Mae gwlychu gwely (neu wlychu'r gwely) yn digwydd pan fo person yn gwneud dŵr (hy yn piso) yn anwirfoddol yn ystod cwsg. Y term meddygol am hyn yw nocturnal enuresis. Mae dau fath: nocturnal enuresis cynradd - pan fo plentyn yn parhau i wlychu a heb eto fynd i'r arferiad o gadw'n sych; a nocturnal enuresis eilradd - pan fo plentyn neu oedolyn wedi cyfnod sych yn ailgychwyn gwlychu'r gwely. Yng nghyd-destyn pediatreg, gwlychu gwely ydy'r broblem sy'n codi fynychaf o holl broblemau meddygol byd y plentyn. Dengys ymchwiliadau fod rhieni'n poeni'n ormodol am hyn. Mae'r rhan fwyaf o ferched yn sych erbyn maen nhw'n shwech oed, a bechgyn erbyn maen nhw'n saith. Yn ddeg oed, mae 95% o'r plant yn sych. Dengys ymchwiliadau pellach i fyd yr oedolyn fod 0.5% i 2.3% o oedolion yn gwlychu'r gwely.[1]

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Y blodyn pi-pi gwely, neu ddant y llew. Ffrangeg: Pissenlit

Meddygaeth amgen golygu

Dywedir fod dail cypreswydden yn help i atal y person rhag gwlychu'r gwely.


Cyfeiriadau golygu

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato