Y Claf Diglefyd
Drama Ffrangeg gan Molière yw Y Claf Diglefyd (Teitl Ffrangeg: Le Malade Imaginaire; yn fras, "Y gŵr sy'n dychmygu ei fod yn glaf"). Y ddrama yma oedd drama olaf Molière; fei'i perfformiwyd gyntaf yn gynnar yn 1673, a chymerwyd yr awdur yn wael yn ystod y pedwerydd perfformiad, ar 17 Chwefror 1673. Bu farw yn fuan wedyn.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol ![]() |
Awdur | Molière ![]() |
Gwlad | Ffrainc ![]() |
Iaith | Ffrangeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1673 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1673 ![]() |
Genre | comédie-ballet ![]() |
Cymeriadau | Thomas Diafoirus, Argan, Béline, Angélique, Louison, Béralde, Cléante, Mr. Diafoirus, Mr. Purgon, Mr. Fleurant, Mr. de Bonnefoi, Toinette ![]() |
Prif bwnc | meddygaeth ![]() |
Lleoliad y perff. 1af | Salle du Palais-Royal ![]() |
Dyddiad y perff. 1af | 1673 ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
Cyfansoddwr | Marc-Antoine Charpentier ![]() |
![]() |
Arwr y ddrama yw Argan, cybydd sy'n dychmygu ei fod yn wael. Mae ei feddygon yn manteisio ar hyn i gael arian ganddo. Dymuniad Argan yw i'w ferch, Angelique, briodi meddyg, er mwyn iddo gael triniaeth am ddim, ond mae hi eisoes mewn cariad a Cleante.
Mae brawd Argan, Beralde, a morwyn Argan, Toinette, yn perswadio Argan i gymeryd arno ei fod wedi marw, er mwyn dareganfod pwy sy'n ei garu mewn gwirionedd. Mae Argan yn darganfod mai dim ond ar ôl ei arian y mae ei ail wraig, tra mae Angelique yn ei garu er ei fwyn ei hun. Y canlyniad yw fod Argan yn cytuno i Angelique briodi ei dewis ei hun.
CyfieithiadGolygu
Cyfieithiwyd y ddrama gan Bruce Griffiths dan y teitl Y Claf Diglefyd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1972). Llwyfanwyd y fersiwn Gymraeg hon gan Gwmni Drama Theatr Fach Llangefni yn 1969. Mae'r gyfrol yn cynnwys rhagymadrodd a nodiadau helaeth. Mae'r llyfr allan o brint ers blynyddoedd, ond cewch lwytho i lawr copi yn rhad ac am ddim o'r ddolen ganlynol ar wefan Gwasg Prifysgol Cymru:
- Y Claf Diglefyd Archifwyd 2006-09-25 yn y Peiriant Wayback.