Instituto Camões
Mae'r Instituto Camões ('Sefydliad Camões'), yn ffurfiol, Camões — Instituto da Cooperação e da Língua, I. P. (Cymraeg: Camões — Sefydliad Cydweithrediad ac Iaith), yn sefydliad rhyngwladol Portiwgaleg. Gyda'i bencadlys yn Lisbon gyda chanolfannau ar draws pum cyfandir, cenhadaeth yr Instituto Camões yw hyrwyddo iaith, diwylliant, gwerthoedd, elusen ac economi Portiwgal. Mae'r sefydliad wedi'i enwi ar ôl awdur y Dadeni o Bortiwgal, Luís Vaz de Camões, a ystyrir yn fardd mwyaf yr iaith Bortiwgal a bardd cenedlaethol Portiwgal. Mae'r sefydliad yn aelod o European Union National Institutes for Culture.
Math o gyfrwng | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1992, 2012 |
Sylfaenydd | Government of Portugal |
Rhiant sefydliad | Government of Portugal |
Pencadlys | Lisbon |
Rhanbarth | Lisbon |
Gwefan | http://www.instituto-camoes.pt/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir canolfannau mewn pum dinas ym Mhrydain, ond dim un yng Nghymru.
Cefndir
golyguMae gwreiddiau'r Sefydliad yn ymestyn nôl i flynyddoedd cynnar yr 20g gyda Sefydliad Portiwgaleg dros Ddiwylliant Uchel, ailstrwythurwyd y sefydliad gyda mwy o ffocws ieithyddol yn 1980, gan amsugno Instituto Português de Apoio ao Desenvolvimento, sef, y sefydliad ar gyfer Cymorth Datblygu, asiantaeth cymorth datblygu Portiwgal, yn 2012. Mae'r Instituto Camões yn arfer ymreolaeth sefydliadol, o dan goruchwylio Gweinyddiaeth Materion Tramor Portiwgal, gyda rôl cydlynu a gweithredu polisïau diwylliannol allanol Llywodraeth Portiwgal.[1]
Hanes
golyguEnwyd yr Instituto Camões er anrhydedd i Luís de Camões, bardd o'r Dadeni Portiwgaleg ac awdur Os Lusíadas, a ystyrir yn epig genedlaethol Portiwgal a'r iaith Bortiwgal. Mae pencadlys yr Instituto Camões ym Mhalas Seixas, plasty o'r 19g yn Lisbon, Portiwgal.
Mae gwreiddiau'r sefydliad yn y Junta da Educação Nacional, a sefydlwyd ym 1924 i roi ysgoloriaethau, arian a grantiau i brifysgolion a sefydliadau tramor a oedd yn hyrwyddo addysg iaith Portiwgaleg.
Ym 1936, ehangwyd rôl y sefydliad i gynnwys hyrwyddo diwylliant a chelfyddydau Portiwgaleg, fel yr Instituto para a Alta Cultura (Sefydliad Diwylliant Uchel). Enwyd y sefydliad yn fyr yn Instituto de Cultura Portuguesa (Sefydliad Diwylliant Portiwgaleg) rhwng 1976 a 1980.
Yn 1980, ail-ganolbwyntiwyd cenhadaeth y sefydliad ar iaith a'i hailenwi'n Instituto de Cultura e Língua Portuguesa (Sefydliad Diwylliant ac Iaith Portiwgaleg). Cymerodd y sefydliad ei enw presennol, ar ôl de Camões, ym 1992.
Yn 2005, derbyniodd yr Instituto Camões Wobr Tywysog Asturias am gyflawniadau eithriadol ym maes cyfathrebu a'r dyniaethau, ochr yn ochr â Chyngor Prydeinig y DU, Goethe-Institut yr Almaen, Alliance française, Instituto Cervantes o Sbaen, a Società Dante Alighieri o'r Eidal.[2]
Yn 2012, amsugnodd yr Instituto Camões Sefydliad Portiwgaleg ar gyfer Cymorth Datblygu, asiantaeth cymorth datblygu Llywodraeth Portiwgal. Ers hynny, mae Instituto Camões yn gweithredu gyda chenhadaeth ehangach o hyrwyddo iaith, diwylliant a chymorth Portiwgaleg ar draws y byd.
Strwythur
golyguCanolfannau Iaith Portiwgaleg
golyguMae'r Centros de Língua Portuguesa ('Canolfannau Iaith Portiwgaleg y Sefydliad') yn anelu at hyrwyddo'r iaith Bortiwgaleg yn ogystal â chydweithio â gwahanol wledydd ym maes addysg, gan gynnwys y rhai lle siaredir Portiwgaleg eisoes. Mae hyn yn wahanol i Instituto Cervantes o Sbaen, a gynrychiolir mewn gwledydd di-Sbaeneg yn unig.
Mae canolfannau ar draws y byd gan gynnwys ym mhencadlys yr Undeb Affricanaidd yn Addis Ababa a Chymuned Economaidd Gwladwriaethau Gorllewin Affrica yn Abuja ac yn 2005, trefi Canchungo, Ongoré, Mansôa, Bafatá, Gabú, Buba, Catió , Bolama, Bubaque, a Quinhamel yn Gini Bisaw i ledaenu rhuglder Portiwgaleg fel iaith swyddogol y wlad.
Canolfannau Diwylliannol Portiwgaleg
golyguMae canolfannau diwylliannol Portiwgaleg y Sefydliad (Centros culturais portugueses) yn ganolfannau sydd â'r nod o hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol rhwng Portiwgal a gwledydd eraill, gan gynnwys y rhai y mae gan Bortiwgal gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol cryf â nhw, a lle mae Portiwgaleg eisoes yn cael ei siarad yn eang. Fel mewn canolfannau iaith cyfatebol, mae hyn yn wahanol i Instituto Cervantes o Sbaen, a gynrychiolir mewn gwledydd di-Sbaeneg yn unig.
(Luanda) |
India (Delhi Newydd) |
Sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol eraill
golyguMae Instituo Camões yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Who we are". Gwefan Instituto Camões. 2023.
- ↑ "Los institutos culturales europeos, premio Príncipe de Asturias de Comunicación y Humanidades". Oviedo: El País. 1 Mehefin 2005. Cyrchwyd 26 Ebrill 2017.