Institut Ramon Llull
Mae Institut Ramon Llull hefyd ILL (Cymraeg: Sefydliad Ramon Llull) yn gonsortiwm sy'n cynnwys y Generalitat de Catalunya (Llywodraeth Catalwnia), y Govern de les Illes Balears (Llywodraeth yr Ynysoedd Balearig) a'r Ajuntament de Barcelona (Cyngor Dinas Barcelona). Ei ddiben yw hyrwyddo a lledaenu iaith a diwylliant Catalaneg dramor yn ei holl ffurfiau mynegiant.[1] I wneud hyn, mae'r Institut Ramon Llull yn cefnogi cysylltiadau allanol o fewn cwmpas diwylliannol ei aelod sefydliadau.[2] Sefydlwyd yn 2002. Enwyd y Sefydliad er anrhydedd i Ramon Llull, athronydd ac awdur o Ynys Mallorca yn y Gatalaneg o'r 13g-14g.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad diwylliannol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 5 Ebrill 2002 |
Pennaeth y sefydliad | Institut Ramon Llull's director |
Sylfaenydd | Generalitat Catalwnia, Govern Balear |
Gweithwyr | 72 |
Isgwmni/au | Biblioteca Bernat Lesfargues |
Rhiant sefydliad | Generalitat Catalwnia |
Ffurf gyfreithiol | consortiwm |
Pencadlys | Palau del Baró de Quadras |
Enw brodorol | Institut Ramon Llull |
Rhanbarth | Barcelona |
Gwefan | http://www.llull.cat |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguCreodd y Generalitat de Catalunya a Cymuned Ymreolaethol y Balearig Institut Ramon Llull (IRL) trwy gytundeb a lofnodwyd ar 5 Ebrill 2002, a gyhoeddwyd ym Mhenderfyniad PRE/1128/2002, dyddiedig 30 Ebrill. Yr amcan oedd creu mecanwaith ar gyfer hyrwyddo’r iaith Gatalaneg, y diwylliant y mae’n ei fynegi a phob cynhyrchiad diwylliannol arall (nid yn unig yn ieithyddol) o Gatalwnia a’r Ynysoedd Balearaidd. Mae hefyd yn fecanwaith ar gyfer atgyfnerthu a chryfhau cysylltiadau rhwng y gwahanol diriogaethau sy'n rhannu'r iaith Gatalaneg. Mae gan yr IRL statws cyfreithiol consortiwm sy'n cynnwys y ddwy weinyddiaeth gyhoeddus a grybwyllwyd uchod. Cyhoeddodd llywodraeth y Wladwriaeth y byddai'n darparu cefnogaeth trwy'r Instituto Cervantes. Crëwyd bwrdd yr IRL ar 3 Mehefin 2002[3] ac roedd yn cynnwys y 21 deallusol a ganlyn yn cynrychioli iaith, celfyddydau a diwylliant Catalwnia.[4]
Heriau
golyguAr ôl buddugoliaeth Partido Popular ceidwadol asgell dde yn yr etholiadau seneddol rhanbarthol yn yr Ynysoedd Balearig ym mis Mawrth 2003, tynnodd llywodraeth ranbarthol yr Ynysoedd yn ôl o ymwneud â'r athrofa yn 2004. Ar ôl etholiadau 2015 a disodli'r pro-Llywodraeth Sbaen, ymunodd yr Ynysoedd Balearig yn ôl â'r IRL eto yn.[5] Yn 2008, sefydlwyd Institut Fundació Ramon Llull fel noddwr newydd. Y rhanddeiliaid yw; Lywodraeth Catalwnia, Cyngor Dinas Barcelona, Llywodraeth Andorra, Cyngor Dinas L'Alguer/Alghero (tref Gatalaneg ar ynys Sardinia) a Chyngor y Département Pyrénées-Orientales (ardal Gatalaneg o fewn gwladwriaeth Ffrainc a chlymblaid o fwrdeistrefi o gymuned ymreolaethol València (sydd yn diriogaeth Gatalaneg ei hiaith, er y gelwid yr iaith Gatalaneg yno yn 'Valencian' gan gefnogwyr Sbaenaidd). Mae pencadlys Fundació Ramon Llull yn Andorra (nid gwladwriaeth Sbaen na Ffrainc).[6]
Swyddfeydd
golyguMae gan yr IRL swyddfeydd yn ninansoedd Berlin, Llundain, Paris ac Efrog Newydd.[7]
Sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol eraill
golyguMae Institut Ramon Llull yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ . Gran Enciclopédia Catalana https://www.enciclopedia.cat/gran-enciclopedia-catalana/institut-ramon-llull. Unknown parameter
|cyrchwyd=
ignored (help); Missing or empty|title=
(help) - ↑ "Estatuts de l'IRL" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 23 October 2018. Cyrchwyd 23 October 2018.
- ↑ "Es constitueix oficialment el patronat de l'Institut Ramon Llull". Vilaweb. Cyrchwyd 29 December 2015.
- ↑ "Joan Maria Pujals, nomenat director de l'Institut Ramon Llull". Vilaweb. Cyrchwyd 9 November 2015.
- ↑ [1]
- ↑ [2]
- ↑ Institut Ramon Llull. "Foreign offices - Institut Ramon Llull – Catalan Language and culture abroad". Cyrchwyd 2018-05-25.