Rhestr o ddigwyddiadau gwleidyddol Cymru
(Ailgyfeiriad o Rhestr o gerrig milltir pwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru)
Rhai cerrig milltir yng ngwleidyddiaeth Cymru:
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Cyn 1800
golygu- 1283 Ffurfwyd Tŷ'r Cyffredin yn Lloegr, heb gynrychiolaeth o Gymru.
- 1542 Etholwyd 27 o Aelodau Seneddol i gynrychioli Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin.
- 1680 Syr William Williams, Aelod Seneddol Caer, yn cael ei wneud yn 'Llefarydd' Tŷ'r Cyffredin.
- 1685 Yr Aelod Seneddol cyntaf o etholaeth Gymreig yn cael ei wneud yn Llefarydd: Syr John Trefor.
- 1727 Mwyafrif o Chwigiaid yn cael eu hethol o etholaethau Cymreig.
19eg ganrif
golygu- 1841 William Edwards yn sefyll fel Siartydd dros Sir Fynwy, heb dderbyn yr un bleidlais. Dyma'r unig dro i hyn ddigwydd yng Nghymru.
- 1852 Yr Anghydffurfwyr yn dathlu llwyddiant Walter Coffin yn eu cynrychioli dros etholaeth Caerdydd. Dyma'r Anghydffurfiwr cyntaf yng Nghymru i gael ei ethol yn Aelod Seneddol.
- 1868 Am y tro cyntaf etholwyd mwyafrif o Aelodau Seneddol Rhyddfrydol o Gymru.
- 1885 Cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol cyntaf lle roedd gan y Rhyddfrydwyr ymgeisydd ym mhob etholaeth.
- 1886 Etholwyd William Abraham ('Mabon') yn Aelod Seneddol - y cyntaf yng Nghymru a oedd wedi'i fagu yn y dosbarth gweithiol.
- 1888 Ffurfiodd y Rhyddfrydwyr 'Blaid Gymreig o fewn y Llywodraeth' gan Aelodau Seneddol Rhyddfrydol.
- 1898 David Williams, y cynghorydd cyntaf yng Nghymru i sefyll dros y Blaid Lafur, yn cael ei ethol i Gyngor Tref Abertawe.
20fed ganrif
golygu- 1900 Keir Hardy - yr Aelod Seneddol Llafur cyntaf ym Mhrydain yn cael ei ethol i'r Senedd - dros Ferthyr Tudful.
- 1905 David Lloyd George yn ymuno â'r Cabinet fel Llywydd y Bwrdd Masnach.
- 1906 Nid etholwyd yr un Aelod Seneddol Toriaidd yng Nghymru; dyma'r unig dro i hyn ddigwydd.
- 1907 Is-bwyllgor Cymreig yn cael ei sefydflu i drafod materion Cytmreig.
- 1910 Dyma'r etholiad cyffredinol cyntaf lle ymladdwyd pob etholaeth.
- Y ferch gyntaf i'w hethol ar gyngor trefol: Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan ar Gyngor Aberhonddu]], hefyd y faeres gyntaf.
- 1911 'Cynghrair Rhyddid Cymru' yn cael ei sefydlu, yn bennaf gan Aelodau Seneddol Rhyddfrydol.
- 1914 E. T. John, Aelod Seneddol dros Ddwyrain Dinbych yn rhoi mesur ger bron y Senedd dros Ryddid i Gymru. Roedd yn aflwyddiannus.
- 1916 David Lloyd George yn cael ei ethol yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig; y cyntaf erioed.
- 1918 Cynrychiolwyd Prifysgol Cymru yn y Llywodraeth gan ei Aelod Seneddol ei hunan.
- 1918 Ymgeisydd seneddol benywaidd cyntaf Cymru: Mrs Millicen MacKenzie yn sefyll ar ran Prifysgol Cymru.
- 1918 Rhyddid i Gymru'n cael ei gynnwys ym Maniffesto'r Blaid Lafur.
- 1922 Aelod o'r Blaid Gomiwnyddol yn ymladd etholiad - y cyntaf drwy Brydain - a hynny yn Is-etholiad Caerffili.
- 1924 James Ramsay MacDonald, AS dros Aberafan yn cael ei ethol y Prif Weinidog Llafur cyntaf.
- 1925 Sefydlu Plaid Cymru
- 1929 Lewis Valentine yn sefyll fel ymgeisydd dros Plaid Cymru; y tro cyntaf mewn Etholiad Cyffredinol a hynny yn etholiad 1929 yn Sir Gaernarfon.
- 1929 Megan Lloyd George (merch David) yn cael ei hethol yn Aelod Seneddol Sir Fôn - y ferch gyntaf yng Nghymru.
- 1932 Plaid Cymru'n mynegi'n swyddogol mai eu nod oedd hunanlywodraeth i Gymru.
- 1944 Cynhaliwyd 'Diwrnod Cymreig', am y tro cyntaf, yn y Senedd.
- 1945 Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1945, safodd ymgeisydd yn ddiwrthwynebiad - y tro olaf i hyn ddigwydd yng Nghymru. Will Jon, Llafur, Gorllewin y Rhondda.
- 1949 Sefydlu Mudiad Gweriniaethol Cymru yng Nghaerdydd.
- 1950 Y tro cyntaf i'r Blaid Lafur ymladd pob sedd mewn etholiad cyffredinol yng Nghymru.
- 1956 Petisiwn o 250,000 o lofnodion yn cael ei gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi - yn mynnu Llywodraeth i Gymru.
- 1964 Crewyd y Swyddfa Gymreig a'r swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
- 1964 Y ferch gyntaf yn cael ei phenodi'n Aelod Seneddol o Gymru yn Weinidog yn Llywodraeth y DU (Is-Ysgrifennydd y 'Colonial Office')
- 1966 Gwynfor Evans: ymgeisydd cyntaf Plaid Cymru i gael ei ethol yn Aelod Seneddol, dros Sir Gaerfyrddin yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966.
- 1966 a 1970 Safodd wyth ymgeisydd o'r Blaid Gomiwnyddol yn y ddwy etholiad - y mwyaf erioedd i'r blaid hon.
- 1974 Aelodau Seneddol yn cael yr hawl i dyngu llw yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Gwnaeth 11 allan o 36 hynny.
- 1974 Alec Jones yn cael y mwyafrif mwyaf yn y Rhondda: 34,481 o bleidleisiau.
- 1979 Cymru'n peidio a phleidleisio dros Ddatganoli yn Refferendwm datganoli i Gymru, 1979.
- 1997 Cymru'n pleidleisio dros Ddatganoli i Gymru yn Refferendwm datganoli i Gymru, 1997.
- 1999 Sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
21ain ganrif
golygu- 2006 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn sefydlu Llywodraeth Cymru