Tafarn-sbeit

pentref yn Sir Benfro

Pentref yng nghymuned Llanbedr Felffre, Sir Benfro, Cymru, yw Tafarn-sbeit[1] (Saesneg: Tavernspite).[2] Ymddengys mai o "Tafarn Ysbyty" y tardda'r enw, sef adeilad a gynigiai letygarwch i bererinion ar eu ffordd i Dŷ Ddewi. Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y sir am y ffin â Sir Gaerfyrddin, ar groesffordd wledig tua hanner ffordd rhwng Arberth (Sir Benfro) i'r gorllewin a Sanclêr (Sir Gaerfyrddin) i'r dwyrain.

Tafarn-sbeit
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanbedr Felffre Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.783°N 4.637°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Pentref diolchgar yw Tafarn-sbeit yn ôl pob tebyg - pentref heb gofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf, lle ddaeth pob milwr yn ôl o'r rhyfel.[3]

Ceir Ysgol Gynradd Gymunedol Tafarnspite yn y pentref.[4]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2020-06-27 yn y Peiriant Wayback., Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 24 Mehefin 2020
  2. British Place Names; adalwyd 14 Tachwedd 2021
  3. "Could Tavernspite be a "Thankful Village"?". Tenby Observer. 9 Rhagfyr 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-25. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2018.
  4. Ysgol Tafarnspite
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato