Anhwylder, neu salwch dirywiol, niwrolegol yw Syndrom Karak, sy'n cael ei achosi gan ormodedd o haearn yn yr ymennydd. Roedd y claf cyntaf i gael ei nodi fel un gyda'r anhwylder hwn yn dod o dref Karak yng Ngwlad Iorddonen.[1]

Syndrom Karak
Dosbarthiad ac adnoddau allanol
ICD-10 G23.0
OMIM 610217
eMedicine med/

Ymhlith y nodweddion mwyaf amlwg o Syndrom Karak mae: ataxia, traed sy'n gwrthdro (talipes calcaneovarus), araith sganio dysarthrig gyda nodweddion dystonig, symudiad dystonig cyhyrau'r tafod a'r wyneb gyda symudiad choreiform yn bresennol yn y breichiau a'r coesau, gan fod yn fwy amlwg yn yr aelodau isaf, ynghyd â osgo dystonig y traed distal, mae bradykinesia yn bresennol yn y breichiau a'r coesau, dysmetria, bradykinesia, a chryndod bwriadol yn y ddwyochr, ac yn gymesur.[1]

Cyfeiriadau golygu


Rhestr Afiechydon
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato