Silian

pentref yng Ngheredigion

Pentref yn Nyffryn Aeron, Ceredigion yw Silian, neu Sulien yn hanesyddol. Lleolir tua dwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanbedr Pont Steffan, ar lôn gefn hanner ffordd rhwng Pont Creuddun ar yr A482, a Glan Denys ar yr A485.

Silian
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1333°N 4.0833°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae hefyd yn enw ar blwyf yr ardal, a gymerir ei enw o'r un sant a cysegrwyd eglwys y pentref iddo, sef Sant Sulien.[1] Adeiladwyd Capel Bethel yn Silian ym 1654, ac adneyddwyd ym 1952.[2]

Ganwyd Julian Cayo-Evans, y Cenedlaetholwr Cymreig ac arweinydd Byddin Rhyddid Cymru, yn Silian ym 1937.[2]

Mae papur bro Llais Aeron yn gwasanethu'r ardal. Lleolir sawl llety hunan-arwyo a gwely a brecwast yn y pentref, gan ei fod wedi'i leoli yn gyfleus i ymweld ag ardal Llanbedr Pont Steffan yn ogystal â threfi Aberaeron ac Aberystwyth gerllaw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.