Comisiwn y Senedd
Comisiwn y Senedd (Saesneg: Senedd Commission), yw corff corfforaethol Senedd Cymru. Mae'r Comisiwn yn gyfrifol am sicrhau fod eiddo, staff a gwasanaethau yn cael eu darparu i'r Cynulliad. Mae'r Comisiwn yn cynnwys Llywydd y Senedd a phedwar Aelod o bedair plaid, pob un ohonynt gyda'i borffolio gwaith ei hun. Cefnogir y Comisiwn gan staff yr Uned Gorfforaethol.
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Cyn Mai 2020, enw'r corff oedd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y Comisiwn
golyguAelodau presennol y Comisiwn yw'r Llywydd (Elin Jones AS) a'r Comisiynwyr yw Suzy Davies AS, Joyce Watson AS, Rhun ap Iorwerth AS a David J Rowlands AS>
Rôl y Comisiwn yw gosod amcanion strategol ac ystyried perfformiad, cytuno ar safonau a gwerthoedd, goruchwylio newidiadau, annog arloesedd a mentergarwch dros y Senedd.
I helpu gyda'r amcanion hyn, mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb arbennig am rai agweddau o waith y Senedd. Mae hyn yn caniatau gwaith i gymryd lle tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y Comisiwn a perthynas gweithio bositif i ddatblygu gyda staff.
Ei rôl yw sicrhau fod gan y Senedd ddigon o adnoddau (o ran staff a strwythur) i weithio'n effeithiol. Mae'r Comisiynwyr yn gyfrifol am oruchwylio tâl a lwfans Aelodau o'r Senedd.
Mae gan y Comisiwn ddyletswyddau pellach yn hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru ac am y system etholiadol presennol a'r dyfodol.
Comisiwn y Trydydd Cynulliad (2007–2011)
golyguEnw | Cychwyn swydd | Gadael swydd | Plaid wleidyddol | Rôl benodol | |
---|---|---|---|---|---|
Dafydd Elis Thomas AC | 9 Gorffennaf 2007 | Mai 2011 | Llywydd y Cynulliad | Cadeirydd (fel Llywydd y Trydydd Cynulliad, gyda'r cyfrifoldeb o annog pobl Cymru i ymwneud a'r broses ddemocrataidd, annog arweiniad effeithiol o fewn y Cynulliad, datblygu pwerau deddfu y Cynulliad i'r dyfodol a hyrwyddo cysylltiadau effeithiol gyda rhanddeiliaid allanol. | |
William Graham AC | 9 Mehefin 2007 | Mai 2011 | Ceidwadwyr | (Comisiynydd dros Adnoddau'r Cynulliad) yn cynnwys rheolaeth staff ac asedau'r Cynulliad (gan gynnwys gweithwyr, contractwyr a gwasanaethau ddarperir i gefnogi staff cefnogi Aelodau'r Cynulliad. Roedd heyd yn gyfrifol am oruchwylio tâl a lwfansau Aelodau'r Cynulliad yn ogystal â sicrhau fod y Cynulliad yn cydymffurfio ag egwyddorion o effeithiolrwydd a rheolaeth dda. | |
Lorraine Barrett AC | 9 Mehefin 2007 | Mai 2011 | Llafur | (Comisiynydd dros Cynulliad Gynaliadwy) gyda chyfrifoldeb i sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol yn cydymffurfio a rhagori ar ei bolisiau ar gydraddoldeb a hygyrchedd. Roedd ganddi gyfrifoldeb arbennig dros sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol a'i adeiladau yn cydymffurfio ag egwyddorion cynaladwyedd. | |
Peter Black AC | 9 Mehefin 2007 | Mai 2016 | Y Democratiaid Rhyddfrydol | (Comisiynydd dros y Cynulliad a'r Dinesydd) gyda chyfrifoldeb am sicrhau fod y Cynulliad yn effeithiol pan yn cyflawni ei rôl greiddiol o ddal Llywodraeth Cymru i gyfri a gwneud deddfau dros Gymru. Yn ogystal, roedd yn goruchwylio'r mentrau cyfathrebu yn allanol, oedd yn cynnwys addysgu pobl a rôl y Cynulliad, darparu gwybodaeth effeithiol a thechnoleg gyfathrebu i'r Cynulliad. | |
Elin Jones AC | 9 Mehefin 2007 | 18 Medi 2007 | Plaid Cymru | Gadawyd pan gafodd ei apwyntio'n Weinidog Llywodraeth, cymerwyd ei lle gan Chris Franks. | |
Chris Franks AC | 18 Medi 2007 | Mai 2011 | Plaid Cymru | (Comisiynydd dros Wella'r Cynulliad) gyda chyfrifoldeb dros wellhad parhaol o'r gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru, yn cynnwys cynllunio strategol a sicrhau fod y Cynulliad yn rhoi gwerth am arian. Roedd yn gweithio hefyd gyda staff y Cynulliad i wella ymwneud rhanddeiliad gyda'r broses ddemocrataidd. |
Comisiwn y Pedwerydd Cynulliad (2011–2016)
golyguEnw | Cychwyn swydd | Gadael swydd | Plaid wleidyddol | Arall | |
---|---|---|---|---|---|
Rosemary Butler AC | Mai 2011 | Mai 2017 | Llywydd y Cynulliad | Cadeirydd (fel Llywydd y Pedwerydd Cynulliad) | |
Sandy Mewies AC | Mai 2011 | Mai 2017 | Llafur | Pedwerydd Cynulliad | |
Angela Burns AC | Mai 2011 | Mai 2017 | Ceidwadwyr | Pedwerydd Cynulliad | |
Rhodri Glyn Thomas AC | Mai 2011 | Mai 2017 | Plaid Cymru | Pedwerydd Cynulliad | |
Peter Black AC | 9 Mehefin 2007 | Mai 2017 | Y Democratiaid Rhyddfrydol | Pedwerydd Cynulliad |
Comisiwn y Pumed Cynulliad (2016–2021)
golyguEnw | Cychwyn swydd | Gadael swydd | Plaid wleidyddol | Rôl benodol [1] | |
---|---|---|---|---|---|
Elin Jones AS | Mai 2016 | Llywydd y Senedd | Cadeirydd y Comisiwn (fel Llywydd y Pumed Cynulliad), Cyfathrebu ac ymgysylltu | ||
Joyce Watson AS | 8 Mehefin 2016 [2] | Llafur | Cydraddoldebau, a’r Comisiwn fel cyflogwr staff y Senedd | ||
Suzy Davies AS | 8 Mehefin 2016 [2] | Ceidwadwyr | Cyllideb a llywodraethiant, gan gynnwys Archwilio a Sicrwydd Risg, aelodau pwyllgorau | ||
Dai Lloyd AS | 8 Mehefin 2016 [2] | 21 Medi 2016 | Plaid Cymru | Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau | |
Adam Price AS | 21 Medi 2016 [3] | 21 Tachwedd 2018 [4] | Plaid Cymru | Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau | |
Siân Gwenllian AS | 21 Tachwedd 2018 [4] | Plaid Cymru | Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau | ||
Rhun ap Iorwerth AS | 21 Tachwedd 2018 [4] | Plaid Cymru | Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau | ||
Caroline Jones AS | 8 Mehefin 2016 [2] | 2018 | UKIP | Diogelwch ac adnoddau’r Senedd | |
David Rowlands AS | 14 Tachwedd 2018 [5] | UKIP | Diogelwch ac adnoddau’r Senedd |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-06. Cyrchwyd 2020-06-28.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 http://www.senedd.assembly.wales/ieListDocuments.aspx?CId=401&MId=3598&Ver=4
- ↑ http://www.senedd.assembly.wales/ieListDocuments.aspx?CId=401&MId=3991&Ver=4
- ↑ 4.0 4.1 4.2 http://www.senedd.assembly.wales/ieListDocuments.aspx?CId=401&MId=5366&Ver=4
- ↑ http://www.senedd.assembly.wales/ieListDocuments.aspx?CId=401&MId=5364&Ver=4