Canolfan Diwylliannol Corea
Mae Canolfan Diwylliannol Corea Saesneg arferol Korean Cultural Center (Coreeg: 한국문화원, Hanja: 韓國文化院) yn sefydliadau dielw sy'n cyd-fynd â Llywodraeth De Corea sy'n anelu at hyrwyddo diwylliant Corea a hwyluso cyfnewid diwylliannol. Fel sawl corff genedlaethol arall, mae'n rhan o ddiplomyddiaeth ddiwlliannol y wlad i hyrwyddo pŵer meddal y wladwriaeth.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad, cultural center |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2009 |
Yn cynnwys | Korean Cultural Center, Tokyo, Korean Cultural Center in Spain, Korean Cultural Center in Argentina, Korean Cultural Center, Paris, Korean Cultural Center Washington, D.C., Korean Cultural Center New York, Korean Cultural Center, Los Angeles |
Sylfaenydd | Korean Culture and Information Service |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes golygu
Gan ddechrau o 2009, dechreuodd Gwasanaeth Diwylliant a Gwybodaeth Corea sefydlu Canolfannau Diwylliannol Corea ledled y byd.
Trosolwg golygu
Mae'r canolfannau'n cael eu rhedeg gan Wasanaeth Diwylliant a Gwybodaeth Corea, is-adran o Weinyddiaeth Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth De Corea.[1]
Mentrau Fel rhan o ymdrechion i gyflwyno a lledaenu diddordeb mewn agweddau amrywiol ar ddiwylliant Corea, mae'r canolfannau wedi trefnu llawer o raglenni o dan y categorïau celfyddydau, cerddoriaeth, llenyddiaeth, ffilm a choginio.[2]
Rhestr o Ganolfannau Diwylliannol Corea golygu
O 2021 ymlaen, mae 33 o Ganolfannau Diwylliannol Corea mewn 28 o wledydd.[3]
Asia-Môr Tawel golygu
- Awstralia - Sydney
- Gweriniaeth Pobl Tsieina - Beijing and Shanghai
- Hong Kong - Hong Kong
- India - Delhi Newydd
- Indonesia - Jakarta
- Japan - Tokyo ac Osaka
- Casachstan - Astana
- Y Philipinau - Taguig
- Gwlad Tai - Bangkok
- Fietnam - Hanoi
Ewrop golygu
- Gwlad Belg - Brwsel
- Ffrainc - Paris
- Yr Almaen - Berlin
- Hwngari - Budapest
- Yr Eidal - Rhufain
- Gwlad Pwyl - Warsaw
- Rwsia - Moscow
- Sbaen - Madrid
- Y Deyrnas Unedig - Llundain
Yr Americas golygu
- Yr Ariannin - Buenos Aires
- Brasil - São Paulo
- Canada - Ottawa
- Mecsico - Dinas Mecsico
- Unol Daleithiau - Washington D.C., Los Angeles ac Efrog Newydd
Dwyrain Canol ac Affrica golygu
Sefydliadau tebyg golygu
Mae Canolfan Diwylliannol Corea yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gydag Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ KOCIS, Korean Culture and Information Service
- ↑ "All eyes Turn to Korean Culture in London". The Korea IT Times. Cyrchwyd 20 January 2013.
- ↑ KOREAN CULTURAL CENTERS
Dolenni allanol golygu
- Gwefan Swyddogol
- Sianel 'Gateway to Korean Culture Sianel Youtube y KCC