Trefelen

pentref yn Sir Benfro

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Y Mot, Sir Benfro, Cymru, yw Trefelen[1] (Saesneg: Bletherston).[2] Fe'i lleolir yng nghanolbarth y sir, 9 km i'r gogledd o Arberth a 13 km i'r dwyrain o Hwlffordd.

Trefelen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8561°N 4.8036°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN071212 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Ymddengys fod yr enw Saesneg yn deillio o'r enw personol Cymraeg "Bleddri" ac yn golygu "Fferm Bleddri". "Trefgordd" (canoloesol) neu fferm yw'r gair "tre" yn yr enw Cymraeg.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Tachwedd 2021
  3. B. G. Charles, The Placenames of Pembrokeshire (Aberystwyth, 1992), tud. 400
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato