Sefydliad Wcráin
Sefydliad cyhoeddus yw Український інститут, Ukrayinsʹkyy instytut (Cymraeg: Sefydliad Wcráin neu Sefydliad Wcráin) sy'n cynrychioli diwylliant Wcráin yn y byd ac sy'n ffurfio delwedd gadarnhaol o'r Wcráin dramor. Sefydlwyd y Sefydliad gan Gabinet Gweinidogion Wcráin yn 2017 ac mae'n gysylltiedig â Gweinyddiaeth Materion Tramor Wcráin. Dechreuodd ei weithgareddau yn llawn yn ystod haf 2018, ar ôl penodi Volodymyr Sheiko fel Cyfarwyddwr Cyffredinol yn dilyn gystadleuaeth agored, a chreu tîm o arbenigwyr.[1]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad diwylliannol, asiantaeth lywodraethol |
---|---|
Rhan o | Ministry of Foreign Affairs of Ukraine |
Dechrau/Sefydlu | 21 Mehefin 2017 |
Gweithwyr | 35 |
Pencadlys | Kyiv |
Enw brodorol | Український інститут |
Rhanbarth | Kyiv |
Gwefan | https://ui.org.ua/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Amcanion
golyguCynyddu gwelededd rhyngwladol a gwella dealltwriaeth o Wcráin ymhlith pobl o ddiwylliannau eraill
- Hyrwyddo iaith a diwylliant Wcráin yn rhyngwladol
- Cefnogi symudedd rhyngwladol a hwyluso cyfnewid proffesiynol, cefnogi prosiectau cydweithredu rhyngwladol yn y diwydiannau creadigol, diwylliant, addysg a gwyddoniaeth
- Rhannu profiad Wcráin o ddatblygiad cymdeithas sifil, adeiladu gwladwriaeth, ymrwymiad i egwyddorion rhyddid, democratiaeth ac undod cenedlaethol[2]
Blaenoriaethau'r Sefydliad
golyguYn 2019, cynhaliodd y sefydliad 85 o brosiectau, gan gynnwys Gŵyl Cerddoriaeth Gyfoes Wcráin yn Efrog Newydd, Blwyddyn Diwylliant Awstria-Wcráin 2019, cyflwyniadau tywysyddion sain Wcreineg mewn amgueddfeydd ledled y byd, cyngherddau, digwyddiadau rhwydweithio, ac ati.[3]
Ffurfiwyd blaenoriaethau gweithgaredd Sefydliad Wcráin yn seiliedig ar:
- Dwy sesiwn strategol fewnol ym mis Awst-Medi 2018;
- Sesiwn strategol gyhoeddus y Sefydliad ar Hydref 18, 2018;
- Sesiwn strategol ar ddiplomyddiaeth ddiwylliannol ar y cyd â Chronfa Ddiwylliannol Wcráin;
- Ymgynghoriadau ag 80 o arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol yn y sector mewn diwylliant, diwydiannau creadigol ac addysg ym mis Awst-Rhagfyr 2018;
- Ymgynghori ag arweinwyr tîm a rheolwyr rhaglen y Cyngor Prydeinig, y Goethe-Institut, y Česká centra, y Instytut Polski, Instytut Adama Mickiewicza, a Sefydliad Diwylliannol Lithwania;
- Cyfarfodydd gwaith gyda phenaethiaid sefydliadau diwylliannol ac addysgol tramor yn Sbaen, yr Almaen, y Weriniaeth Tsiec, a Gwlad Pwyl.
Mae blaenoriaethau gweithgaredd rhaglen Sefydliad Wcráin fel a ganlyn:
Sefydliadau tebyg
golyguMae Sefydlaid Wcráin yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddwy genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol (Wcreineg a Saesneg)
- Sefydliad Wcráin yn Llundain ar Facebook
- Sefydliad Wcráin ar Twitter @Ukr_Institute
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Володимир Шейко, генеральний директор Українського інституту". www.ukrinform.ua (yn Wcreineg). Cyrchwyd 2021-02-22.
- ↑ "Mission".
- ↑ "Український інститут реалізував 85 проєктів в 11 країнах світу: чи може уряд економити на іміджі України" (yn Wcreineg). Радіо Свобода. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ "Programme priorities". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-18. Cyrchwyd 2023-03-30.