Afon Donaw

afon yng Nghanolbarth Ewrop
(Ailgyfeiriad o Donwy)

Yr afon ail hiraf yn Ewrop yw Afon Donaw neu Afon Donwy (Almaeneg: Donau; Slofaceg: Dunaj; Hwngareg: Duna; Croateg: Dunav; Serbeg a Bwlgareg: Дунав; Romaneg: Dunărea), gan mai Afon Volga yw'r un hiraf; ond Afon Donwy yw'r unig un sy'n llifo o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'n codi yn y Fforest Ddu yn yr Almaen lle mae afonydd Brigach a Breg yn uno i ffurfio Afon Donaw. Mae'r afon yn 2,850 km (1,770 mi) o ran hyd ac yn llifo i'r Môr Du yn Rwmania. Mae rhai ysgolheigion yn gweld cysylltiad rhwng enw(au)'r afon a'r dduwies Geltaidd/Gymreig Dôn.

Afon Donaw
Mathafon, afon drawsffiniol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBaden-Württemberg, Odesa Oblast Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen, Awstria, Slofacia, Hwngari, Croatia, Serbia, Rwmania, Bwlgaria, Moldofa, Wcráin Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.2219°N 29.7433°E, 48.09511°N 8.15489°E Edit this on Wikidata
TarddiadBrigach, Breg Edit this on Wikidata
AberY Môr Du Edit this on Wikidata
Dalgylch801,463 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,850 ±1 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad5,433 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLake Đerdap Edit this on Wikidata
Map
Siwrne'r Donaw

Mae'r afon yn ddyfrffordd ryngwladol bwysig sy'n cysylltu'r Almaen, Awstria, Slofacia, Hwngari, Croatia, Serbia, Bwlgaria, Rwmania ac Wcráin. Mae trefi mawr ar lan yr afon yn cynnwys Ulm yn yr Almaen, Fienna yn Awstria, Bratislava yn Slofacia, Budapest yn Hwngari a Beograd yn Serbia.

Mae camlas yn cysylltu'r afon ag afonydd Rhein a Main er 1992 (Camlas Rhein-Main-Donaw) ac felly mae'n bosibl mynd ar long o Rotterdam, porthladd ym Môr y Gogledd, i Sulina ar lan y Môr Du (tua 3,500 km). Yn 1987 cludwyd tua 100 miliwn tunnell o nwyddau ar Afon Donaw.

Mae basn afon Donaw yn gartref i rywogaethau pysgod fel penhwyad, penfras dŵr croyw a'r sgreten. Mae hefyd yn gartref i amrywiaeth fawr o'r cerpyn a'r styrsiwn, yn ogystal ag eog a brithyll. Ceir hefyd y mingrwn a'r llysywen, yn byw yn aber yr afon.

Prif afonydd golygu

Y prif afonydd sy'n llifo i mewn i afon Donaw, gyda'u llif mewn medrau sgwar yr eiliad, yw:

Dinasoedd golygu

Geirdarddiad golygu

Mae'n debygol mai tarddiad Celtaidd sydd i'r gair: 'danu', a hwnnw'n tarddu o'r Proto-Indo-Ewropeg 'dānu'. Yr un, o bosib a'r gair 'ton' yn Gymraeg, a'r duw Dylan Ail Don, neu ym mytholeg Iwerddon, 'Tuatha Dé Danann' ("duwies y teulu Danu"). Tardd llawer o enwau afonydd Ewropeaidd eraill o'r un gwreiddyn yn cynnwys y Dunaj, Dzvina / Daugava, Don, Donets, Dnieper, Dniestr, Dysna a Tana / Deatnu.

Daearyddiaeth golygu

Basn draenio golygu

Hon oedd ffin yr Ymerodraeth Rufeinig am sawl canrif. Heddiw, mae'r afon yn nadreddu drwy (neu'n cyffwrdd â ffiniau) 10 gwlad: Rwmania (29.0% o arwynebedd y basn), Hwngari (11.6%), Serbia (10.2%), Ostria (10.0%), yr Almaen (7.0%), Bwlgaria (5.9%), Slofacia (5.9%), Croatia (4.4%), yr Wcrain (3.8%), a Moldofa (1.6%).[1] Mae ei fasn draenio yn ymestyn i naw arall (deg os cynhwysir Kosovo).

 
"Wrth i'r afon gwrdd a'r lli": aber yr afon o loeren; 2013

Yn ychwanegol at y gwledydd sy'n ffinio (gweler uchod), mae'r basn draenio hefyd yn cynnwys rhannau o naw gwlad arall: Bosnia a Herzegovina (4.6% o ardal y basn), y Weriniaeth Tsiec (2.9%), Slofenia (2.0%), Montenegro (0.9 %), y Swistir (0.2%), yr Eidal (<0.1%), Gwlad Pwyl (<0.1%), Gogledd Macedonia (<0.1%) ac Albania (<0.1%).[1] Cyfanswm y basn draenio yw 801,463 km2 (309,447 metr sgwâr) ac mae'n gartref i 83 miliwn o bobl.[2][3] Pwynt uchaf y basn draenio yw copa Piz Bernina ar ffin yr Eidal a'r Swistir, sef 4,049 metr (13,284 tr).[4]

Rhennir Basn Afon Donaw yn dair prif ran, wedi'u gwahanu gan "gatiau" lle mae'r afon yn cael ei gorfodi i dorri trwy rannau mynyddig:

  • Basn Uchaf, o'r blaenddyfroedd i Borth Devín (Serbieg: Devínska brána).
  • Basn Canol, a elwir fel arfer yn fasn Pannonia neu Fasn Carpathia, rhwng Porth Devín a'r Gatiau Haearn (Serbieg: Đerdapska klisura). Mae'n cynnwys gwastadeddau Kisalföld ac Alföld, Hwngari.
  • Basn Isaf, o'r Gatiau Haearn i geg yr afon, gan gynnwys aber y Donaw.

Cydweithrediad rhyngwladol golygu

Mae'r Comisiwn Rhyngwladol ar gyfer Diogelu Afon Danube (ICPDR) yn sefydliad sy'n cynnwys 14 aelod-wladwriaeth (yr Almaen, Awstria, y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Slofenia, Hwngari, Croatia, Bosnia a Herzegovina, Serbia, Bwlgaria, Romania, Moldofa, Montenegro a'r Wcráin) a'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r comisiwn, a sefydlwyd ym 1998, yn delio â basn afon Danube gyfan, sy'n cynnwys llednentydd a'r adnoddau dŵr daear. Ei nod yw gweithredu Confensiwn Diogelu Afon Danube trwy hyrwyddo a chydlynu rheoli dŵr yn gynaliadwy ac yn deg, gan gynnwys cadwraeth, gwella a'r defnydd rhesymol o'r dyfroedd, a gweithredu Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE.

Daeareg golygu

Er bod blaenddyfroedd y Donaw yn gymharol fach heddiw, yn ddaearegol, mae'r Donaw yn llawer hŷn na'r Rhein, y mae dalgylch ei basn yn cystadlu â hi yn ne'r Almaen. Mae gan hyn ychydig o gymhlethdodau daearegol diddorol: gan mai'r Rhein yw'r unig afon sy'n tarddu ym mynyddoedd yr Alpau ac sy'n llifo i'r gogledd tuag at Fôr y Gogledd, ceir llinell anweledig sy'n dechrau yn Piz Lunghin yn rhannu rhannau helaeth o dde'r Almaen, y cyfeirir ati weithiau fel Trothwy Ewropeaidd (the European Watershed).

Cyn yr oes iâ ddiwethaf yn y Pleistosen, cychwynnodd y Rhein ym mhen de-orllewinol y Goedwig Ddu, tra bod y dyfroedd o'r Alpau sydd heddiw'n bwydo'r Rhein yn cael eu cludo i'r dwyrain gan yr Urdonau (y Donaw gwreiddiol). Mae rhannau o wely hynafol yr afon hon, a oedd yn llawer mwy na Donaw, fel y mae heddiw, i'w gweld o hyd mewn canyons yn nhirwedd yr Alb Swabian. Ar ôl i ddyffryn Rhein Uchaf gael ei erydu, newidiodd y mwyafrif o ddyfroedd yr Alpau eu cyfeiriad a dechrau bwydo'r Rhein. Dim ond adlewyrchiad bychan o'r un hynafol yw'r Donaw uchaf heddiw.

Economeg golygu

Dŵr yfed golygu

Ar hyd ei chwrs, mae'r Donaw yn ffynhonnell dŵr yfed i oddeutu 20 miliwn o bobl.[5][6] Yn Baden-Württemberg, yr Almaen, daw bron i 30 y cant (yn 2004) o'r dŵr ar gyfer yr ardal rhwng Stuttgart, Bad Mergentheim, Aalen ac Alb-Donau (ardal) o ddŵr wedi'i buro yn y Donaw. Mae dinasoedd eraill fel Ulm a Passau hefyd yn defnyddio rhywfaint o ddŵr o'r Donaw.

Yn Awstria a Hwngari, mae'r rhan fwyaf o ddŵr yn cael ei dynnu o ffynonellau tanddaearol a ffynhonnau, a dim ond mewn achosion prin y defnyddir dŵr o'r Donaw. Mae'r rhan fwyaf o daleithiau hefyd yn ei chael hi'n rhy anodd i lanhau'r dŵr oherwydd llygredd helaeth; dim ond rhannau o Rwmania lle mae'r dŵr yn lanach sy'n dal i yfed dŵr yr afon, yn rheolaidd.

Pysgota golygu

Mae pwysigrwydd pysgota ar y Donaw, a oedd yn hollbwysig yn yr Oesoedd Canol, wedi dirywio'n ddramatig. Mae rhai pysgotwyr yn dal wrthi mewn rhai mannau ar yr afon, ac mae gan aber y Donaw ddiwydiant pwysig o hyd. Fodd bynnag, mae rhai o adnoddau'r afon wedi cael eu rheoli mewn modd amgylcheddol anghynaliadwy yn y gorffennol, gan arwain at ddifrod gan lygredd, newidiadau i'r sianel a datblygu seilwaith mawr, gan gynnwys argaeau ynni dŵr enfawr.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Countries of the Danube River Basin". International Commission for the protection of the Danube River. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2010.
  2. Danube River Basin District, Part A – Roof Report Archifwyd 2016-10-06 yn y Peiriant Wayback., IPCDR, p 8
  3. "River Basin | ICPDR - International Commission for the Protection of the Danube River". www.icpdr.org.
  4. "Drainage basin of the Black Sea" (PDF). Our Waters: Joining Hands Across Borders. First Assessment of Transboundary Rivers, Lakes and Groundwaters. United Nations Economic Commission for Europe. 2007.
  5. "About Us | ICPDR - International Commission for the Protection of the Danube River". www.icpdr.org. Cyrchwyd 2021-02-05.
  6. "Blue River". wwf.panda.org. Cyrchwyd 2021-02-05.
  7. Holcik, Juraj (1989). The freshwater fishes of Europe Vol.I Part II General introduction to fishes. Wiesbaden: Aula Verlag.