Teyrnas Powys
Roedd Powys yn un o deyrnasoedd Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Hyd 1212 yr oedd prif lys ei brenhinoedd a thywysogion ym Mathrafal, yna fe'i symudwyd i'r Trallwng.
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Oherwydd ei safle yn nwyrain Cymru, dioddefodd Powys fwy oherwydd ymosodiadau y Saeson na theyrnasoedd eraill megis Gwynedd a Deheubarth.
Brenhinoedd Ternyllwg[angen ffynhonnell]
golyguCadell Ddyrnllwg tua 460
Rhyddfedd Frych tua 480
Cyngen Glodrydd tua 500
Pasgen ap Cyngen tua 530
Morgan ap Pasgen tua 540
Brochwel Ysgithrog ap Cyngen tua 550
Iago ap Brochwel (? - 582)
Cynan Garwyn (582 – 610)
Selyf ap Cynan (610 – 613)
Manwgan ap Selyf (613)
Eiludd Powys (613 – ?)
Beli ab Eiludd vers 655
Gwylog ap Beli (695? – 725)
Elisedd ap Gwylog (725 – 755?)
Brochfael ab Elisedd (755? – 773)
Cadell Powys (773 – 808)
Cyngen ap Cadell (808 – 854)
Aeddan ap Cyngen (854 – ?)
Cadweithian ap Aeddan (? – 863/883)
Brochwel I ap Aeddan (863/883 – ?)
Selyf ap Brochwel
Aeddan ap Selyf
Brochwel II ap Aeddan
Cadell ap Brochwel (? – 1003)
Seisyll ap Brochwel (1003)
Llywelyn ap Seisyll (1003 – 1023)
Cynan ap Seisyll (1023 – 1027)
Gruffudd ap Llywelyn (1027 – 1063)
Brenhinoedd Powys
golyguRhodri Mawr (854 – 878)
Merfyn ap Rhodri (878 – 904)
Llywelyn ap Merfyn (904 – 942)
Hywel Dda (942 – 950)
Owain ap Hywel (950 – 986)
Maredudd ab Owain (986 – 999)
Llywelyn ap Seisyll (999 – 1023)
Rhydderch ab Iestyn (1023 – 1033)
Iago ab Idwal (1033 – 1039)
Gruffudd ap Llywelyn (1039 – 1063)
Bleddyn ap Cynfyn (1063 – 1075)
Iorwerth ap Bleddyn 1075 - 1103 (rhan)
Cadwgan ap Bleddyn (1075 - 1111 (rhan)
Owain ap Cadwgan (1111 - 1116 (rhan)
Maredudd ap Bleddyn (1116 – 1132)
Madog ap Maredudd (1132 – 1160)
O 1160 ymlaen rhanwyd Powys yn ddwy ran, sef Powys Wenwynwyn yn y de a Powys Fadog yn y gogledd.
Tywysogion Powys Wenwynwyn
golyguOwain Cyfeiliog (1160 – 1195)
Gwenwynwyn ab Owain (1195 – 1216)
Gruffudd ap Gwenwynwyn
Tywysogion Powys Fadog
golyguGruffudd Maelor I (1160 – 1191)
Madog ap Gruffudd Maelor (1191 – 1236)
Gruffudd Maelor II (1236 – 1269)
Cestyll Tywysogion Powys
golygu- Castell Bodyddon
- Castell Caereinion
- Castell Crogen
- Castell Cymer
- Castell Dinas Brân (hefyd ym meddiant Gwynedd)
- Castell Mathrafal
- Castell Tafolwern
- Castell y Trallwng
Cantrefi a chymydau Powys
golyguRhestrir yma cantrefi Powys a'u cymydau fel yr oeddent ar ddiwedd y 12g. Sylwer nad arosodd pob un o'r rhain yn rhan o'r deyrnas: collwyd rhai, fel Penllyn a Meirionnydd, i deyrnas Gwynedd.
- Arwystli
- Caereinion
- Cedewain
- Colunwy
- Cyfeiliog
- Cynllaith
- Dinmael (arglwyddiaeth led-annibynnol)
- Maelor
- Maelor Saesneg
- Mawddwy
- Cantref Mechain
- Cantref Meirionnydd
- Cantref Mochnant
- Nanheudwy
- Penllyn (cantref ym meddiant Powys i ddechrau ond yn rhan o Wynedd yn y 13g)
- Ystrad Marchell