Gwener (planed)
Gwener (symbol: ) yw'r ail blaned oddi wrth yr Haul, yng Nghysawd yr Haul. Mae ei bellter cyfartalog oddi wrth yr Haul tua 67,200,000 milltir ac mae wedi'i henwi ar ôl duwies cariad y Rhufeiniaid. Ar lafar, ei henw yw Seren y Gweithiwr, gan mai hi, fel arfer, sy'n ymddangos gyntaf yn y cyfnos. Dyma'r blaned agosaf i'r Ddaear, ac mae'n dod mor agos â 24 miliwn milltir i ffwrdd. Mae probau diweddar wedi darganfod bod wyneb y blaned wedi'i britho â chraterau a rhychau, nid annhebyg i'r rhai a welir ar wyneb y Lleuad.
Math o gyfrwng | planed mewnol, planed israddol |
---|---|
Rhan o | Cysawd yr Haul mewnol |
Lleoliad | Cysawd yr Haul mewnol |
Yn cynnwys | atmosffer Gwener |
Pellter o'r Ddaear | 261,000,000 cilometr, 38,000,000 cilometr, 108,000,000 cilometr |
Echreiddiad orbital | 0.00677672 |
Radiws | 6,051.8 ±1 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Oherwydd ei chymylau trwchus, sy'n adlewyrchu'r haul mor dda, ychydig iawn a wyddem amdani tan yn lled ddiweddar. Hyd yn oed cyn hwyred a'r 1960au tybid bod ei hwyneb yn gefnforoedd eang a bod rhannau ohoni, efallai, yn fforestydd tebyg i'r hyn oedd ar y ddaear adeg ffurfio'r meusydd glo. Roedd posibiliadau o'r fath yn sbardun enfawr i ddychymyg awduron ffuglen wyddonol gan gynnwys Dan Dare a'r "Fenwsiaid" yn y comic The Eagle yn y 1950au. Ac yn ei stori fer enwog, The Illustrated Man, disgrifia Ray Bradbury helynt teithwyr gofod ar Gwener yn ceisio lloches rhag y glaw parhaus. Roedd o'n rhannol gywir – mae hi yn bwrw'n barhaus yno – ond am fod wyneb y blaned mor boeth dydy'r glaw byth yn cyrraedd y llawr. Fe ddisgyna o tua 20 milltir uwchben y wyneb, ond try'n ager ar uchder o tua 10 milltir. Fel y gwrthrych naturiol mwyaf disglair yn awyr nos y Ddaear ar ôl y Lleuad, gall Gwener daflu cysgodion a gellir ei gweld gyda'r llygad noeth yng ngolau dydd.[1][2] Mae orbit Venus yn llai nag un y Ddaear, ond ei ehangiad mwyaf yw 47°; felly mae'n hawdd ei gweld am ychydig oriau yn y cyfnos neu cyn codiad haul. Mae Gwener yn cylchdroi'r Haul bob 224.7 diwrnod y Ddaear. Mae ganddi hyd diwrnod synodig o 117 diwrnod y Ddaear a chyfnod cylchdroi sidereal o 243 diwrnod y Ddaear. O ganlyniad, mae'n cymryd mwy o amser i gylchdroi o amgylch ei hechelin nag unrhyw blaned arall yng Nghysawd yr Haul, ac mae'n gwneud hynny i gyfeiriad gwahanol i bob planed arall, heblaw am Wranws . Mae hyn yn golygu bod yr Haul yn codi o'i gorwel gorllewinol ac yn machlud yn ei dwyrain.[3] Yn debyg i blaned Mercher, nid oes gan Gwener unrhyw leuad.[4]
Rhaid oedd aros tan i chwiliedyddion Rwsiaidd, yng nghyfres "Venera" a "Vega", lanio ar Gwener rhwng 1970 a 1984, cyn y cawsom wybodaeth gywir am ei natur. Darganfuwyd bod Gwener yn llawer poethach na'r Ddaear achos bod ganddi gryf effaith tŷ gwydr. Ers hynny llwyddwyd i fapio ei nodweddion daearyddol yn fanwl a chytunwyd, drwy'r Undeb Astronomegol Ryngwladol, ar enwau iddynt. Nid yn annisgwyl, enwau merched sydd i'r mwyafrif ohonynt, e.e. enwyd "cyfandir" o lif folcanig ar ôl Aphrodite, duwies cariad y Groegiaid; crater anferth ar ôl y gantores Billie Holiday ac ucheldir Lada ar ôl y dduwies Slafaidd (nid y car!). Mae yma gysylltiad Cymreig hefyd – ceir ucheldir "Guinevere", neu Gwenhwyfar ac enwyd rhes o fynyddoedd ar ôl y gwyddonydd Albanaidd, James Clerk Maxwell. Ef, druan ohono, yw'r unig ddyn ar y blaned!
Gan fod Gwener yn nes at yr haul na'r Ddaear, fe fydd ei hymddanghosiad yn newid, yn union fel y lleuad, o lawn i hanner i chwarter ayyb; hynny yw, mae ganddi ei Chynnydd a'i Gwendid. Mae'n eitha hawdd gweld hynny os edrychwch arni drwy sbienddrych go dda, neu delesgop.
Ar 14 Medi 2020 cyhoeddwyd bod tîm rhyngwladol o seryddwyr, o dan arweiniad yr Athro Jane Greaves o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Caerdydd wedi darganfod moleciwlau ffosffin yng nghymylau Gwener. Ar y ddaear, mae ffosffin yn cael ei gynhyrchu mewn diwydiant neu gan ficrobau sy’n byw mewn amgylcheddau lle nad oes ocsigen. Gwnaed ymchwil i weld os oedd unrhyw ffyrdd posib eraill i gynhyrchu ffosffin ar Gwener ond ni ddarganfuwyd esboniad arall, er bod bylchau mawr yn ein dealltwriaeth o amgylchfyd y blaned. Dywedodd yr ymchwilwyr fod angen llawer mwy o dystiolaeth er mwyn profi'r ddamcaniaeth bod bywyd yn bodoli ar y blaned.[5]
Y drydedd blaned leiaf yng Nghysawd yr Haul, mae Gwener yn blaned ddaearol ac fe'i gelwir weithiau'n "chwaer blaned" i'r Ddaear oherwydd eu maint tebyg, eu màs, eu hagosrwydd at yr Haul, a'u cyfansoddiad. Ond mae'n hollol wahanol i'r Ddaear mewn ffyrdd eraill: mae ganddi'r atmosffer dwysaf o'r pedair planed ddaearol, gyda dros 96% yn garbon deuocsid. Mae'r gwasgedd atmosfferig ar wyneb y blaned tua 92 gwaith pwysedd lefel y môr ar y Ddaear, hy pwysedd cyffelyb i fod tua 900 metr o dan y dŵr. Er bod Mercher yn nes at yr Haul, gan Gwener mae'r arwyneb poethaf o unrhyw blaned yng Nghysawd yr Haul, gyda thymheredd cymedrig o 464 gradd Canradd. Uwch ei hwyneb ceir haenau trwchus o gymylau adlewyrchol iawn o asid sylffwrig, sy'n atal ei hwyneb rhag cael ei weld o'r Ddaear. Mae'n eitha tebyg fod arni gefnforoedd yn y gorffennol,[6][7] ond ar ôl i'r dŵr anweddu cododd y tymheredd oherwydd effaith tŷ gwydr.[8] Mae'n debyg bod y dŵr wedi anweddu a gwahanu, gyda'r hydrogen rhydd wedi ei ysgubo i'r gofod rhyngblanedol gan y gwynt solar oherwydd diffyg maes magnetig planedol.[9] Oherwydd yr amodau angheuol ar ei hwyneb, weithiau cyfeirir at y blaned fel "efaill drwg" y Ddaear.[10]
Fel un o'r gwrthrychau disgleiriaf yn yr awyr, ystyriwyd Gwener yn nodwedd bwysig mewn llawer diwylliant ers cynhanes. Fe'i gwnaed yn gysegredig ac yn brif ysbrydoliaeth i awduron a beirdd fel "seren y bore" a "seren yr hwyr". Gwener oedd y blaned gyntaf y mapiwyd ei symudiad ar draws yr awyr, a hynny mor gynnar â'r ail fileniwm CC.[11]
Mae ei agosrwydd at y Ddaear wedi gwneud Gwener yn brif darged ar gyfer archwilio rhyngblanedol cynnar. Hon oedd y blaned gyntaf y tu hwnt i'r Ddaear yr ymwelodd llong ofod â hi (Venera 1 ym 1961) a'r gyntaf i gael roced yn glanio'n llwyddiannus arni (Venera 7 yn 1970). Gan fod cymylau trwchus y blaned yn gwneud arsylwi ei harwyneb yn amhosibl yn y sbectrwm gweladwy, ni chafwyd mapiau manwl nes dyfodiad orbiter Magellan ym 1991. Mae cynlluniau wedi'u cynnig ar gyfer crwydro neu deithiau mwy cymhleth, ond ei hwyneb gelyniaethus yn creu llawer o broblemau ymarferol. Mae'r posibilrwydd o fywyd ar Venus wedi bod yn destun dyfalu ers tro yn enwedig yn y 2000-20au.
Eicon Sosialaidd
golyguDaeth Seren y Gweithiwr, yn arbennig, yn eicon pwysig i'r mudiad sosialaidd yn yr 20g ganrif, gan ymddangos yn amlach ar faneri'r gwledydd Comiwnyddol na hyd yn oed y morthwyl a'r cryman a'r llu o symbolau eraill oedd yn arwyddo goruchafiaeth (honedig) y proletariat. Fe'i gwelir hyd heddiw ar faner Tsieina, Angola, Y Congo, Ciwba, Gogledd Corea, Mosambic a Fietnam ac arferai gael lle amlwg ar faneri yr hen Rwsia neu'r USSR, yr hen Iwgoslafia ac amryw o wledydd eraill. Yn nes adre cawsai amlygrwydd ar faneri a phosteri'r Undebau Llafur a hi yw arwyddlun y cwmni bwsiau o Ddyffryn Nantlle – Y Seren Arian – a gychwynodd ei yrfa, lawer blwyddyn yn ôl, yn cludo chwarelwyr yr ardal i'w gwaith yn y boreuau.
Cysylltiadau dwyfol a Cheltaidd
golyguGwener oedd duwies cariad a harddwch y Rhufeiniaid a gyflawnai swyddogaeth debyg iawn i Aphrodyte'r Groegiaid. Ond nid delweddau o'r fath geir i'r blaned gan bawb o bobol y byd. I'r Tsieineaid, mae gwyn llachar yn anlwcus ac ysbrydaidd ac mae'r blaned yn cynrychioli dial a chosb. I'r Maya roedd y blaned yn un rhyfelgar – hi oedd y seren-dduw Quetzalcoatl a byddai'r bobl yn cau eu drysau a'u ffenestri rhag pelydrau'r duw peryglus hwn pan ymddangosai yn y boreau. I'r Swmeriaid ei henw oedd Ishtar, oedd yn un o drindod yr haul, y lleuad a hithau. Roedd Ishtar yn dduwies cariad, ffrwythlondeb a rhyfel.
Mae'n anodd adnabod duwies gyfatebol i Gwener ym mytholeg y Celtiaid, yn enwedig yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Mae'n ymddangos bod duwiesau ein cyndeidiau ni yn llawer amlach eu doniau ac yn meddu ar gyfuniad o ffrwythlondeb, crefft, a'r gallu i wella yn ogystal â rhywioldeb, er yn amrywio ym mhwyslais a'u swyddogaethau o un llwyth, cwlt, a lle cysegredig, i'r llall. Ond yng nghyfnod goruchafiaeth y Rhufeiniaid ceir sawl allor Celtaidd i Gwener ar hyd a lled Ewrop.
Seryddiaeth
golyguCreda seryddwyr bod y planedau yn dylanwadu'n drwm ar bobl. Yn Seryddiaeth, neu Lyfr Gwybodaeth yn Dangos Rheoliad y Planedau ar Bersonau Dynion, Llanrwst (1830), dywed Robert Roberts (mab i John Roberts, Almanac Caergybi): “Y mae y blaned hon (Gwener) i'w chyfri yn blaned fawr… a'i natur yw gwneud priodasau, uno pobloedd trwy chwant; hon sy'n rheoli yr arenau, a'r natur yn y rhan honno sy'n peri carwriaeth a serch cnawdol y naill at y llall… Y mae'r bobl yma o dymer lawen, ysmala, yn hoffi bod mewn cwmni ysmala, sef mewn tafarnau, yfed diodydd cryfion mewn llawenydd a hawddgarwch, canu cerddi gwagedd, chwerthin, dawnsio, a tharo penill gyda'r tannau…”.
Nodweddion ffisegol
golyguGwener yw un o'r pedair planed ddaearol yng Nghysawd yr Haul, sy'n golygu ei fod yn gorff creigiog fel y Ddaear yn hytrach nag yn gasgliad o nwyon. Mae hefyd yn debyg i'r Ddaear o ran maint a màs ac fe'i disgrifir yn aml fel "chwaer" neu "efaill" i'r Ddaear.[12] Credir fod diamedr Gwener yn 12,103.6 km (7520,8 milltir), sydd ddim ond rhyw 638.4 km (396.7 mi) yn llai na'r Ddaear. Mae ei fàs yn 81.5% o fàs Ddaear.
Awyrgylch a hinsawdd
golyguO fewn awyrgylch trwchus Gwener ceir carbon deuocsid (96.5%) a nitrogen (3.5%) - mae'r ddau'n bodoli fel hylifau uwch-gritigol ar wyneb y blaned - a cheir olion nwyon eraill gan gynnwys sylffwr deuocsid.[13] Mae màs ei atmosffer 92 gwaith yn fwy na màs y Ddaear, tra bod y gwasgedd ar ei wyneb tua 93 gwaith yn fwy na gwasgedd y Ddaear - pwysedd, fel y nodwyd, sy'n cyfateb i'r pwysau ar ddyfnder o bron.1 cilometr (0.62 mi) o dan gefnforoedd y Ddaear. Y dwysedd ar yr wyneb yw 65 kg y fetr ciwbic, 6.5% yn fwy na dŵr, neu 50 gwaith mor drwchus ag atmosffer y Ddaear ar 20 °C (293 K; 20 °C; 68 °F) ar lefel y môr. Mae ei hawyrgylch yn cynhyrchu'r effaith tŷ gwydr cryfaf yng Nghysawd yr Haul, gan greu tymheredd o 462 °C (735 K; 462 °C; 864 °F) o leiaf.[14] Mae hyn yn gwneud arwyneb Gwener yn boethach na Mercher, sydd ag isafswm tymheredd arwyneb o −220 °C (53 K; −220 °C; −364 °F) a thymheredd arwyneb uchaf o 427 °C (700 K; 427 °C; 801 °F),[15][16] er bod Gwener bron ddwywaith pellter Mercher o'r Haul ac felly'n derbyn dim ond 25% o arbelydru solar Mercher. Oherwydd ei effaith tŷ gwydr, mae Gwener wedi'i nodi gan wyddonwyr fel Carl Sagan fel rhybudd o newid hinsawdd y Ddaear.[17]
Math | Tymheredd yr
Arwyneb |
---|---|
Uchafswm | 900 °F (482 °C) |
Arferol | 847 °F (453 °C) |
Isafswm | 820 °F (438 °C) |
Mae awyrgylch Gwener yn hynod gyfoethog mewn nwyon nobl primordaidd o'i gymharu â'r Ddaear.[19] Mae'r cyfoethogiad hwn yn dynodi dargyfeiriad cynnar o'r Ddaear.[20][21]
Awgrymodd un astudiaeth y gallai awyrgylch Venus fod wedi bod yn llawer tebycach i’r un o amgylch y Ddaear gynnar biliynau o flynyddoedd yn ôl, ac y gallai fod symiau sylweddol o ddŵr hylifol ar yr wyneb. Ar ôl cyfnod o 600 miliwn i sawl biliwn o flynyddoedd,[22] achosodd gorfodi solar i'r dŵr gwreiddiol anweddu. Crëwyd yr effaith tŷ gwydr cynyddol hwn unwaith yr ychwanegwyd lefel critical o nwyon tŷ gwydr (gan gynnwys dŵr) at ei atmosffer.[23] Er nad yw'r amodau arwyneb Gwener bellach yn groesawgar i unrhyw fywyd tebyg i'r hyn sydd ar y Ddaear, mae dyfalu ar y posibilrwydd bod bywyd yn bodoli yn haenau uchaf cymylau Gwener, 5o km fyny o'r wyneb, lle mae'r tymheredd yn amrywio rhwng 30 ac 80 gradd Canradd ond mae'r amgylchedd yn asidig.[24][25][26][27][28]
Mae inertia thermol a throsglwyddo gwres gan wyntoedd yn yr atmosffer isaf yn golygu nad yw tymheredd arwyneb Gwener yn amrywio'n sylweddol rhwng dau hemisffer y blaned, yr un sy'n wynebu'r Haul a'r un nad yw'n wynebu'r Haul, er gwaethaf cylchdro araf Gwener. Mae'r gwyntoedd ar yr wyneb yn araf, ac yn symud ychydig gilometrau yr awr, ond oherwydd dwysedd uchel yr atmosffer ar yr wyneb, maent yn cludo llwch a cherrig bach ar draws yr wyneb. Byddai hyn ar ei ben ei hun yn ei gwneud hi'n anodd i ddyn gerdded trwyddo, hyd yn oed heb y gwres, y pwysau a'r diffyg ocsigen.[29]
Uwchben yr haen drwchus o Nodyn:Chem2 ceir haen o gymylau trwchus, sy'n cynnwys asid sylffwrig yn bennaf, a ffurfiwyd o sylffwr deuocsid a dŵr trwy adwaith cemegol sy'n arwain at hydrad asid sylffwrig. Yn ogystal, mae'r atmosffer yn cynnwys tua 1% o ferric clorid.[30][31] Ymhlith y cyfansoddion posibl eraill y gronynnau cwmwl mae sylffad fferrig, alwminiwm clorid ac anhydrid ffosfforig. Mae gan gymylau ar wahanol lefelau gyfansoddiadau gwahanol a maint gronynnau gwahanol.[30] Mae'r cymylau hyn yn adlewyrchu ac yn gwasgaru tua 90% o'r golau haul sy'n disgyn arnynt yn ôl i'r gofod, ac yn atal i ni allu gweld wyneb y blaned. Er bod Gwener yn nes na'r Ddaear at yr Haul, mae'n derbyn llai o olau haul. Ceir gwyntoedd cryf 300 km / awr (190 mya) ar gopaon y cymylau sy'n mynd o amgylch Gwener bob pedwar i bum diwrnod (hy diwrnod ar y Ddaear; 24 awr).[32] Mae gwyntoedd gwener yn symud hyd at 60 gwaith cyflymdra ei gylchdro, tra bod gwyntoedd cyflymaf y Ddaear yn teithio rhwng 10-20% o gyflymder cylchdro'r Ddaear.[33]
Daearyddiaeth
golyguBu arwyneb Venusaidd yn destun dyfalu nes i rai o'i gyfrinachau gael eu datgelu gan wyddoniaeth blanedol yn yr 20g. Dychwelodd glanwyr Venera ym 1975 a 1982 ddelweddau o arwyneb wedi'i orchuddio â gwaddod a chreigiau cymharol onglog.[34] Mapiwyd yr arwyneb yn fanwl gan Magellan yn 1990–91. Ceirtystiolaeth o folcaniaeth helaeth, a gall y sylffwr yn yr atmosffer ddangos bod ffrwydradau diweddar wedi digwydd.[35][36]
Mae tua 80% o arwyneb Gwener wedi'i orchuddio gan wastadeddau folcanig llyfn, sy'n cynnwys gwastadeddau 70% gyda chribau crychiog a 10% yn wastadeddau llyfn.[37] Dau "gyfandir" ucheldir yw gweddill ei arwynebedd, y naill yn gorwedd yn hemisffer gogleddol y blaned a'r llall ychydig i'r de o'r cyhydedd. Gelwir y cyfandir gogleddol yn Ishtar Terra ar ôl Ishtar, duwies cariad Babilonaidd, ac mae tua maint Awstralia.Saif ei gopa 11 km (7 mi) yn uwch na drychiad wyneb cyfartalog Gwener.[38] Gelwir y cyfandir deheuol yn Aphrodite Terra, ar ôl duwies cariad Groeg, a hi yw'r mwyaf o'r ddau ranbarth ucheldirol tua maint De America. Mae rhwydwaith o holltau a ffawtau'n drwy'r ardal hon.[39]
Mae diffyg tystiolaeth o lif lafa yn enigma. Llond llaw o graterau trawiad sydd gan y blaned, sy'n dangos bod yr wyneb yn gymharol ifanc - tua 300-600 miliwn o flynyddoedd oed.[40] Mae gan Gwener rai nodweddion unigryw yn ogystal â'r craterau trawiad, y mynyddoedd a'r dyffrynnoedd ac yn eu plith y mae nodweddion folcanig gyda chopaon lefal o'r enw " farra", sy'n edrych braidd yn debyg i grempogau ac yn amrywio mewn maint o 20 i 50 km ar draws, ac o 100 i 1,000 metr o uchder. Ceir hefyd ffurfiau rheiddiol, o siap seren o'r enw "novae"; nodweddion gyda thoriadau rheiddiol a consentrig fel gweoedd pry cop, a elwir yn " arachnoids " ; a "coronae", cylchoedd o doriadau crwn weithiau wedi'u hamgylchynu gan bantiau. Mae'r nodweddion hyn o darddiad folcanig.[41]
Llosgfynyddiaeth
golyguMae'n ymddangos bod llawer o arwyneb Gwener wedi'i siapio gan weithgaredd folcanig. Credir fod ganddi sawl gwaith mwy o losgfynyddoedd na'r Ddaear, ac mae ganddi 167 o losgfynyddoedd mawr sydd dros 100 km (62 mi) ar draws. Yr unig gymhleth folcanig o'r maint hwn ar y Ddaear yw Ynys Fawr Hawaii.[41] Nid yw hyn oherwydd bod Gwener yn fwy actif yn folcanig na'r Ddaear, ond oherwydd bod ei gramen yn hŷn ac nad yw'n o dan yr un broses o erydu. Mae cramen gefnforol y Ddaear yn cael ei hailgylchu'n barhaus trwy ddarostwng ar ffiniau platiau tectonig, ac mae ganddi oedran cyfartalog o tua chan miliwn o flynyddoedd,[42] tra amcangyfrifir bod arwyneb Gwener yn 300–600 miliwn o flynyddoedd oed.[40][41]
Strwythur mewnol
golyguHeb ddata seismig na gwybodaeth am eiliad ei inertia (moment of inertia), ychydig o wybodaeth uniongyrchol sydd ar gael am strwythur mewnol a geocemeg Gwener. Mae'r tebygrwydd mewn maint a dwysedd rhyngddi a'r Ddaear yn awgrymu eu bod yn rhannu strwythur mewnol tebyg: craidd, mantell, a chramen. Fel un y Ddaear, mae craidd Gwener fwyaf na thebyg yn rhannol hylifol oherwydd bod y ddwy blaned wedi bod yn oeri fwy neu lai ar yr un gyfradd,[43] er na ellir diystyru craidd cwbl solet.[44] Mae maint Gwener ychydig yn llai ac yn golygu bod pwysau 24% yn is yn ei du mewn dwfn na'r Ddaear. [45] Awgrymir radiws craidd o 2,900–3,450 km,[44] sy'n unol â'r amcangyfrif cyntaf ar sail arsylwi, sef 3,500 km.[46]
Y prif wahaniaeth rhwng y ddwy blaned yw'r diffyg tystiolaeth o tectoneg platiau ar Gwener, o bosibl oherwydd bod ei gramen yn rhy gryf heb ddŵr ac yn llai gludiog. Mae hyn yn arwain at golli llai o wres o'r blaned, gan ei atal rhag oeri; gall hyn hefyd esbonio pam nad oes ganddi faes magnetig.[47][40]
Orbit a chylchdroi
golyguMae Gwener yn cylchdroi'r Haul ar bellter cyfartalog o tua 0.72 uned seryddol (108×10 6 km; 67×10 6 mi) , ac yn cwblhau orbit bob 224.7 diwrnod. Er bod yr holl orbitau planedol yn eliptig, orbit Gwener yw'r agosaf at gylch ar hyn o bryd, gydag ecsentrigrwydd o lai na 0.01.[48] Efallai fod hynodrwydd orbit Gwener wedi bod yn sylweddol fwy yn y gorffennol, gan gyrraedd gwerthoedd mor uchel â 0.31 a fyddai o bosib yn effeithio ar esblygiad cynnar yr hinsawdd.[49] Mae orbit ger cylch presennol Gwener yn golygu mai Gwener yw'r blaned agosaf at y Ddaear, gyda phellter cyfartalog o 41 miliwn cilometr.[48][50] Mae'r blaned yn cyrraedd cydgysylltiad israddol (inferior conjunction) bob 584 diwrnod, ar gyfartaledd.[48][51]
Mae'r holl blanedau yng Nghysawd yr Haul yn cylchdroi o amgylch yr Haul i gyfeiriad gwrthglocwedd fel y'i gwelir uwchben pegwn gogleddol y Ddaear. Mae'r rhan fwyaf o blanedau hefyd yn cylchdroi ar eu hechelinau i gyfeiriad gwrthglocwedd, ond mae Gwener yn cylchdroi clocwedd,l unwaith bob 243 diwrnod y Ddaear - y cylchdro arafaf o unrhyw blaned. Oherwydd hyn, mae Gwener yn agos iawn at fod yn sfferig. Felly mae diwrnod ymylol Gwener (hy sidereal day) yn para'n hirach na blwyddyn Gwener (243 yn erbyn 224.7 diwrnod y Ddaear). Mae cyhydedd Venus yn cylchdroi ar 6.52 km / awr (4.05 mya), tra bod cylchdro'r Ddaear yn 1,674.4 km / awr.[55][56][57] Oherwydd y cylchdro ôl-redol (retrograde rotation), mae hyd diwrnod solar ar Fenws yn sylweddol fyrrach na'r diwrnod ymylol, sef 116.75 diwrnod y Ddaear (gan wneud diwrnod solar Gwener yn fyrrach na 176 diwrnod (y Ddaear) Mercher — mae'r ffigur 116 diwrnod yn agos iawn at nifer cyfartalog y dyddiau y mae'n ei gymryd i Fercher lithro o dan y Ddaear yn ei orbit).[58] Mae un flwyddyn Gwener tua 1.92 dydd solar Gwener.[59] I sylwedydd ar wyneb Gwener, byddai'r Haul yn codi yn y gorllewin ac yn machlud yn y dwyrain, [59] er bod cymylau Gwener yn atal i berson ar y blaned allu gweld yr Haul yn codi.[60]
Nid oes gan Gwener loerennau naturiol.[61] Mae ganddi nifer o asteroidau trojan, sef y lled-loeren 2002 VE68[62][63] a dau drojan dros dro arall, 2001 CK32 a 2012 XE133.[64] Yn y 17g, adroddodd Giovanni Cassini iddo weld lleuad yn cylchdroi o amgylch Gwener, lloeren a enwyd yn Neith a chafwyd sawl adroddiad tebyg yn ystod y 200 mlynedd canlynol, ond roedd y mwyafrif yn bendant yn sêr yn y cyffiniau. Mae astudiaeth Alex Alemi a David Stevenson yn 2006 o fodelau o'r System Solar gynnar yn Sefydliad Technoleg California yn dangos ei bod yn debygol bod Gwener wedi cael o leiaf un lleuad a grëwyd gan ddigwyddiad impact enfawr biliynau o flynyddoedd yn ôl.[65] Tua 10 miliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ôl yr astudiaeth, cafwyd impact mawr arall a wrthdrodd cyfeiriad troelli'r blaned gan achosi i'r lleuad Venusian yn raddol i droelli i fewn, nes iddi yn y diwedd wrthdaro â Gwener.[66] Esboniad arall am y diffyg lloerennau yw effeithiau'r llanw solar cryf, a all ansefydlogi lloerennau mawr.[61]
Arsylwi
golyguI'r llygad noeth, mae Gwener yn ymddangos fel pwynt gwyn o olau yn fwy disglair nag unrhyw blaned neu seren arall (ar wahân i'r Haul, wrth gwrs).[67] Maint ymddangosiadol cymedrig y blaned yw −4.14 gyda gwyriad safonol o 0.31. Mae'r maint mwyaf disglair yn digwydd yn ystod y cyfnod cilgant tua mis cyn neu ar ôl cysylltiad israddol (inferior conjunction). Pyla goleuni Gwener i tua −3 pan gaiff ei ôl-oleuo gan yr Haul. Mae'r blaned yn ddigon llachar i'w gweld yng ngolau dydd,[68] ond mae'n haws ei gweld pan fo'r Haul yn isel ar y gorwel neu'n ystod cyfnod y machlud. Fel planed israddol, mae bob amser yn gorwedd o fewn tua 47° i'r Haul.[69]
Gan fod Gwener yn "goddiweddyd" y Ddaear bob 584 diwrnod wrth iddi orbitio'r Haul, [48] mae'n newid o fod yn "Seren yr Hwyr", sy'n weladwy ar ôl machlud haul, i fod yn "Seren y Borau", sy'n weladwy cyn codiad haul. Er bod Merher, y blaned israddol arall, yn cyrraedd uchafswm ehangiad o 28° yn unig ac yn aml yn anodd ei adnabod yn y cyfnos, mae Gwener yn hawdd i'w hadnabod pan fydd ar ei mwyaf disglair. Mae ei ymestyniad (elongation) mwyaf yn golygu ei bod yn weladwy yn yr awyr dywyll ymhell ar ôl machlud haul. Fel y gwrthrych mwyaf disglair yn yr awyr, mae hi'n cael ei chamgymryd am UFO yn aml![70]
Ei gweld yng ngolau dydd
golyguMae arsylwadau o Gwener gyda'r llygad noeth yn ystod golau dydd yn bodoli mewn sawl cofnod. Cyfrifodd y seryddwr Edmund Halley ei uchafswm disgleirdeb i'r llygad noeth yn 1716, pan oedd llawer o Lundeinwyr wedi eu dychryn gan ei ymddangosiad yn ystod y dydd. Bu'r ymerawdwr Ffrengig Napoleon Bonaparte unwaith yn dyst iddo weld y blaned yn ystod y dydd tra mewn derbyniad yn Lwcsembwrg.[71] Fe'i gwelwyd hefyd yn ystod y dydd yn ystod urddo'r arlywydd Abraham Lincoln yn Washington, DC, ar 4 Mawrth 1865.[72] Er bod rhai'n amau y gellir ei gweld gyda'r llygad noeth, fe geir cofnodion fod y gilgant hefyd i'w gweld.[73]
Arsylwi ac archwilio
golyguArsylwi cynnar
golyguOherwydd bod symudiadau Gwener yn ymddangos yn ysbeidiol (mae'n diflannu oherwydd ei agosrwydd at yr haul, am ddyddiau lawer ar y tro, ac yna'n ailymddangos ar y gorwel arall), nid oedd rhai diwylliannau'n cydnabod Gwener fel un endid unigol;[74] yn lle hynny, cymerasant ei fod yn ddwy seren ar wahân ar bob gorwel: seren y bore a seren yr hwyr.[74] Serch hynny, ceir sêl silindr o gyfnod Jemdet Nasr a thabled Gwener Ammisaduqa o'r linach Babylonaidd Gyntaf yn nodi bod y Swmeriaid hynafol eisoes yn gwybod mai'r un gwrthrych nefol oedd sêr y bore a sêr y nos.[75][74] Yn yr Hen gyfnod Babylonaidd, roedd Gwener yn cael ei hadnabod fel Ninsi'anna, ac yn ddiweddarach fel Dilbat.[76] Mae'r enw "Ninsi'anna" yn cyfieithu i "arglwyddes ddwyfol, golau'r nefoedd", sy'n cyfeirio at Gwener fel y "seren" weladwy fwyaf disglair. Ysgrifennwyd sillafiadau cynharach o'r enw gyda'r arwydd cuneiform si4 (= SU, sy'n golygu "i fod yn goch"), ac efallai mai'r ystyr gwreiddiol oedd "arglwyddes ddwyfol cochni'r nefoedd", gan gyfeirio at liw'r bore ac awyr yr hwyr.[77]
Yn hanesyddol, cyfeiriodd y Tsieineaid at Wener y bore fel "y Gwyn Mawr" ( Tàibái太白) neu "Agorwr (Cychwynnydd) Disgleirdeb" (Qǐmíng啟明), a Gwener y nos fel "Ardderchocaf Un o'r Gorllewin" (Chánggēng長庚).[78]
Archwilio
golyguY daith chwiliedydd robotig gyntaf i Gwener (ac unrhyw blaned arall o ran hynny) oedd Venera 1 o'r rhaglen ofod Sofietaidd <i>Venera</i> a lansiwyd ym 1961, er iddi golli cyswllt ar y ffordd.[79]
Y daith lwyddiannus gyntaf i Gwener (a thaith ryngblanedol lwyddiannus gyntaf y byd) i unrhyw blaned) oedd honno gan Mariner 2 o'r Unol Daleithiau, gan basio ar 14 Rhagfyr 1962 34,833 cilometr (21,644 milltir) uwch wyneb Gwener a chasglu data am atmosffer y blaned.[80]
Ar 18 Hydref 1967, hwyliodd y Venera 4 Sofietaidd yn llwyddiannus i fewn i'w hatmosffer gan lanio a chynnal arbrofion gwyddonol. Dangosodd Venera 4 fod tymheredd yr wyneb yn boethach nag yr oedd Mariner 2 wedi'i gyfrifo, sef bron i 500 °C (932 °F), penderfynwyd bod yr atmosffer yn 95% carbon deuocsid (CO2), a darganfuwydd bod awyrgylch Gwener yn llawer dwysach nag ' oedd gwyddonwyr Venera 4 wedi ei ragweld.[81] Dadansoddwyd data Venera 4 - Mariner 5 ar y cyd gan dîm gwyddonol Sofietaidd-Americanaidd dros y flwyddyn ganlynol, mewn enghraifft gynnar o gydweithredu rhwng dau bwer mawr y byd.[82]
Ym 1974, catapwltiwyd Mariner 10 gam Weneri wy a gwyrwyd ei llwybr tuag at Mercher ac ar ei thaith tynnodd ffotograffau uwchfioled o'r cymylau, gan ddatgelu cyflymder gwynt eithriadol o uchel yn yr awyrgylch. Hwn oedd y tro cyntaf i ddisgyrchiant rhyngblanedol gael ei defnyddio erioed, techneg a fyddai'n cael ei ail-ddefnyddio gan chwilwyr diweddarach, yn fwyaf nodedig Voyager 1 a 2.
Ym 1975, trosglwyddodd glanwyr Venera 9 a 10 yr Undeb Sofietaidd y delweddau cyntaf o wyneb Gwener, lluniau du a gwyn. Ym 1982 cafwyd y delweddau lliw cyntaf o'r arwyneb gyda glanwyr Venera 13 ac 14 yr Undeb Sofietaidd.
Cafodd NASA ddata ychwanegol ym 1978 gyda'r prosiect Pioneer Venus a oedd yn cynnwys dwy daith ar wahân:[83] Pioneer Venus Orbiter a Pioneer Venus Multiprobe.[84] Daeth rhaglen lwyddiannus y Sofietaidd i ben ym mis Hydref 1983, pan osodwyd Venera 15 ac 16 mewn orbit i wneud gwaith mapio manwl o 25% o dir Gwener (o begwn y gogledd i ledred 30°N).[85]
Bu sawl taith arall yn archwilio'r blaned yn y 1980au a'r 1990au, gan gynnwys Vega 1 (1985), Vega 2 (1985), Galileo (1990), Magellan (1994), Cassini-Huygens (1998), a MESSENGER (2006). Roedd pob un heblaw Magellan yn gynorthwywyr disgyrchiant. Yna, aeth Venus Express gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) i orbit o amgylch Gwener yn Ebrill 2006. Gyda saith offeryn gwyddonol, darparodd Venus Express arsylwad hirdymor digynsail o awyrgylch Venus. Daeth ESA â'r genhadaeth Venus Express i ben yn Rhagfyr 2014.[86]
Hwyliodd yr Akatsuki o Japan mewn orbit ecsentrig iawn o amgylch Gwener ers 7 Rhagfyr 2015, ac roedd yn parhau mewn orbit yn y 2020au. Ceir hefyd nifer o gynigion treiddgar sy'n cael eu paratoi gan Roscosmos, NASA, ISRO, ESA, a'r sector preifat (ee gan Rocketlab).
Symbol
golyguY symbol seryddol ar gyfer Venus yw'r un a ddefnyddir mewn bioleg ar gyfer y rhyw fenywaidd: cylch â chroes fach oddi tano.[87][88] Mae'r symbol yma hefyd yn cynrychioli benyweidd-dra, ac yn alcemi gorllewinol safai am y metal copr.[87][88] Mae copr wedi'i sgleinio wedi'i ddefnyddio ar gyfer drychau ers cyfnod yr Henfyd, a dywedir weithiau bod y symbol ar gyfer Gwener yn sefyll am ddrych y dduwies (ar siap cylch) er nad dyna ei gwir darddiad.[87][88] Yn yr Oxyrhynchus Papyri Groegaidd, nid oedd gan y symbolau a ddefnyddiwyd ar gyfer Gwener groesfar ar y llinell blwm (fertig).[89]
Bywyd
golyguGostyngodd y dyfalu ar y posibilrwydd o fywyd ar wyneb Gwener yn sylweddol ar ôl y 1960au cynnar pan ddaeth yn amlwg bod yr amodau byw'n eithafol iawn o'u cymharu â'r rhai ar y Ddaear. Mae tymheredd eithafol a gwasgedd atmosfferig y blaned yn gwneud bywyd-dŵr (fel y'i gelwir) yn annhebygol.
Yn Awst 2019, adroddodd seryddwyr dan arweiniad Yeon Joo Lee fod patrwm hirdymor o amsugnedd a newidiadau albedo yn atmosffer Gwener, a achosir gan "amsugyddion anhysbys", a all fod yn gemegau neu hyd yn oed yn gytrefi mawr o ficro-organebau yn uchel i fyny yn atmosffer y blaned, effeithio ar yr hinsawdd.[90] Mae eu hamsugnedd golau bron yn union yr un fath â micro-organebau yng nghymylau'r Ddaear. Mae astudiaethau eraill wedi dod i gasgliadau tebyg hefyd.[91]
Ym Medi 2020, cyhoeddodd tîm o seryddwyr dan arweiniad Jane Greaves o Brifysgol Caerdydd eu bod yn debygol o ganfod ffosffin, nwy nad yw’n hysbys ei fod yn cael ei gynhyrchu gan unrhyw brosesau cemegol hysbys ar wyneb neu atmosffer Gwener, yn lefelau uchaf cymylau’r blaned.[92][93][94][95][96] Un ffynhonnell arfaethedig ar gyfer y ffosffin hwn yw organebau byw.[97] Canfuwyd y ffosffin ar uchder o o leiaf 30 milltir uwchben yr wyneb, ac yn bennaf ar lledredau canolig, heb ddim wedi'i ganfod yn y pegynau. Fe wnaeth y darganfyddiad ysgogi gweinyddwr NASA, Jim Bridenstine, i alw’n gyhoeddus am ganolbwyntio adnoddau ar Gwener, gan ddisgrifio’r darganfyddiad ffosffin fel “y datblygiad mwyaf arwyddocaol eto wrth adeiladu’r achos dros fywyd y tu hwnt i'r Ddaear”.[98]
Fodd bynnag, erbyn diwedd Hydref 2020, ni ddangosodd ailddadansoddiad o'r data fod ffosffin yn bodoli.[99][100][101]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lawrence, Pete (2005). "In Search of the Venusian Shadow". Digitalsky.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 June 2012. Cyrchwyd 13 June 2012.
- ↑ Walker, John. "Viewing Venus in Broad Daylight". Fourmilab Switzerland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 March 2017. Cyrchwyd 19 April 2017.
- ↑ Castro, Joseph (3 February 2015). "What Would It Be Like to Live on Venus?". Space.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 March 2018. Cyrchwyd 15 March 2018.
- ↑ "Moons". NASA Solar System Exploration. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 October 2019. Cyrchwyd 2019-08-26.
- ↑ https://golwg.360.cymru/newyddion/2013129-awgrymiadau-bywyd-blaned-gwener , Golwg360, 14 Medi 2020.
- ↑ Hashimoto, George L.; Roos-Serote, Maarten; Sugita, Seiji; Gilmore, Martha S.; Kamp, Lucas W.; Carlson, Robert W.; Baines, Kevin H. (31 December 2008). "Felsic highland crust on Venus suggested by Galileo Near-Infrared Mapping Spectrometer data". Journal of Geophysical Research: Planets (Advancing Earth and Space Science) 113 (E5). arXiv:2. Bibcode 2008JGRE..113.0B24H. doi:10.1029/2008JE003134.
- ↑ Shiga, David (10 October 2007). "Did Venus's ancient oceans incubate life?". New Scientist. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 March 2009. Cyrchwyd 17 September 2017.
- ↑ Jakosky, Bruce M. (1999). "Atmospheres of the Terrestrial Planets". In Beatty, J. Kelly; Petersen, Carolyn Collins; Chaikin, Andrew (gol.). The New Solar System (arg. 4th). Boston: Sky Publishing. tt. 175–200. ISBN 978-0-933346-86-4. OCLC 39464951.
- ↑ "Caught in the wind from the Sun". European Space Agency. 28 November 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 August 2011. Cyrchwyd 12 July 2008.
- ↑ Greenfieldboyce, Nell (June 2, 2021). "NASA Picks Twin Missions To Visit Venus, Earth's 'Evil Twin'". NPR. Cyrchwyd 2022-04-15.
- ↑ Evans, James (1998). The History and Practice of Ancient Astronomy. Oxford University Press. tt. 296–7. ISBN 978-0-19-509539-5. Cyrchwyd 4 February 2008.
- ↑ Lopes, Rosaly M. C.; Gregg, Tracy K. P. (2004). Volcanic worlds: exploring the Solar System's volcanoes. Springer Publishing. t. 61. ISBN 978-3-540-00431-8.
- ↑ Taylor, Fredric W. (2014). "Venus: Atmosphere". In Tilman, Spohn; Breuer, Doris; Johnson, T. V. (gol.). Encyclopedia of the Solar System. Oxford: Elsevier Science & Technology. ISBN 978-0-12-415845-0. Cyrchwyd 12 January 2016.
- ↑ "Venus". Case Western Reserve University. 13 September 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 April 2012. Cyrchwyd 21 December 2011.
- ↑ Lewis, John S. (2004). Physics and Chemistry of the Solar System (arg. 2nd). Academic Press. t. 463. ISBN 978-0-12-446744-6.
- ↑ Prockter, Louise (2005). "Ice in the Solar System". Johns Hopkins APL Technical Digest 26 (2): 175–188. https://pdfs.semanticscholar.org/02cc/2fe81ee34f2c70e15c5f1d66244ef69a0e06.pdf. Adalwyd July 27, 2009.
- ↑ Newitz, Annalee (2013-12-11). "Here's Carl Sagan's original essay on the dangers of climate change". Gizmodo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 September 2021. Cyrchwyd 2021-09-03.
- ↑ "The Planet Venus". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 August 2021. Cyrchwyd 17 August 2021.
- ↑ Halliday, Alex N. (2013-03-15). "The origins of volatiles in the terrestrial planets". Geochimica et Cosmochimica Acta 105: 146–171. Bibcode 2013GeCoA.105..146H. doi:10.1016/j.gca.2012.11.015. ISSN 0016-7037. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0016703712006680. Adalwyd 14 July 2020.
- ↑ Namiki, Noriyuki; Solomon, Sean C. (1998). "Volcanic degassing of argon and helium and the history of crustal production on Venus". Journal of Geophysical Research: Planets 103 (E2): 3655–3677. Bibcode 1998JGR...103.3655N. doi:10.1029/97JE03032. ISSN 2156-2202.
- ↑ O’Rourke, Joseph G.; Korenaga, Jun (2015-11-01). "Thermal evolution of Venus with argon degassing". Icarus 260: 128–140. Bibcode 2015Icar..260..128O. doi:10.1016/j.icarus.2015.07.009. ISSN 0019-1035. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0019103515003000.
- ↑ Grinspoon, David H.; Bullock, M. A. (October 2007). "Searching for Evidence of Past Oceans on Venus". Bulletin of the American Astronomical Society 39: 540. Bibcode 2007DPS....39.6109G.
- ↑ Kasting, J. F. (1988). "Runaway and moist greenhouse atmospheres and the evolution of Earth and Venus". Icarus 74 (3): 472–494. Bibcode 1988Icar...74..472K. doi:10.1016/0019-1035(88)90116-9. PMID 11538226. https://zenodo.org/record/1253896. Adalwyd 25 June 2019.
- ↑ Mullen, Leslie (13 November 2002). "Venusian Cloud Colonies". Astrobiology Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 August 2014.
- ↑ Landis, Geoffrey A. (July 2003). "Astrobiology: The Case for Venus". Journal of the British Interplanetary Society 56 (7–8): 250–254. Bibcode 2003JBIS...56..250L. NASA/TM—2003-212310. http://gltrs.grc.nasa.gov/reports/2003/TM-2003-212310.pdf.
- ↑ Cockell, Charles S. (December 1999). "Life on Venus". Planetary and Space Science 47 (12): 1487–1501. Bibcode 1999P&SS...47.1487C. doi:10.1016/S0032-0633(99)00036-7. https://archive.org/details/sim_planetary-and-space-science_1999-12_47_12/page/1487.
- ↑ Abigail Beall (Oct 21, 2020). "More doubts cast on potential signs of life on Venus". New Scientist. https://www.newscientist.com/article/2257987-more-doubts-cast-on-potential-signs-of-life-on-venus/.
- ↑ Ignas Snellan (Dec 2020). "Re-analysis of the 267 GHz ALMA observations of Venus". Astronomy & Astrophysics 644: L2. arXiv:etal. doi:10.1051/0004-6361/202039717. https://www.aanda.org/articles/aa/full_html/2020/12/aa39717-20/aa39717-20.html.
- ↑ Moshkin, B. E.; Ekonomov, A. P.; Golovin Iu. M. (1979). "Dust on the surface of Venus". Kosmicheskie Issledovaniia (Cosmic Research) 17 (2): 280–285. Bibcode 1979CosRe..17..232M.
- ↑ 30.0 30.1 Krasnopolsky, V. A.; Parshev, V. A. (1981). "Chemical composition of the atmosphere of Venus". Nature 292 (5824): 610–613. Bibcode 1981Natur.292..610K. doi:10.1038/292610a0.
- ↑ Krasnopolsky, Vladimir A. (2006). "Chemical composition of Venus atmosphere and clouds: Some unsolved problems". Planetary and Space Science 54 (13–14): 1352–1359. Bibcode 2006P&SS...54.1352K. doi:10.1016/j.pss.2006.04.019.
- ↑ W. B. Rossow; A. D. del Genio; T. Eichler (1990). "Cloud-tracked winds from Pioneer Venus OCPP images". Journal of the Atmospheric Sciences 47 (17): 2053–2084. Bibcode 1990JAtS...47.2053R. doi:10.1175/1520-0469(1990)047<2053:CTWFVO>2.0.CO;2. ISSN 1520-0469.
- ↑ Normile, Dennis (7 May 2010). "Mission to probe Venus's curious winds and test solar sail for propulsion". Science 328 (5979): 677. Bibcode 2010Sci...328..677N. doi:10.1126/science.328.5979.677-a. PMID 20448159. https://archive.org/details/sim_science_2010-05-07_328_5979/page/677.
- ↑ Mueller, Nils (2014). "Venus Surface and Interior". In Tilman, Spohn; Breuer, Doris; Johnson, T. V. (gol.). Encyclopedia of the Solar System (arg. 3rd). Oxford: Elsevier Science & Technology. ISBN 978-0-12-415845-0. Cyrchwyd 12 January 2016.
- ↑ Esposito, Larry W. (9 March 1984). "Sulfur Dioxide: Episodic Injection Shows Evidence for Active Venus Volcanism". Science 223 (4640): 1072–1074. Bibcode 1984Sci...223.1072E. doi:10.1126/science.223.4640.1072. PMID 17830154. https://semanticscholar.org/paper/372717aecd2ffbc70aefcfe96dd1c4d921d5566f. Adalwyd 2 December 2019.
- ↑ Bullock, Mark A.; Grinspoon, David H. (March 2001). "The Recent Evolution of Climate on Venus". Icarus 150 (1): 19–37. Bibcode 2001Icar..150...19B. doi:10.1006/icar.2000.6570. http://www.boulder.swri.edu/~bullock/vclime.pdf.
- ↑ Basilevsky, Alexander T.; Head, James W. III (1995). "Global stratigraphy of Venus: Analysis of a random sample of thirty-six test areas". Earth, Moon, and Planets 66 (3): 285–336. Bibcode 1995EM&P...66..285B. doi:10.1007/BF00579467. https://archive.org/details/sim_earth-moon-and-planets_1995_66_3/page/285.
- ↑ Jones, Tom; Stofan, Ellen (2008). Planetology: Unlocking the Secrets of the Solar System. National Geographic Society. t. 74. ISBN 978-1-4262-0121-9. Cyrchwyd 20 April 2017.
- ↑ Kaufmann, W. J. (1994). Universe. New York: W. H. Freeman. t. 204. ISBN 978-0-7167-2379-0.
- ↑ 40.0 40.1 40.2 Nimmo, F.; McKenzie, D. (1998). "Volcanism and Tectonics on Venus". Annual Review of Earth and Planetary Sciences 26 (1): 23–53. Bibcode 1998AREPS..26...23N. doi:10.1146/annurev.earth.26.1.23. https://semanticscholar.org/paper/83c1d9d0f450627e40713c587d1edc6fcb400347. Adalwyd 2 December 2019.Nimmo, F.; McKenzie, D. (1998).
- ↑ 41.0 41.1 41.2 Frankel, Charles (1996). Volcanoes of the Solar System. Cambridge University Press. ISBN 978-0-521-47770-3.Frankel, Charles (1996).
- ↑ Karttunen, Hannu; Kroger, P.; Oja, H.; Poutanen, M.; Donner, K. J. (2007). Fundamental Astronomy. Springer. t. 162. ISBN 978-3-540-34143-7.
- ↑ Faure, Gunter; Mensing, Teresa M. (2007). Introduction to planetary science: the geological perspective. Springer eBook collection. Springer. t. 201. ISBN 978-1-4020-5233-0.
- ↑ 44.0 44.1 Dumoulin, C.; Tobie, G.; Verhoeven, O.; Rosenblatt, P.; Rambaux, N. (June 2017). "Tidal constraints on the interior of Venus". Journal of Geophysical Research: Planets 122 (6): 1338–1352. arXiv:1. Bibcode 2017JGRE..122.1338D. doi:10.1002/2016JE005249. https://hal.archives-ouvertes.fr/hal-02481364/file/Dumoulin17.pdf. Adalwyd 3 May 2021.
- ↑ Aitta, A. (April 2012), "Venus' internal structure, temperature and core composition", Icarus 218 (2): 967–974, Bibcode 2012Icar..218..967A, doi:10.1016/j.icarus.2012.01.007, https://www.researchgate.net/publication/256719725, adalwyd 17 January 2016.
- ↑ O'Callaghan, Jonathan (April 29, 2021). "We've measured the size of Venus's planetary core for the first time". New Scientist. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 May 2021. Cyrchwyd May 2, 2021.
- ↑ Nimmo, F. (2002). "Crustal analysis of Venus from Magellan satellite observations at Atalanta Planitia, Beta Regio, and Thetis Regio". Geology 30 (11): 987–990. Bibcode 2002Geo....30..987N. doi:10.1130/0091-7613(2002)030<0987:WDVLAM>2.0.CO;2. ISSN 0091-7613. https://semanticscholar.org/paper/16b9169785c62171d832ea4bed6f4555b2dd904d. Adalwyd 2 December 2019.
- ↑ 48.0 48.1 48.2 48.3 Williams, David R. (25 November 2020). "Venus Fact Sheet". NASA Goddard Space Flight Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 May 2018. Cyrchwyd 2021-04-15.
- ↑ Kane, S. R.; Vervoort, P.; Horner, J.; Pozuelos, P. J. (September 2020). "Could the Migration of Jupiter Have Accelerated the Atmospheric Evolution of Venus?". Planetary Science Journal 1 (2): 42–51. Bibcode 2020PSJ.....1...42K. doi:10.3847/PSJ/abae63.
- ↑ Harford, Tim (January 11, 2019). "BBC Radio 4—More or Less, Sugar, Outdoors Play and Planets". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 January 2019. Cyrchwyd 30 October 2019.
Oliver Hawkins, more or less alumnus and statistical legend, wrote some code for us, which calculated which planet was closest to the Earth on each day for the past 50 years, and then sent the results to David A. Rothery, professor of planetary geosciences at the Open University.
- ↑ "Venus Close Approaches to Earth as predicted by Solex 11". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 August 2012. Cyrchwyd 19 March 2009.
- ↑ IERS Conventions (2010), IERS, p. 19, https://www.iers.org/IERS/EN/Publications/TechnicalNotes/tn36.html, adalwyd 2021-04-16
- ↑ IERS (13 March 2021), Useful Constants, L'Observatoire de Paris, https://hpiers.obspm.fr/eop-pc/models/constants.html, adalwyd 2021-04-16
- ↑ Earl, Michael A., Rotation Speed, Canadian Astronomy, Satellite Tracking and Optical Research (CASTOR), http://www.castor2.ca/16_Calc/03_Rotation/index.html, adalwyd 2021-04-16
- ↑ The equatorial speed of Earth is given as both about 1674.4Nodyn:Nbskm/h and 1669.8Nodyn:Nbskm/h by reliable sources. The simplest way to determine the correct figure is to multiply Earth's radius of 6378137 m (WGS84) and Earth's angular speed, 7.2921150 × 10−5 rad/s,[52] yielding 465.1011 m/s = 1674.364Nodyn:Nbskm/h. The incorrect figure of 1669.8Nodyn:Nbskm/h is obtained by dividing Earth's equatorial circumference by 24Nodyn:Nbsh. But the correct speed must be relative to inertial space, so the stellar day of 86164.098903691 s/3600 = 23.934472 h (23 h 56 m 4.0989 s) must be used.[53] Thus 2π(6378.137 km)/23.934472 h = 1674.364Nodyn:Nbskm/h.[54]
- ↑ Bakich, Michael E. (2000). "Rotational velocity (equatorial)". The Cambridge Planetary Handbook. Cambridge University Press. t. 50. ISBN 978-0-521-63280-5.
- ↑ "Could Venus Be Shifting Gear?". Venus Express. European Space Agency. 10 February 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 January 2016. Cyrchwyd 7 January 2016.
- ↑ "Planetary Facts". The Planetary Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 May 2012. Cyrchwyd 20 January 2016.
- ↑ 59.0 59.1 "Space Topics: Compare the Planets". The Planetary Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 February 2006. Cyrchwyd 12 January 2016.
- ↑ Serge Brunier (2002). Solar System Voyage. Cambridge University Press. t. 40. ISBN 978-0-521-80724-1. Cyrchwyd 17 September 2017.
- ↑ 61.0 61.1 Sheppard, Scott S.; Trujillo, Chadwick A. (July 2009). "A Survey for Satellites of Venus". Icarus 202 (1): 12–16. arXiv:0906.2781. Bibcode 2009Icar..202...12S. doi:10.1016/j.icarus.2009.02.008.
- ↑ Mikkola, S.; Brasser, R.; Wiegert, P.; Innanen, K. (July 2004). "Asteroid 2002 VE68: A Quasi-Satellite of Venus". Monthly Notices of the Royal Astronomical Society 351 (3): L63. Bibcode 2004MNRAS.351L..63M. doi:10.1111/j.1365-2966.2004.07994.x.
- ↑ De la Fuente Marcos, Carlos; De la Fuente Marcos, Raúl (November 2012). "On the Dynamical Evolution of 2002 VE68". Monthly Notices of the Royal Astronomical Society 427 (1): 728–39. arXiv:1208.4444. Bibcode 2012MNRAS.427..728D. doi:10.1111/j.1365-2966.2012.21936.x.
- ↑ De la Fuente Marcos, Carlos; De la Fuente Marcos, Raúl (June 2013). "Asteroid 2012 XE133: A Transient Companion to Venus". Monthly Notices of the Royal Astronomical Society 432 (2): 886–93. arXiv:1303.3705. Bibcode 2013MNRAS.432..886D. doi:10.1093/mnras/stt454.
- ↑ Musser, George (10 October 2006). "Double Impact May Explain Why Venus Has No Moon". Scientific American. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 September 2007. Cyrchwyd 7 January 2016.
- ↑ Tytell, David (10 October 2006). "Why Doesn't Venus Have a Moon?". Sky & Telescope. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 October 2016. Cyrchwyd 7 January 2016.
- ↑ Dickinson, Terrence (1998). NightWatch: A Practical Guide to Viewing the Universe. Buffalo, NY: Firefly Books. t. 134. ISBN 978-1-55209-302-3. Cyrchwyd 12 January 2016.
- ↑ Flanders, Tony (25 February 2011). "See Venus in Broad Daylight!". Sky & Telescope. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 September 2012. Cyrchwyd 11 January 2016.
- ↑ Espenak, Fred (1996). "Venus: Twelve year planetary ephemeris, 1995–2006". NASA Reference Publication 1349. NASA/Goddard Space Flight Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 August 2000. Cyrchwyd 20 June 2006.
- ↑ "Identifying UFOs". Night Sky Network. Astronomical Society of the Pacific. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 April 2021. Cyrchwyd 2021-04-10.
- ↑ Chatfield, Chris (2010). "The Solar System with the naked eye". The Gallery of Natural Phenomena. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 June 2015. Cyrchwyd 19 April 2017.
- ↑ Gaherty, Geoff (26 March 2012). "Planet Venus Visible in Daytime Sky Today: How to See It". Space.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 April 2017. Cyrchwyd 19 April 2017.
- ↑ Goines, David Lance (18 October 1995). "Inferential Evidence for the Pre-telescopic Sighting of the Crescent Venus". Goines.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 May 2021. Cyrchwyd 19 April 2017.
- ↑ 74.0 74.1 74.2 Cooley, Jeffrey L. (2008). "Inana and Šukaletuda: A Sumerian Astral Myth". KASKAL 5: 161–172. ISSN 1971-8608. https://www.academia.edu/1247599. Adalwyd 28 December 2017.
- ↑ Sachs, A. (1974). "Babylonian Observational Astronomy". Philosophical Transactions of the Royal Society of London 276 (1257): 43–50. Bibcode 1974RSPTA.276...43S. doi:10.1098/rsta.1974.0008.
- ↑ Enn Kasak, Raul Veede.
- ↑ Heimpel, W. 1982.
- ↑ Needham, Joseph (1959). Mathematics and the Sciences of the Heavens and the Earth. Science and Civilisation in China. 3. Cambridge: Cambridge University Press. t. 398. Bibcode:1959scc3.book.....N. ISBN 978-0-521-05801-8.
- ↑ Mitchell, Don (2003). "Inventing The Interplanetary Probe". The Soviet Exploration of Venus. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 October 2018. Cyrchwyd 27 December 2007.
- ↑ Mayer, C. H.; McCullough, T. P.; Sloanaker, R. M. (January 1958). "Observations of Venus at 3.15-cm Wave Length". The Astrophysical Journal 127: 1. Bibcode 1958ApJ...127....1M. doi:10.1086/146433. https://archive.org/details/sim_astrophysical-journal_1958-01_127_1/page/1.
- ↑ Mitchell, Don (2003). "Plumbing the Atmosphere of Venus". The Soviet Exploration of Venus. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 September 2018. Cyrchwyd 27 December 2007.
- ↑ Sagdeev, Roald; Eisenhower, Susan (28 May 2008). "United States-Soviet Space Cooperation during the Cold War". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 December 2018. Cyrchwyd 19 July 2009.
- ↑ Colin, L.; Hall, C. (1977). "The Pioneer Venus Program". Space Science Reviews 20 (3): 283–306. Bibcode 1977SSRv...20..283C. doi:10.1007/BF02186467.
- ↑ Williams, David R. (6 January 2005). "Pioneer Venus Project Information". NASA/Goddard Space Flight Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 May 2019. Cyrchwyd 19 July 2009.
- ↑ Greeley, Ronald; Batson, Raymond M. (2007). Planetary Mapping. Cambridge University Press. t. 47. ISBN 978-0-521-03373-2. Cyrchwyd 19 July 2009.
- ↑ Howell, Elizabeth (December 16, 2014). "Venus Express Out Of Gas; Mission Concludes, Spacecraft On Death Watch". Universe Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 April 2021. Cyrchwyd April 22, 2021.
- ↑ 87.0 87.1 87.2 Stearn, William T. (17 August 1961). "The Male and Female Symbols of Biology". New Scientist (248): 412–413. https://books.google.com/books?id=BJ5eFU5aRecC&pg=PA413.[dolen farw]
- ↑ 88.0 88.1 88.2 Stearn, William T. (May 1968). "The Origin of the Male and Female Symbols of Biology". Taxon 11 (4): 109–113. doi:10.2307/1217734. JSTOR 1217734. https://semanticscholar.org/paper/e3c883a4194b2bffb07fd09706f7e50a3fb447bc.
- ↑ Jones, Alexander (1999). Astronomical papyri from Oxyrhynchus. tt. 62–63. ISBN 9780871692337. Cyrchwyd 27 September 2021.
- ↑ Lee, Yeon Joo; Jessup, Kandis-Lea; Perez-Hoyos, Santiago; Titov, Dmitrij V.; Lebonnois, Sebastien; Peralta, Javier; Horinouchi, Takeshi; Imamura, Takeshi et al. (26 August 2019). "Long-term Variations of Venus's 365 nm Albedo Observed by Venus Express, Akatsuki, MESSENGER, and the Hubble Space Telescope". The Astronomical Journal 158 (3): 126. arXiv:1907.09683. Bibcode 2019AJ....158..126L. doi:10.3847/1538-3881/ab3120. https://iopscience.iop.org/article/10.3847/1538-3881/ab3120. Adalwyd 4 September 2019.
- ↑ Anderson, Paul (3 September 2019). "Could microbes be affecting Venus' climate?". Earth & Sky. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 September 2019. Cyrchwyd 3 September 2019.
- ↑ Bains, William; Petkowski, Janusz J.; Seager, Sara; Ranjan, Sukrit; Sousa-Silva, Clara; Rimmer, Paul B.; Zhan, Zhuchang; Greaves, Jane S. et al. (2021). "Phosphine on Venus Cannot be Explained by Conventional Processes". Astrobiology 21 (10): 1277–1304. arXiv:2009.06499. Bibcode 2021AsBio..21.1277B. doi:10.1089/ast.2020.2352. PMID 34283644.
- ↑ Greaves, Jane S.; Richards, Anita M. S.; Bains, William; Rimmer, Paul B.; Sagawa, Hideo; Clements, David L.; Seager, Sara; Petkowski, Janusz J. et al. (14 September 2020). "Phosphine Gas in the Cloud Decks of Venus". Nature Astronomy 5 (7): 655–664. arXiv:2009.06593. Bibcode 2020NatAs.tmp..234G. doi:10.1038/s41550-020-1174-4.
- ↑ Drake, Nadia (14 September 2020). "Possible sign of life on Venus stirs up heated debate". National Geographic. National Geographic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 September 2020. Cyrchwyd 14 September 2020.
- ↑ Perkins, Sid (14 September 2020). "Curious and unexplained". Science. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 September 2020. Cyrchwyd 14 September 2020.
- ↑ Seager, Sara; Petkowski, Janusz J.; Gao, Peter; Bains, William; Bryan, Noelle C.; Ranjan, Sukrit; Greaves, Jane (14 September 2020). "The Venusian Lower Atmosphere Haze as a Depot for Desiccated Microbial Life: A Proposed Life Cycle for Persistence of the Venusian Aerial Biosphere". Astrobiology 21 (10): 1206–1223. arXiv:2009.06474. doi:10.1089/ast.2020.2244. PMID 32787733.
- ↑ Sample, Ian (14 September 2020). "Scientists find gas linked to life in atmosphere of Venus". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 February 2021. Cyrchwyd 16 September 2020.
- ↑ Kooser, Amanda (14 September 2020). "NASA chief calls for prioritizing Venus after surprise find hints at alien life". CNet. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 September 2020. Cyrchwyd 14 September 2020.
- ↑ Snellen, I. A. G.; Guzman-Ramirez, L.; Hogerheijde, M. R.; Hygate, A. P. S.; van der Tak, F. F. S. (2020), "Re-analysis of the 267 GHZ ALMA observations of Venus", Astronomy & Astrophysics 644: L2, arXiv:2010.09761, doi:10.1051/0004-6361/202039717
- ↑ Thompson, M. A. (2021), "The statistical reliability of 267-GHZ JCMT observations of Venus: No significant evidence for phosphine absorption", Monthly Notices of the Royal Astronomical Society: Letters 501: L18–L22, arXiv:2010.15188, doi:10.1093/mnrasl/slaa187
- ↑ Villanueva, Geronimo; Cordiner, Martin; Irwin, Patrick; Imke de Pater; Butler, Bryan; Gurwell, Mark; Milam, Stefanie; Nixon, Conor et al. (2021), "No evidence of phosphine in the atmosphere of Venus from independent analyses", Nature Astronomy 5 (7): 631–635, arXiv:2010.14305, Bibcode 2021NatAs...5..631V, doi:10.1038/s41550-021-01422-z
Planedau yng Nghysawd yr Haul |