Svenska Institutet
Mae'r Svenska institutet, SI ('Sefydliad Sweden') yn asiantaeth lywodraethol yn Sweden gyda'r cyfrifoldeb i ledaenu gwybodaeth am Sweden y tu allan i'r wlad. Mae'n bodoli i hyrwyddo buddiannau Sweden, ac i drefnu cyfnewid gyda gwledydd eraill mewn gwahanol feysydd o fywyd cyhoeddus, yn enwedig ym meysydd diwylliant, addysg, ac ymchwil.[1]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad diwylliannol, Swedish government agency |
---|---|
Rhan o | Ministry for Foreign Affairs of Sweden |
Dechrau/Sefydlu | 1945 |
Lleoliad | Stockholm |
Pennaeth y sefydliad | Q110292872 |
Sylfaenydd | Llywodraeth Sweden |
Rhiant sefydliad | Ministry for Foreign Affairs of Sweden |
Ffurf gyfreithiol | state entity |
Pencadlys | Stockholm |
Rhanbarth | Bwrdeistref Stockholm |
Gwefan | https://si.se |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae prif swyddfa Sefydliad Sweden yn Södra Hammarbyhamnen yn Stockholm. Mae cangen dramor hefyd; y Ganolfan Ddiwylliannol Sweden ym Mharis (Swedeg: Svenska kulturhuset i Paris; Ffrangeg: Centre Culturel Suédois). Mae gan yr asiantaeth tua 140 aelod o staff a phenodir ei bwrdd gan Lywodraeth Sweden.
Yn gynnar yn 2007 dywedodd Sefydliad Sweden ei fod yn bwriadu sefydlu "llysgenhadaeth", "House of Sweden", yn 'Second Life', byd rhithwir ar y Rhyngrwyd. Nid yw'r swyddfa rithwir hon wedi'i bwriadu i ddarparu pasbortau na fisas, ond mae'n bwynt gwybodaeth am Sweden.[2]
Mae llysgenadaethau Sweden eraill mewn gwledydd tramor o dan awdurdod a rheolaeth uniongyrchol Gweinyddiaeth Materion Tramor Sweden. Mae'r sefydliad yn aelod o European Union National Institutes for Culture.
Hanes
golyguSefydlwyd Sefydliad Sweden yn 1945 fel olynydd i'r Kulturrådet ('Cyngor Diwylliannol') a sefydlwyd yn 1935. Hyd at 1998, roedd Sefydliad Sweden yn uniongyrchol o dan y Weinyddiaeth Materion Tramor, ond ers hynny mae'n awdurdod annibynnol[3] o dan y Weinyddiaeth Materion Tramor.[4] Cenhadaeth Sefydliad Sweden yw creu diddordeb ac ymddiriedaeth yn Sweden dramor. Gwneir hyn trwy waith gyda Sverigefrämjande, cydweithredu yn rhanbarth Môr y Baltig a datblygu byd-eang.
Prif ddyletswyddau
golyguMae SI yn hysbysu am Sweden dramor ac yn galluogi cyfnewid a chydweithio rhyngwladol. Y nod yw rhoi Sweden ar y map a meithrin cysylltiadau da ag unigolion, sefydliadau a gwledydd eraill. Os oes gan y byd y tu allan lefel uchel o ymddiriedaeth yn Sweden, mae'r amodau ar gyfer masnach, buddsoddiadau, twristiaeth a chyfnewid diwylliannol yn cynyddu. Bydd hefyd yn haws denu talent rhyngwladol a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy byd-eang.
Hyrwyddo Sweden:
- Mae SI yn cynhyrchu deunyddiau cyfathrebu, yn dweud am Sweden mewn sianeli cymdeithasol ac yn trefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Y nod yw creu diddordeb a deialog mewn meysydd lle mae Sweden ymhell ar y blaen yn rhyngwladol.
- Mae SI yn dadansoddi delwedd Sweden dramor, yn cynnal ei astudiaethau ei hun, yn dilyn mynegeion rhyngwladol a'r hyn a ysgrifennwyd am Sweden mewn cyfryngau newyddion rhyngwladol ac ar lwyfannau digidol.
- Mae SI yn darparu cymorth ar gyfer addysg Sweden dramor.
- Mae SI yn marchnata Sweden fel cyrchfan astudio.
- Mae SI yn rhedeg unig ganolfan ddiwylliannol Sweden dramor, SI Paris.
Datblygiad byd-eang:
- Mae SI yn meithrin perthynas â thalentau ifanc y byd ac arweinwyr y dyfodol trwy gyhoeddi/talu ysgoloriaethau ar gyfer astudiaethau yn Sweden yn ogystal â threfnu rhaglenni arweinyddiaeth a gweithgareddau cyn-fyfyrwyr.
- Mae SI yn ariannu prosiectau diwylliannol rhyngwladol i gryfhau rhyddid mynegiant, democratiaeth a hawliau dynol.
Cydweithrediad yn Rhanbarth Môr y Baltig:
Mae SI yn ariannu cyfnewidfeydd a phrosiectau ar y cyd ar gyfer unigolion, sefydliadau a chwmnïau yn Sweden a rhanbarth Môr y Baltig.
Sefydliadau tebyg
golyguMae Svenska Institutet yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Spotlight On: American Swedish Institute". CBS. Cyrchwyd 2012-03-30.
- ↑ Agence France-Presse (January 26, 2007). "Sweden to set up embassy in Second Life". thelocal.se. Cyrchwyd January 26, 2012.
- ↑ "Svenska institutet: Svenska institutet, SI, statlig myndighet med uppgift att sprida information om Sverige i ... (Sefydliad Sweden, SI, awdurdod y llywodraeth sydd â'r dasg o ledaenu gwybodaeth am Sweden ...)". NE. Cyrchwyd 23 Mawrth 2023.
- ↑ "Richard Hobert vill bli chef för Svenska institutet" (Mae Richard Hobert eisiau dod yn gyfarwyddwr Sefydliad Sweden). DN.se. 26 Medi 2014.