Afiechyd heintus ar bobl a phlant yw Clwy'r pennau (Saesneg: Mumps).

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Plentyn gyda'r clwy i'w weld yn chwydd amlwg

Hen enwau arno yn y Gymraeg yw y dwymyn doben a'r bensach. Gall ddatblygu yn llid y ceilliau (orchitis) a hyd yn oed anffrwythlondeb ac mae'r symptomau'n waeth mewn pobol ifanc. Cyn i'r brechlyn trifflyg MMR gael ei ddatblygu gan wyddonwyr, arferai'r afiechyd heintus yma fod yn gyffredin iawn, ac mae'n dal yn gyffredin mewn rhannau o Affrica.[1]

Fel y gwelir yn y llun ar y dde, y prif symptom (a tharddiad yr enw) ydy chwydd yn y chwarennau poer, y chwaren barotid fel arfer. Ar ôl ychydig ddyddiau mae'r haint yn cilio; yr unig feddyginiaeth ydy cyffur atal poen ee aspirin.

Symtomau eraill: y dwymyn, cur pen, ceg sych, colli llais a phigyn clust. Tydy 20% o'r boblogaeth sy'n dal clwy'r pennau ddim yn dangos unrhyw symtom ac mae hyn yn helpu'r feirws i ymledu.

Mae'r brechlyn MMR yn cael ei roi i fabanod un oed er mwyn atal yr haint hwn.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Harrison's Principles of Internal Medicine 16ed rhifyn; cyhoeddwr = McGraw-Hill Professional; 2004; isbn = 0-07-140235-7