Porth-gain

pentref yn Sir Benfro

Pentref a phorthladd bychan yng nghymuned Llanrhian, Sir Benfro, Cymru, yw Porth-gain neu Porthgain. Saif yng ngogledd y sir, i'r gorllewin-ddwyrain o ddinas Tyddewi ac i'r gogledd o briffordd yr A487 i Abergwaun.

Porth-gain
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.948°N 5.181°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM813323 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Ar un adeg roedd Porth-gain yn borthladd bychan o gryn bwysigrwydd. Gellir gweld yr adeiladau oedd yn cael eu defnyddio i gadw gwenithfaen wedi ei falu yn barod i'w allforio. Ar un adeg roedd y diwydiant llechi yn bwysig yn yr ardal, gyda chwareli yn Abereiddi, Porth-gain a Thrwyn Llwyd, ac allforid y llechi o Borth-gain. Roedd y porthladd yn medru derbyn ugain o longau y dydd, ond caeodd yn 1931.

Erbyn hyn mae'n ganolfan boblogaidd i dwristiaid, a defnyddir yr harbwr yn bennaf ar gyfer cychod pleser, er bod nifer o bysgotwyr yn parhau i'w defnyddio hefyd. Aiff Llwybr Arfordir Sir Benfro heibio'r pentref. Ar bobtu'r porthladd gwelir dwy odyn galch ar ffurf tŵr gwyn.

Harbwr Porth-gain