Instytut Adama Mickiewicza

Corff er hyrwyddo iaith a diwylliant Gwlad Pwyl dramor

Sefydliad yw Instytut Adama Mickiewicza, ('Sefydliad Adam Mickiewicz') a ariennir gan Weinyddiaeth Diwylliant a Threftadaeth Genedlaethol Gwlad Pwyl, ac sydd â'i bencadlys yn ulica Mokotowska 25 (Palas Siwgr) yn Warsaw. Fe'i hadnebir yn flaenorol fel Centrum Międzynarodowej Współpracy Kulturalnej Instytut Adama Mickiewicza[1] ('Canolfan Cydweithrediad Diwylliannol Rhyngwladol Sefydliad Adam Mickiewicz')

Instytut Adama Mickiewicza
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Mawrth 2000 Edit this on Wikidata
PencadlysWarsaw Edit this on Wikidata
RhanbarthWarsaw Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.iam.pl/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sefydliad Adam Mickiewicz sydd yn y Palas Siwgr, yn y briddinas, Warsaw

Wedi'i enwi ar ôl y bardd cenedlaethol Pwylaidd, Adam Mickiewicz (1798–1855), ei nod yw hyrwyddo'r iaith Bwyleg a diwylliant Pwylaidd dramor.[2] Mae'r sefydliad yn cynnal gwefan o'r enw "culture.pl", a sefydlwyd ar 1 Mawrth 2000, sydd bellach yn bedair-ieithog (Pwyleg, Saesneg, Rwseg ac Wcreineg).

Gweithgareddau golygu

Yn ogystal â nifer fawr o feirdd, traethodyddion, llenorion, cyfieithwyr, arlunwyr cysylltiedig; beirniaid llenyddol, cerdd, a ffilm; a churaduron, mae'r Sefydliad yn cynnwys Barbara Schabowska, y Cyfarwyddwr (y cyntaf oedd Krzysztof Olendzki[3] a Paweł Potoroczyn),[4] yn ogystal â thri dirprwy gyfarwyddwr a nifer o reolwyr prosiectau a rhaglenni allweddol.

Yn ogystal â Sefydliad Adam Mickiewicz a noddir gan y Weinyddiaeth Ddiwylliant, mae Sefydliadau Diwylliannol Pwylaidd, a noddir gan Weinyddiaeth Materion Tramor Gwlad Pwyl,[5] mewn dros 22 o ddinasoedd tramor mawr, gan gynnwys Berlin, Bratislava, Budapest, Bucharest, Düsseldorf, Kyiv, Leipzig, Llundain, Minsg, Mosgo, Dinas Efrog Newydd, Paris, Prâg, Rhufain, St Petersburg, Sofia, Stockholm, Tel Aviv, Fienna, a Vilnius.

Tra bod Sefydliad Adam Mickiewicz yn cydweithio'n aml â'r Sefydliadau Diwylliannol Pwylaidd, mae pob sefydliad yn annibynnol ar ei gilydd ac yn cael ei noddi gan weinidogaeth lywodraethol Bwylaidd wahanol.[6]

Prosiectau golygu

Mae'r Sefydliad wedi cynllunio dros 400 o fentrau diwylliannol fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethol Amlflwydd "Niepodległa".[7] Mae'r Sefydliad yn rhoi gwybod am ei weithgareddau ar broffiliau ar Youtube, cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys Facebook a Twitter).

  • Polska 100 – i nodi canmlwyddiant annibyniaeth Gwlad Pwyl gan lawer o weithgareddau mewn chwe maes: cerddoriaeth, dylunio, celfyddydau gweledol, ffilm, theatr, a thechnolegau newydd.
  • I, CULTURE Orchestra – prosiect cerddorol i gerddorion ifanc o Wlad Pwyl, Armenia, Azerbaijan, Belarws, Georgia, Hwngari, Moldofa a Wcráin.[8]
  • Digital Culture – i gefnogi presenoldeb rhyngwladol artistiaid digidol Pwylaidd (mae'r gynhadledd Diwylliannau Digidol ymhlith gweithgareddau eraill ar y trac hwn[9]).
  • Polska Design Programme[10]
  • Don`t Panic! We`re from Poland – yn hyrwyddo cerddoriaeth Bwylaidd gyfoes dramor

Oriel golygu

Sefydliadau tebyg golygu

Mae Instytut Adama Mickiewicza yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Instytut Adama Mickiewicza" (yn Pwyleg). Onet Wiadomości. 2009-04-27. Cyrchwyd 2018-12-27.
  2. Adam Mickiewicz Institute: About us Archifwyd February 12, 2013, yn y Peiriant Wayback.
  3. "Ambassador Krzysztof Olendzki appointed Director of the Adam Mickiewicz Institute @www.classicalsource.com". classicalsource.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-28. Cyrchwyd 2018-12-27.
  4. IAM (2013). "Director: Paweł Potoroczyn". Instytut Adama Mickiewicza. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-05. Cyrchwyd 2013-05-09.
  5. "Instytuty Polskie". Msz.gov.pl. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-16. Cyrchwyd 2012-05-18.
  6. Polish Cultural Institutes around the world – arranged according to cities in an alphabetical order. Internet Archive. Retrieved May 9, 2013.
  7. "Program Wieloletni NIEPODLEGŁA MKiDN - Projekty" (yn Pwyleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 2018-12-27.
  8. "I, CULTURE Orchestra". Askonas Holt (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-28. Cyrchwyd 2018-12-27.
  9. "Digital Cultures Conference 24–25.09.2018 / Warsaw". digitalcultures.pl (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-12-27.
  10. "LONDON DESIGN FAIR". DANA JUSZCZYK (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-27. Cyrchwyd 2018-12-27.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Pwyl. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.