Culture Ireland

Sefydliad hyrwyddo diwylliant Iwerddon yn fyd-eang

Asiantaeth Wladwriaeth Iwerddon a sefydlwyd i hyrwyddo a hyrwyddo Celfyddydau Gwyddelig yn rhyngwladol yw Culture Ireland (Gwyddeleg: Cultúr Éireann). Fe’i sefydlwyd yn 2005 i hyrwyddo diwylliant Iwerddon dramor. Fe’i hariennir gan yr Adran Twristiaeth, Diwylliant, y Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a’r Cyfryngau. Ei gyllideb ar gyfer 2010 oedd €4.083m.[1] ac yn codi i €4.6m yn 2020 (gyda chyfnod o leihau cyllideb yng nghannol yr 2010au i €2.5m.[2]

Culture Ireland
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2005 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.cultureireland.ie/ Edit this on Wikidata
Logo Culture Ireland

Yn wahanol i sawl sefydliad ddiwylliannol gan wledydd eraill, nid oes gan Culture Ireland ganolfannau sefydlog dramor. Nid ydynt chwaith yn hyrwyddo dysgu'r iaith frodorol, Gwyddeleg i bobl tramor. Mae'r sefydliad yn aelod o European Union National Institutes for Culture.

Cennad

golygu

Mae gweithgareddau penodol Diwylliant Iwerddon yn cynnwys:

  • Ariannu artistiaid neu sefydliadau celfyddydol Gwyddelig i gefnogi gweithgareddau diwylliannol rhagoriaeth Gwyddelig
  • Ariannu a hwyluso cyfranogiad Gwyddelig mewn digwyddiadau celfyddydol rhyngwladol strategol
  • Rheoli digwyddiadau diwylliannol ac artistig arbennig ('emblematig').
  • Cynghori’r Gweinidog dros y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar faterion celfyddydol a diwylliannol rhyngwladol

Dywed gwefan Culture Ireland eu bod yn hyrwyddo celfyddydau Gwyddelig ledled y byd. Rydym yn creu ac yn cefnogi cyfleoedd i artistiaid a chwmnïau Gwyddelig gyflwyno a hyrwyddo eu gwaith mewn gwyliau a lleoliadau rhyngwladol strategol. Rydym yn datblygu llwyfannau i gyflwyno gwaith Gwyddelig rhagorol i gynulleidfaoedd rhyngwladol, drwy arddangosiadau mewn digwyddiadau celfyddydol byd-eang allweddol, gan gynnwys Gwyliau Caeredin a Biennales Fenis.[3]

Logo Cultúr Éireann

golygu

Ymddengys bod logo Cultúr Éireann yn darlunio cwch draddodiadol y curach ('currach' yn Saesneg) sef fersiwn Wyddelig i'r cwrwgl Cymreig. Mae'r cychod yn unigryw i'r ynys.

Sefydliadau tebyg

golygu

Mae Cultúr Éireann yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "How Culture Ireland is funded". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-19. Cyrchwyd 2010-09-09.
  2. "About - Budget". Culture Ireland. Cyrchwyd 22 Mawrth 2023.
  3. "About". Gwefan Culture Ireland. Cyrchwyd 22 Mawrth 2023.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.