Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit

Rhwydwaith byd-eang i hyrwyddo iaith, diwylliant ac academia y Ffindir

Mae'e Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit talfyrir i SKTI (Cymraeg: Sefydliadau Diwylliannol ac Academaidd y Ffindir) yn grŵp o 17 o sefydliadau annibynnol, dielw ledled y byd. Mae'r sefydliadau yn hyrwyddo ac yn cefnogi symudedd rhyngwladol, gwelededd a chydweithrediad gweithwyr proffesiynol y Ffindir yn y celfyddydau, diwylliant ac ymchwil.[1] Ers hydref 2005, maent wedi ffurfio cymdeithas o sefydliadau diwylliannol ac academaidd y Ffindir sy'n cynrychioli'r Ffindir o fewn European Union National Institutes for Culture (EUNIC).

Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2005 Edit this on Wikidata
SylfaenyddLlywodraeth y Ffindir Edit this on Wikidata
Isgwmni/auFinnAgora, The Finnish Institute in London Edit this on Wikidata
Logo y Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit (SKTI)

Amcanion golygu

Creu rhwydweithiau a deialog rhwng sefydliadau a gweithwyr proffesiynol diwylliannol ac academaidd y Ffindir a rhyngwladol Trefnu arddangosfeydd, seminarau, cyrsiau a digwyddiadau eraill Cydweithio’n weithredol â sefydliadau lleol, partneriaid, cymunedau a gweithwyr proffesiynol Cynnal rhaglenni symudedd a phreswyl ar gyfer artistiaid, curaduron ac ymchwilwyr Cefnogi cyfleoedd gwaith rhyngwladol gweithwyr proffesiynol celfyddydol ac ymchwilwyr y Ffindir Cynnal ymchwil academaidd

Rhwydwaith y Sefydliadau golygu

 
Logo y SKTI ar gyfer canolfan gwledydd y Benelux

Mae rhwydwaith y sefydliad yn cynnwys 17 o sefydliadau ar draws y byd:

Mae Sefydliadau Diwylliannol ac Academaidd y Ffindir (SKTI) yn gymdeithas wedi'i lleoli yn Helsinki sy'n cynorthwyo rhwydwaith yr athrofeydd mewn cyfathrebu, gweinyddu a lobïo yn y Ffindir. Mae'r sefydliadau a SKTI yn cael cymhorthdal gan y Weinyddiaeth Addysg a Diwylliant yn y Ffindir. Mae eu prosiectau yn derbyn cyllid ychwanegol gan sefydliadau preifat o'r Ffindir a thramor, cwmnïau a phartneriaid.

Sefydliadau tebyg golygu

Mae Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. OECD (2017-06-09). OECD Reviews of Innovation Policy OECD Reviews of Innovation Policy: Finland 2017 (yn Saesneg). OECD Publishing. ISBN 9789264276369.
  2. "Etusivu in English". Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am y Ffindir. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.