Llandeilo Llwydiarth

pentref yn Sir Benfro

Pentrefan yng nghymuned Mynachlog-ddu, Sir Benfro, Cymru, yw Llandeilo Llwydiarth neu Llandilo.[1] Saif wrth droed Mynyddoedd y Preseli. Ceir yno gapel, adfeilion hen eglwys a llond llaw o dai. Sancteiddiwyd y capel a'r eglwys i Sant Teilo ac fe welir enw'r sant yn enw'r pentref.

Llandeilo Llwydiarth
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTeilo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr180 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.91133°N 4.75686°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN104272 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Mae yno hefyd hen ffynnon. Cred rhai i benglog Sant Teilo gael ei gadw yn y pentref am ganrifoedd, cyn iddi fynd o law i law, gan gyrraedd Awstralia; yn rhyfeddol, cyflwynwyd ef i Ddeon Tyddewi ar 9 Chwefror 1994.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 18 Rhagfyr 2021
  2. Erthygl gan Kemmis Buckley MBE, DL, MA;[dolen marw] adalwyd 9 Chwefror 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato