Rhestr o artistiaid o Gymru
Dyma restr o artistiaid nodedig sydd wedi'u geni yng Nghymru a/neu sy'n adnabyddus am eu gwaith yng Nghymru, yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw (a chyfnod).
Ganed cyn 1800
golygu- Thomas Barker (1769–1847), peintiwr a aned ym Mhont-y-pŵl
- Frances Bunsen (1791–1876), peintiwr o Sir Fynwy
- John Gibson (1790–1866), cerflunydd a aned mewn pentre ger Conwy, a symudodd i'r Eidal i astudio (a gweithio) yn 1817
- Thomas Jones (1742–1803), peintiwr tirluniau a aned yn Sir Faesyfed
- Edward Owen (bu farw 1741), peintiwr o Ynys Môn
- Richard Wilson (1713–1782), peintiwr tirluniau ac un o sylfaenwyr Academi Frenhinol Sir Drefaldwyn
Ganed rhwng 1800–1899
golygu- Thomas Brigstocke (1809–1881), peintiwr portreadau
- Francis Dodd (1874–1949), peintiwr a gwneuthurwr printiau
- Vincent Evans (1896–1976), peintiwr o Ystalyfera
- James Milo Griffith (1843–1897), cerflunydd
- John Griffiths (1837–1918), peintiwr fu'n gweithio yn India
- Nina Hamnett (1890–1956), artist o Ddinbych y Pysgod a model artistiaid, a fu'n arddangos gwaith yn yr Academi Frenhinol
- George Frederick Harris (1856–1924), peintiwr o Ferthyr Tudful
- James Dickson Innes (1887–1914), peintiwr a aned yn Llanelli
- Augustus John (1878–1961), peintiwr portreadau, dyluniwr ac ysgythrwr a aned yn Ninbych y Pysgod
- Goscombe John (1860–1952), cerflunydd
- Gwen John (1876–1939), peintiwr a aned yn Hwlffordd a symudodd i Ffrainc i fyw a gweithio yn 1903
- Syr Cedric Morris (1889–1982), ganed yn Abertawe ond symudodd o Gymru pan oedd yn 17 oed
- Thomas E. Stephens (1885–1966), peintiwr portreadau, a allfudodd i'r Unol Daleithiau
- T. H. Thomas (1839–1915), peintiwr a darlunydd o Gaerdydd
- James Jackson Curnock (1839–1892), peintiwr
- Henry Clarence Whaite (1828–1912), artist o Loegr a ymsefydlodd yng ngogleded Cymru (a phriodi), a ffurfio Academi Gelf y Cambrian
- John Laviers Wheatley (1892–1955), peintiwr a aned yn y Fenni
- Christopher Williams (1873–1934), peintiwr portreadau a thirluniau
- Margaret Lindsay Williams (1888–1960), peintiwr portreadau
- Penry Williams (1805–1885), peintiwr a aned ym Merthyr Tudful a fu'n byw ac yn gweithio yn Rhufain o 1827
Ganed rhwng 1900–1924
golygu- Brenda Chamberlain (1912–1971), artist o Gymru, fu'n gweithio yng Nghymru a Gwlad Groeg
- Glenys Cour (born 1924), peintiwr ac artist gwydr lliw
- Thomas Nathaniel Davies (1922–1996), peintiwr, cerflunydd ac addysgwr
- Nick Evans (1907–2004), peintiwr a gafodd ei arddangosfa gyntaf pan oedd yn 71 oed
- Arthur Giardelli (1911–2009), peintiwr o Lundain, a symudodd i Gymru yn ystod 1940au, cadeirydd Grŵp 56 Cymru
- Ray Howard-Jones (1903–1996), peintiwr
- Joan Hutt (1913–1985), peintiwr a aned yn Swydd Hertford a symudodd i fyw i'r gogledd yn 1949
- Alfred Janes (1911–1999), peintiwr
- Jonah Jones (1919–2004), cerflunydd
- Heinz Koppel (1919–1980), peintiwr a aned ym Merlin a symudodd i Gymru pan oedd yn ifanc
- Mervyn Levy (1915–1996), peintiwr, gwerthwr celf, awdur a beirniad
- Stanley Cornwell Lewis MBE (1905–2009), peintiwr portreadau a Phennaeth Ysgol Gelf Caerfyrddin
- John Petts (1914–1991), artist a aned yn Llundain a symudodd i Gymru yn 1937
- Ceri Richards (1903–1971), peintiwr a aned yn Abertawe
- Will Roberts (1907–2000), peintiwr
- Graham Sutherland (1903–1980), peintiwr o Loegr a oedd yn ymwelydd cyson â Chymru, a ymsefydlodd yn Sir Benfro yn 1967
- Kyffin Williams (1918–2006), peintiwr
Ganed rhwng 1925–1949
golygu- Mac Adams (ganed yn 1943), artist a cherflunydd cysyniadol, wedi'i leoli yn Efrog Newydd
- John Beard (ganed yn 1943), peintiwr a aned yn Aberdâr a ymfudodd i Awstralia yn 1983
- John Bourne (ganed yn 1943), artist a aned yn Lloegr a dderbyniodd addysg yn y gogledd, sylfaenydd grŵp Wrecsam o symudiad celf Stuckists
- Jim Burns (ganed yn 1948), peintiwr a cherflunydd
- Ivor Davies (ganed yn 1935), peintiwr, cyfrwng cymysg, gosodiad ac artist mosaig
- Ken Elias (ganed yn 1944), peintiwr a aned yng Nglyn-nedd
- Barry Flanagan (1941–2009), yn adnabyddus am ei gerfluniau o ysgyfarnogod
- Valerie Ganz (1936–2015), peintiwr
- Tony Goble (1943–2007), peintiwr
- David Griffiths (born 1939), peintiwr portreadau
- Clyde Holmes (1940–2008),[1][2] peintiwr a bardd
- Robert Alwyn Hughes (ganed yn 1935), peintiwr
- Aneurin M. Jones (1930–2017), peintiwr
- Colin Jones (1928–1967), peintiwr
- Gwilym Prichard (1931–2015) peintiwr
- Mary Lloyd Jones (ganed yn 1934), peintiwr
- Christine Kinsey (ganed yn 1942), peintiwr
- John Knapp-Fisher (1931–2015), peintiwr a fu'n byw ac yn gweithio yn Sir Penfro am bron i 50 mlynedd
- John Rogers (ganed yn 1939), ganed yng Nghaerdydd, ac mae'n adnabyddus am ei beintiadau o olygfeydd gwyllt[3]
- Geoffrey Olsen (1943–2007), peinitiwr a aned ym Merthyr Tudful
- Rob Piercy (ganed yn 1946), pentiwr o Borthmadog
- Peter Prendergast (1946–2007), peintiwr tirluniau.
- Osi Rhys Osmond (1943–2015), peintiwr, addysgwr a chyflwynydd teledu
- Terry Setch (ganed yn 1936), peintiwr a aned yn Llundain a symudodd i Gymru yn 1964
- Robert Thomas (1926–1999), cerflunydd efydd, sy'n adnabyddus am ei gelf cyhoeddus yng Nghaerdydd
- John Uzzell Edwards (1937–2014), peintiwr o Gwm Rhymni
- Andrew Vicari (ganed yn 1938), peintiwr
- Annie Williams (ganed yn 1942), peintiwr dyfrlliw bywyd llonydd a fagwyd yng Nghymru
- David Woodford RCA (ganed yn 1938), peintiwr tirluniau[4] – cyd-enillydd Gwobr Gelfydydd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1983[5]
- Ernest Zobole (1927–1999), peintiwr, un o sylfaenwyr Grŵp 56 Cymru
Ganed rhwng 1950–1974
golygu- Iwan Bala (ganed yn 1956), peintiwr ac artist cyfrwng cymysg, ac enillydd Medal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1997
- Brendan Burns (ganed yn 1963), peintiwr, ac enillydd Medal Aur am Gelfyddyd Gain dwywaith yn 1993 a 1998
- Laura Ford (ganed yn 1961), cerflunydd a aned yng Nghaerdydd
- David Garner (ganed yn 1958), artist gosodiad
- Clive Hicks-Jenkins (ganed yn 1951), peintiwr
- Martyn Jones (ganed yn 1955), peintiwr
- Elfyn Lewis (ganed yn 1969), peintiwr, ac enillydd Medal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009
- Eleri Mills (ganed yn 1955), peintiwr
- Phil Nicol (ganed yn 1953), peintiwr, ac enillydd Medal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001
- Michael Gustavius Payne (ganed yn 1969), peintiwr
- Shani Rhys James (ganed yn 1953), peintiwr a aned yn Awstralia, ac a symudodd i Gymru ar ôl graddio
- Phil Rogers (ganed yn 1951), crochenydd o Gasnewydd
- Alia Syed (ganed yn 1964), artist a gwneuthurwr ffilmiau a aned yn Abertawe ond sydd bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain
- Charles Uzzell Edwards (ganed yn 1968), artist graffiti rhyngwladol
- Bedwyr Williams (ganed yn 1974), artist gosodiad a pherfformiad
- Sue Williams (ganed yn 1956), artist gweledol
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Clyde Holmes (obituary), The Guardian, 28 August 2008.
- ↑ Clyde Holmes paintings Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback, BBC Your Paintings.
- ↑ http://www.johnrogersartist.co.uk/
- ↑ "David James Woodford". BBC Your Paintings.
- ↑ "Art of survival in Snowdonia". Western Mail. 23 April 2002.