credu bod Moira wedi bod yn bwysig yn y byd dawns werin hefyd). Mae ganddi hi sawl ffeil o ddarnau o'r bapurau newydd, lluniau, a nodiadau gan Dewi. Mae Cymdeithas Hanes Coedpoeth wedi mynd trwy'r ffeiliau ac wedi defnyddio darnau ar eu gwefan (Saesneg yn unig). Mynnodd hi mod i'n benthyg y ffeiliau hefyd. Mae 'na ddarnau basai'n addas i dudalen wicipedia, a dw i'n bwriadu eu creu nhw pan mae gen i amser. Ond mae 'na pethau eraill, nodiadau gan Dewi (yn y dwy iaith), sy ddim yn cyfeirio at bethau bwysig, ond sy'n rhoi blas o'r amserau yn y pentref. Dyma un ohonynt:-

"MRS THOMAS OWEN WILLIAMS

Ganed hi yn 36 High St, Coedpoeth.

A hi'n 9 oed, symud i Wern Hywel, 3 thŷ yn Park Rd, Coedpoeth. Roedd ei thad wedi eu prynu nhw. Pobl eraill yn ei helpu i'w prynu ac yn ei berswadio eu prynu. Dywedodd nad oedd ganddo bres ac yntau'n lowr Mr Gibbons, y drygist, yn ei swcro. Ymhen tua deunaw mis cafodd ei thad, John Richards ddamwain ddifrifol i lawr pwll....


Oes 'na le ar wicipedia i'r fath nodiadau?

Lesbardd (sgwrs) 09:54, 13 Medi 2012 (UTC)Ateb

Delweddau / Ffotograffau Gwyl Tegeingl

golygu

Ron i wedi lleihau lluniau cyn i mi roi nhw ar wefan Degeingl, ond mae gen i luniau gan Llinos - rhai o'r artistiaid (gan gynnwys yr un o Twm Morys), rhai sy'n dangos awyrgylch yr wyl - mae Llinos yn gwneud hynny'n arbennig o dda - sydd yn 2-3Mb yr un. Dw i'n dal i ddisgwyl am luniau 2012. Dyn ni ddim wedi cael ein post mortem eto; mae popeth yn symud yn araf ar blaned Degeingl. Gwnaf i ofyn i Llinos yn uniongyrchol. Lesbardd (sgwrs) 09:25, 14 Medi 2012 (UTC)Ateb

Os wyt ti isio i mi ddod draw i sgwrsio efo'r pwyllgor, neu sgwrs ar wahan efo Llinos - danfon ebost ataf. Gelli weld dolen (colofn chwith) pan rwyt ti yn fy nhudalen defnyddiwr. Dydw i ddim yn gwybod popeth am drwyddedau Comin, ond mae gen i grap! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:15, 15 Medi 2012 (UTC)Ateb
Dw i wedi creu oriel Tegeingl 2012:- http://www.tegeingl.com/Archif-2012-Archive.html

Mae gen i luniau high res gan y tri ffotograffydd. Wyt ti wedi siarad â Llinos, a basai'r ddau arall yn hapus bod eu lluniau ar gael; mae gen i llawer ohonynt; efallai basai uwchlwytho y goreuon yn raddol y ffordd gorau i fynd.Lesbardd (sgwrs) 15:24, 17 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Do, Les, mi ges i sgwrs ac mae hi am roi CC-BY-SA ar lawer o'i ffotograffau. Mae Gwyl Tegeingl yn torri tir newydd! Fantastig.Mae gen to ddau ddewis:
  1. Uwchlwytho'r lluniau high-res bob yn un ar Comin, neu
  2. Eu rhoi ar un ddalen ar wefan allanol (fel yr un sydd gen ti'n barod on high-res); ychwanegu'r drwydded (CC-BY-SA) ar waelod y ddalen. Fel dw i'n dweud yn rhywle arall, mae'r esieddfod (ar ol dros flwyddyn o ebostio a ffonio!) wedi methu gwneud hyn, felly mi fydd yn rhaid tynnu eu ffotograffau nhw i gyd o'r Wicipedia Cymraeg. Gall ffotograffau Gwyl Tegeingl lenwi'r bwlch yn glosi-urddasol-ddigidol! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:18, 18 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Basai'r lluniau angen cin dipyn o le, a dw i ddim yn sicr am faint o le sydd ar gael i'r wefan tegeingl; felly gwnaf uwchlwytho nhw. Ysgrifennaf erthyglau am rhai o'r artistiaid pan mae gen i amser.Lesbardd (sgwrs) 07:06, 18 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Haia. Wnes i ddim meddwl am hynny; ond beth am roi nhw ar Gwgl Docs? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:31, 18 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Categoreiddio

golygu

Heia Llywelyn. Mewn nifer o dy erthyglau ar wyfynod a gloynnod byw, rwyt yn defnyddio [[Categori:Gwyfynod| ]] yn lle [[Categori:Gwyfynod]]. Dim ond yr erthygl Gwyfyn ei hun ddylai gael [[Categori:Gwyfynod| ]], sy'n ei rhestru'n gyntaf ac ar wahân ac nid yn drefn yr wyddor â'r holl erthyglau eraill. —Adam (sgwrscyfraniadau) 18:58, 15 Medi 2012 (UTC)Ateb

Ti'n iawn. Mae hyn ar tua 700 o erthyglau, ond yn dod at ei gilydd ar un ddalen gategori yn unig. Mi allaf drefnu Bot i'w 'gywiro' os oes angen, er, i fy llygad i, does dim gwahaniaeth os ydy'r erthygl "Gwyfyn" yn sefyll allan yn fwy na'r lleill. Diolch Adam. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:36, 16 Medi 2012 (UTC)Ateb

Gorsaf reilffordd y Rhyl ayyb

golygu

Nid ymholiad cwyno yw hyn (wir!) ond -- o ystyried y bydd y cyfesurynnau'n ymddangos ar frig y dudalen mewn unrhyw achos -- a yw'n bwysig mewn gwirionedd ysgrifennu templed y cyfesurynnau mewn man gwahanol i sefyllfa arferol templedi o'r fath, hynny yw, uwchben y categorïau? --Jac-y-do (sgwrs) 16:02, 24 Medi 2012 (UTC)Ateb

Haia. Top dde ydy arferiad Wici cy ac en, dwn i ddim am unrhyw un wedi'i leoli mewn man arall. Dw i wedi creu dros 700 o erthyglau ar copaon Cymru dros 400 metr gyda lleoliad gorffenedig y cyfesurynnau ar y top dde, ac efallai tua mil a hanner o erthyglau ar henebion cofrestredig CADW; mae 400 erthygl yn dolennu o'r erthygl carnedd gron, er enghraifft, gyda phob cyfesuryn i'w weld ar y top dde. Ar Wiki en, mae dewis rhoi'r Nodyn Cyfesurynnau naill ai ar y top neu ar y gwaelod yn y ffenest Golygu, ond yn en, mae'r lleoliad yn diweddu yn yr un lle: ar y top dde. Gweler:en:Wikipedia talk:WikiProject Geographical coordinates. Felly, er mwyn cysondeb y golygais yr erthyglau. Gyda llaw dw i wedi gwneud 'bot request' ar en i ychwanegu cyfesurynau ar dros 2,000 o'n herthyglau ar copaon yr Alban yn fama, ond does neb yn fodlon gwneud y gwaith! Gormod o fynydd iddyn nhw'i goncro! Cofion. Llywelyn2000 (sgwrs) 01:13, 25 Medi 2012 (UTC)Ateb

Gŵyl Cadi Ha

golygu

Yn anffodus, dw i'n cario'r gangen (mae'r ysbryd ail-enedigaeth yn ymddangos braid yn od ar hyn o bryd efo ffon bagl, one maen nhw'n mynnu mod i'n parhau i'w wneud) felly does gen i ddim lluniau o'r dawns ffurfiol yn y gorymdaith. Dw i'n gwybod bod pobl eraill yn tynnu lluniau, felly gwnaf ofyn i fy nhiwtor, Frances Jones, trefnyddes Dawnswyr Delyn, os oes gan rywun llun addas.Lesbardd (sgwrs) 07:22, 30 Medi 2012 (UTC)Ateb

Gwych! Ar yr un pryd, Les, dw i wedi cyfarfod Dr Beth Thomas ddwywaith yng Nghaerdydd i drafod rhyddhau lluniau a chlipiau sain etc o Sain Ffagan, ac mae hi'n awyddus iawn i'n cynorthwyo. Dw i'n siwr fod llawer o bethau'n cuddio yn eu ffeiliau di-ben-draw! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:25, 30 Medi 2012 (UTC)Ateb
Newyddion ardderchog; 'swn i'n hoffi gweld be' sy gynnon nhw yna. Roedd gan Frances sawl llun o'r dawnswyr ar ei chyfrifiadur gwaith, ac wedi anfon nhw imi y bore 'ma, a dw i wedi eu uwchlwytho. Dawnswyr braidd yn annhrefnus; mae 'na aelodau côr Caerwys, Dawnswyr Caernarfon, Dawnswyr Delyn a rhai o bobl mod i ddim wedi gweld o'r blaen. Mae trefniant yr wyl wedi colli 'r elfen o drefniant erbyn hyn - roedden ni wedi recriwtio grwp o dwristiaid Tsiapanaiadd yn y bore - ac mae popeth yn dod braidd yn ymlaciol erbyn i ni gyrraedd Caerwys ynghanol p'nawn. Mae un o'r llyuniau'n cynnwys John Bingham. Dyn yn ei wythdegau sy'n cyrraedd pob blwyddyn efo ei gangen ei hun. Roedd o'n rhan o'r traddodiad wreiddiol. Chris Bailey ydi'r dyn yn y cadair olwyn; mae ganddo fo MS erbyn hyn.Lesbardd (sgwrs) 10:08, 1 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Mae'r erthygl yn edrych (yn ogystal a darllen) yn wych iawn! Bendigedig! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:02, 1 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Gwyfyn dwbl

golygu

Ymddengys taw gwyfyn gludlys y codau a gwyfyn gludlys melynddu yw'r un rhywogaeth. Cyfuno? —Adam (sgwrscyfraniadau) 00:26, 2 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Diolch Adam. Dw i'n meddwl fod Hadena perplexa perplexa yn isrywogaeth o Hadena perplexa, ond mae'r erthygl Saesneg yn rhoi'r un enw i'r ddau (The Tawny Shears or Pod Lover (Hadena perplexa) is a species of moth of the Noctuidae family.) Felly dal dy ddŵr am chydig nes y caf ateb! Diolch am fod mor sydyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:19, 2 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Ymgyrch codi arian 2012

golygu

Rhagor o waith adolygu yn barod ar lythyr Jimmy - [2] Lloffiwr (sgwrs) 18:16, 6 Hydref 2012 (UTC)Ateb

  Cwblhawyd
Llywelyn2000 (sgwrs) 05:19, 7 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Mae'r tudalennau gwybodaeth yn barod i'w hadolygu. Lloffiwr (sgwrs) 14:17, 14 Hydref 2012 (UTC)Ateb
  Cwblhawyd
Llywelyn2000 (sgwrs) 05:01, 15 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Diolch. Nawr mae'r e-bost at gyfranwyr yn barod hefyd. Lloffiwr (sgwrs) 23:08, 16 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Amgueddfa Atgofion

golygu

Syniad ardderchog. Lle perffaith am fy nhudalen am Goedpoeth, a dw i'n meddwl basai gan Gymdeithas Hanes Coedpoeth diddordeb. Gwnaf cysylltu a Menter Iaith Wrecsam a Menter Iaith Fflint; dw i'n nabod pobl yna hefyd. Rhaid i mi ruthro i ddosbarth rŵan - Aled Lewis Evans yn sôn am Ganu Heledd.Lesbardd (sgwrs) 07:52, 9 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Dw i wedi cael ymateb oddi wrth Gwawr Cordiner, prif swyddog Menter Iaith Maelor a Sir y Fflint:-

Helo Les, Sut hwyl? Rwyf ar hyn o bryd mewn trafodaethau gyda hanesydd lleol (Lorna Jenner) ynglyn ac edrych ar y posibiliad o ddatblygu prosiect tebyg ar gyfer y Loteri Treftadol , ond yn benodol ar gyfer yr ardaloedd glofaol yn ardaloedd Wrecsam a Sir Fflint. Mae llawer o hanes y diwydiant glofaol o fewn y cymunedau y ddwy sir ac mae cydnabyddiaeth yn lleol fod agnen cofnodi'r straeon a'r hanes yma cyn iddo fynd yn angof. Yn bendant mi fyddai unrhyw ddeunydd sydd gennych yn werthfawr ar gyfer prosiect or fath. Ar hyn o bryd rydym dim ond wedi cael trafodaeth sydyn ynglyn a posibiliadau'r prosiect ac mi fydd angen rhoi cryn tipyn o waith mewn iddo er mwyn inni sicrhau nawdd Loteri ar ei gyfer. Tydwi ddim wedi ymwneud a prosiect loteri o'r blaen, ond mae Lorna yn brofiadol iawn ac y hi sydd wedi cynorthwyo Menter Iaith Dinbych i gael ariannu eu prosiect nhw.

Mae'n debyg mae'r flwyddyn nesaf fyddwn yn edrych i gyflwyno cais, gan ein fod eisoes gyda ymrwymiadau eraill - Mis Chwefror 2013 gobeithio ! cofion Gwawr Lesbardd (sgwrs) 17:24, 17 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Gwych iawn; efallai y bydai'n syniad i Ben Bore a finna gyfarfod Menter Iaith Clwyd i drafod syniadau Ben, gan fod eu prosiect nhw eisioes ar y gweill ac os ydyn nhw'n cydsynio i ddefnyddio Wicipedia gallem ymestyn ymhellach i Sir y Fflint. Beth am drafod y geiriad cais Gwawr efo hi, fel bod y sbec sy'n mynd yn ei flaen i Gronfa'r Loteri yn cynnwys WPC? Cofia - os ti isio i mi newidio i fewn i'r car a dod efo ti - jest ffonia! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:54, 18 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Dw'n meddwl bod Maelor a Sir y Fflint yn debyg o ddilyn Dinbych. Gwnaf cadw mewn cysyllt efo Gwawr.Lesbardd (sgwrs) 07:00, 18 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Gwefannau Cymraeg y BBC

golygu

Sylwais i amser maith yn ôl bod eu gwefannau Cymraeg wedi troi'n archifau. Es i i wefan Ogledd Ddwyrain Cymru heddiw, chwilio'n ofer am fwy o wybodaeth am Ddawnswyr Delyn, a sylwais bod y nifer o erthyglau wedi lleihau'n sylweddol. Efallai dylen ni ofyn andanynt, os mae gynnon ni le addas, cyn iddynt cael eu dinistrio. Dw i ddim wedi ymweld a BBC Wrecsam yn ddiweddar, ond roedd na ddau gynhyrchydd yna sy wedi bod ar gyrsiau Cymraeg efo fi. Gwnaf drio cysylltu yfory a gweld be' sydd y sefyllfa.Lesbardd (sgwrs) 17:37, 10 Hydref 2012 (UTC)Ateb

'Fel y cadwer i'r oesoedd a ddel... holl stwff BBC!' Gwych! Oes na rywbeth fedra i wneud? Os tisio cyfarfod efo nhw, mi ddo i draw. Mae HTV wedi danfon llawer o'u stwff i'r Llyfrgell Genedlaethol - ac mae rheiny wedi dechrau uwchlwytho fideos cynnar ar eu gwefan. BBC Cymru - follow that! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:46, 10 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Mi ges i ebost yn ôl heddiw, oddi wrth Alan Daulby, cynhyrchydd yn Wrecsam, yn dweud bod nhw'n cael gwared o'r hen wefannau i gyd, a does 'na ddim llawer yn weddill erbyn hyn. Hen traddodiad y BBC. Gwnaeth o gyfeirio at y "Wayback Machine". Wyt ti wedi gweld o? web.archive.org
Mae'n ymlusgo o gwmpas y we ac yn casglu tudalennau. Mae'n anodd iawn cael hyd o unrhywbeth. Os dw i'n gofyn am 'papur fama', does dim byd yn ymddangos. Rhaid i mi chwilio am http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddddwyrain/papurau_bro/papur_fama/ Wedi cyrraedd yr hen wefan bbc, dw i'n gallu symud o'i gwmpas. Mae'n debyg bod 'na lot o bethau defnyddiol - yn Saesneg ac yn Gymraeg - wedi cuddio'n dda iawn.Lesbardd (sgwrs) 16:17, 11 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Mae hyn yn boen, a gall olygu bydd mwy fyth o'n dolenni ni oddi yma wedi torri. Nododd Carl hefyd y broblem gyda S4C yn gwneud yr un fath gyda eu gwefan nhw a'i effaith ar Wikipedia/Wicipedia.--Ben Bore (sgwrs) 08:29, 17 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Ar bwnc cysylltiedig, ond ychydig yn wahanol, sef tudalenaau yn cael eu symud o gwmpas (BBC yn gwneud hyn hefyd) un ffordd o'i wneud yn haws trwsio dolenni torredig/prydredig ydy gwneud yn siwr bod unrhyw ddolenni rydym yn greu yn cynnwys teitl llawn erthyglau ac o bosib y dyddiad cyhoeddi - dyma draethawd ar Wikipedia am URLs noeth (h.y. ble mae mond yn postio http://www.bbc.co.uk/xyz neu Tudalen ar wefan BBC a dim mwy o fanylion) sy wedyn yn ei wneud yn anodd defyddio peiriant chwilio i ailddarganfod erthygl - gan gymryd nad yw wedi ei ddileu! Defnyddiwr:Ben Bore: 16:24, 17 Hydref 2012‎
Mae carl yn gwneud y pwynt yn effeithiol iawn ar ei flog; diolch Ben am y ddolen. Les: ydw dw i'n ymwybodol o'r Wayback Machine; mae'n cael ei ddefnyddio ar Wicis o ieithoedd eraill i drwsio dolennau (e.e. ffynhonellau) gwallus. Mae gennym ni nifer fawr o'r rhain sydd angen eu trwsio a chafwyd trafodaeth ar hyn yn fama. Sut mae trwsio'r holl ddolennau gwallus? Defnyddio Bot sy'n otomeiddio'r broses o ailgyfeirio'r ddolen (i'r wybodaeth sydd ar y Wayback Machine). Felly os oes rhywun isio gwneud Bot Request.... awe! Cadwch olwg hefyd ar Wicidata; mae hwn yn mynd i'n helpu'n ARUTHROL pan ddaw allan o'r popty. Mae Adam wedi cyfieithu hysbys amdano yn y Caffi yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:07, 18 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Eisteddfod Dinbych

golygu

Oes 'na gynlluniau ar gyfer yr Eisteddfod? Dw i'n mynd i gyfarfod cyntaf pwyllgor Maes G p'nawn sadwrn 'ma. Dw i'n mynd i ddosbarth Nerys Ann, cadeirydd pwyllgor maes D, bob bore Iau. Dw i'n mynychu dosbarth cynganeddu John Glyn hefyd, ond mae'n debyg fod ti'n nabod o well na finnau.Lesbardd (sgwrs) 14:17, 18 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Be wyt ti'n ei feddwl? Uwchraddio'r hyn a wnaethom y llynedd? Camu ymlaen o nerth i nerth, efo partneriaid Hacio'r Iaith? (PS Dw i erioed wedi siarad efo John Glyn, dim ond cyfarchiad sydyn. Ond, o fy rhan fy hun, mae clensio pabell tebyg i llynedd yn gwneud synnwyr. Gall Wikimedia UK ein cynorthwyo'n ariannol i wella ar y marcnata a'r hysbysebu. Ein pont y llynedd oedd Defnyddiwr:Ben Bore a mi doi a fo i fewn i'r drafodaeth ar wefan Hacio'r Iaith. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:44, 18 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Ga i awgrymu bod ceisio sicrhau fod yna gornel dywyll yna i sicrhau bod modd gweld y sgrin yn eglur. Dyna oedd gwendid y sesiwn wicipida eleni yn fy marn i, er gallwn gael sesiynnau un wrth un wrth gwrs. Dyfrig (sgwrs) 17:32, 18 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Cytuno'n llwyr! Ond gad i ni gael y babell yn gyntaf! Efallai y gallem ehangu'r dudalen newydd ar Wicipedia:Hyrwyddo a Chyhoeddusrwydd i restru ein dymuniadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:10, 19 Hydref 2012 (UTC)Ateb
Gwych bod y drafodaeth eisoes wedi dachrau ar Hedyn.net am beth dymunia Hacio'r Iaith ei wneud yn Ninbych yn 2013. D wi ddim yn gwybod pryd gaiff criw Hacio'r Iaith wybod os cawn ni gynnig yr un math o gyfleusterau eto. Yn y cyfamser, falle dylem feddwl beth hoffai'r Wicpedia Cymraeg ei gael.

DEWIS 1: Petai'r un drefn yn bodoli yn 2013, ceisio gwneud yr un math o beth/rhywbeth tebyg, h.y. un (neu ddau) slot penodol yn ystod yr wythnos a bod a gwirfoddolwyr wrth law drwy'r wythnos i gynnyg cymorth yn y sesiynnau cymorthfeydd cyffredinol, ond bod ni tro hyn yn gallu gwario tipyn ar hyrwyddo, creu deunyddiau a falle freebies?
Manteision: Gallu bod yn rhan o rhywbeth mwy, rhannu cyhoeddusrwydd ac adnoddau (e.e. gliniaduron a wifi agored). Dim cost am y stondin.
Anfanteision: Dim sicrwydd bydd stondin ar gael eto, gorfod gweithio rownd amserlen grwpiau eraill

DEWIS 2: Dim ots o ydy Hacio'r Iaith yn cael y Gefnlen eto neu beidio, bod Wicipedia Cymraeg yn talu am stondin ei hun.
Manteision: Gofod llawn i ni ein hunain i wneud beth a fynon, safle mwy amlwg ar y Maes
Anfanteision: Cost stondin yn £1,000+. Cost wifi yn uchel - fel rheol y drefn ydy talu yn ol y defnyddiwr (Ddim yn cofio'r pris, oedd o rhywbeth fel £10 y person/y dydd i unigolion?. Falle bod o'n rhatach y pen os ydych yn talu am nifer uwch ac am wythnos gyfan? Gan bydd tipyn o gyllid gyda ni (gobeithio), gallen ni falle dalu am wifi agored os nad ydy o'n echrydus o ddrud. (Rhywbeth a ellir ei ddefnyddio wedyn fel modd o ddenu pobl at ein stondin!) Hefyd mae goblygiadau o ran gorfod cael gwirfoddolwyr i fod ar y stondin am 7/8 diwrnod ac angen ei ddodrefnu. Colli allan ar arbennigedd a brwdfrydedd unigolion Hacio'r Iaith a fydd yn rhywle arall.

Eniwe, cyn mynd dim pellach, dylem symud sgwrs fel hyn i unai'r adran Wicipedia:Hyrwyddo a Chyhoeddusrwydd neu'r Caffii gael tarafodaeth agored. --92.245.247.100 08:37, 19 Hydref 2012 (UTC)Ateb


Oes 'na le i wibdaith achlysurol i lefydd eraill ar y maes i ddangos ein presenoldeb? Roedd gen i reswm pendant i ymweld â'r babell eleni - i drafod lluniau Tegeingl; fel arall, efallai faswn i ddim wedi dod.Lesbardd (sgwrs) 08:43, 19 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Auckland

golygu

Diolch. Dw i'n treulio deg munud ar Auckland cyn i mi symud ymlaen at y pethau eraill bob dydd, a mae cyfrinachau'r blychau mawr ar y dde braidd yn dywyll i mi weithiau.Lesbardd (sgwrs) 08:43, 19 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Defnyddiwr:Russavia/DipMis

golygu

Hi mate, I'm baaaaack. :)

I am working on simple:User:Russavia/DipMis (which I have yet to complete), but have transplanted some of it to Defnyddiwr:Russavia/DipMis. (It is my intent to eventually take this to FA/FL status on as many non-English projects as possible). You will notice that I have done the list part so that it is sortable, but with Welsh using Latin alphabet, but with different ordering that the mediawiki doesn't recognise when one sorts alphabetically, could you possibly advise how one can ensure that it sorts correctly in Welsh. Defnyddiwr:Russavia/DipMis#Llysgenadaethau is the section I am currently working on.

Any advice on this would be much appreciated. Russavia (sgwrs) 10:05, 24 Hydref 2012 (UTC)Ateb

Garth Celyn

golygu

Golyga fo rwan drwy ddefynddio beth oedd gennyt ti ar bob cyfri, mond rhoi brawddeg agoriadaol nol mewn wnes i er cysondeb, ond ella bod ffordd mwy cywir/cynhwysfawr o nodi'r peth. Tydw i (er mawr cywilydd) ddim yn gyfarwydd gyda hanes y lle.--Ben Bore (sgwrs) 12:29, 22 Tachwedd 2012 (UTC)Ateb

Ash dieback disease

golygu

Hi, I was just doing some maintenance on Ash dieback disease over on English Wikipedia and I noticed one of the pictures being used here on the Criafolen page. However Criafolen seems to be the Sorbus genus, which does not include Ash trees. It seems to me the section you added should be on the Onnen page. Pasicles (sgwrs) 17:51, 22 Tachwedd 2012 (UTC)Ateb

Pen Barras

golygu

Sori, dw i ddim yn gwybod beth ddigwyddod yn fan'na, falle ro'n io'n meddwl mod i'n gwrthdroi rhywbeth gwahanol ar y pryd.. Wedi ei wrthdroi'n ôl rwan. Fi sy wedi golygu erthyglau Ysgolion Clocaenog a Phentrecelyn bore ma, gyda llaw (anghofio mewngofnodi) --Ben Bore (sgwrs) 10:24, 26 Tachwedd 2012 (UTC)Ateb

Bore da Ben! Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:38, 26 Tachwedd 2012 (UTC)Ateb

Beeston Regis

golygu

Hello Llywelyn2000

You are correct in your assumption that I do not speak the language and apologise for any errors which may have occurred on the Beeston Regis Article. I have started Beeston Regis articles in quite a few different languages on wikipedia and have not encountered a problem with linking to English wikipedia. On the contrary it helps and encourages other users to open that page, and use the translator to build the article using the correct grammar, punctuation ect, which of course the translator cannot do. I will of course respect your wishes over this issue, but the Welsh language edition is the first place I have encounter objections to this procedure.Stavros1 (sgwrs) 13:13, 28 Tachwedd 2012 (UTC)Ateb

Many thanks; that's very interesting. Does it happen from en-Wiki to other languages? My comments still stand, until we have a consensus to change. - Llywelyn2000 (sgwrs) 13:38, 28 Tachwedd 2012 (UTC)Ateb
Hello llywelyn2000
I have indeed come across 100’s of examples of where links have been made from en-Wikipedia to other languages when the equivalent doesn’t exist on English wikipedia. For an recent example I came across, go to this page Robert Munford. Click on the blued out Grupo Ibiza 59 in the first paragraph and you will see that it links to wikipedia in the German language. I am in no way condoning the practice but just showing that it is a method already in use throughout the Wikipedia community. Stavros1 (sgwrs) 16:40, 28 Tachwedd 2012 (UTC)Ateb
Whaw! That's a first for me. Let's see if we have any positive comments on such practice! Thanks again. Diolch yn fawr. - Llywelyn2000 (sgwrs) 08:54, 29 Tachwedd 2012 (UTC)Ateb
I sometimes do it on English wikipedia for links to cy, especially in the "Year in Wales" articles. Deb (sgwrs) 16:24, 11 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb
Bring 'em in! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:34, 14 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

Tick

golygu

There is already a tick - I do not see a way of changing it either. Deb (sgwrs) 16:21, 11 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

Ffeiliau sain

golygu

Dw ym Maelor ar hyn o bryd; mi ges i glun newydd ddoe. Mi wna'i ymchwil ar ôl i mi gyrraedd adref. Dw i'n gwybod mae 'na ffideos ar youtube a safon amrywiol hefyd; dw i'n gwybod rhai o'r awduron.Lesbardd (sgwrs)

Ti'n tynnu coes? Mae angen cerdd am hyn!!! (ON Brysia wella!) Llywelyn2000 (sgwrs) 07:36, 14 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

Help

golygu

Could I copy the template from en:Template:Infobox to the infobox on this welsh wikipedia please Lockheart1 (sgwrs) 12:13, 16 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

Hafan

golygu

Ble mae'r Hafan wedi mynd? Deb (sgwrs) 12:57, 22 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

Yr un lle! Dim wedi newid ers 12/12/12. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:14, 22 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb
It's back now. I seemed to have a weird problem earlier today where certain pages were inaccessible - turned out it wasn't just Hafan but the odd English article as well. Probably something to do with the rain. :-) Deb (sgwrs) 15:00, 22 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

Translating

golygu

Helo eto Llewelyn, I recognise your warning for the english language article, I had sent you an email in the recognition but I have also stated that I was doing on-going work on the article to put it into welsh, the English article was correct and therefore I was translating it. If you believe my work is "google translate" standard... then my apologies.

What is the usual signature?

Dw i'n defnyddio Geiriadur yr Academi, cofion, cysill ar-lein and some google translate.

I've also messed with the template files in order to implement what was previously working and have therefore not translated those.

MerlynCooper

Signature test.

test 2 (without the html, facepalm, and I'm what passes for a comp sci graduate.)MerlynCooper (sgwrs) 08:01, 29 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

I've translated over 2/3rds of the page, I've not finished yet, although I intend to. (I'm going to sleep) MerlynCooper (sgwrs) 09:34, 29 Rhagfyr 2012 (UTC)Ateb

Pre-reformation Welsh Bibles...

golygu

Pardon my writing here in English, but at least you have witnessed my first foray into cy.wici! I was trying to get some background on an 1822 Peter Williams Bible I've just ordered, found that strange entry in the English Wiki and just had to follow it up. I couldn't believe that a full translation from the Vulgate was unknown to me, so was glad of the anonymous librarian who had clearly done the research for us. It's amazing how these stories take on a life of their own! I would expect scripture summaries, maybe individual gospels, maybe Welsh interlinear in a Latin m/s, as we get in Saxon - but a whole New Testament, let alone a whole Bible, would have left deeper footprints. I agree with your user-page, that a lot of the Welsh wici needs 'beefing up', in both breadth and depth. I'm afraid my Welsh isn't up to it yet, but you have at least encouraged me to feed bits into talk pages for others to take up. You've made a good edit to the English page today - are you going to mirror it into Welsh? There are a few things that could usefully be added to this Welsh translations page in en.wiki - I'll see what I can do over the next week or so. Hope to meet you next time there's a day like the Cardiff one - afraid work kept me from that. .John M Brear (sgwrs) 21:22, 7 Ionawr 2013 (UTC)Ateb

There's a place here on cy for Welsh and non Welsh speakers, and in your case - there's a very warm croeso here for you! Yes, it was a very clear answer by the Wrexham librarian - it must have been Hedd ap Emlyn - who is the authority on Welsh dictionaries and biblical sources / translations. I might be wrong, but that's my guess. There are very few of us left on Wici Cymraeg and any contribution by yourself would benefit all readers, most of who are young people - and an average of 2.7 million pages are opened each month. This is practically the only encyclopaedia they have - unless they can afford £60 for the Academy's Encyclopaedia Wales, of course!!! Yes, I'll beef the Welsh article up a little, but so many other articles are crying out for a similar ooomf! Thanks for getting the ball rolling (to mix metaphors!) - Llywelyn2000 (sgwrs) 00:56, 8 Ionawr 2013 (UTC)Ateb

Vugar 1981 → NKOzi

golygu

I would like my username changed from Vugar 1981 to NKOzi. Thanks. --Vugar 1981 (sgwrs) 11:20, 18 Ionawr 2013 (UTC)Ateb

Election box

golygu

I fixed the problem. For the future, the template code itself (i.e. operators, magic words etc) should not be translated to the Welsh. It is just a programming language whose key words are fixed in English. Ruslik0 (sgwrs) 18:48, 4 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Article requests

golygu

Cool! I added two article requests:

If you are interested, please let me know :) WhisperToMe (sgwrs) 23:12, 6 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Wici Sgwrs

golygu

Mae'n gwneud synnwyr cael popeth mewn un lle, ond allwn ni newid yr enw ac osgoi'r enw 'Sgwrs', achos drysais i'n syth gan feddwl mod i ar dudalen sgwrs (go iawn) Y Cynllun Datblygu neu'r tab Wici Glam - lle do'n i ddim ar dim un ohonynt. Beth am rhywbeth fel 'Man trafod' neu 'Trafodwch y Cynllun yma'. Neu fel arall beth am drio cadw'r tudalennau/tabiau yn weddol lân ac yn rhydd o unrhyw drafodaethau a phyntio pawb yn glir i'r tudalennau sgwrs unigol? Os wyt yn teimlo mai popeth yn un man sydd orau yna beth am roi neges glir mewn ar bob tudalen o fewn yr adran Datblygu un man cnaolog i drafod?--Ben Bore (sgwrs) 13:10, 8 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Syniad da, felly'r enw hefyd! Rhywbeth byrrach - i ffitio'r Tab? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:18, 8 Chwefror 2013 (UTC)Ateb
Os am fyr, baswn i'n ffafrio 'Man trafod', falle'n fwy ffurfiol, ond eglurdeb sy bwysica. Y geiriau 'Caban' a 'chloncian' yn gysylltiedig gyda chymdeithasu. I fod yn fwy uniongyrchol fyth 'Trafod y <br>cynllyn'. Hefyd, ydy o'n ormon o bonsh symud y tab hwn reit i'r dde (olaf) neu nesaf at y tab Hafan, neu newid lliw yr ysgrifen? Bach yn random ei gael ar y canol? Falle ddim werth y hasl, ond pa mor hawdd ydy symud y tab 'Sgwrsio' fel bod o yn cyffwrdd y tab 'Cyhoeddusrwydd' a bod y bwlch ar yr ochr dde iddo?--Ben Bore (sgwrs) 13:50, 8 Chwefror 2013 (UTC)Ateb
Dim hasl! Wedi'i wneud.   Cwblhawyd
Llywelyn2000 (sgwrs) 22:59, 11 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Trefi Lloegr

golygu

Gwaith ardderchog yma. Un cwestiwn, ai rhyw fath o bot yw AWB? Wedi sylwi bod rhai anghysondebau gyda categorieddio - e.e. mae rhai trefi wedi cael eu cynnwys yn Categori:Trefi Derbyshire ac eraill wedi eu gosod yn yn Categori:Trefi Swydd Derby. Heb edrych am engreifftiau eraill a mater bach ydy eu cywiro â llaw, ond cyn gwneud o'n i'n meddwl baswn i'n ei fflagio fyny fan hyn rhag ofn bod ffordd amgen o wneud hyn. --Ben Bore (sgwrs) 09:05, 11 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Diolch Ben. Ia semi-automated ydy o; felly dw i'n cymryd cip ar yr erthygl cyn ei uwchlwytho. Yn anffodus, mae 'na rai o'r swyddi / siroedd heb eu cyfieithu, ond fel ti'n awgrymu, mi allaf yrru'r bot i'w cywiro ar y diwedd - a hynny'n gwbwl otomatig, ac mewn tua hanner awr. Un peth arall y byddaf yn ei wneud ar ol gorffen y trefi yma fydd danfon y bot i ychwanegu / dileu'r gair "eginyn" ar waelod yr erthyglau; mae'n defnyddio'r un llinyn mesur a Wiki-en. Byddaf hefyd yn ychwanegu llinell i bob erthygl ar y trefi yn nodi'r pellter o Gaerdydd a Llundain; a pha mor bell ydy'r dref agosaf iddi. Pe taem yn medru partneru Canolfan Bedwyr yna mi allem restru gwallau iaith arferol / amlaf yn y Gymraeg a'u cywiro'n otomatig. Rhestr o wallau iaith amlaf sydd ei angen i wneud hyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:57, 11 Chwefror 2013 (UTC)Ateb
Diddorol. Newydd newid Ludlow i dudalen ailgyfeirio gan bod Llwydlo'n bodoli'n barod, ond dw i wedi cyfuno'r cynnwys gan ychwanegu'r wybodlen. Un peth a'm trawodd oedd na allwn ychwanegu enw amgen (h.y. y ferswin Seasneg) o enw'r dref i'r wybodlen. Tydy maes cyntaf y nodyn Infobox UK place 'ArticleTitle' ddim yn caniatau enwau amgen, hyd yn oed os dwi'n sgwennu <br>''Ludlow'' e.e. Dwi'n deall mod i'n bod yn bedantig eto, ond gwell dod o hyd i ddatrysiad yn gynnar(ish) yn y broses os yw'n bosib. --Ben Bore (sgwrs) 09:24, 12 Chwefror 2013 (UTC)Ateb
Rhy amlwg!--Ben Bore (sgwrs) 14:21, 12 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Tsieinëeg → Tsieineeg

golygu

A wnei di gyfrannu at y trafod ar newid Tsieinëeg → Tsieineeg ar y dudalen sgwrs hon? Mae Xxglennxx wedi troi'r ail-gyfeiriad a wnes i go chwith. Lloffiwr (sgwrs) 20:24, 18 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Rwsia

golygu

Bora da, please, instead of reverting helpful edits better add the missing North Caucasian Federal District, created in 2010, to the template. Thank you. --94.4.96.45 19:50, 22 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

If you want to amend Templates, please log in; include a link to you home / usual page. We have to many pages being changed by IPs. Thanks. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:48, 22 Chwefror 2013 (UTC)Ateb

Translation request for Ido Wikipedia

golygu

Could you please translate this into Welsh?

Welcome to the Ido Wikipedia. Ido was first known as reformed Esperanto and was created in 1907 after seven years of deliberation by a committee of professors and linguists. You may notice that Ido looks somewhat like Esperanto, but with a number of differences including a complete lack of diacritical marks, the use of the letter 'q', along with many of the words themselves. If you are studying Ido and want to write for our Wikipedia, feel free! There are people here to correct your Ido should you make a mistake. Just use the Nodyn:Revizo tag whenever you think your article could use some grammatical revision. The main site for the Ido language is located here, Ido publications are located here, and the English Wikipedia article on Ido is located here. A complete list of sites in Ido on the internet is located here. Lastly, the main reasons for choosing Ido over the more well-known Esperanto are summed up in this article.

Thanks for your help. --Chabi1 (sgwrs) 08:22, 27 Mawrth 2013 (UTC)Ateb

It is to put in the main page, among other languages. --Chabi1 (sgwrs) 09:47, 27 Mawrth 2013 (UTC)Ateb

Tafliad carreg i Sir y Fflint

golygu

S'mai. Sylwaf dy fod yn gosod y stock phrase "Saif yn Swydd Gaer, sydd o fewn tafliad carreg i Sir y Fflint ac yn un o siroedd y Gororau." ar bod erthygl ti'n greu ar gyfer llefydd yn Swydd Gaer drwy ddefnyddio AWB. Yn un peth, ti eisoes yn nodi bod y dref/pentref yn Swydd Gaer yn y frawddeg gyntaf, a gan bod y sir draddodiadol yn ymestyn yr holl ffordd at Swydd Derby, mae llawer o'r llefydd hyn yn bell o fod o fewn tafliad carreg i Sir y Fflint (YNFI).--Ben Bore (sgwrs) 08:46, 2 Ebrill 2013 (UTC)Ateb

Dw i ddim yn siwr ydw i'n deall be ti'n ei ddweud yn iawn. Dydy'r frawddeg Saif (y pentref) yn Swydd Gaer, sydd o fewn tafliad carreg i Sir y Fflint ddim yn cyfeirio at y pentref - mae'n cyfeirio at y Sir, ac mae hynny'n gywir - gan fod y ddwy sir (Swydd Gaer a Sir y Fflint) dafliad carreg i'w gilydd hy yn ffinio a'i gilydd. Hy Mae Swydd Gaer o fewn tafliad carreg i Sir y Fflint. Neu wyt ti'n cytfeirio at rywbeth arall? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:23, 4 Ebrill 2013 (UTC)Ateb
Reit, fi wnaeth gam ddarllen, gweld rwan mai nid at y pentref/tref mae hyn yn cyfeirio. Ond os felly, gan mai eginiau rhyw ddwy frawddeg am y tref/pentref sydd fel arfer, dw i ddim yn gweld yr angen i fanylu cymaint am leoliad Swydd Gaer mewn perthynas a Sir y Fflint/Cymru - dylid gwneud hynny yn yr erthygl Swydd Gaer ei hun. Hefyd mae 'tafliad carreg' braidd yn flodeuog - byddai 'ffinio' yn fwy eglur ar gyfer gwyddoniadur. Byddai 'tafliad carreg' yn iawn o bosib i ddisgrifio pentrefi sydd o fewn milltir neu lai i'r ffin.--Ben Bore (sgwrs) 08:17, 4 Ebrill 2013 (UTC)Ateb
Diolch. Dw i'n gweld lle i bridoddulliau mewn gwyddoniadur - efallai'n wir nad oes digon ar y Wici. Mae Google yn cyfieithu, gair-am-air, ond gadwch i ni lynnu at idiomau cyfoethog, unigryw'r iaith, neu mi eith ein harddull yn rhy glinigaidd, oeraidd a di-fflach. Croeso i ti eu newid, wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:23, 4 Ebrill 2013 (UTC)Ateb

Dolenni rhyngwici

golygu

Mae'r dolenni at ieithoedd eraill yn ymddangos ar unwaith i mi, unwaith i mi ychwanegu'r dolen Gymraeg ar Wiciddata, ond sylwaf nad ydynt yn ymddangos os ydw i'n allgofnodi. Mae'n debyg bod angen aros cyfnod (24 awr, efallai?) cyn iddynt ymddangos i bawb. —Adam (sgwrscyfraniadau) 11:02, 3 Ebrill 2013 (UTC)Ateb

Diolch Adam. Doeddwn i ddim yn gwybod dy fod yn ymweld a Wiciddata; i arbed hyn, gelli ychwanegu en:*** fel iw, a gadael i'r bot wneud y gwaith caled! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:25, 4 Ebrill 2013 (UTC)Ateb

Translation notification: Free knowledge based on Creative Commons licenses

golygu
Hello Llywelyn2000,

You are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Free knowledge based on Creative Commons licenses is available for translation. You can translate it here:

The priority of this page is high.


Hello, please translate this very important brochure to explain the free content nature of Wikimedia projects. You can take your time to translate it, but your translation can have a long-term impact.

Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.

Thank you!

Meta translation coordinators‎, 12:22, 10 Ebrill 2013 (UTC)

Translation notification: Wikimedia Foundation elections 2013

golygu
Hello Llywelyn2000,

You are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Wikimedia Foundation elections 2013 is available for translation. You can translate it here:

The priority of this page is high. The deadline for translating this page is 2013-04-26.

Please translate to help inform non-English-language users about the important upcoming Wikimedia Foundation elections, including those for the Board of Trustees and the Funds Dissemination Committee . If you have questions about the translation notifications system, you can ask them at [3]. You can manage your subscription at [4].

Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.

Thank you!

Meta translation coordinators‎, 20:32, 18 Ebrill 2013 (UTC)

Llyfrgell Genedlaethol

golygu

I tried to put in a bit about the fire earlier today, but I don't think I've got the grammar right. Please can you have a look, when you've got a moment? Diolch! Deb (sgwrs) 14:57, 28 Ebrill 2013 (UTC)Ateb

Article request

golygu

Hi again!

I found that en:Marine Accident Investigation Branch once had a webpage in Welsh http://web.archive.org/web/20090413023752/http://www.maib.gov.uk/about_us/gwybodaeth_am_y_maib.cfm - Its Welsh name seems to be Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol

Are you interested in making a stub on this agency as you did with Zipline?

Thank you WhisperToMe (sgwrs) 02:52, 30 Ebrill 2013 (UTC)Ateb

Thank you! AFAIK the MAIB covers the coasts around all of the UK. If there is a separate marine accident investigation agency set up for devolved areas, please let me know what its name is WhisperToMe (sgwrs) 01:31, 1 Mai 2013 (UTC)Ateb

Translation notification: Single User Login finalisation announcement/Personal announcement

golygu
Hello Llywelyn2000,

You are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Single User Login finalisation announcement/Personal announcement is available for translation. You can translate it here:

The priority of this page is high. The deadline for translating this page is 2013-05-13.

Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.

Thank you!

Meta translation coordinators‎, 08:23, 1 Mai 2013 (UTC)

Hi, sorry for writing in English. I'm writing to ask you, as a bureaucrat of this wiki, to translate and review the notification that will be sent to all users, also on this wiki, who will be forced to change their user name on May 27 and will probably need your help with renames. You may also want to help with the pages m:Rename practices and m:Global rename policy. Thank you, Nemo 13:00, 3 Mai 2013 (UTC)Ateb

Hwyl. I hope you will be able to deal with this! :-) Deb (sgwrs) 13:30, 3 Mai 2013 (UTC)Ateb
Worry not! Na phoener! I did it yesterday. All shall be well! My greatest worry is whether we can arrange an editathon in the next few weeks in Cardiff; this time a bilingual one. What do you think? I've had three Wikipedians asking me to do so. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:46, 3 Mai 2013 (UTC)Ateb

The Wikimedia UK AGM will be held in June, and nominations for the UK Wikimedian of the Year are currently open. If there is someone who you feel has made an important contribution to the UK Wikimedia movement in the last year please go ahead and nominate them here by 09:00 (BST) on Monday 20th May at the latest. Richard Nevell (WMUK) (sgwrs) 13:07, 17 Mai 2013 (UTC)Ateb

Crwth

golygu

Hi, Can't those images be uploaded to Commons so the rest of the world can use them? Johnbod (sgwrs) 15:56, 18 Mai 2013 (UTC)Ateb

Ok, maybe they can't. But then why doesn't Robain do the same with the Boston one (if you've been following the UK list discussion)? Yaki dar Johnbod (sgwrs) 16:01, 18 Mai 2013 (UTC)Ateb

Translation notification: Wikimedia Highlights, April 2013

golygu
Hello Llywelyn2000,

You are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Wikimedia Highlights, April 2013 is available for translation. You can translate it here:

The priority of this page is medium.


Please help non-English-language Wikimedia communities to stay updated about the most important Wikimedia Foundation activities, MediaWiki development work and other international Wikimedia news from last month. Completed translations will be announced on Facebook, Twitter, Identi.ca and project village pumps. If you have questions about the translation notifications system, you can ask them at [5]. You can manage your subscription at [6].

Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.

Thank you!

Meta translation coordinators‎, 23:47, 25 Mai 2013 (UTC)

BOT Twm Crys

golygu

Newydd sylwi ar y canlynol:

Llefydd yn Lloegr

golygu
  1. Mae'r BOT wedi bod yn dyblygu lleodd pan mae enwau'r siroedd wedi eu Cymreigio (e.e. Swydd Bedford a Bedfordshire - a'r rhain).
  2. Er mor ddiddordol, dw i ddim yn meddwl ei fod yn berthnasol nodi "Yr hen air Cymraeg am "Bedford" ydy Rhydwely." ar erthygl pob un o bentrefi Swydd Bedford.
  3. Mae erthyglau'n cynnwys dolen at Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr pan nad oes ganddynt enw Cymraeg ac at Rhestr dinasoedd y Deyrnas Unedig pan nad ydynt yn drefi.

Sori os wyt yn ymwybodol amdanynt yn barod :-) --Rhyswynne (sgwrs) 16:22, 28 Mai 2013 (UTC)Ateb

Diolch Rhys; oeddwn, ro'n i'n ymwybodol ohonyn nhw. Ac mae na un neu ddau o bethau eraill sydd angen eu cwbwlhau, fel y gweli ar dudlen Sgwrs Botwm Crys. Roedd na tua 35 o erthyglau wedi'u dyblygu - y rhai hynny a oedd yn cynnwys collnod a'r enw Swydd Bedford yn dilyn - a oedd wedi'u creu rhai misoedd yn ol, fel y peilot ar gyfer y swp mawr. Pwynt 2: mae'n rhaid i mi anghytuno, dw i'n meddwl fod nodi'r hen enw Cymraeg mewn unrhyw erthygl o fewn Swydd Bedford yn addas iawn fel ag y mae (Pwynt 3) sef nodi fod erthygl hefyd ar gael ar lefydd yn Lloegr sydd ag enwau Cymraeg iddyn nhw. Y gair "eraill" efallai ydy'r bwgan. Ond cyfeirio at lefydd ar wahan i drefi mae'r "eraill" ee pentref, cymuned, dinas. Diolch a chofion! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:02, 29 Mai 2013 (UTC)Ateb

Translation notification: Wikimedia Foundation elections 2013/Translation/SecurePoll

golygu
Hello Llywelyn2000,

You are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Wikimedia Foundation elections 2013/Translation/SecurePoll is available for translation. You can translate it here:

The priority of this page is high. The deadline for translating this page is 2013-06-06.

We could greatly use your help doing some quick translations for the SecurePoll (voting) interface that will be used for this years Board and FDC elections. The translation consists of a short, 2 sentence, intro for the vote and 3 short 'titles' saying which vote or question they will be on. The page also lists the candidates for each election which do not need to be translated but can be transliterated if that makes sense for your language/script. Thank you! If you have any questions please feel free to ask on the Elections talk page.

Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.

Thank you!

Meta translation coordinators‎, 00:28, 3 Mehefin 2013 (UTC)

Sedna (mythology)

golygu

I wonder if you, or someone you know, could look at, and possibly comment, at http://en.wikipedia.org/wiki/Talk:Sedna_%28mythology%29 in the "Sedna as a Gwynned, daughter od Dahut from YS citie," section. A Polish IP has suggested there is a connection between the Inuit figure and a woman that lived on Anglesey. Thanks. CambridgeBayWeather (sgwrs) 02:25, 13 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Translation notification: Wikimedia Highlights, May 2013

golygu
Hello Llywelyn2000,

You are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Wikimedia Highlights, May 2013 is available for translation. You can translate it here:

The priority of this page is medium.


Please consider helping non-English-language Wikimedia communities to stay updated about the most important Wikimedia Foundation activities, MediaWiki development work and other international Wikimedia news from last month. Completed translations will be announced on Facebook, Twitter, Identi.ca and project village pumps. If you have questions about the translation notifications system, you can ask them at [7]. You can manage your subscription at [8].

Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.

Thank you!

Meta translation coordinators‎, 18:35, 13 Mehefin 2013 (UTC)

Dryswch efo'r caerau!

golygu

S'mae Llywelyn? Ga'i dynnu dy sylw at Sgwrs:Castell Bach, Sgwrs:Bryngaer Din Sylwy (= Din Silwy) a Sgwrs:Rhiw Season Caerau‎? Dwi'n meddwl bod enghreifftiau eraill yn y categoriau bryngaerau ayyb hefyd ond dwi'n drysu'n lân wrth geisio gweithio allan be 'di be heb sôn am eu cysoni. Anatiomaros (sgwrs) 23:57, 21 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Diolch am y cywiriadau! Anatiomaros (sgwrs) 00:04, 23 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Commons talk page message

golygu

Hi Llywelyn2000, I've left a message on your Commons talk page in relation to your request on the Bureaucrat's noticeboard. If you could drop us a note back there that would be great.

Also, recently I have been uploading to Commons numerous high-value Flickr streams. I came across the stream for the National Assembly for Wales which is under a Commons-compatible licence (CC-BY). I can upload this stream to Commons, but obviously it would be great to have someone who is really knowledgeable on Welsh politics to help to categorise, etc. Do you know of anyone on this project who would be interested in helping with that? There's 5,500 photos in that stream. Cheers, Russavia (sgwrs) 08:59, 27 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

You're a bureaucrat here?

golygu

If so, why do you allow your POV-pushing admins to terrorize the editors? Varlaam (sgwrs) 00:14, 15 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb

To answer your question: Hedd Wynn (the film) was released in 1992, as mentioned in the article. Please take care with your choice of wording, when discussing any issues with admins who have worked very hard on this Welsh Wicipedia for many years. They have the community's full back up, as well as mine. If an editor pops in sporadically with their own POV agenda, then they will be recognised and reverted immediately. Wicipedia Cymraeg is not a translation of en, but a deep-rooted Wikipedia based on our history, our culture and a very different set of values. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:46, 16 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb

Translation notification: Admin activity review/2013/Notice to communities

golygu
Hello Llywelyn2000,

You are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Admin activity review/2013/Notice to communities is available for translation. You can translate it here:


The deadline for translating this page is 2013-07-20.

This text will be used to inform communities which will be affected by the new global Admin activity review process which is carried out by stewards. You can also translate the page about the review itself. In order to ensure the global community understands what is happening, your translations will be very helpful.

Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.

Thank you!

Meta translation coordinators‎, 01:54, 16 Gorffennaf 2013 (UTC)
  Cwblhawyd

- Llywelyn2000 (sgwrs) 05:34, 16 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb

Bore da

golygu

Message on en about the banner. Is this a good draft of what you are going to use? We will need a version with a shorter and a square aspect ratio for other uses like templates (IMO). Victuallers (sgwrs) 11:16, 18 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb

Cwestiynau

golygu
  • Hoffwn i ailgyfeirio Nodyn:Refimprove at Nodyn:GwellaCyfeiriadau. Mae'r rhan fwyaf o nodiadau gydag enwau Saesneg yn ailgyfeiriadau at y nodiadau Cymraeg - pam dim Nodyn:Refimprove? Beth wyt ti'n feddwl am hyn?
  • Dw i'n credu bod angen polisi rhwystro arnon ni (gweler y sgwrs am fanylion) a dw i wedi ei ysgrifennu. Wnei di edrych ar y polisi a dweud dy farn ohono os gweli'n dda?

Diolch am ddarllen. Cathfolant (sgwrs) 00:24, 19 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb

Dwyrain Sussex

golygu

Mae Botwm Crys yn rhoi pentrefi Dwyrain Sussex yn Categori:Pentrefi Gorllewin Sussex! Hefyd oes modd newid y llinell gyntaf o 'Pentref yn Lloegr ydy...' i 'Pentref yn Nwyrain Sussex, Lloegr, ydy...'? Dim wedi cael amser i weld os oes porblemau eraill eto, newydd dod yma... (categori egin iawn?). Anatiomaros (sgwrs) 16:46, 2 Awst 2013 (UTC)Ateb

Translation notification: Admin activity review/2013/Notice to inactive right holders

golygu
Hello Llywelyn2000,

You are receiving this notification because you signed up as a translator to Cymraeg on Meta. The page Admin activity review/2013/Notice to inactive right holders is available for translation. You can translate it here:


The deadline for translating this page is 2013-08-10.

Your help is greatly appreciated. Translators like you help Meta to function as a truly multilingual community.

Thank you!

Meta translation coordinators‎, 03:45, 4 Awst 2013 (UTC)
  Cwblhawyd
- Llywelyn2000 (sgwrs) 05:40, 4 Awst 2013 (UTC)Ateb
golygu

Hi, I posted a note at Sgwrs:The Lion King and Sgwrs:The Rescuers, that almost all pages under Categori:Ffilmiau Disney and Categori:Ffilmiau Pixar (except for a few such as Toy Story 3 and The Princess and the Frog) are protected, and have not had their iw links removed. It causes a big problem, considering the fact that the manual iw links override the Wikidata links, so The Fox and the Hound (ffilm) links to the deleted page sl:Lisica in pes and the page was also moved in Russian and Italian, but the currect page links to the wrong versions. At Lion King it's the same thing, the linked Dutch page is a redirect to a disambigution and not the article about the film. Oliver & Company was also moved in lt wiki on Febuary 17, but the link is still wrong. Should the pages be unlocked so that bots can do their jobs and remove the iw links, or should it be done by an admin? This problem is also applied to Charlotte's Web, Charlotte's Web (nofel), Charlotte's Web (ffilm 2006), Madagascar (ffilm 2005), Madagascar: Escape 2 Africa, Ice Age, Ice Age: The Meltdown, The Fox and the Hound (nofel), and Teletubbies. 172.243.2.244 05:47, 9 Awst 2013 (UTC)Ateb

Because we had so many incorrect facts placed in these articles, they were locked. It may be better to keep them locked, with a few incorrect links. However the community here at cy may well decide that we could unlock a few articles, and see whether the Bambi Vandal has grown up or not. Should someone from outside the regular editors start editing them then the articles would be locked up again. Beth ydy eich barn, gyfeillion? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:55, 9 Awst 2013 (UTC)Ateb
I'm not saying that you have to unprotect them, but perhaps an admin could use AWB to remove the iw links? Either that or you could try changing the protection from full to semi - that way, Bambifan would not be able to edit unless he had an account that's at least four days old and has at least 10 edits. Bots can edit pages that are semi-protected, but not ones that are fully protected. 172.243.2.244 06:03, 9 Awst 2013 (UTC)Ateb
Let's await a comment or two from other users, but semi-protection of 3- 5 articles might be the answer as a pilot / test. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:41, 9 Awst 2013 (UTC)Ateb
  Cwblhawyd
Adam (sgwrscyfraniadau) 13:22, 9 Awst 2013 (UTC)Ateb
Forgot four more pages: Madagascar (ffilm), Tots TV, Something Wicked this Way Comes, and The Fox and the Hound. 172.243.2.244 02:44, 10 Awst 2013 (UTC)Ateb
Diolch Adam. Cwbwlhawyd y gweddill. Rwan, bydd yn rhaid eu monitro'n OFALUS! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:45, 10 Awst 2013 (UTC)Ateb
You forgot to fix protection on Madagascar. Or at least take the iws off of the disambigution page. 172.243.2.244 17:18, 10 Awst 2013 (UTC)Ateb

Cystadleuaeth Rijksmonument

golygu

Mae neges wedi ei gadael yn y Caffi yn gofyn i ni gyfieithu eitemau ar gyfer y gystadleuaeth hon. Mae dau gwestiwn yn codi sydd angen eu hystyried cyn medru gwneud hynny:

1. Ai 'Cystadleuaeth Rijksmonument' yw'r enw Cymraeg "swyddogol" sy gennym am 'Wiki Loves Monuments', neu be?
2. Cyfieithu'r gair "monument" yn ystyrlon. Os dwi'n deall y gystadleuaeth yn iawn, mae'r term "monuments" yn yr achos yma yn cynnwys adeiladau cyhoeddus o bob math, ond mai ystyr y geiriau Cymraeg arferol am "monument", sef 'cofeb' neu 'cofadail', yn gyfyngach eu hystyr. Dydy rhyw Neuadd y Dref neu Lyfrgell ddim yn 'gofeb' nac yn 'gofadail', er enghraifft.

Unrhyw syniadau? Anatiomaros (sgwrs) 22:46, 14 Awst 2013 (UTC)Ateb

Er i mi lambastio'r Iseldirwyr (a phob cenedl arall!) am ddefnyddio'r enw Saesneg, dw i'n meddwl mai sdicio at 'Wiki Loves Monuments' ddylid ei wneud yma. Tra mai plygu i'r drefn yw hyn, byddai peidio ei ddefnyddio yn arwain at lai o 'impact' yn fy marn i ac at golli cyfle i ddenu cyfranwyr newydd.--Rhyswynne (sgwrs) 23:10, 14 Awst 2013 (UTC)Ateb

Lluosog nodyn (template)

golygu

Rwyn sylwi dy fod wedi cyfieithu templates yn nodion ar ganllaw Mediawiki.org. Yn y gorffennol rwyf wedi defnyddio "nodiadau", e.e. ar Eirfa Wicipedia. Nid oes ots gennyf newid y cwbl i "nodion" ("nodion" sydd gan Eiriadur yr Academi i'r gair 'note' Com:). Os wyt ti'n cytuno fe roddaf rybudd am y newid ar y dudalen Cymorth Iaith ac yna ei wneud rhywbryd cyn hir. Byddai'n well newid y term i "patrymlun" neu "templed" yn fy marn i, ond nid ar chwarae bach mae newid enw parth, felly gwell peidio mentro, glei. Lloffiwr (sgwrs) 11:21, 25 Awst 2013 (UTC)Ateb

Mmmmm! Dw i ddim yn siwr. Rol chydig ddyddiau o styried! Heb fynd i ormod o fanylder: ia, templad ydy o yn y bon, ond Nodiadau sydd gennym o'r cychwyn. Defnyddiais Nodion gan ei fod yn fwy bachog, er mwyn gwahaniaethu efo "Nodiadau" - ac ar ôl gweld i ti neu Adam ei awgrymu dro'n ôl (Wicipedia:Parthau)! Mae'n llawer mwy bachog na "Nodiadau". Ai newid ar Meta'n unig neu beth am Wici a'i chwiorydd? Dan yr wyneb neu ddim ond ar yr hyn sy'n weledol?
Argymhellion:
  1. Newid yr hyn sy'n weledol yn unig; anwybyddu nodion eraill hy gadael pob Nodyn fel ag y mae, newid cyfeiriadau ato'n unig.
  2. Er mwyn cysondeb, gwneud hyn ar bob un o'r chwiorydd. Ar Wicipedia, mae'n hawdd cael gafael arnyn nhw: mae'r rhan fwyaf yn yr adran "Cymorth", dw i'n meddwl.
  3. Geirfa. Defnyddio "Nodyn" fel arfer wrth greu nodyn; cyfeirio ato fel "Nodyn / Nodion" neu "Templad / Templadau" - i'w drafod a'i benderfynnu yn y Caff. Awgrym arall, pan gyfeirir at y symbol {{ gellir defnyddio'r gair "Bresus".
  4. Trafod hefyd y defnydd o [[Categori:Nodion ThemaX]], gan mai'r lluosog sydd ei angen yma.
Diolch, Lloffiwr! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:35, 28 Awst 2013 (UTC)Ateb

Brwydr Stow-on-the-Wold

golygu

Rwyt ti wedi gwrthdroi fy ngolygiad ond dw i ddim yn deall beth oedd dy reswm. Dw i wedi cyfieithu rhan o'r erthygl oedd yn Saesneg ers 2011. (A dwi'm yn siwr sut i ddweud hyn yn Gymraeg: was my translation so bad that you had to revert it?) Cathfolant (sgwrs) 15:49, 27 Awst 2013 (UTC)Ateb

Mae llawer o gangymeriadau yn dy olygiadau ee "Diwedd addas oedd hyn i'r frwydr bennaf cyntaf o'r Rhyfel Cartref Cyntaf o'r dyn a ddyfynwyd yn fwyaf ar y frwydr bennaf cyntaf." Mae hi'n cymryd llawer iawn o amser yn cywiro dy gywiriadau. Awgrymaf dy fod yn gwneud gwaith arall - fel rwyt wedi'i wneud gyda'r categoriau, nes ein bod wedi cwbwlhau cywiro dy olygiadau dros y misoedd diwethaf. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:39, 27 Awst 2013 (UTC)Ateb
Felly dw i ddim i gyfieithu pethau sy'n anodd iawn i mi - mae hyn yn gwneud synnwyr - fyddaf i ddim ond yn cyfieithu pethau sy'n haws a bydd llai o waith cywiro - gobeithio. A dwi ddim i ddileu nodiadau cywiro-iaith achos nad fy mod i'n gallu cywiro erthyglau yn ddigon. Dw i'n deall y rhan yna nawr, diolch. Ond wnei di ddeall nad fy mod heb ysgrifennu ond un erthygl, sef Deddf Troseddau Rhywiol? Mae'r sylwadau rwyt ti wedi gadael ar fy nhudalen sgwrs yn edrych i mi fel rwyt ti wedi fy nghymysgu â rhywun arall - e.e. Hyd nes i rywun gywiro sillafu, treigladau, ac arddull cyffredinol dy erthyglau (ee Gair benthyg), ga i awgrymu'n gryf dy fod yn cael seibiant o sgwennu erthyglau. achos mai Dynogymru sy wedi sgrifennu Gair benthyg, nid fi.
Ga i gywiro erthyglau neu beidio? Rwyt ti'n siarad am 'gywiro fy nghywiriadau' ond dwi'n credu bod fy fersiynau yn well na beth oedd yna o'r blaen, a rwyt ti wedi dweud fy mod wedi troi brawddeg gywir yn frawddeg anghywir ond rhoist ti gyswllt i'r wefan hon yn lle 'diff' a does dim syniad gyda fi am ba olygiad oedd yn anghywir. Dwi'n gymysg, os ydy hynny'r gair iawn am confused... Cathfolant (sgwrs) 17:00, 27 Awst 2013 (UTC)Ateb

Cyfeiriad IP

golygu

Diolch am y cywiriadau. Dw i wedi chwilio am y rhan fwyaf o'r termau a gywiraist mewn geiriadur achos nad oeddwn yn gyfarwydd a nhw. Beth dylwn i wneud yn y dyfodol os nad ydw i'n gyfarwydd a chyfieithiadau Cymraeg rhai termau sydd mewn erthygl dwi eisiau ei chyfieithu? Peidio a'i chyfieithu, neu oes ffordd well?

Hefyd, wnei di (neu rywun arall) yn siwr bod fy erthyglau eraill - Deddf Troseddau Rhywiol a Wicipedia:Polisi rhwystro - yn gywir? Cathfolant (sgwrs) 23:40, 31 Awst 2013 (UTC)Ateb

Croeso. Mae na gryn dipyn o gangymeriadau yn dy erthygl Deddf Troseddau Rhywiol; er enghraifft, nid oes yr un o'r cyfeiriadau'n arwain i nunlle. Cul de sacs ydyn nhw. Tydyn nhw ddim felly yn gyfeiriadau, a dylid dileu erthygl fel hon heb ffynhonnell ddibynadwy. Awgrymaf dy fod yn gweithio arni yn dy flwch tywod ac yn rhoi gwybod i mi pan rwyt wedi ei gorffen, mi gadwaf lygad arni hefyd. Yn ail, mae'n llawn dolennau i erthyglau nad ydynt yn bod. Yr unig dro y byddaf i'n bersonol yn gwneud hyn ydy pan dw i'n bwriadu creu'r erthyglau, neu pan dw i'n credu y cant eu creu gan rywun arall. Er nad ydy hyn yn rheol, mae gormod ohonyn nhw'n cael effaith negyddol ar y darllenydd, yn fy marn i. Dw i ddim yn gwybod am unrhyw ddefnyddiwr sydd a diddordeb yn y maes yma, felly efallai mai gwell ydy lleihau'r dolennau coch cryn dipyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:40, 1 Medi 2013 (UTC)Ateb
Diolch. Copiais y ffynonellau o'r erthygl Saesneg felly ydyn nhw'n dderbyniol ar y wici Saesneg ond dim ar y wici Cymraeg? Wyddwn i ddim bod gosod ffynhonnell heb gyswllt ynddo yn annerbyniol yma. Byddaf yn chwilio am gysylltiadau ar gyfer y ffynonellau ac yn lleihau'r cysylltau coch. Hefyd hoffwn i gyfieithu (creu) rhai cysylltau coch ond mae ofn arnaf byddant yn llawn camgymeriadau.
A'r polisi rhwystro? Beth amdano? Cathfolant (sgwrs) 17:03, 1 Medi 2013 (UTC)Ateb
Mae'r cyfeiriadau yn/ar yr erthygl Saesneg yn mynd i erthygl Wici-en arall. Mae hyn yn annerbyniol ar Wici-cy. I ffynhonnell allanol y dylai fynd. Dydy ffynhonnell nad yw'n bodoli yn ffynhonnell! Mi gywira i iaith y 'polisi rhwystro' pan gaf amser a dw i'n siwr y trafodwn ni ef yn y caffi cyn ei dderbyn neu ei addasu neu ei wrthod. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:41, 1 Medi 2013 (UTC)Ateb
Dwi'n gweld. Cafwyd y drafodaeth a arweiniodd at y polisi yn y caffi eisoes ac mae Deb wedi dweud ar y dudalen sgwrs nad oedd gwahaniaeth gyda hi ond rwyt ti'n iawn, mae angen trafod hwn. Symudais i fe i barth Wicipedia gan nad oedd neb yn dweud dim amdano er i mi ei godi yn y caffi. (efallai rheswm dros beidio a'i symud yw hwn...)
Rwyt wedi symud Deddf Troseddau Rhywiol i Deddf Troseddau Rhyw ond dw i ddim yn deall y rheswm 'sex nid sexy'. Mae 'rhywiol' yn golygu sexual felly meddylais i fod 'troseddau rhywiol' yn cyfleu ystyr sexual offences, ond wyt ti'n dweud bod 'troseddau rhywiol' yn golygu sexy offences yn lle sexual offences? Cathfolant (sgwrs) 19:41, 1 Medi 2013 (UTC)Ateb
Ydy, yn fy llyfr i. Ond nid gan Bruce (Academi tud S:1261). Mae croeso i ti ei droi nol. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:52, 1 Medi 2013 (UTC)Ateb

Article requests update

golygu

Hi! Are you still interested in starting either of these two stubs? I found that

Thanks WhisperToMe (sgwrs) 23:12, 2 Medi 2013 (UTC)Ateb

Cofrestru ddwywaith

golygu

Oes angen cofrestru efo Wicipeda er bo fi wedi cofrestru efo Wikipedia?? Hefyd, er fy mod wedi gwneud cais am gyfrinair newydd ar Wicipedia, dyw'r ebost dal heb gyrraedd!! Help! 86.179.251.4 18:30, 12 Medi 2013 (UTC)Ateb

Haia. Rwyt ti'n croesddweud yma: yn gynta rwyt ti'n gofyn a oes raid cofrestru ar WiCi (Cymraeg) ond eto rwyt ti'n dweud dy fod wedi cofrestru a'th fod wedi gofyn am gyfrinair newydd. Ble / i bwy wnest ti gais i newid y cyfrinair? Llywelyn2000 (sgwrs) 21:27, 12 Medi 2013 (UTC)Ateb
Sori, ia roedd hynny braidd yn aneglur yn doedd! Roeddwn wedi gallu mewngofnodi yn Saesneg, ond doedd y cyfrinair ddim yn gweithio ar yr ochr Gymraeg, nbeth bynnag, dwi wedi cael cyfrif Global bellach! Diolch Blogdroed (sgwrs) 22:10, 13 Medi 2013 (UTC)Ateb


Infobox a Template

golygu

Sori i fod yn dwp ond oes 'na rhywle sy'n egluro sut a lle i greu fersiynnau Cymraeg o Infobox a Template? Rwyf wedi 'sgwennu cryn dipyn draw ar Wikipedi Saesneg ond erioed wedi gorfod creu yr un o'r rhain, ond ar Wicipedia mae sawl un yr hoffwn greu i gyd fynd ag erthyglau. Diolch Blogdroed (sgwrs) 08:49, 14 Medi 2013 (UTC)Ateb

Mae'n bosib creu fersiwn Cymraeg drwy ailwampio'r un Saesneg yn hytrach nac ail-greu'r olwyn pob tro. Mewn gwirionedd y cwbwl sydd eisiau ei wneud ydy copio a phastio o en i cy. Yna'i addasu - gan bod yn hynod ofalus!!! Cyfieithu'r rhan sy'n ymddangos ar y rhyngwyneb yn hytrach na'r côd gweithredol. Mae'n bosib cychwyn o'r cychwyn a chreu Gwybodlen Cymraeg - ond mae hynny'n cymryd tua 8 gwaith yr amser. Pa wybodlen sydd gen ti mewn sylw? Mi wna i gopio un a'i safio, yna'i gyfieithu i ti weld y drefn. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:57, 17 Medi 2013 (UTC)Ateb
Gwych diolch! Y rhai sy'n cydfynd â Gemau'r Gymanwlad (i ddechrau!) - ond hefyd hoffwn i gael y Template sydd ar waelod yr erthygl hefyd ... dim bo fi'n gofyn lot! --Blogdroed (sgwrs) 20:01, 17 Medi 2013 (UTC)Ateb

Newid enw safleodd chwaraewyr ar Nodyn:Nat fs player

golygu

Mae rhywun wedi nodi bod eisiau newid enwau ar Nodyn:Nat fs player, ond d wi ddim yn siwr sut. Mae angen newid 'Canolwr' i 'Canol cae' a 'Blaenwr' i 'Ymosodwr'. Falle cawn drafodaeth am sillafiad 'golgeidwad' hefyd yn y man.--Rhyswynne (sgwrs) 22:06, 16 Medi 2013 (UTC)Ateb

  Cwbwlhawyd - Llywelyn2000 (sgwrs) 09:19, 18 Medi 2013 (UTC)Ateb
Diolch. Mae'r newidiadau yna'n edrych yn gywir, ond (AAAARGH!) mae'n rhaid mod i wedi cael y nodyn anghywir, achos tydi'r newidiau ddim wedi dod i rym ar yr ethygl yma, sef ble daeth y gwall i'r amlwg yn y lle cyntaf. Unrhyw syniad? --Rhyswynne (sgwrs) 09:08, 19 Medi 2013 (UTC)Ateb
Dwi 'di ei newid, bellach; roedd nodi'r dudalen berthnasol yn allwedd - diolch! Dw i hefyd wedi newid dyddiad gen (oed xx) i dyddiad geni (xx oed) sy'n fwy naturiol yn y Gymraeg. Unrhyw ddiffyg arall - gweidda! Cofion, Llywelyn2000 (sgwrs) 19:19, 19 Medi 2013 (UTC)Ateb

Spooky!

golygu

Newydd weld Dillad Pêl-droed rwan. Mond p'nawn y bu trafodaeth yn ein swyddfa ynglŷn a'r gair Cymraeg am shinpad. 'Crimogau' (neu'n hytrach 'pad crinogau' os cofiaf yn iawn) aeth a hi dw i'n meddal, er ro'n i'n ffafrio 'coesarn'.--Rhyswynne (sgwrs) 15:56, 27 Medi 2013 (UTC)Ateb

Rhestr Mesurau a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

golygu

Hello Llywelyn2000. I don't speak Welsh, as you probably know! I've just had a look at Rhestr Mesurau a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru and saw that it was about eleven months out of date, so I've made these edits. What do you think? --Redrose64 (sgwrs; at English Wikipedia) 20:08, 14 Hydref 2013 (UTC)Ateb


Bocs Cyfrifiad 2011

golygu

Rwy'n credu mae ti sydd yn gyfrifol am ddoleni Cyfrifiad 2011 ar nifer o dudaleni trefi a phentrefi Cymru, megis https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Dolgellau&action=edit&section=6 Dolgellau Maent yn cynwys y gwybodaeth megis mae'r nifer dros 16 sydd mewn gwaith yn Nolgellau yw 539 sef 42.1% o'r boblogaeth (i'w weld yn synhwyrol) OND mae'r blwch dilynol yn honni "Y ganran drwy Gymru = 5%" mae hynny'n anhygoel! Rwy'n methu credu mae dim ond 5% o bobl Cymru sydd mewn gwaith! Mae na diffyg perthynas rhwng y bocsus! AlwynapHuw (sgwrs) 05:23, 16 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Diolch. Cafwyd trafodaeth am y ffigurau hyn yn fama pan sylweddolwyd fod dolen "nifer y diwaith" ar wefan y Cyfrifiad yn arwain at y niferoedd oedd mewn gwaith! Cywirwyd y graff o fewn ychydig oriau i 67.1% (gweler Abermaw, Llandrillo, Sir Ddinbych, Gogledd Glynebwy, Cas-mael, Tregaron, ond mae'n ymddangos fod rhai heb eu newid. Y trefi ydy'r rheiny gan fwyaf ac felly mi wna i yrru Botwm crys ar unwaith i gywiro hyn. Diolch eto am fod mor gip! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:43, 16 Hydref 2013 (UTC)Ateb
   - Llywelyn2000 (sgwrs) 09:35, 16 Hydref 2013 (UTC)Ateb


Bore da

golygu

Modiwl:Wikidata --RexxS (sgwrs) 16:59, 3 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Delweddau WiciGyfarfod 1.11.13

golygu

Er gwybodaeth, dyma luniau gan Brian o'r noson. Sut hwyl gawsoch chi yn Sain Ffagan wedyn? --Rhyswynne (sgwrs) 14:01, 7 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

He! Aeth y WiciFlits yn dda, er braidd yn fyr, oherwydd trenau i'w dal ayb. Llawer o luniau i'w huwchlwytho. Adolygiad o'r gynhadledd gan Brian Kelly yn fama. Diddorol. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:20, 7 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

WiciBrosiect Llyfrau Gwales

golygu

Syniad gwych! Dw i wedi meddwl ers cryn dipyn o amser fod angen cynnwys mwy o erthyglau am lyfrau ar Wicipedia ac mae'n hyfryd gweld y Cyngor Llyfrau yn awyddus i gydweithio. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth a allai fod yn fantesiol iddynt er mwyn hyrwyddo'u llyfrau ond efallai fod angen i ni fod yn wyliadwrus hefyd. Weithiau mae'r crynodeb o'r plot ar i Wici Saesneg mor fanwl fel nad oes angen darllen y llyfr o gwbl - mae'r crynodeb yn fwy na digon! Wedi dweud hynny, dw i'n credu fod y Wicipedia Cymraeg yn bell iawn o gyrraedd y pwynt yna ar hyn o bryd. Ta beth, fel rwyt ti siwr o fod wedi sylwi, prin yw fy nghyfraniadau'r dyddiau 'ma - cymaint o waith mewn bywyd "go iawn" - ond dw i dal i bicio mewn 'ma yn rheolaidd, hyd yn oed os nad ydw i'n cyfrannu cymaint ag y bydden i'n hoffi. Gobeithio y caf i gyfle i gyfrannu mwy cyn bo hir! Pwyll (sgwrs) 20:45, 8 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Mae amser i hau ac mae amser i fedi... Deall yn iawn gyfaill. Da ni wedi trafod yn y Caff rhoi 3,300 o adolygiadau yn yr erthyglau newydd, ond barn y gymuned (a fy marn i bellach) ydy fod rhaid dethol gyda llaw a llygad, gan fod llawer o seboni a gogwydd / tuedd ynddynt! Bydd grwp darllen mewn tref cyfagos yn edrych ar y datblygiadau yma ymhen penwythnos ac yn mewnforio tamediau o'r adolygiadau, a dysgu chydig oi wici-sgiliau ar yr un gwynt. A ti'n iawn - mae'n rhaid canmol y Cyngor Llyfrau am eu gweledigaeth. Os oes rhai darllenwyr yn prynu'r llyfrau ar ol darllen amdanynt yma ar Wici - wel bid a fo am hynny! Does wnelo hynny ddim a ni, a chanlyniad anuniongyrchol fyddai hynny. Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:16, 8 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Modiwl:Wikidata

golygu

I've replied at Sgwrs modiwl:Wikidata --RexxS (sgwrs) 18:12, 14 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Mention

golygu

I mentioned the cy dashboard in proposal for some devoted kit to support Faebot's availability. My four year old cheap macmini is not the best sort of hardware for the bigger work like Geograph, worth a proposal anyway. An alternative might be for one of our funded projects to sponsor me to get more modern kit to help with volunteer bot-work that would otherwise mean more money than this spent on contractors, nothing in mind at the moment though. Cheers -- (sgwrs) 16:40, 16 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Newid enw defnyddiwr

golygu

Hi! Could you please rename my account from "Moscowconnection" to "Moscow Connection"? I am now changing my username on all wikis.

Thank you! (I will create something for the Welsh Wikipedia too.) --Moscowconnection (sgwrs) 16:49, 20 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Hi. The name 'Moscowconnection' has been migrated to the unified login system . If I carry on then it will cause the local account to be detached from the global one. Do you still wish to carry on with this request? Llywelyn2000 (sgwrs) 20:35, 20 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Yes, please carry on with the request. When this (Welsh) account is renamed, I will attach it to the global account "Moscow Connection". (Both global accounts have the same password. Therefore, as soon as the Welsh account is renamed, it will have the same name and the same password as the global account "Moscow Connection". I will only have to login and open this page. That's all.) --Moscowconnection (sgwrs) 16:42, 21 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

   All done. Pob hwyl! All the best! - Llywelyn2000 (sgwrs) 20:11, 21 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb


Eginyn

golygu

Cofia ddefnyddio'r nodyn e.e. {{eginyn llyfr}} yn lle categori... ;-) Anatiomaros (sgwrs) 00:47, 21 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Diolch i ti. Mae problem fechan wedi codi efo'r teitl ddwyieithog; mae'n rhaid eu gwahanu, fel mai'r Gymraeg yw'r prif deitl ar Wici. Fory! Llywelyn2000 (sgwrs) 00:58, 21 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Mae 'na broblem efo'r eginyn hefyd, fel dwedais i uchod ({{eginyn llyfr}}). Mae'r erthyglau newydd a greuwyd yn hwyr neithiwr i gyd gyda'r un camgymeriad: er enghraifft. Gan fod dwsinau o erthyglau i'w cywirio tybed fedri di osod dy fot at y gwaith? Diolch. Anatiomaros (sgwrs) 22:01, 21 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Wedi'i wneud mewn 2 funud 15 eiliad! Gwely'n gynt heno! BOT-Twm Crys (sgwrs) 22:44, 21 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Categoriau - eto

golygu

Problem "bach" eto. Mae'r tudalennau newydd am gofiannau a hunangofiannau i gyd bron wedi cael eu rhoi yn y categori:Astudiaethau llenyddol Cymraeg gan y bot. Mae 'na rai cannoedd yno rwan - llawer gormod o waith i mi sortio nhw allan! Efallai bod angen categori 'Atfgofion' neu rywbeth tebyg hefyd, ond mae'r mwyafrif o'r cyfrolau hyn yn ffitio yn y ddau gategori sydd yma'n barod, h.y. Categori:Cofiannau Cymraeg a Categori:Hunangofiannau Cymraeg. Fedra dy fot eu tynnu nhw i gyd o'r categori Astudiaethau llenyddol Cymraeg (gan gymryd gofal i beidio tynnu'r llyfrau eraill oedd yno yn y lle cyntaf), plîs? Dwi wedi gwneud un neu ddau yn barod ond basa'n cymryd oriau maith i wneud y cyfan. Anatiomaros (sgwrs) 20:41, 25 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Sylwgar iawn. Newydd ddod yn ol o'r llyfrgell leol, lle roeddwn yn trafod y casgliad 'arbrofol' yma. Dw i'n gobeithio a bydd y criw'n gweithio ar rai o rhain yn ystod yr wythnosau nesaf. Dim ond y categori: cofiannau / hunangofiannau. Ti'n iawn, mae angen tynnu'r Cat 'Astudiaethau llenyddol Gymraeg'. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:36, 25 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Diolch, a dim prob. Mae ambell "ddafad grwydr" mewn rhai o'r categoriau eraill hefyd, ond dyma'r broblem amlycaf ar hyn o bryd, dwi'n meddwl. Anatiomaros (sgwrs) 21:48, 25 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Cwbwlhawyd. Dw i'n siwr i ti sylwi hefyd mod i wedi gosod sysytem brawf ddarllen fel categori ar y rhain; fel y cant eu cywiro, caiff y nodyn ei dynnu ohonyn nhw. Bydd hyn yn gynllun peilot i rywbeth ehangach - syniad o Wicidestun - ble mae pob erthygl yn derbyn categori 'heb ei brawf ddarllen' nes fod un neu ddau wedi'i gywiro. Cawn ni weld sut eith hi! Llanelli fory'n hyfforddi wici drwy'r dydd, Prifysgol a Llyfrgell Abertawe drennydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:05, 25 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Gwaith cyflym iawn, hyd yn oed i fot! Dyna arbed llwyth o waith diflas. Diolch.
Ia, dwi wedi sylwi ar y nodyn ac wedi tynnu ambell un ar ôl cywiro: syniad da (math o wadiad hefyd!).
Pob lwc fory! Anatiomaros (sgwrs) 22:24, 25 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Debora Patta

golygu

Please could you have a look at this (at the creator's request)? Diolch! Deb (sgwrs) 12:26, 5 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

Hi Llywelyn2000, how are you?
This short message is to THANK YOU VERY MUCH because you helped me in correct this page!
See you soon
Rei Momo (sgwrs) 20:54, 5 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb
Ohhhh, good! But I don't think my English is so perfect to translate pew pages in CY. But thanks for your reply!
Can you watch the category and Praia a Mare if it's good? Thanks for your precious help. 21:18, 5 Rhagfyr 2013 (UTC)Rei Momo (sgwrs)
Sorryyyyy
Very very sorry... I'm a little drunk, ah ah ah.Yes, give me 24 hours, ok? And I'll translate the page in... some Languages! See you soon!!!
Rei Momo (sgwrs) 22:03, 5 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb
Return to the user page of "Llywelyn2000/Archif 2".