Lietuvos kultūros institutas

Corff er hyrwyddo iaith a diwylliant Lithwania dramor.

Mae'r Lietuvos kultūros institutas (LKI, Institiwt Diwylliant Lithwania) yn sefydliad cyllidebol a sefydlwyd gan Weinyddiaeth Diwylliant Gweriniaeth Lithwania, sy'n cryfhau rôl diwylliant Lithwania yn y byd. Mae'r Sefydliad yn cyflwyno diwylliant a chelf broffesiynol Lithwania yn bwrpasol dramor ac yn gwella'r cyfleoedd ar y sîn ryngwladol ar gyfer gweithwyr diwylliannol proffesiynol ac artistiaid, yn ogystal ag ar gyfer arbenigwyr a sefydliadau sy'n gweithio yn y meysydd hyn.

Lietuvos kultūros institutas
IaithLithwaneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2008 Edit this on Wikidata
PencadlysVilnius Edit this on Wikidata
Logo'r Lietuvos kultūros institutas
Montage o Vilnius, prifddinas Lithwania

Mae Sefydliad Diwylliant Lithwania yn cyflawni ei weithgareddau yn unol â'r blaenoriaethau thematig, rhanbarthol a daearyddol a amlinellwyd gan y Weinyddiaeth Ddiwylliant, mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol diwylliannol Lithwania a thramor ac Attachés Diwylliannol Gweriniaeth Lithwania.

Sefydlwyd Institiwt Diwylliant Lithwania yn 2008. Mae'r pencadlys ar Z. Sierakausko str. 15, Vilnius.[1]

Gweithgareddau'r Sefydliad golygu

Mae’r Sefydliad yn gweithredu’r gweithgareddau canlynol:[1]

  • Trefnu ac yn cydlynu rhaglenni o gyflwyno diwylliant Lithwania dramor
  • Rhedeg y Rhaglen Ymweliadau
  • Rhedeg y Rhaglen Grant Cyfieithu
  • Cydweithredu â'r Attachés Diwylliannol mewn gwledydd tramor wrth baratoi eu gweithgareddau ac yn cydlynu'r gweithredu
  • Paratoi a gweithredu rhaglen o ddigwyddiadau diwylliannol o fewn Ffair Lyfrau Vilnius
  • Cydlynu cyfranogiad Lithwania yn rhaglen yr Undeb Ewropeaidd “Ewrop Greadigol”
  • Casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am ddiwylliant a chelf broffesiynol Lithwania
  • Cynghori, rhannu gwybodaeth a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyng-sefydliadol yn ei feysydd cymhwysedd

Mae amrywiaeth eu gwaith yn cynnwys trefnu neu gefnogi dawns, cerddoriaeth, llenyddiaeth, sinema, celf weledol, theatr, dylunio a phensaernïaeth.[2]

Aelodaeth EUNIC golygu

Mae Sefydliad Diwylliannol Lithwania yn aelod o rwydwaith traws-Ewropeaidd, EUNIC (European Union National Institutes for Culture). Mae’r rhwydwaith hwn yn uno 36 o sefydliadau diwylliannol o’r Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig. Mae Sefydliad Diwylliant Lithwania yn gweithredu'n uniongyrchol neu drwy gynrychiolwyr mewn 17 o glystyrau EUNIC ledled y byd.[1]

Sefydliadau tebyg golygu

Mae'r Lietuvos kultūros institutas yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gydag Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "About Us". Gwefan Lietuvos kultūros institutas. Cyrchwyd 12 Ebrill 2023.
  2. "Lithuanian Culture Guide". Gwefan Lietuvos kultūros institutas. Cyrchwyd 12 Ebrill 2023.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Lithwania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.