Iddew-Almaeneg

iaith
(Ailgyfeiriad o Yiddish)

Iaith o darddiad Uchel Almaeneg yr Iddewon Ashcenasi yw Iddew-Almaeneg neu Iddeweg (ייִדיש yidish neu אידיש idish, sef "Iddewig"). Yn hanesyddol, mae nifer o enwau bod wedi arni gan gynnwys: Taytsh (Almaeneg), Yidish-taytsh (Almaeneg-Iddewig), Loshn-ashkenaz (Iaith Ashkenaz), a Zhargon (Bratiaith).[2] Fe'i siaredir heddiw gan gymunedau Iddewig ar draws y byd. Datblygodd yr iaith yng nghanolbarth Ewrop, wrth i gymunedau Iddewig fabwysiadu'r tafodieithoedd Almaeneg o'u cwmpas yn iaith bob dydd. Roedd yr Hebraeg yn parhau i fod yn iaith ddefosiynol iddynt. Cred rhai i'r cymunedau hyn symud yn wreiddiol o ardaloedd lle siaredid ieithoedd Romawns yn ne Ffrainc a gogledd yr Eidal ac mae peth dylanwad o'r ieithoedd hynny arni o hyd.[3] Ond mae damcaniaethau eraill.

Iddew-Almaeneg
Enghraifft o'r canlynoliaith, macroiaith, iaith fyw Edit this on Wikidata
Mathtafodieithau Uwch-Germanig, ieithoedd Iddewig, Germaneg Gorllewinol Edit this on Wikidata
Rhan odiwylliant Iddewig, ieithoedd di-diriogaethol Ffrainc Edit this on Wikidata
Yn cynnwysIddew-Almaeneg Ewropeaidd, Iddew-Almaeneg Israelaidd, Iddew-Almaeneg Dwyreiniol, Iddew-Almaeneg Gorllewinol, Iddew-Almaeneg Litvish Edit this on Wikidata
Enw brodorolיידיש Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 1,000,000 (2010),[1]
  •  
  • 11,000,000 (1910s)
  • cod ISO 639-1yi Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2yid Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3yid Edit this on Wikidata
    GwladwriaethAwstralia, Awstria, yr Ariannin, Belarws, Gwlad Belg, Bosnia a Hertsegofina, Brasil, y Deyrnas Unedig, Hwngari, yr Almaen, Israel, Canada, Costa Rica, Latfia, Lithwania, Mecsico, Moldofa, Yr Iseldiroedd, Panamâ, Gwlad Pwyl, Rwsia, Rwmania, Unol Daleithiau America, Wcráin, Wrwgwái, Ffrainc, Y Swistir, Sweden, Estonia, De Affrica Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuWyddor sgript Hebraeg, Yr wyddor Hebraeg Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioSefydliad Ymchwil Iddewig Yivo Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Mae dylanwad yr Hebraeg a'r Aramaeg arni yn amlwg o'r wyddor Hebraeg a ddefnyddir i'w hysgrifennu yn ogystal â chyfran helaeth o eirfa'r iaith. Wrth i'r cymunedau hyn symud i ddwyrain Ewrop, bu'r ieithoedd Slafonaidd yn ddylanwad arni hefyd. [4][5] Amcangyfrifir bod tua 70% o'r eirfa yn Almaenig, 25% yn dod o Hebraeg-Aramaeg (לשון קדש trawslyth. 'loshn koydesh', cyf. 'yr iaith sanctaidd'), a 5% yn dod o'r ieithoedd Slafonaidd, ac ychydig iawn o'r ieithoedd Romawns.[6]

    Fe'i hysgrifennir yn yr wyddor Hebraeg gyda rhai addasiadau. Daeth y dull cyfoes o ysgrifennu'r iaith i arfer tua 1900 ond cyflwynwyd nifer o ddiwygiadau yn ystod cyfnod y Rhyfel byd Cyntaf. Ym 1937,sefydlodd Sefydliad Ymchwil Iddewig (YIVO) y rheolau a ystyrir yn safonol. Dyna a ddefnyddir i ysgrifennu'r rhan fwyaf o bapurau newydd, cylchgronau a llyfrau seciwlar, yn ogystal â chyrsiau iaith mewn prifysgolion a lleoedd eraill. Ond mae'r wasg a chyhoeddwyr Hasidig yn tueddu i gadw at orgraff sy'n drwm o dan ddylanwad yr Almaeneg ac a oedd yn gyffredin yn niwedd y 19g. a dechrau'r 20g. Dyna'r orgraff a hyrwyddwyd gan y Maskilim (Iddewon yr Oleuedigaeth). Mae YIVO hefyd wedi datblygu ffordd safonol o ysgrifennu'r iaith mewn llythrennau Lladin.[7]

    Hanes yr Iaith

    golygu

    Daw'r enghraifft gynharaf o Iddeweg ysgrifenedig o 1272, sef brawddeg mewn llyfr gweddi. Dyma'r frawddeg:

    גוּט טַק אִים בְּטַגְֿא שְ וַיר דִּיש מַחֲזוֹר אִין בֵּיתֿ הַכְּנֶסֶתֿ טְרַגְֿא

    gut tak im betage se vaer dis makhazor in beis hakneses trage

    Boed dydd da i'r sawl a ddwg y llyfr gweddi hwn i'r synagog.

    Daw'r geiriau makhazor (llyfr gweddi) a beis hakneses (synagog) o'r Hebraeg. Daw'r gweddill o'r Almaeneg.

    Datblygodd corff cyfoethog o ysgrifennu mewn Iddeweg yn yn ystod yr Oesoedd Canol, gan gynnwys cyfieithiadau o'r Beibl Iddewig, ac esboniaduron Beiblaidd, barddoniaeth, damhegion, chwedlau, addasiadau o chwedlau arwrol Ewropeaidd, testunau meddygol, a rhagor.

    Yn ystod y 19g. fe ddatblygodd yn iaith lenyddol fodern yr ysgrifennwyd toreth o waith ynddi, yn nofelau, straeon byrion a straeon byrion hirion, yn ogystal â dramâu, llyfrau ffeithiol, a gwasg ffyniannus. Y tri awdur mwyaf amlwg o'r cyfnod hwnnw oedd: Mendele Moykher Sforim, Sholem Aleichem ac Y.L.Peretz. Dyna oedd sylfaen ddiwylliannol awduron diweddarach fel Isaac Bashevis Singer a enillodd y Wobr Nobel am Lenyddiaeth ym 1978.

     
    Poster mewn Iddeweg o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Unol Daleithiau America yn erbyn gwastraff bwyd. "Bydd bwyd yn ennill y rhyfel!" yw'r geiriau cyntaf.

    Ar drothwy'r Ail Ryfel Byd, siaredid Iddeweg gan 11-13 miliwn o bobl, tua 75-80% o holl Iddewon y byd. Ond bu gostyngiad mawr yn nifer ei siaradwyr ers hynny, o ganlyniad i'r Holocost, mewnfudo i'r Unol Daleithiau, gorllewin Ewrop ac Israel, a gormes Stalinaidd yn yr Undeb Sofietaidd. Erbyn hyn amcangyfrifir bod rhyw 1-2 miliwn o siaradwyr. Fe'i siaredir heddiw gan ddau brif grŵp. Y grŵp mwyaf yw'r cymunedau Haredi (Uwch-Uniongred), Hasidig gan mwyaf, lle mae'n iaith fyw bob dydd ac yn cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae llawer o'r cymunedau hyn yn Brooklyn, Antwerpen, Stamford Hill (Llundain), maestref Bnei Brak yn Tel Aviv a chymdogaeth Meah Shearim yn Jerwsalem. Yr ail grŵp, sy'n llai, yw'r Iddewon hynny nad ydynt yn perthyn i'r cymunedau Haredi, o bob math o gefndir, a ddysgodd yr iaith fel iaith gyntaf naill ai yn nwyrain Ewrop neu yn y cymunedau o fewnfudwyr ar draws y byd (yn Israel, gogledd a de America, gorllewin Ewrop, de Affrica, ac Awstralia). Nhw yw etifeddion y blodeuo diwylliannol seciwlar a fu ar ddiwedd y 19g. a dechrau'r 20g. Ond maent yn tueddu i fyw ar wasgar a heb fod mewn cymunedau agos ac maent yn llai tebygol o drosglwyddo'r iaith i'w plant. Ond mae peth diddordeb ymhlith disgynyddion y grŵp hwn i ailddarganfod eu hetifeddiaeth.[8] Yn 2021 lawnsiodd Duolingo gwrs mewn Iddeweg.[9][10]Adeilad synagog Beth Hamedrash a Talmud Torah yn Merches Place, Saltmead (gogledd Grangetown, Caerdydd) sydd bellach yn eglwys Ben

    Iddeweg ym Mhalesteina

    golygu

    Mae tystiolaeth bod Iddeweg wedi cael ei siarad ym Mhalesteina yn y 16g. gan Iddewon o Ewrop oedd wedi ymfudo yno. Mae darn o lythyr Iddeweg a glawr gan fam at ei mab yng Nghairo ym 1567. Mae hi'n dweud wrtho y dylai ddod yn ôl i Jerwsalem achos bod digon o waith yno ac gofyn pam nad yw'n ysgrifennu ati yn amlach. Cyfran fach o'r gymuned fach o Iddewon oedd yn byw ym Mhalesteina oedd y siaradwyr hyn. Bydden nhw'n siarad Iddeweg o fewn y gymuned Ashkenazi ond rhyw ffurf ar Hebraeg ag Iddewon eraill. Ond mae'n amlwg i Arabeg y boblogaeth fwyafrifol effeithio ar natur yr Iddeweg a siaredid yno. Benthyciwyd geiriau ac ymadroddion Arabeg gan Iddeweg Palesteina megis "Allah karim" ("Mae Duw yn hael") a'i atodi wrth yr ymadrodd Iddeweg " Got vet helfen" ("Bydd Duw yn helpu) i greu'r ymadrodd cyfansawdd: "Allah karim, got vet helfen!". Benthyciwyd geiriau Twrceg hefyd fel "kalabalık" ("torf") e.e. yr ymadrodd "es iz a gantzer kalbelik" ("mae torf o bobl yno").[11]

     
    Grŵp o siaradwyr Iddeweg a glwyfwyd mewn ymosodiad gan "benboethion Hebraeg" yn Tel Aviv 1928

    Yn y 19g. ar ôl i Iddewon o Ewrop ddechrau ymfudo i Balesteina fel rhan o'r mudiad Seionaidd, bu'n rhaid i'r Iddeweg gystadlu â'r Hebraeg newydd oedd yn cael ei hyrwyddo gan y mudiad. Roedd pwyslais Seioniaeth ar greu diwylliant Hebreig newydd oedd yn torri cysylltiad â hen fyd y Diaspora drwy gyfrwng yr iaith Hebraeg. Gwrthgyferbynnwyd diwylliant cryf, cyhyrog, annibynnol yr Hebreaid newydd â hen fyd Iddewon gwan, dirmygedig, dibynnol y Diaspora. Roedd hyn wedi ychwanegu at yr agwedd negyddol a oedd gan rai o siaradwyr yr Iddeweg eisoes at eu hiaith eu hunain gan arwain iddynt gefnu ar yr iaith a mabwysiadu'r Hebraeg oedd wrthi'n cael ei hadfywio'n iaith genedlaethol. Er hynny, roedd carfan o siaradwyr Iddeweg ym Mhalesteina oedd yn glynu wrth yr iaith ac yn ei meithrin yno. Bu rhai Seionwyr pybyr dros hybu'r Hebraeg (fel Gedud Meginei haSafa, "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith) yn ymgyrchu yn erbyn yr Iddeweg (ac ieithoedd eraill) drwy bropaganda, gwrthdystiadau a thrais hyd yn oed. Yn ôl Eddy Portnoy, Ymgynghorydd Uwch a Chyfarwyddwr Arddangosfeydd YIVO: [12]

    “Yiddish could be heard in the streets of Jerusalem, Tsfat, and Tiberias long before Zionism was even a twinkle in Theodor Herzl’s eye.”

    Flwyddyn ar ôl sefydlu Gwladwriaeth Israel yn 1948, gwaharddodd y llywodraeth theatr a chyfnodolion Iddeweg (ac eithrio cylchgrawn llenyddol y bardd Avrom Sutkever Di goldene kayt. Codwyd y gwaharddiad yn ddiweddarach ond roedd y neges eisoes wedi cael ei hanfon.[13]

     
    Halutzim (arloeswyr) o Turobin, Gwlad Pwyl, cyn yr Ail Ryfel Byd.

    Nid oedd siaradwyr Iddeweg yr hen Yishuv (y gymuned Iddewig ym Mhalesteina) bob amser yn croesawu'r mewnfudwyr Seionaidd newydd. Roedd ffordd o fyw'r newydd-ddyfodiaid seciwlar hyn, yn byw trwy'r trwch yn eu kibbutzim, yn gwisgo dillad crand, ac yn defnyddio'r Hebraeg fel iaith sathredig, yn hollol groes i'w gwerthoedd. Er mwyn tynnu gwahaniaeth rhyngddynt â'r newydd-ddyfodiaid byddent yn defnyddio gair Arabeg wrth siarad Iddeweg, sef "baladi" ("wedi ei eni yn y wlad") o'r gair Arabeg "balad" ("gwlad") e.e. "Er iz a baladi" ("Mae e'n un ohonon ni"). Y gair Hebraeg "khalutz" ("arloeswr") fyddai eu gair nhw amdanyn "nhw".[11] Roedd yr ymwneud rhwng y gymuned Iddeweg ym Mhalesteina a thrigolion Arabaidd y wlad yn mynd y ddwy ffordd. Byddai rhai Arabiaid yn dysgu rhywfaint o Iddeweg at ddibenion masnach. Roedd llawer o Balesteiniaid Arabeg Tel Aviv-Jaffa wedi cael eu gyrru fel ffoaduriaid i Lain Gaza yn sgil Rhyfel Palesteina 1948. Roedd rhai ohonynt wedi dysgu Iddeweg er mwyn ymwneud ag Iddewon y "ddinas Hebraeg gyntaf". Mae hanesion bod milwyr Lluoedd Amddiffyn Israel wedi synnu bod Palesteiniaid Gaza yn eu cyfarch mewn Iddeweg pan feddianasant y diriogaeth ym 1967.[14]

     
    Monopoli Iddeweg "Hendel Erlikh"

    Yn groes i'r disgwyl, mae'r Iddeweg yn dal i gael ei siarad yn Israel, yn enwedig gan y cymunedau Haredi, ond hefyd i ryw raddau gan bobl oedd wedi goroesi'r Holocost a'u disgynyddion. Daeth ton newydd o siaradwyr Iddeweg o Rwsia yn yr 1980au. Nid oes statws swyddogol i'r iaith gan Wladwriaeth Israel, ond awdurdodwyd sefydlu Awdurdod Cenedlaethol Diwylliant Iddeweg drwy benderfyniad gan senedd Israel ym 1996. [11][15]

    Iddeweg yng Nghymru

    golygu

    Iddeweg a Chyfrifiadau 1891, 1901 a 1911

    golygu

    Gwyddys fod Iddewon oedd yn siarad Iddeweg wedi ymsefydlu yn Nghymru ar sail tystiolaeth mewn Cyfrifiadau o 1891 ymlaen.[16] Mae dros 400 o gofnodion o Gyfrifiad 1911 yn nodi Iddeweg fel un o'r ieithoedd a siaredid gan unigolion yng Nghymru, fel arfer ar y cyd â Saesneg, ond weithiau yn achos pobl hŷn, Iddeweg yn unig. Bu'r rhan fwyaf yn byw yn y de, ond roedd unigolion ym Mangor, y Rhyl, Penfro ac Aberystwyth. Diben y cwestiwn iaith yng Nghyfrifiad 1911 yng Nghymru oedd gofyn am nifer siaradwyr y Gymraeg - y dewis oedd 'Cymraeg', 'Saesneg' neu ' Y Ddwy'. Felly, roedd yr wybodaeth am Iddeweg, neu unrhyw iaith arall ar wahân i'r Gymraeg a'r Saesneg, yn wybodaeth wirfoddol, ychwanegol. Mae rhai o'r bobl a nododd Saesneg ac Iddeweg ym 1911, yn nodi Saesneg yn unig yn y cyfrifiad blaenorol ym 1901. Nid yw'n debygol bod y rhain wedi dysgu'r Iddeweg yn ystod y ddeng mlynedd rhwng y ddau gyfrifiad, dim ond bod y cofnodi wedi bod yn wahanol. Cofnodwyd ym 19011 fod dau Iddew o'r Ymerodraeth Rwsiaidd (Bennett Levenson Lewis a John George Levenson) yn Aberystwyth yn medru'r Gymraeg, y Saesneg a'r Iddeweg. Ond yn Nghyfrifiad 1901, a hwythau'n byw yn Llangeitho, dim ond Saesneg oedd yr iaith a gofnodwyd ar eu cyfer. Yng Nghyfrifiad 1891, cofnodwyd bod pump o o bobl yn siarad Saesneg a Hebraeg ym Mlaenau, Sir Fynwy.[17] Iddewon o Rwsia oedd y rhain. Ac roedd yna bâr priod yng Nghaerdydd, Iddewon o Rwsia, yn cael eu cofnodi fel siaradwyr Saesneg a Hebraeg ym 1891.[18] Er nad yw'n amhosibl bod gan y rhain wybodaeth o'r Hebraeg, byddai'n anodd credu nad oedd yr Iddewon hyn o Rwsia yn gallu siarad Iddeweg. Yn aml iawn, "Jewish" yn hytrach na "Yiddish" oedd yr enw a nodwyd ar gyfer yr iaith yng Nghyfrifiad 1911, ac roedd hyn yn arfer digon cyffredin ym Mhrydain tua chanol y 19g.[19] Mewn Rwsieg yn y 19g. defnyddiwyd yr ymadrodd "еврейский язык" ("yevreyskiy yazik", "iaith Hebreig neu Iddewig") ar gyfer Iddeweg ac yn ddiweddarach "новоеврейский" ("novoyevreysky", "Hebreig neu Iddewig newydd"), ac yn y diwedd "еврейский" ("Hebreig neu Iddewig") yn unig gan alw Hebraeg yn "древнееврейский" ("drevneyevreyskiy", Hen Hebreig neu Iddewig).[19] Tybed a oedd dryswch wedi codi ymhlith cyfrifwyr 1891 wrth geisio dynodi pa iaith heblaw Saesneg roedd yr Iddewon hyn o Rwsia yn ei siarad?

     
    Adeilad synagog Beth Hamedrash a Talmud Torah, Saltmead
     
    Synagog Ffordd y Gadeirlan, Caerdydd

    Iddeweg a synagogau Caerdydd

    golygu

    Yn 1899 roedd cymdeithas o ddynion Iddewig ifainc yn ffynnu yng Nghaerdydd. Iddeweg oedd prif iaith gweithgareddau'r gymdeithas ond byddai rhywfaint o Saesneg yn cael ei defnyddio hefyd.[20] Roedd grŵp o ffoaduriaid Iddewig o Rwsia a rhannau eraill o ddwyrain Ewrop oedd yn siarad Iddeweg ac oedd yn byw yn ardal Saltmead (gogledd Grangetown) Caerdydd wedi sefydlu cynulleidfa oedd yn cwrdd mewn llofft oddi ar Tudor Road (Riverside). Byddai plant yn cael addysg grefyddol yno cyn mynd i'r ysgol yn y bore a byddai dynion yn medru cael addysg yno gyda'r nos. Erbyn 1899 roedd y llofft wedi ei chondemnio, ac roedd cynlluniau ar ar droed i gael cartref newydd pwrpasol mewn synagog a godwyd yn Merches Place yn Saltmead. Roedd gŵr o'r enw Charles Abrahamson o Clive Street yn ne Grangetown yn gadeirydd ar arweinwyr y gymuned a hwy oedd yn chwilio am roddion ac arian i godi'r synagog newydd. Y gobaith oedd y byddai'n gallu helpu gyda'r gwaith o fwydo a dilladu Iddewon ifainc a thlawd Caerdydd yn ogystal â bod yn addoldy ac yn fan astudio.[21] Agorwyd y synagog (Beth Hamedrash and Talmud Torah of Cardiff) ar 18 Ebrill 1900. Diben y gynulleidfa hon oedd darparu ar gyfer "Iddewon estron" a fyddai yng Nghaerdydd dros dro neu'n barhaol.[22] Roedd cynulleidfaoedd Iddewig eraill yng Nghaerdydd oedd yn hŷn, e.e. y synagog ar Ffordd y Gadeirlan, ond erbyn diwedd y 19g. eu tuedd oedd mynd yn gynulleidfaoedd mwy Saesneg o ran iaith ac yn fwy Prydeinig o ran ymarweddiad. Byddai'r synagog newydd hwn yn fwy cydnaws â dull mwy tanbaid o addoli oedd yn gyffredin yn nwyrain Ewrop a lle byddai Iddeweg yn fwy o iaith gyffredin.[23] Er hynny, ar Yom Kippur 1899, cafwyd pregeth mewn Iddeweg yn synagog Ffordd y Gadeirlan yn y prynhawn er budd y "foreign element" yn y gynulleidfa gan Mr Wolfer. Bu'r pregethau eraill yn Saesneg. Nodwyd bod hyn yn beth newydd ond oherwydd y croeso a gafodd y byddai'n debygol o ddigwydd eto.[24]

    Bu'r Iddeweg yn destun ffrae mewn angladd Iddewig yng Nghaerdydd ar 5 Ionawr 1902. Bu'r ffrae yn un rhwng dwy gynulleidfa Iddewig wahanol yng Nghaerdydd, sef y synagog ar Ffordd y Gadeirlan a'r gynulleidfa Iddeweg oedd wedi bod yn cwrdd yn Tudor Road ac yna yn Merches Place. Ar ddiwedd yr angladd gofynnodd Asher Epstein am ganiatâd i rywun ddweud gair mewn Iddeweg gan mai dyna oedd iaith y mwyafrif oedd yn bresennol, ond fe wrthododd y rabbi o synagog Ffordd y Gadeirlan oedd yn gweinyddu.. Dyna oedd achos yr "ymddygiad treisgar" honedig a ddug Charles Abrahamson, Joshua Abrahamson, ac Asher Epstein i achos llys yn Llandaf.[25][26]

     
    Dannie Abse

    Trosglwyddo'r Iddeweg o fewn teuluoedd yng Nghymru

    golygu

    Saesneg yn hytrach na'r Gymraeg fyddai ail iaith y siaradwyr Iddeweg hyn, er bod rhai wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg i'w defnyddio gyda gweision neu gwsmeriaid. Yn raddol, byddent yn colli eu Hiddeweg ac yn mabwysiadu'r Saesneg fel eu prif iaith. Byddai'r Saesneg yn cael mwy o le yng ngwasanaethau'r synagogau hefyd.[27] Nododd Nay Joseph nad oedd ei rieni ond yn gallu siarad Iddeweg, a phrin dim Saesneg, pan gyraeddasant Bryn-mawr ar droad yr 20g. Ac yn ôl Harry Cohen nid oedd yr un o'r mewnfudwyr Iddewig cynnar ym Mhontypridd yn gallu siarad Saesneg. Bu'n rhaid iddynt gyfathrebu mewn Rwsieg neu Iddeweg. Ond mae Dannie Abse yn cofio bod ei dad-cu a'i fam-gu, oedd yn byw yn Ystalyfera, ar droad y 20g. wedi dysgu siarad Cymraeg gydag acen Iddeweg drom. Credai lawer yn yr ardal eu bod yn Gymry o'r Wladfa ar sail eu hacen.[28] Mae Leo Abse yntau yn cofio na fedrai ei fam-gu siarad unrhyw beth ond Iddeweg. Medrai ei dad-cu siarad Saesneg yn weddol, ond gydag acen drom. Iddeweg y byddai'r ddau yn siarad gyda'i gilydd. Yn ei gartref ef byddent yn siarad Saesneg yn bennaf, rhywfaint o Gymraeg, ond Iddeweg y byddai ei rieni yn siarad er mwyn cadw cyfrinachau rhag y plant.[29]

    Iddeweg yn llysoedd Cymru

    golygu

    Mae'n amlwg bod peth gelyniaeth tuag at y mewnfudwyr Iddewig o ddwyrain Ewrop ym Mhrydain gan gynnwys Cymru. Mynegir hyn yn aml drwy gyfeiriadau negyddol at eu hiaith, sef Iddeweg, sydd weithiau yn destun sbort neu ddirmyg. "You must speak English if you want me to understand you. I wish I understood Yiddish, but I don't" oedd geiriau barnwr i achwynydd o Iddew mewn achos llys yng Nghaerdydd yn 1899, ac fe fu chwerthin yn sgil geiriau hyn.[30] Mewn achos llys yn Nhreffynnon ym 1900 rhwng dau barti o Iddewon o Wlad Pwyl oedd yn byw ym Maes-glas, roedd un tyst yn methu siarad gair o Saesneg. Roedd un o'r cyfreithwyr wedi ei helpu i dyngu'r llw mewn Iddeweg ac roedd cydwladwr iddi wedi cyfieithu ei thystiolaeth o'r Iddeweg i Saesneg.[31] Mewn achos llys ym Mhont-y-pŵl, yn 1902, cododd Iddew o'r enw Issac S. Marks, achos yn erbyn glöwr o Dal-y-Waun o'r enw James Williams, am yr honnodd Marks nad oedd Williams wedi talu am nwyddau a gafwyd gan Marks. Gofynnodd y barnwr am gael gweld llyfrau cyfrifon Marks. Rhoddodd Marks ei lyfr poced iddo:

    His Honour: No, no, I don't want that dirty little book. Where's your trading ledger ?

    Plaintiff: It's written in Yiddish.

    His Honour: Well, I can't read Yiddish. With all due respect, I don't like the way you people of other nationalities have. It is not honest to keep books in Yiddish and then come into English courts to sue people.[32]

    Yn 1902, rhoddodd tyst (Levi Chinn) ei dystiolaeth mewn Iddeweg mewn achos llys yn Aberpennar.[33] Mewn achos arall yn 1902, yn Aberdâr y tro hwn, bu Iddew uniaith Iddewig yn ceisio cael cyflog yr honnodd ei fod yn ddyledus iddo. Daethpwyd o hyd i gyfieithydd iddo, ond sylwodd y barnwr (Gwilym Williams) fod yr achwynydd wedi defnyddio'r gair Saesneg "business" yn ei Iddeweg. Ymateb y barnwr i hynny oedd:

    Ah! I believe I have heard that word before in English. I suppose you are like some Welshmen of the Dic-Sion-Dafydd type.[34]

    Mewn achos yng Nghaerdydd ym 1904 rhwng dau barti o Iddewon o Wlad Pwyl oedd yn siarad "the mysterious lingo called Yiddish", ceisiodd yr adroddiad wneud hwyl am ben eu ffordd o siarad Saesneg, fel yn y darn canlynol:

    Prisoner (intervening): May I make ezpleekashion? I can't speak de propar Ingleesh, but I make understand vot he say.

    Complainant: He speak very propar Ingleesh

    Prisoner: I speak all right, but not propar.[35]

    Gohiriwyd achos llys rhwng dau Iddew yn Abertawe yn 1906 am nad oedd neb i gyfieithu o'r Iddeweg ar gael.[36] Cafodd diffinydd (Louis Pulin) mewn achos ym 1910 wasanaeth cyfieithu rhwng Saesneg ac Iddeweg, er honnwyd ei fod yn gallu sgwrsio yn ddigon rhugl yn Saesneg.[37] Ar y llaw arall, bu rhai siaradwyr Iddeweg yn defnyddio eu Saesneg bratiog er mwyn difyrru eraill, fel y ddau gomedïwr Jordan a Harvey a berfformiodd yn y Cardiff Empire ym 1907. Eu hymdrechion i siarad Saesneg bratiog â'i gilydd oedd craidd eu hact.[38]

    Deddf Estroniaid 1905

    golygu

    Ym 1905 pasiwyd Deddf Estroniaid (Aliens Act) 1905 er mwyn rhwystro "estroniaid annymunol" rhag dod i Brydain. Er na ddywedir hynny yn blaen yn y Ddeddf, ei bwriad oedd rhwystro mewnfudwyr Iddewig o ddwyrain Ewrop rhag dod.[39] Sefydlodd y Ddeddf honno fyrddau mewnfudo i roi'r Ddeddf ar waith. Ym 1906 fe wnaeth cynrychiolwyr o gymunedau Iddewig Caerdydd gais i Bwyllgor Seneddol Caerdydd i ofyn i'r Ysgrifennydd Cartref am y pŵer i ychwanegu Iddew at y Bwrdd Mewnfudo Estroniaid er budd yr estroniaid hynny nad oeddent ond yn gallu siarad Iddeweg.[40]

    Ym 1907 apeliodd yr actor Leon Berger, o Rwmania yn wreiddiol, yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Mewnfudo Estroniaid. Roedd wedi dod gyda'i wraig o Berlin. Roedd wedi llofnodi papur i ddweud bod ganddo £6, ond mewn gwirionedd dim ond 7s 6d oedd gydag ef. Esboniodd ei fod wedi llofnodi'r papur am fod swyddogion y llong wedi dweud na châi docyn oni bai ei fod yn llofnodi. Er mwyn profi ei fod yn gallu ei gynnal ei hun yn gyfreithlon, cyflwynodd bosteri a ddangosodd ei fod wedi actio mewn Iddeweg yn Abertawe, Merthyr Tudful a dwyrain Llundain.[41][42] Fe gafodd ef a'i wraig aros. Awgryma hyn fod digon o siaradwyr Iddeweg yn Abertawe a Merthyr i wneud perfformiad mewn Iddeweg yn chwerth chweil.

    Ni fu hen wraig 75 oed mor ffodus gerbron Bwrdd Mewnfudo Estroniaid yng Nghaerdydd ym 1908. Roedd wedi dod i weld ei mab oedd yn byw ger Caerdydd. Roedd e'n briod gyda dau o blant, yn ennill 25s yr wythnos ac yn ddyn digon parchus. Ond am ei bod hi'n dioddef o tracoma, ac y gallai drosglwyddo'r afiechyd i'r plant, gwrthododd y Bwrdd ganiatâd iddi aros yn y wlad. Adroddwyd iddi bledio mewn Iddeweg "Byddwch yn drugarog wrthyf, ac anfonwch fi at fy mhlant", ond yn ofer.[43]

    Enghraifft o "annymunoldeb" honedig y mewnfudwyr Iddewig oedd y defnydd o'u hiaith i regu pobl. Mewn achos yng Nghaerdydd yn 1909, cyhuddwyd Polly Yumovitch o Sussex Street, Saltmead (gogledd Grangetown) o regu Mrs Fanny Davidovitch mewn Iddeweg.[44] Mewn achos llys arall yng Nghaerdydd yn 1910 pan gyhuddwyd dau ddyn ifanc o ddwyn esgidiau o stondin Iddew o'r enw Nathan Bloomberg yn yr Aes, gwadodd Nathan Bloomberg iddo regu'r ddau'r ddyn ifanc mewn Iddeweg mewn ymgais i brofi nad oedd wedi pryfocio'r ddau.[45]

    Anarchwyr Iddeweg Abertawe

    golygu

    Bu Abertawe yn gartref i grŵp o anarchwyr Iddeweg eu hiaith (rhyw ddwsin o bobl oedd yn aelodau o Ffederaswin Anarchwyr Prydain ac Iwerddon) yn 1908. Gofynnodd newyddiadurwr i "Yiddish lady" a oedden nhw'n ymwneud â bomiau. Ei hateb hi oedd:

    That is where people make the mistake about us. Bombs are never used—unless necessary: but obstacles in the path of progress have to be removed[46]

    Gofynnodd y newyddiadurwr iddi a oedd yn cymeradwyo'r hyn a ddigwyddodd i Frenin Portiwgal[47] yn Lisbon. A'i hateb eofn hi oedd: "Why not?". Pobl beryglus oedd y rhain yn wir, yn ôl y wasg.

    Iddeweg a Seioniaeth yng Nghymru

    golygu
     
    Hotel George, Lemberg (Lviv) 1903

    Tra oedd anarchwyr Iddeweg yn cwrdd yn Abertawe, bu anerchiad mewn Iddeweg (yn ogystal ag un Saesneg) mewn cyfarfod Seionaidd yng Nghaerdydd yr un flwyddyn. Cyfeiriodd y siaradwr, Sheikh-al-Islam Ynysoedd Prydain, Sais oedd troi at Islam, Conswl Ymerodraeth yr Otomaniaid yn Lerpwl, at y rhyddid oedd gan yr Iddewon yn Lloegr, ond eu cynghori y dylent ystyried prynu tir ym Mhalesteina.[48] Mae'n debyg taw William Henry Quilliam (1856-1932) a newidiodd ei enw yn Abdullah Quilliam oedd hwn.[49] Roedd cyfarfod o'r South Wales and Monmouthshire District Zionist Association eisoes wedi cael ei gynnal yn Abertawe ym 1903 gyda phobl yn dod iddo o Gaerdydd, Casnewydd, Aberdâr, Abertyleri, Tredegar, Bryn-mawr, Beaufort, Merthyr, Pontypridd, ac Ystalyfera. Anerchwyd mewn Iddeweg yn ogystal â Saesneg.[50] Cafwyd cyfarfod Seionaidd arall yn Abertawe ym 1910, o dan nawdd Cymdeithas Seionaidd Abertawe. Yno rhoddodd H. Katz o Lemberg (Lviv yn Wcráin erbyn heddiw) anerchiad mewn Iddeweg i "an exceptionally large Jewish audience" ar bwnc "buddiannau Iddewig". Cadwodd ddiddordeb y gynulleidfa am ddwy awr. [51]

    Byd deallusol Iddeweg yng Nghymru

    golygu

    Serch hynny, roedd gwasanaau cyhoeddus, fel llyfrgelloedd yn darparu deunydd darllen mewn Iddeweg. Ym 1913, roedd Llyfrgell Gyhoeddus Abertawe yn cadw'r "Jewish Journal" a ddisgrifiwyd fel papur newydd dyddiol mewn Iddeweg.[52] (Hwyrach mai'r Jewish Morning Journal (דער מארגען זשורנאל, Der Morgen Zhurnal) oedd hwn - papur newydd a gyhoeddwyd yn Efrog Newydd rhwng 1901 -1971). Soniodd yr arlunydd Iddewig Josef Herman (1911-2000) a ymfudodd o Wlad Pwyl i Brydain, gan ymgartrefu yn Ystradgynlais am gyfnod, am gwrdd â glöwr Iddewig Cymreig o'r enw Moishe. Roedd Moishe wedi dangos llyfr Iddeweg iddo a gafodd ei gyhoeddi gan y Swansea Jewish Debating Society ym 1904.[53] Traddodwyd darlith mewn Iddeweg mewn cyfarfod o'r Tredegar Literary Society ym 1904.[54]

    Yr Iddeweg a'r Gymraeg

    golygu

    Yn ôl adroddiad yn y Llan, ar ôl i Gadeirydd y Fforestwyr yng Nghaerdydd draddodi ei araith flynyddol ym 1899, awgrymodd rhywun y byddai'n dda argraffu'r araith a chytunodd y cyfarfod. Awgrymodd rhywun arall dylid ei argraffu yn Gymraeg hefyd. Yna cododd rhywun arall i gytuno â'r cynnig hwnnw ar yr amod ei bod yn cael ei chyhoeddi yn Iddeweg hefyd. Cafwyd "banllefau o gymmeradwyaeth". Awgryma awdur y darn nad cynnig o ddifrif oedd hyn, ond ffordd o ddilorni'r Gymraeg.

    Yn awr mae yn ammhosibl dychmygu am fwy o sarhad ar ddynion nag i neb edrych ami yn yr un goleuni a'r delegydd a wnaeth y sylw hwn. Arferir Yiddish gan y dosbarth mwyaf anllythyrenog ac isel o'r Iuddewon —sothach pob gwlad—yn Llundain a lleoedd eraill, ac awgrymid yn y sylw taw bodau anllythrenog ac isel—gwehilion cymdeithas— yn unig a arferant Gymraeg yn Nghymru.[55]

    Fel rhan o'r ddadl yn erbyn lleoli'r Llyfrgell Genedlaethol yng Nghaerdydd, yn hytrach nag Aberystwyth, dadleuodd un gohebydd yn y Cambrian News ym 1905 y byddai'n rheitiach i Lyfrgell Genedlaethol yng Nghaerdydd gadw llyfrau mewn Iddeweg yn bennaf, gan fod llawer iawn mwy o Iddewon Pwylaidd yng Nghaerdydd na Chymry.[56]

    Mewn erthygl ar y gwaith o gasglu manylion trigolion Aberdâr ar gyfer y Gofrestr Genedlaethol (o dan Ddeddf Cofrestru Cenedlaethol 1915), nodwyd bod ffurflenni Cymraeg ac Iddeweg wedi cael eu hargraffu yn ogystal â rhai Saesneg, ond mai bychan iawn oedd y ceisiadau am y ffurflenni Cymraeg ac ni wnaeth neb ofyn am ffurflen yn "the mother tongue of the Jewish people".[57] Mewn trafodaeth ar gynnig i'w gwneud yn ofynnol i arolygwyr marchnad allu siarad Cymraeg yng Nghyngor Tref Caerfyrddin ym 1918, dadleuodd Mr Dunn Williams, awdur y cynnig, mai Cymraeg oedd iaith marchnad Caerfyrddin yn gyffredinol, er bod Saesneg ac Iddeweg yn cael eu siarad yno hefyd ac felly roedd yn amlwg bod y Gymraeg yn iaith masnach. Methodd y cynnig.[58] Cafwyd esboniad o beth oedd "Yiddish" mewn adroddiad diweddarach:

    Yiddish, it may be explained, is a depraved form of German with a large infusion of Polish words and a sprinkling of Hebrew, and is the vernacular of the Jews all over Eastern Europe.[59]

    Gweler hefyd

    golygu
     
    Comin Wikimedia
    Mae gan Gomin Wikimedia
    gyfryngau sy'n berthnasol i:

    Cyfeiriadau

    golygu
    1. (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
    2. "Basic Facts about Yiddish" (PDF). YIVO. 2014. Cyrchwyd 03 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    3. Kahn, Lily (2012). Colloquial Yiddish. London and New York: Routledge. tt. [viii]. ISBN 978-1-138-96042-8.
    4. Introduction to Old Yiddish literature, p. 72, Baumgarten and Frakes, Oxford University Press, 2005
    5. "Development of Yiddish over the ages", www.jewishgen.org
    6. Kahn, Lily (2012). Colloquial Yiddish. London and New York: Routledge. tt. [viii]. ISBN 978-1-138-96042-8.
    7. "Basic Facts about Yiddish" (PDF). YIVO. Cyrchwyd 03 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    8. Kahn, Lily (2012). Colloquial Yiddish. London and New York: Routledge. tt. ix–x. ISBN 978-1-138-96042-8.
    9. Friedman, Gabe (05 Ebrill 2021). "How Duolingo created a Yiddish course". Jewish Standard. Cyrchwyd 04 Hydref 2024. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
    10. "Yiddish on Duolingo: How the long-awaited course came to be". Forward. Cyrchwyd 04 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    11. 11.0 11.1 11.2 Golden, Zach (11 09 2023). "How Yiddish became a 'foreign language' in Israel despite being spoken there since the 1400s". Foward. Check date values in: |date= (help)
    12. "Palestinian Yiddish: A Look at Yiddish in the Land of Israel Before 1948". YIVO Institute for Jewish Research. Cyrchwyd 04 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    13. Golden, Zach (11 09 2023). "How Yiddish became a 'foreign language' in Israel despite being spoken there since the 1400s". Forward. Cyrchwyd 04 10 2024. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
    14. Dorfman, Michael (06 09 2015). "Speaking Yiddish in Gaza". Forward. Cyrchwyd 04 10 2024. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
    15. "Mission". The National Authority for Yiddish Culture. Cyrchwyd 04 10 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    16. Parry-Jones, Cai (2017). The Jews of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 11. ISBN 978-1-78683-0845.
    17. Parry, Gwenfair; Williams, Mari A. (1999). Jenkins, Geraint H. (gol.). Miliwn o Gymry Cymraeg! Yr Iaith Gymraeg a Chyfrifiad 1891. Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 34. ISBN 0-7083-1537-2.
    18. Parry-Jones, Cai (2017). The Jews of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 11. ISBN 978-1-78683-0845.
    19. 19.0 19.1 Weinreich, Max (1980). History of the Yiddish Language. Chicago and London: University of Chicago Press. t. 322. ISBN 0-226-88604-2.
    20. "Cardiff Jewish Young Mens Association". The Western Mail. 06 February 1899. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
    21. "A New Talmud Torah". Western Mail. 30 March 1899. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    22. "The Jews in Grangetown: Opening of a Talmud Torah". South Wales Daily News. 19 April 1900. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    23. Parry-Jones, Cai (2017). The Jews of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 47. ISBN 978-1-78683-0845.
    24. "Jewish Day of Atonerment: Impressive Services at Cardiff". Evening Express. 15 September 1899. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    25. "Cardiff Jews' Differences". The Cardiff Times. 25 Ionawr 1902. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    26. "Cardiff Jews' Dispute: The Disorderly Scenes at a Recent Funeral". Weekly Mail. 25 Ionawr 1902. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    27. Parry-Jones, Cai (2017). The Jews of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 115. ISBN 978-1-78683-0845.
    28. Parry-Jones, Cai (2017). The Jews of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 122978. ISBN 978-1-78683-0845.
    29. Parry-Jones, Cai (2017). The Jews of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 127. ISBN 978-1-78683-0845.
    30. "Claim for a Shilling: Amusing Case at Cardiff". Weekly Mail. 11 Chwefror 1899. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    31. "The "Yidden" in Court at Holywell". Llandudno Advertiser and List of Visitors. 10 August 1900. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    32. "Judge Owen and the Jew: Account Books in Yiddish". Cardiff Times and South Wales Weekly News. 13 December 1902. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    33. "Mountain Ash County Court". Weekly Mail. 19 April 1902. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    34. "County Court Humour". 19 July 1902. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    35. "Cardiff Jews Disagree: A Difficulty in Language". Evening Express. 22 January 1904. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    36. "No reason assigned". Weekly Mail. 3 November 1906. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    37. "Case sent to Assizes". Evening Express. 12 January 1910. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    38. "Cardiff Empire". Barry Dock News. 4 January 1907. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    39. "Making Brtain: Discover how South Asians shaped the nation, 1870-1950". Open University. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. line feed character in |title= at position 48 (help); Check date values in: |access-date= (help)
    40. "Parliamentary Committee". The Cardiff Times. 28 April 1906. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    41. "Acted at Swansea: Roumanian and the Alien Immigration Board". The Cambrian. 6 December 1907. Check date values in: |access-date= (help); |access-date= requires |url= (help)
    42. "At Swansea and Merthyr". Evening Express. 29 November 1907. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    43. "Cardiff Man's Mother: Rejected by Immigration Board". Weekly Mail. 19 September 1908. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    44. "Swore in Yiddish". Evening Express and Evening Mail. 26 March 1909. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    45. "Didn't Swear in Yiddish". Evening Express and Evening Mail. 16 December 1910.
    46. "Anarchists at Swansea". Evening Express and Evening Mail. 11 March 1908. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    47. Lisbon Regicide - Wikipedia
    48. "Zionist Meeting in Cardiff". Evening Express. 06 January 1908. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
    49. "Adbullah Quilliam". Wikipedia. Cyrchwyd 06 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    50. "Swansea Zionist Conference: Jews Consider the Government Offer". The Cambrian. 9 Hydref 1903. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    51. "Jewish Interests. Address to Swansea Zionist Society". 28 February 1914. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    52. "Jewish Journals". The Cambira Daily Leader. 15 May 1913. Cyrchwyd 05 10 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    53. Donahaye, Jasmine (2012). Whose People? Wales, israel, Palestine. Cardiff: University of Wales Press. tt. 146–147. ISBN 978-0-7083-2483-7.
    54. Donahaye, Jasmine (2014). Whose People. Cardiff: University of Wales Press. t. 129. ISBN 978-0-7083-2483-7.
    55. [ttps://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3685437/3685438/3/Yiddish "Pawb a Phobpeth"]. Y Llan. 11 August 1899. Cyrchwyd 06 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    56. J.G. (31 March 1905). "The National Library and Museum". Cambrian News and Merionthshire Standard. Cyrchwyd 06 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    57. "National Register". The Aberdare Leader. 21 August 1915. Cyrchwyd 05 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    58. "Is Welsh Essential?". The Carmarthen Weekly Reporter. 13 December 1918. Cyrchwyd 06 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)
    59. "By the Way". The Carmarrthen Weekly Reporter. 20 Rhagfyr 1918. Cyrchwyd 06 Hydref 2024. Check date values in: |access-date= (help)

    Dolenni Allanol

    golygu

    Fideo o ran o'r fersiwn Saesneg o Solomon a Gaenor a ffilmiwyd yn Gymraeg, Saesneg ac Iddeweg

    Fideo am Leonard Nimoy yn siarad am ei gefndir Iddeweg (yn rhannol mewn Iddeweg)

    Fideo Mel Brooks - Americaniaid brodorol yn siarad Iddeweg

    Fideo o gân Iddeweg draddodiadol adnabyddus "Oyf'n Pripetchik" (Ar Aelwyd)

    Fideo o gân rap Iddeweg "Gey nisht avek" ("Paid mynd i ffwrdd") gan ganwr Israeli-Almaenaidd Zionlight

      Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.