Pentref bychan yn Sir Benfro yw Uzmaston (ni cheir enw Cymraeg).[1] Fe'i lleolir rhai milltiroedd i'r de-ddwyrain o Hwlffordd ar lan Afon Cleddau Wen. Gyda Boulston, mae'n rhan o gymuned Uzmaston a Boulston.

Uzmaston
Entering Uzmaston - geograph.org.uk - 219256.jpg
Math anheddiad dynol, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Benfro Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.791°N 4.945°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000956 Edit this on Wikidata
Cod OS SM969144 Edit this on Wikidata
Ar gwr Uzmaston.

Credir mai tarddiad yr enw yw Osmund a oedd yn enw personol Eingl-Sgandinafaidd.[2] Y ffurf wreiddiol oedd Villa Osmundi sy'n mynd yn ôl i 1176-98. Y ffurf Gymraeg ar yr enw hwn yw Osmwnd neu Osmwnt h.y. Tref Osmwnt.

CyfeiriadauGolygu

  1. Enwau Cymru
  2. Dictionary of the Place-names of Wales gan Hywel Wyn-Owen a Richard Morgan; Gwasg Gomer 2007; tudalen 485