Canolfan yr iaith Roeg

The Canolfan yr iaith Roeg (Groegeg: Κέντρον Ελληνικής Γλώσσας, trawslythrenni yn yr wyddor Ladin: Kéntron Ellinikís Glóssas; talfyriad Groegeg yn yr wyddor Ladin: K.E.G.; Saesneg: Center for the Greek Language) yn sefydliad diwylliannol ac addysgol sy'n anelu at hyrwyddo'r iaith a diwylliant Groeg. Fe'i sefydlwyd ym 1994.[1] Lleolir y ganolfan yn Thessaloniki, ac mae ganddi hefyd swyddfa yn Athen. Mae Canolfan yr Iaith Roeg yn gweithredu fel organ gydlynol, ymgynghorol a strategol i Weinyddiaeth Addysg Gwlad Groeg ar faterion addysg a pholisi iaith. Mae ei swyddogaethau'n cynnwys darparu deunyddiau a chymorth i bobl sy'n dysgu Groeg fel iaith dramor.[1][2] Mae'n gysylltiedig â Phrifysgol Aristotle Thessaloniki.

Canolfan yr iaith Roeg
Enghraifft o'r canlynolrheoleiddiwr iaith Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1992 Edit this on Wikidata
PencadlysThessaloníci Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.greeklanguage.gr/ Edit this on Wikidata
Hen logo'r Ganolfan

Noder hefyd, ceir Sefydliad Diwylliant Groeg sy'n gorff ar wahân.

Cennad golygu

 
Prifysgol Aristotele Thesaloniki

Mae nodau’r sefydliad yn cynnwys:

  • meithrin a hyrwyddo'r iaith Roeg o fewn a thu allan i Wlad Groeg
  • trwy hyn, adgyfnerthiad o hunaniaeth genedlaethol y Groegiaid yn y diaspora
  • trefniadaeth dysgu Groeg i dramorwyr yng Ngwlad Groeg a thramor[3]
  • cefnogaeth athrawon yr iaith Roeg yng Ngwlad Groeg a thramor
  • cynyrchu defnyddiau dysgeidiaeth, ac unrhyw beth arall a gyfrana at ddyrchafiad a lledaeniad yr iaith Roeg yn gyffredinol

Adrannau gwyddonol golygu

Mae aelodau Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yn ogystal â dirprwyon, yn cael eu hethol am 5 mlynedd.[4] Mae Canolfan yr Iaith Roeg yn cynnwys yr adrannau gwyddonol canlynol:

Adran Geiryddiaeth golygu

Mae'n weithredol, ymhlith pethau eraill, wrth ddylunio ac ysgrifennu geiriaduron ac offer geiriadurol eraill, creu cronfeydd data geiriadurol ar gyfer cymwysiadau gwe a pharhad Geiriadur Kriaras.

Adran Ieithyddiaeth golygu

Mae'n weithgar yn hyrwyddo hanes yr iaith Roeg ac mewn materion polisi iaith ac addysg iaith

Adran Cefnogi a Hyrwyddo'r Iaith Roeg golygu

Mae'n delio â threfnu'r Arholiadau Ardystio Hyfedredd Groeg ac yn paratoi rhaglenni ymchwil ar gyfer addysgu Groeg fel iaith dramor/ail iaith.

Adran Iaith a Llenyddiaeth golygu

Yn cymryd rhan mewn astudio iaith a llenyddiaeth Roeg fodern (gwreiddiol a chyfieithedig) ac yn astudio iaith fel offeryn cyfieithu

Sefydliadau tebyg golygu

Mae Canolfan yr iaith Roeg yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Papailias, Penelope C (2006). "Do You Want to Go Forwarḍ Turn Back!: Etymology and Neoliberalism in Greek Language Ideology". Michigan Discussions in Anthropology 13 (1): 146. https://quod.lib.umich.edu/m/mdiaarchive/0522508.0013.001/136:7?g=mdiag;rgn=full+text;view=image;xc=1. Adalwyd 29 December 2020.
  2. Fevronia K. Soumakis; Theodore G. Zervas (2020). Educating Greek Americans: Historical Perspectives and Contemporary Pathways. Springer Nature. tt. 140–. ISBN 978-3-030-39827-9. Cyrchwyd 29 December 2020.
  3. "Identidad". greeklanguage.gr (yn Groeg).
  4. Руководяший совет, Safle swyddogol

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato