Ywen
Ywen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Pinoophyta
Dosbarth: Pinopsida
Urdd: Pinales
Teulu: Taxaceae
Genws: Taxus
Rhywogaeth: T. baccata
Enw deuenwol
Taxus baccata
L.

Coeden fythwyrdd yw'r Taxus baccata (Enw Lladin) neu Ywen Gyffredin. Mae'n frodor o Ewrop, Gogledd Affrica a gogledd Iran lle mae bellach yn hynod o brin, ond sydd i'w gweld yn eitha cyffredin ym mynwentydd Cymru.

Mae'r ywen yn goeden sy'n tyfu'n araf ac yn byw i gryn oedran. Gall gyrraedd uchder o 12–20m. Ceir coed gwrywaidd a choed benywaidd, ac mae'r hedyn y tu mewn i'r aeron coch yn wenwynig. Ceir nifer sylweddol o goed yw yng Nghymru, yn bennaf mewn mynwentydd. Arferid defnyddio pren ywen ar gyfer y bwa hir. Credir fod yr ywen yn tyfu tua metr mewn canrif - o fesur o gwmpas ei bonyn.

Dosbarthiad yng ngwledydd Prydain golygu

Mae'r map ar y dde yn dangos ym mha siroedd y ceir o leiaf un ywen sydd dros 700 mlwydd oed. Po dwyllaf y lliw, y mwyaf o hen goed sydd yno e.e. ceir 45 ohonynt ym Mhowys, ac un yn unig yng Ngheredigion. Mae patrwm amlwg i'w weld, gyda Chernyw a Perth yn yr Alban yn eithriadau. Hyd yma, ni ellir dyddio'n union y coed hynaf, am nifer o resymau, ond y gred gyffredinol gan ysgolheigion yw fod yr hynaf ohonynt wedi'u plannu cyn i Gristnogaeth gyrraedd gwledydd Prydain. Cred rhai fod rhain mynd yn ôl i Oes yr Efydd.[1]

 
Map o siroedd gwledydd Prydain gan ddangos nifer y coed yw sydd dros 700 mlwydd oed, sydd yn fyw heddiw neu wedi'u cofnodi ond sydd bellach wedi diflannu neu wywo.
     >300      200-300      80-200      17-80      <17

Ceir 100 o goed dros 700 mlwydd oed yng Nghymru, hynny yw, sydd yn mesur o leiaf 7 metr, 157 yn Lloegr a 2 yn yr Alban. Yn y tabl isod gellir gweld fod 10% o'r coed a gofnodwyd bellach wedi diflannu, a'r siroedd gwaethaf yw: Morgannwg, Swydd Efrog a Swydd Warwick. O ran niferoedd, y siroedd lle collwyd yfwyaf yw Gwlad yr Haf (23) a Chain (20). Prin iawn yw'r coed hynafol yn yr Alban, ond yn eironig iawn yno, hefyd mae'r ywen mwyaf, sy'n 17.06m (56 tr) o'i chwmpas.

O ran cynefin, mae 67% (1,850) o goed yw i'w canfod mewn mynwentydd. Mae bron i 80% o'r coed yw (223) sydd wedi diflannu wedi tyfu mewn mynwentydd, sy'n awgrymu iddynt gael eu torri i lawr er mwyn cael rhagor o le i gladdu cyrff. Tair coeden yn unig a ddiflanodd o erddi neu coetiroedd nad oeddent yn gysylltiedig ag eglwysi.

Gwlad / Sir Coed byw Coed wedi diflannu Coed byw a choed wedi diflannu Canran (%) a gollwyd Hyd o'u cwmpas: 7 – 9m Hyd o'u cwmpas: > 9m Cyfanswm y coed dros 7m
Lloegr 1964 205 2169 10 122 35 157
Cymru 693 71 764 10 81 19 100
Yr Alban 103 5 108 5 1 1 2
Powys 342 16 358 5 44 8 52
Caint 218 20 238 9 19 5 24
Hampshire 236 9 245 4 20 3 23
Gwlad yr Haf 159 23 182 14 11 3 14
Sussex 109 15 124 14 11 3 14
Swydd Henffordd 124 11 135 9 10 3 13
Swydd Amwythig 142 9 151 6 9 3 12
Surrey 103 9 112 9 9 3 12
Sir Fynwy 72 13 85 18 9 3 12
Dorset 104 15 119 14 8 2 10
Dyfnaint 78 5 83 6 6 4 10
Gwynedd 34 5 39 15 5 4 9
Wiltshire 77 11 88 14 5 1 6
Ceredigon 26 4 30 15 4 2 6
Conwy 31 4 35 13 3 2 5
Swydd Gaerloyw 119 7 126 6 3 1 4
Sir Gaerfyrddin 37 6 43 16 4 4
Swydd Rydychen 37 5 42 14 3 3
Sir Forgannwg 33 9 42 27 3 3
Llundain Fwyaf 25 5 30 20 1 2 3
Cumbria 52 5 57 10 2 2
Sir Ddinbych 40 2 42 5 2 2
Berkshire 61 7 68 11 1 1
Swydd Derby 40 7 47 18 1 1
Swydd Warwick 22 6 28 27 1 1
Perth a Kinross 17 0 17 0 1 1
Swydd Buckingham 16 3 19 19 1 1
Caerwrangon 47 8 55 17 0
Swydd Stafford 35 2 37 6 0
Swydd Efrog 28 8 36 29 0
Siroedd eraill 296 32 328 11 9 2 11
CYFANSWM 2760 281 3041 10 204 55 259

Coed yw nodedig yng Nghymru golygu

Nododd Bevan-Jones yn 2002 fod cysylltiad amlwg rhwng cell y meudwy, neu seintiau cynnar â choed yw. Maint celloedd o'r fath fel arfer oedd tua 3m x 4m, a'r rheiny wedi'u gwneud o goed yn bennaf. Mae'r dystiolaeth archaeolegol ohonynt, felly'n brin iawn. Ceir sawl astudiaeth sy'n dangos fod yr eglwys o leiaf yr un oedran a'r coed yw e.e. Plwyf Dunsfold, Surrey (Chetan and Brueton, 1994).

Coed dros 800 o flynyddoedd oed golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. [1] The exceptional yew trees of England, Scotland and Wales by Andy Moir, Toby Hindson, Tim Hills and Richard Haddlesey; adalwyd 28 Hydref 2014