Pontfadlen

pentref a chymuned yn Sir Benfro

Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Pontfadlen[1] neu Pont Fadlen (Saesneg: Merlin's Bridge).[2] Saif y pentref fymryn i'r de o dref Hwlffordd, ac mae i bob pwrpas yn faestref iddi.

Pontfadlen
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8°N 5°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000450 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Daw'r enw o hen Gapel y Santes Fair Magdalen (Cymraeg Canol: Mair Fadlen), sydd bellach yn adfail. Daw'r enw Saesneg hefyd o enw'r capel hwn, Mawdlyn's Bridge yn wreiddiol, ac nid oes cysylltiad a Myrddin. Efallai i'r capel fod yn noddfa i wahangleifion ar un adeg.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,184.

Capel Haroldstone, Pont Fadlen

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[4]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pont Fadlen (pob oed) (2,202)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pont Fadlen) (307)
  
14.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pont Fadlen) (1607)
  
73%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Pont Fadlen) (317)
  
35.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 6 Chwefror 2022
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]