Abereiddi

pentref yn Sir Benfro

Pentref bychan yng nghymuned Llanrhian, Sir Benfro, Cymru, yw Abereiddi[1] (Saesneg: Abereiddy).[2] Gorwedd yng ngorllewin y sir, ar arfordir Penfro ar fae tywodlyd yng nghysgod penrhyn Penclegyr, tua hanner ffordd rhwng Tyddewi ac Abergwaun.

Abereiddi
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9333°N 5.2°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM795315 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Enillodd y traeth Faner las yn 2005. Ceir maes parcio mawr wrth ei ymyl. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro heibio i'r traeth sydd ynghyd â'r pentref yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gerllaw mae adfeilion yr harbwr a adeiladwyd ar gyfer y chwarel llechi leol a'r tai a godwyd ar gyfer y chwarelwyr.

Arfordir Penfro yn Abereiddi

Abereiddi 1938: Torrodd teiffoid allan, a chorwynt, yn 1938, gyda llifogydd dros y pentref a'i adael yn anghyfannedd. Goroesoedd ond dyrnaid o adeiladau a sydd erbyn hyn [2011] yn dai gosod i ymwelwyr.[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 10 Tachwedd 2021
  3. Llyfr a CDd Cerys Mathews, Aberystwyth