Hermon, Sir Benfro

pentref yn Sir Benfro

Pentref bychan yng nghymuned Crymych, Sir Benfro, Cymru, yw Hermon.[1][2] Enwir y pentref ar ôl y mynydd sanctaidd yn y Beibl, Mynydd Hermon.

Hermon
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9567°N 4.6053°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN205318 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Gorwedd Hermon yng nghanol bryniau isel yng ngogledd y sir ger Llanfyrnach, tua naw milltir i'r de o Aberteifi. Saif ar groesffordd wledig gyda lonydd yn ei gysylltu â phentrefi bychain eraill, sef Crymych i'r gogledd-orllewin, Pentre Galar i'r de-orllewin, Tegryn i'r gogledd-ddwyrain a Llanfyrnach i'r de-ddwyrain.

Tua thair milltir i gyfeiriad y gorllewin ceir Mynydd Preseli.

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Tachwedd 2021