Maenorbŷr
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Maenorbŷr[1] (Saesneg: Manorbier). Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Maenorbŷr | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,327, 1,262 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,481.46 ha |
Cyfesurynnau | 51.6444°N 4.7981°W |
Cod SYG | W04000445 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
Daw'r enw o "Maenor" (sef Prif lys cantref neu gwmwd) a'r enw Pŷr (Lladin: Poriws) sef sant o'r 6g. Yr un yw tarddiad y gair "Ynys Bŷr". Cafodd Gerallt Gymro ei eni yng Nghastell Maenorbŷr.
Mae rheilffordd yn pasio'n agos i'r pentref: Rheilffordd Gorllewin Cymru a cheir Gorsaf reilffordd Maenorbŷr yno.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[3]
Hanes
golyguCeir llawer o olion yn perthyn i'r Oes Efydd gan gynnwys sawl cromlech, carnedd a chaer o ffosydd gwarcheidiol ger yr orsaf reilffordd ac un arall ger "Yr Hen Gastell" sy'n cynnwys olion cytiau llwyfan. Mae yn yr ardal, hefyd, ar ochr ddwyreiniol y pentref, lawer o ffiniau caeau sy'n tarddu'n ôl i'r Oesoedd Canol a chyn hynny o bosib.
Trosglwyddwyd llawer o dir yr ardal i farchog Normanaidd o'r enw Odo de Barri, fel gwobr am gynorthwyo'r Saeson i feddiann'r rhan hon o Benfro, ychydig wedi 1003.
Castell mwnt a beili allan o bridd a phren oedd y castell cyntaf yma, gyda waliau cerrig yn cael eu codi tua chanrif yn ddiweddarach. Cafodd Gerallt Gymro ei eni yng Nghastell Maenorbŷr yn 1146, yn fab i William de Barri ac Angharad ferch Nest.
Oriel
golygu-
Cromlech
-
Yr eglwys
-
Y traeth
-
Y traeth
-
Y Castell
-
O fewn y castell
Gweler hefyd
golygu- Penfro (cantref)
- Ynys Bŷr
- Crug Galltbŷr: Crug crwn tua phum milltir i'r gogledd o Arberth
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Dinas
Tyddewi
Trefi
Aberdaugleddau · Arberth · Abergwaun · Cilgerran · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · Hwlffordd · Neyland · Penfro · Wdig
Pentrefi
Aber-bach · Abercastell · Abercuch · Abereiddi · Aberllydan · Amroth · Angle · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd-bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm-yr-Eglwys · Dale · Dinas · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Jeffreyston · Johnston · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maiden Wells · Manorowen · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Pentre Galar · Pontfadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Fflwrens · Sain Ffrêd · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Trefwrdan · Treglarbes · Tre-groes · Treletert · Tremarchog · Uzmaston · Waterston · Yerbeston