Llanafan Fawr

pentref a chymuned ym Mhowys

Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn ardal Brycheiniog, Powys, Cymru, yw Llanafan Fawr (ffurfiau amgen: Llanafan-fawr[1] / Llanafan-Fawr). Mae'n gorwedd tua 5 milltir i'r gorllewin o dref Llanfair-ym-Muallt.

Llanafan Fawr
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfan Buallt Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanafanfawr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1908°N 3.5102°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map
Erthygl am y pentref ym Mhowys yw hon. Am y pentref yng Ngheredigion gweler Llanafan. Gweler hefyd Afan (gwahaniaethu).

Gorwedd Llanafan Fawr ar lan afon Chwerfru, ffrwd sy'n rhedeg i lawr o lethrau'r Garn ym mryniau Elenydd i ymuno yn afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt.

Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl Sant Afan ('Afan Buallt' neu'r 'Esgob Afan', fl. 500-542). Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Afan gan fintai o Wyddelod ar gyrch ym Mrycheiniog ym 542, ar lan ffrwd yn y plwyf a elwir yn Nant Esgob.[2] Yn llan yr eglwys a gysegrir i'r sant ceir pren ywen sydd wedi sefyll yno am tua 2,000 o flynyddoedd.

Bu'r ysgolhaig a bardd Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gurad yn Llanafan Fawr ddiwedd y 1750au. Mae'r bardd Saesneg T. Harri Jones yn enedigol o'r pentref.

Dywedir bod Tafarn y Llew Coch yn y pentref yn dyddio i'r 12g, er nad yw'r adeilad ei hun yn dyddio o'r cyfnod hwnnw. Cynhelir Sioe Amaethyddol Llanafan Fawr yn flynyddol ar y trydydd Sadwrn ym mis Medi. Poblogaeth y gymuned yn 2001 oedd 475.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Eglwys Sant Afan, Llanafan Fawr
Tafarn y Llew Coch, Llanafan Fawr

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanafan Fawr (pob oed) (470)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanafan Fawr) (58)
  
12.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanafan Fawr) (262)
  
55.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanafan Fawr) (37)
  
18.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.