Extinction Rebellion

Mae Gwrthryfel Difodiant (wedi'i dalfyrru'n rhyngwladol fel XR ) yn fudiad amgylcheddol byd-eang.[1][2] Mae'n defnyddio anufudd-dod sifil, di-drais i orfodi llywodraethau'r byd i i osgoi newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth, a'r risg o gymdeithas a'r byd natur rhag methu.[3][4][5]

Extinction Rebellion
Enghraifft o'r canlynolmudiad cymdeithasol, sefydliad, llawr gwlad Edit this on Wikidata
Mathgweithredu uniongyrchol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2018 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysExtinction Rebellion Australia Edit this on Wikidata
SylfaenyddGail Bradbrook, Roger Hallam Edit this on Wikidata
Enw brodorolExtinction rebellion Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig, yr Almaen, yr Eidal, Brenhiniaeth yr Iseldiroedd, Ffrainc, Portiwgal, Sbaen, Y Swistir, Unol Daleithiau America, Denmarc, Awstralia, Seland Newydd, Canada, Brasil, Pacistan, De Affrica, yr Ariannin, Awstria, Israel, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://rebellion.earth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydlwyd Gwrthryfel Difodiant yn swyddogol yn y Lloegr ym Mai 2018, gyda thua chant o academyddion yn arwyddo galwad i weithredu i gefnogi yn Hydref 2018.[6] Ddiwedd y mis hwnnw, lansiwyd XR gan Gail Bradbrook,[7] Simon Bramwell,[8] a Roger Hallam, ynghyd ag ymgyrchwyr hinsawdd eraill o'r grŵp ymgyrchu Rising Up![9] Yn Nhachwedd 2018, cafodd pum pont ar draws Afon Tafwys yn Llundain eu blocio mewn protest.[10] Yn Ebrill 2019, meddiannodd Gwrthryfel Difodiant bum safle amlwg yng nghanol Llundain: Piccadilly Circus, Oxford Circus, Marble Arch, Pont Waterloo, a'r ardal o amgylch Sgwâr y Senedd.

Eu hysbrydoliaeth oedd mudiadau megis Occupy, y swffragetiaid,[11] a’r mudiad hawliau sifil. Roedd Gwrthryfel Difodiant eisiau raliau tebyg ledled y byd o amgylch yr ymdeimlad o frys, ac i fynd i’r afael â chwalfa hinsawdd[12] a’r chweched difodiant torfol.[13] Mae nifer o weithredwyr yn y mudiad yn derbyn y posibilrwydd o gael eu harestio a'u carcharu[14].

Mae'r mudiad yn defnyddio awrwydr arddulliedig, wedi'i gylchu, a elwir yn "symbol difodiant", i rybuddio bod amser yn prysur ddiflannu i lawer o rywogaethau.[15][16]

Placard Gwrthryfel Difodiant sy'n cynnwys ei logoteip gyda'r symbol difodiant

Sefydliad golygu

Strwythur golygu

Mae Gwrthryfel Difodiant yn fudiad llawr gwlad wedi'i ddatganoli, ac wedi'i ddatganoli.[17][18][19][20] Gall unrhyw un sy'n gweithredu ar drywydd "tair nod XR ac sy'n cadw at ei ddeg egwyddor, sy'n ddi-drais, ddatgan eu bod yn gweithreduyn enw XR."

Trefniadaeth a rol golygu

Mae gan y Gwrthryfel Difodiant strwythur datganoledig. Ar yr amod eu bod yn parchu'r 'egwyddorion a'r gwerthoedd', gall pob grŵp lleol drefnu digwyddiadau a gweithredoedd yn annibynnol. I drefnu'r mudiad, mae grwpiau lleol wedi'u strwythuro gyda 'gweithgorau' amrywiol yn gofalu am strategaeth, allgymorth (outreach), lles, ac ati. 

Ieuenctid XR golygu

Ffurfiwyd adain ieuenctid - XR Youth - o Wrthryfel Difodiant yng Ngorffennaf 2019.[21] Mewn cyferbyniad â'r prif XR, mae'n canolbwyntio ar ystyried y De Byd -eang (neu'r ''Global South") a phobloedd brodorol, ac yn ymwneud yn fwy â chyfiawnder hinsawdd.[22][23] Erbyn Hydref 2019 roedd 55 o grwpiau Ieuenctid XR yn y DU a 25 arall mewn mannau eraill. Mae pob XR Youth yn cynnwys pobl a anwyd ar ôl 1990, gydag oedran cyfartalog o 16, a rhai yn 10 oed.

 
"Datganiad Gwrthryfel" yn Sgwâr y Senedd, 31 Hydref 2018

Medi 2020 golygu

Ar 1 Medi 2020, cychwynnodd Gwrthryfel Difodiant 10 diwrnod o weithredu o’r enw Gwrthryfel yr Hydref, gyda gweithgareddau yng Nghaerdydd, Manceinion a Llundain.[24] Llwyddodd protestwyr i rwystro Sgwâr y Senedd ar y diwrnod cyntaf a mynnu bod y Senedd yn cefnogi'r Mesur Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, bil preifat a gyflwynwyd gan Caroline Lucas.[25]

Ar 2 Medi, cynhaliodd gweithredwyr yng Nghaerdydd barti traeth pell-gymdeithasol y tu allan i Senedd Cymru, i dynnu sylw at effaith lefelau'r môr yn codi.[26] Fe wnaeth eraill ludo eu hunain i adeilad BBC Cymru.[27]

Gweithredoedd Dinas Efrog Newydd golygu

 
Protest "marw i mewn" yn Neuadd y Ddinas Efrog Newydd (Unol Daleithiau), 17 Ebrill 2019

Ar 26 Ionawr 2019, ffurfiodd gweithredwyr NYC Gwrthryfel Difodiant y symbol difodiant gyda’u cyrff ar y rhew yn llawr sglefrio iâ Canolfan Rockefeller. Dringodd actifydd a hongian baner ar y cerflun Prometheus aur mawr.[28] Ar 17 Ebrill 2019, arestiwyd dros 60 o weithredwyr mewn sesiwn marw yn y strydoedd o amgylch Neuadd y Ddinas Efrog Newydd.[29] Ar 22 Mehefin 2019, arestiwyd 70 o weithredwyr am rwystro traffig y tu allan i bencadlys The New York Times yng nghanol tref Manhattan.[30] Ar 10 Awst 2019, arestiwyd dros 100 o bobl mewn gwrth-brotest drwy gau Priffordd yr Ochr Orllewinol, mewn protest ar gam-drin hawliau dynol honedig Asiantaeth Gorfodi Mewnfudo a Thollau yr Unol Daleithiau ar y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico a’i rôl mewn alltudiadau (deportations) torfol.[31]

Gogledd-orllewin y Môr Tawel golygu

Ar 28 Ebrill 2019, gwnaeth gweithredwyr di-drais rwystro trac rheilffordd gan ddod ag olew tywod tar Canada i Portland, Oregon, lle mae Zenith Energy, Ltd., cwmni rhyngwladol o Calgary, Alberta, Canada yn gweithredu terfynell allforio morol. Arestiwyd un ar ddeg o wrthdystwyr am blannu gardd ar ben y cledrau. Profwyd pump, gan gynnwys Ken Ward Jr., yn Chwefror 2020 yn llys Multnomah County, Oregon, am eu hanufudd-dod sifil.

Camau gweithredu mewn mannau eraill golygu

 
Gweithredwyr XR ar grocbren symbolaidd. Munich, yr Almaen 20 Medi 2019

Cynhaliodd Gwrthryfel Difodiant Awstralia "Ddiwrnod Datgan" ar 22 Mawrth 2019 ym Melbourne, Adelaide, Sydney, a Brisbane.

Yn yr wythnos yn dechrau 15 Ebrill 2019,[11] meddiannodd gweithredwyr XR Dŷ Cynrychiolwyr Senedd De Awstralia[32] a rhan o'r Llys Troseddol Rhyngwladol yn Yr Hâg, gan ffurfio cadwyni dynol.[33] Digwyddodd gweithredu tebyg yn Berlin, Heidelberg, Brwsel, Lausanne, Madrid,[34] Denver a Melbourne.[35] Hefyd, amharwyd ar reilffordd yn Brisbane, Awstralia.[36]

Ar 6 Rhagfyr 2019, rhwystrodd gweithredwyr Gwrthryfel Difodiant y strydoedd am 7 awr yn Washington, DC, gan alw am roi diwedd ar gyllid tanwydd ffosil Banc y Byd.[37][38]

Ar 24 Ionawr 2020, cadwynodd 25 o weithredwyr Gwrthryfel Difodiant eu hunain i reiliau llaw ym maes awyr Kastrup yn Nenmarc, mewn protest yn erbyn cynlluniau ar gyfer ei ehangu yn y dyfodol. Fe wnaethant gyhoeddi bod angen canslo ehangu'r maes awyr ar unwaith i gyrraedd niwtraliaeth hinsawdd erbyn 2025.[39][40]

Arestio fel tacteg golygu

Mae Gwrthryfel Difodiant yn defnyddio arestio torfol fel tacteg i geisio cyflawni ei nodau.[41][42] Ymchwiliodd sylfaenwyr Gwrthryfel Difodiant i hanesion "y swffragetiaid, gorymdeithwyr halen India, y mudiad hawliau sifil a mudiadau democratiaeth Gwlad Pwyl a Dwyrain yr Almaen", gan ddysgu gwersi o'r ymgyrchoedd hanesyddol hyn, er mwy eu haddasu ar gyfer yr argyfwng hinsawdd.[43] Mae'r cyd-sylfaenydd Roger Hallam wedi dweud "nid yw llythyrau, e-bostio, gorymdeithiau yn gweithio. Mae angen tua 400 o bobl arnoch chi i fynd i'r carchar. Tua dwy i dair mil o bobl i'w harestio."

Ym mhrotestiadau Llundain yn Ebrill 2019 gwnaed 1,130 arest,[44] ac yn ystod pythefnos o weithredu yn Llundain yn Hydref 2019, fel rhan o'r "Gwrthryfel Rhyngwladol", arestiwyd 1,832.[45] Roedd hyn yn cynnwys Aelod y Blaid Werdd yn Senedd Ewrop yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, Ellie Chowns, yn ogystal â chyd-arweinydd y Blaid Werdd ac Arweinydd yr wrthblaid ar Gyngor Lambeth, Jonathan Bartley.[46]

Llyfryddiaeth golygu

Lansiodd XR bapur newydd am ddim yn y DU ym mis Medi 2019, o'r enw The Hourglass. [49] Argraffwyd 110,000 o gopïau o'i argraffiad cyntaf.

Cyfeiriadau golygu

  1. Iqbal, Nosheen (6 Hydref 2019). "How Extinction Rebellion put the world on red alert". The Observer. ISSN 0029-7712. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-04. Cyrchwyd 19 Hydref 2019 – drwy www.theguardian.com.
  2. Corbett, Jessica (8 Hydref 2019). "Extinction Rebellion movement kicks off two weeks of civil disobedience around the world". Salon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-26. Cyrchwyd 15 Hydref 2019.
  3. Matthew Taylor (26 Hydref 2018). "'We have a duty to act': hundreds ready to go to jail over climate crisis". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-29. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.
  4. "A Declaration of International Non-Violent Rebellion Against the World's Governments for Criminal Inaction on the Ecological Crisis" (PDF). Extinction Rebellion. April 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 28 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 17 April 2019.
  5. "Our Demands". rebellion.earth. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-27. Cyrchwyd 16 Medi 2019.
  6. Alison Green (26 Hydref 2018). "Facts about our ecological crisis are incontrovertible. We must take action". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-16. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.
  7. Green, Matthew (2019-04-11). "Extinction Rebellion: inside the new climate resistance". www.ft.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-02. Cyrchwyd 2021-03-10.
  8. Gaffney, Adrienne (16 April 2020). "The Wild, Ambitious, Madcap Environmental Activism of Extinction Rebellion". ELLE. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-26. Cyrchwyd 15 Mawrth 2021. Extinction Rebellion began in April 2018 when a diverse group of about 15 activists met at Gail Bradbrook’s house in the Cotswolds. Bradbrook, a molecular biophysicist who’d been a part of antifracking protests and the Occupy movement, was joined by others accustomed to making splashy statements for the cause. There was her former partner Simon Bramwell, who spent several weeks in a tree in Bristol to fight a proposed bus path back in 2015 (he was unsuccessful), and Roger Hallam, an organic farmer who staged a hunger strike in 2017 to get King’s College London to divest from fossil fuel companies (the school eventually agreed).
  9. "Extinction Rebellion campaigners arrested in London". Green World. 19 Tachwedd 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-11. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2018.
  10. Matthew Taylor and Damien Gayle (17 Tachwedd 2018). "Dozens arrested after climate protest blocks five London bridges". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-03. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.
  11. 11.0 11.1 Matthew Taylor and Damien Gayle (17 Tachwedd 2018). "Dozens arrested after climate protest blocks five London bridges". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-03. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2018.Matthew Taylor and Damien Gayle (2018-11-17). "Dozens arrested after climate protest blocks five London bridges". The Guardian. Archived from the original on 2020-05-03. Retrieved 2018-11-17.
  12. Farand, Chloe (23 Tachwedd 2018). "Extinction Rebellion eyes global campaign". The Ecologist. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-11. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2018.
  13. "Arrests as Extinction Rebellion protests begin". BBC News – UK (yn Saesneg). 7 Hydref 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-07. Cyrchwyd 24 Hydref 2019.
  14. Rinvolucri, Bruno; Lamborn, Katie (22 Tachwedd 2018). "'We can't get arrested quick enough': life inside Extinction Rebellion – video". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-11. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2018.
  15. "Extinction Symbol". Extinction symbol information. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-03. Cyrchwyd 2019-04-24.
  16. Rose, Steve (16 April 2019). "How the symbol for extinction became this generation's peace sign". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-29. Cyrchwyd 2019-04-19.
  17. Hinsliff, Gaby (17 Hydref 2019). "Extinction Rebellion has built up so much goodwill. It mustn't throw that away". The Guardian. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-25. Cyrchwyd 2019-10-18 – drwy www.theguardian.com.
  18. Iqbal, Nosheen (6 Hydref 2019). "How Extinction Rebellion put the world on red alert". The Observer. ISSN 0029-7712. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-04. Cyrchwyd 19 Hydref 2019 – drwy www.theguardian.com.Iqbal, Nosheen (2019-10-06). "How Extinction Rebellion put the world on red alert". The Observer. ISSN 0029-7712. Archived from the original on 2020-01-04. Retrieved 2019-10-19 – via www.theguardian.com.
  19. Kobie, Nicole (7 Hydref 2019). "How Extinction Rebellion evolved its tactics for its London protests". Wired UK. ISSN 1357-0978. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-18. Cyrchwyd 19 Hydref 2019 – drwy www.wired.co.uk.
  20. Varghese, Sanjana (12 Hydref 2019). "Here's the secret to Extinction Rebellion's explosive growth". Wired UK. ISSN 1357-0978. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-18. Cyrchwyd 19 Hydref 2019 – drwy www.wired.co.uk.
  21. Burchill, Julie (28 Gorffennaf 2019). "The People's Front of Extinction Rebellion points to a deeper divide within the Green cause". The Telegraph. ISSN 0307-1235. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-01. Cyrchwyd 5 Hydref 2019 – drwy www.telegraph.co.uk.
  22. Gayle, Damien (4 Hydref 2019). "Does Extinction Rebellion have a race problem?". The Guardian. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-19. Cyrchwyd 5 Hydref 2019 – drwy www.theguardian.com.
  23. Murray, Jessica (19 Hydref 2019). "'Older generations can't understand': XR Youth on being heard". The Guardian. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-02. Cyrchwyd 20 Hydref 2019 – drwy www.theguardian.com.
  24. Murray, Jessica; Storer, Rhi (28 Awst 2020). "Extinction Rebellion to block streets in London, Manchester and Cardiff". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-11. Cyrchwyd 2020-09-12.
  25. "Extinction Rebellion-backed climate Bill to be heard in Parliament". Left Foot Forward. 2 Medi 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-19. Cyrchwyd 2020-09-12.
  26. Hayward, Will (2 Medi 2020). "Photos show latest Cardiff protest by Extinction Rebellion". WalesOnline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-02. Cyrchwyd 2020-09-12.
  27. "Extinction Rebellion protesters attempt to storm new BBC building in Cardiff". ITV News. 3 Medi 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-05. Cyrchwyd 2020-09-12.
  28. CeFaan Kim (26 Ionawr 2019). "Protesters climb gold statue at Rockefeller Center; 9 arrested". Eyewitness News ABC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-09. Cyrchwyd 8 Medi 2019.
  29. Brahmjot Kaur (17 April 2019). "Over 60 Climate Change Activists Arrested In NYC 'Die-In'". Gothamist. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2019. Cyrchwyd 8 Medi 2019.
  30. Emilie Ruscoe; Esha Ray (23 Mehefin 2019). "70 people arrested protesting climate change outside New York Times hq in Midtown". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-10. Cyrchwyd 8 Medi 2019.
  31. "100 People Arrested in ICE Protest on West Side Highway". NBC New York. 10 Awst 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-17. Cyrchwyd 2019-10-17.
  32. Sulda, Dixie (15 April 2019). "Climate change protesters forcibly removed from Parliament House". The Advertiser. Adelaide. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-01. Cyrchwyd 16 April 2019.
  33. Cockburn, Harry (16 April 2019). "Climate change activists who occupied International Criminal Court arrested by Dutch police". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-16. Cyrchwyd 16 April 2019.
  34. "Activistas de la organización ecologista Extinction Rebellion bloquean el acceso a la sede de Repsol en Madrid". 20minutos.es – Últimas Noticias (yn Sbaeneg). EFE. 15 April 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-06. Cyrchwyd 16 Mehefin 2019.
  35. Smith, Bill (16 April 2019). "Police detain 209 climate change protesters over London blockades". MSN. Independent Online (IOL). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-17. Cyrchwyd 17 April 2019.
  36. "Extinction Rebellion activists stop coal train in Brisbane". The Guardian. Australian Associated Press. 19 April 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-20. Cyrchwyd 20 April 2019.
  37. "No More Excuses: The World Bank Must Halt All Funding for Fossil Fuels". Common Dreams (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-06. Cyrchwyd 6 December 2019.
  38. Lang, Marissa J. (6 December 2019). "Climate change protesters block downtown D.C. streets in hours-long protest". Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 December 2019. Cyrchwyd 8 December 2019.
  39. "Billedserie: "Klimarebeller" demonstrerer mod udvidelsen af lufthavnen i Kastrup". 27 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-28. Cyrchwyd 27 Ionawr 2020.
  40. "Aktivister lænker sig fast i lufthavnen". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-27. Cyrchwyd 27 Ionawr 2020.
  41. Smoke, Ben (15 April 2019). "Extinction Rebellion protesters who want to be arrested: be careful what you wish for". The Guardian. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-21. Cyrchwyd 21 Medi 2019 – drwy www.theguardian.com.
  42. "My six months with Extinction Rebellion". BBC Three. 19 Gorffennaf 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-02. Cyrchwyd 22 Medi 2019.
  43. Monbiot, George (16 Hydref 2019). "Today, I aim to get arrested. It is the only real power climate protesters have". The Guardian. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-16. Cyrchwyd 16 Hydref 2019 – drwy www.theguardian.com.
  44. "Over 1000 Extinction Rebellion Activists Were Arrested In April – This Is What Happened To Them". Huffington Post. 7 Awst 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-19. Cyrchwyd 17 December 2019.
  45. "Extinction Rebellion plot for more protests in London over Christmas". Evening Standard. 21 Hydref 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-22. Cyrchwyd 22 Hydref 2019.
  46. "Green Party co-leader Jonathan Bartley arrested at climate protest | the Green Party". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-12. Cyrchwyd 2020-01-12.
  47. Flood, Alison (26 April 2019). "Extinction Rebellion rushes activists' handbook This Is Not a Drill into print". The Guardian. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-13. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2019 – drwy www.theguardian.com.
  48. "The Extinction Rebellion book is short on science but big on action". New Scientist. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-01. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2019.
  49. Wollaston, Sam (25 Medi 2019). "'I'm not getting much Take a Break': Extinction Rebellion's newspaper, reviewed". The Guardian. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-26. Cyrchwyd 26 Medi 2019 – drwy www.theguardian.com.