Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Y Chwyldro Diwydiannol yng Ngymru

Tirwedd diwydiannol De Cymru tua 1825
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
HWB

CBAC

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Roedd y Chwyldro Diwydiannol yng Ngymru yn gyfnod o newid mewn cymdeithas pan ddatblygodd diwydiant i achosi newidiadau mawr yn y ffordd roedd pobl yn gweithio ac yn byw. 

Yn 1750 roedd Prydain yn gwlad ble roedd y mwyafrif o’r bobl yn byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig i ond erbyn 1850 datblygodd i fod yn wlad ddiwydiannol ble roedd y mwyafrif yn byw yn y trefi a’r dinasoedd ac yn gweithio gyda pheiriannau.  Erbyn hynny roedd Prydain yn cael ei gweld gan weddill y byd fel ‘gweithdy’r byd’ gan ei bod yn cynhyrchu 66% o lo y byd, 50% o haearn y byd a 50% o fetel y byd.

Roedd yn gyfnod, rhwng tua 1750 hyd at 1850, a welodd ddulliau newydd o gynhyrchu nwyddau a bwyd ar draws Ewrop ac yn Unol Daleithiau America.  Dyma gyfnod pan welwyd:

  • Newid o ddulliau llaw i ddyfeisiad a defnyddio peiriannau
  • Newidiadau yn y ffordd o gynhyrchu haearn
  • Mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o bŵer stêm a phŵer dŵr
  • Datblygiad y sustemau ffatri gyda pheiriannau mecanyddol
  • Twf aruthrol ym mhoblogaeth y wlad.

Gwelodd Gymru newidiadau yn ei ffordd o fyw ac yn ei ffordd o weithio yn sgil y Chwyldro Diwydiannol.  Gyda datblygiad y gweithfeydd haearn yn Cymru yn ardal Merthyr a’r de-ddwyrain yn sir Fynwy gwelwyd trefi diwydiannol yn tyfu o gwmpas y gweithfeydd a’r ffatrioedd. Yn y gogledd-ddwyrain roedd gweithfeydd Bersham ac wedyn Brymbo wedi cael eu sefydlu gan y Brodyr Wilkinson ar ddiwedd y 18fed ganrif ac roedd y gweithfeydd copr yn Abertawe ac Amlwch wedi diwydianeiddio’r ardaloedd hynny.  Daeth peiriannau yn rhan o fywyd gwaith pobl a chyda hynny daeth ffyrdd newydd o deithio a chludo nwyddau gyda’r camlesi a’r rheilffyrdd. Roedd pŵer corfforol a phŵer anifail a’r elfennau belllach wedi cael eu disodli gan bŵer stêm ac yn nes ymlaen trydan.  Datblygodd trefi diwydiannol fel Merthyr, Abertawe ac yn nes ymlaen Caerdydd ond er mor ddeniadol oedd y cyflogau da yn y gweithfeydd roedd pris i’w dalu.  Roedd peryglon y gwaith yn ofid cyson ac roedd amodau byw yn y trefi diwydiannol yn frwnt ac yn anodd.

Achosion y Chwyldro Diwydiannol

golygu
 
Paentiad yn darlunio agoriad Rheilffordd Lerpwl a Manceinion ym 1830, y rheilffordd rhyng-ddinas gyntaf yn y byd.
  • Nodweddion daearyddol Prydain – roedd gan Brydain adnoddau mwyn cyfoethog wedi eu lleoli ar draws y wlad yng ngogledd Lloegr, canolbarth Lloegr, de Cymru, Cernyw a thiroedd isel yr Alban.   Roedd mwynau fel haearn, plwm, copr, tin mewn digonedd ac roedd gan Brydain yr ansawdd gorau o lo yn Ewrop.  Roedd ganddi hefyd ddigonedd o bŵer dwr a chalch i helpu datblygu ac ehangu gwahanol ddiwydiannau.  Roedd calch yn cael ei ddefnyddio i buro haearn er mwyn cryfhau ar gyfer gwahanol bwrpas a defnydd. Roedd hinsawdd llaith y tywydd yng ngogledd-orllewin Lloegr, er enghraifft, Manceinion, yn darparu’r amodau gorau posib ar gyfer troelli cotwm.  Roedd hwn yn gynnyrch allweddol i’r diwydiant tecstiliau.
  • Trafnidiaeth – roedd gan Brydain nifer o borthladdoedd ac afonydd y medrid hwylio arnynt. Roedd arfordir eang Prydain hefyd yn hollbwysig wrth fewnforio ac allforio nwyddau ac yn help wrth gludo nwyddau ar draws un rhan o’r wlad i’r llall.
  • Heddwch - bu cyfnod o heddwch ym Mhrydain yn ystod y 18fed ganrif ac arweiniodd hyn at sefydlogrwydd ble roedd diwydiant a masnach yn medru llwyddo
  • Masnach rydd - roedd Prydain yn farchnad lle nad oedd tollau neu threthi mewnol rhwng y gwahanol wledydd, er enghraifft, yr Alban, Lloegr a Chymru.  Roedd hyn yn helpu gwerthiant nwyddau.
  • Rôl unigolion – roedd mentergarwch dynion busnes y cyfnod yn golygu bod ganddynt yr arian i fuddsoddi a datblygu yr adnoddau crai, fel haearn a glo a oedd yn gyrru’r Chwyldro Diwydiannol, er enghraifft, teuluoedd fel y Crawshays, Guests, Homfrays a’r Hills yn ne Cymru.  Yn y diwydiant tecstiliau dyfeisiodd nifer o ddynion beiriannau newydd i gyflymu’r broses o wneud dillad, ac ym 1709 dyfeisiodd Abraham Darby ei ffwrnais haearn blast oedd yn defnyddio golosg, sef math o lo, i doddi’r haearn amhur.  Arweiniodd hyn at dwf yn y diwydiant glo.
  • Gweithlu – roedd gan Brydain digon o weithlu oedd yn medru cwrdd gyda’r galw am fwy o bobl i weithio mewn gwahanol ddiwydiannau.  Roedd newidiadau mawr yn amaethyddiaeth, fel y Chwyldro Amaethyddol wedi gweddnewid safon byw pobl.  Bu dynion fel Jethro Tull, Robert Bakewell a ‘Turnip’ Townshend yn arbrofi wrth dyfu cnydau a bridio anifeiliaid, gan gyflwyno dulliau mwy gwyddonol o ffermio.  O ganlyniad i’w hymdrechion roedd gwell a mwy o fwyd yn cael ei dyfu a’i gynhyrchu.  Roedd hyn yn ei dro wedi gwella safon byw pobl ac yn y pendraw wedi arwain at gynnydd yn nifer y genedigaethau.
  • Rhyfel – creodd rhyfeloedd fel Y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-1763), Rhyfel Annibyniaeth America (1775-1783) a Rhyfeloedd Napoleon (1803-1815) alw mawr am gynhyrchu mwy o arfau.

Mewnfudo tu allan a thu fewn i Gymru

golygu
 
Richard Crawshay (1739–1810). Diwydiannwr a pherchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa ger Merthyr Tudful


Y 18fed ganrif oedd dechrau’r Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru wrth i gyfoeth mwynol y wlad gael ei ecsbloetio yn fwy systematig. Er mai Cymry oedd rhai o’r diwydianwyr cynnar, daeth llawer ohonynt hefyd o Loegr, gan ddod â gwybodaeth dechnegol a gweithwyr medrus gyda hwy i ddechrau busnesau newydd. Er engraifft agorodd Dr John Lane o Fryste y gwaith copr cyntaf yn Abertawe yn 1714. Agorodd Isaac Wilkinson o Swydd Gaerhirfryn waith haearn yn Y Bers ger Wrecsam yn 1753. Ym Merthyr, roedd y prif feistri haearn – Richard Crawshay, John Guest, Anthony Bacon a Samuel Homfray i gyd yn Saeson. Symudodd pobl o bob rhan o Gymru i ardaloedd diwydiannol, wedi'u denu gan gyflogau da. Daeth gweithwyr hefyd o Iwerddon a Loegr, a thros amser cyflwynodd hyn yr iaith Saesneg i lawer o gymunedau Cymraeg am y tro cyntaf.

Wrth i'r broses ddiwydiannu yng Nghymru gyflymu ar ddiwedd y 18fed ganrif, gwelwyd twf cynyddol drwy gydol y 19eg ganrif. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, gweithfeydd haearn yng nghymoedd y De, gweithfeydd copr yng nghwm Tawe a chwareli llechi yn y Gogledd oedd y prif gyflogwyr. Fodd bynnag, erbyn diwedd y 19eg ganrif, glo oedd y diwydiant mwyaf. Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, roedd un o bob pedwar gweithiwr yng Nghymru yn löwr.

 
Merthyt Tudful yn ystod y chwyldro diwydiannol


Yn ystod y rhan fwyaf o’r 19eg ganrif, daeth y mwyafrif o ymfudwyr i’r ardaloedd diwydiannol hyn o siroedd gwledig Cymru, a Chymraeg fydd iaith bob dydd y gweithwyr yn y ffwrneisi haearn a chopr a’r chwareli llechi. Roedd ymfudwyr Saesneg eu hiaith hefyd, ond nid oeddent yn gyffredin. Gan fod y rhan fwyaf o’u cydweithwyr yn uniaith Gymraeg, roeddent yn dueddol o ddysgu’r iaith. Yn y 1840au, arweiniodd y Newyn Mawr yn Iwerddon at y don fawr gyntaf o fewnfudwyr i Gymru. Gwelwyd rhai mewnfudwyr o Iwerddon cyn hynny ond gorfodwyd pobl i adael y wlad oherwydd y newyn. Gwnaeth y nifer fawr o bobl a fewnfudodd o Iwerddon yng nghanol y 19eg ganrif helpu i ddatblygu economi Cymru hefyd, er na chawsant eu croesawu i’r fath raddau i ddechrau. Roedd llawer o bobl yng Nghymru wedi’u dychryn gan y niferoedd mawr o fewnfudwyr hanner newynog a oedd yn cyrraedd y wlad. Er bod cyfnodau ac ardaloedd penodol lle cafwyd gwrthwynebiad i bresenoldeb y Gwyddelod, roeddent yn weithwyr caled ar y cyfan ac felly’n ei chael hi’n gymharol hawdd dod o hyd i waith. Roeddent yn aml yn fodlon gwneud y math o waith brwnt, amhleserus nad oedd pobl eraill yn awyddus i’w wneud.

Erbyn 1861, roedd bron 30,000 o Wyddelod yn byw yng Nghymru, y grŵp mwyaf o fewnfudwyr o bell ffordd. Gwnaethant ymgartrefu’n bennaf yn y pedair tref fwyaf yn Ne Cymru - Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Merthyr. Roeddent yn weithwyr caled a daethant o hyd i swyddi yn y diwydiant adeiladu megus adeiladu dociau Caerdydd, y rhwydwaith rheilffordd a oedd yn ehangu, yn ogystal â'r pyllau glo a’r gweithfeydd dur. Buont yn rhedeg tai llety hefyd, yn aml yn yr ardaloedd tlotaf o’r dref er engraifft ardal Newtown yng Nghaerdydd a adeiladwyd gan yr Ardalydd Bute. Er bod y rhain yn aml yn orlawn, roeddent yn cynnig llety rhad iawn i’w cydwladwyr wrth i’r ymfudo o Iwerddon i Brydain barhau tuag at ddiwedd y 19eg ganrif. Erbyn 1881, roedd traean o drigolion Caerdydd yn Wyddelod.

Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, gwnaeth poblogaeth Cymru fwy na dyblu o 1,163,000 yn 1851 i 2,421,000 erbyn 1911. Gwelwyd mewnlifiad enfawr o bobl i gymoedd y De lle’r oedd y diwydiant glo yn ehangu. Rhwng 1851 a 1911, amcangyfrifir bod 366,000 o bobl wedi ymfudo i’r ardal, gan gynnwys 129,000 rhwng 1901 a 1911. Roedd De Cymru yn denu mwy o ymfudwyr nag unrhyw le y tu allan i’r UD. Yn 1901 yn y tair sir fwyaf diwydiannol – Clwyd, Gwent a Morgannwg – roedd y twf yn y boblogaeth 10 gwaith yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol.


Cynyddodd y nifer o fewnfudwyr o Loegr yn hwyrach yn y 19eg ganrif, yn enwedig ymhlith pobl o’r de-orllewin. Clywyd yr iaith Saesneg yn amlach yn y gweithle ac ar y strydoedd. Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, roedd wedi dechrau disodli’r Gymraeg fel iaith bob dydd yn y rhan fwyaf o ardaloedd diwydiannol y De.[1]

Poblogaeth rhai siroedd yng Ngymru [2]
Sir Poblogaeth 1801 Poblogaeth 1911
Sir Forgannwg   71,000 1,130,000
Caernarfon   41,500 142,000
Ceredigion   43,000 81,000
Sir Frycheiniog 32,000   56,000
Sir Fôn     34,000   51,000

Unigolion a diwydiannau Cymru

golygu
 
Allforio llechi o Felinheli yng Ngogledd Cymru, 1875

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol roedd gwahanol ddiwydiannau wedi cael eu sefydlu a’u datblygu mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.  Yng nghymoedd de a de-ddwyrain Cymru, haearn, glo a dur oedd y prif ddiwydiannau tra fod gweithfeydd copr yn Abertawe ac roedd tunplat yn cael ei gynhyrchu yn ardal y de-orllewin yn Llanelli.  Yn ystod y 19eg ganrif gwelodd y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru ‘oes aur’ yn y galw am ei chynnyrch ac roedd cynhyrchiant glo hefyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Roedd Cymru yn meddu ar yr adnoddau crai, y gweithlu a llwyddodd hefyd i ddenu buddsoddiad ariannol er mwyn sicrhau bod y Chwyldro Diwydiannol yn llwyddo yng Nghymru.  Bu mentergarwch teuluoedd fel y Crawshays o Swydd Efrog a’r Guests o ardal Amwythig yn allweddol i lewyrch gweithfeydd haearn Cyfathfa a Dowlais ym Merthyr, ac roedd sgiliau entrepreneraidd Thomas Williams, wedi golygu bod Mynydd Parys yn ennill ei phlwyf fel canolfan gopr byd-eang.  Daeth gwyddonwyr a dynion busnes i Abertawe yn y 18fed ganrif i fanteisio ar gyfoeth naturiol yr ardal, er enghraifft, roedd cefnogaeth ariannol ac arbenigedd Henry Hussey Vivian mewn gwaith metelau a mwynau wedi bod yn hollbwysig i lwyddiant Gwaith Copr Hafod. [3]

Unigolyn pwysig yn nhwf Caerdydd oedd John Crichton-Stuart, ail Ardalydd Bute a fuddsoddodd arian enfawr yn natblygiad Caerdydd fel porthladd.  Bu ei rol yn allweddol yn adeiladu Dociau Bute, Caerdydd ganol y 19eg ganrif i fod yn brif borthladd de Cymru ac yn un o brif borthladdoedd glo’r byd.[2][4] Yn yr un modd David Davies, Llandinam, y diwydiannwr a anwyd yn Llandinam, Sir Drefaldwyn, sefydlodd Dociau Barri a gwblhawyd yn 1889.[5] Roedd David Davies, fel diwydiannwr pwysig arall o’r cyfnod, sef D.A Thomas, yn berchen ar gwmni glo enfawr. Perchnogai Davies ar yr Ocean Coal Company Ltd ac roedd Thomas yn berchen ar Gwmni Gyfunol y Cambrian a oedd yn berchen ar sawl pwll glo yn ne Cymru ac yn cyflogi miloedd o lowyr.[6]

 
David Davies, Llandinam yn pori cynlluniau ar gyfer Dociau'r Barri


Haearn -   Mae Merthyr yn cael ei ystyried fel ‘crud’ y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru.  Buddsoddwyd yn adnoddau naturiol ardal Merthyr gan ddynion busnes a welodd eu cyfle i wneud eu ffortiwn yn y gweithfeydd haearn.  Erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd meistri haearn fel y Crawshays, Guests, Homfrays a’r Hills wedi creu ymerodraethau haearn ym Merthyr wrth sefydlu gweithfeydd fel Cyfarthfa, Dowlais, Penydarren a Plymouth a oedd yn cyflogi miloedd o weithwyr yn ddynion, menywod a phlant.  I’r dwyrain o Ferthyr agorwyd gweithfeydd haearn yn Nant-y-glo, Blaenafon a Thredegar yn Sir Fynwy.  Erbyn 1830 roedd Sir Fynwy a dwyrain Morgannwg yn cynhyrchu 50% o’r haearn a gynhyrchid ym Mhrydain gyfan.[7]

Copr - Yn ôl Cyfrifiad 1801 Abertawe oedd un o drefi mwyaf Cymru gyda dros 10,000 o bobl yn byw yno.  Yn ystod y 18fed ganrif hyd at gychwyn y 19eg ganrif daeth y dref a’r ardal gyfagos yn enwog fel canolfan gopr y byd ac yn adnabyddus fel ‘Copperopolis’.  Mewnforiwyd copr o Gernyw, Gogledd America a Chiwba i gael ei fwyndoddi yng Nghwm Tawe ac allforiwyd ef ar draws cyfandiroedd y byd i Affrica, Ewrop, Siapan a Tseina.[8]

Roedd gan Gymru hefyd ganolfan bwysig gopr arall yng ngogledd Cymru.  Erbyn diwedd y 18fed ganrif, roedd gwaith copr Mynydd Parys, ger Amlwch ar Ynys Môn yn cynhyrchu’r mwyafrif o gopr y byd.  Credwyd fod copr wedi cael ei gloddio yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid ac erbyn 1778 roedd y gwaith copr yn cael ei reoli gan Thomas Williams, Llanidan, twrne o Lundain.  O dan arweinyddiaeth Thomas Williams datblygodd Mynydd Parys i fod yn waith gyda gweithlu o dros 1,000 yn ei anterth a datblygwyd porthladd Amlwch er mwyn cludo’r cynnyrch copr i Lerpwl.   Roedd y copr o Amlwch yn cael ei gludo draw mewn llongau I weithfeydd copr a phres Thomas Williams yn Nhreffynnon a byddai’r llongau hefyd yn mynd a’r copr lawr i’r smeltrau naill ai yn Abertawe neu sir Gaerhirfyn oeddent hefyd wedi eu hadeiladu gan Thomas Williams.  Roedd y gwaith yn galed gyda phlant bach yn cael eu cyflogi yn y gwaith ac achosodd budreddi y Gwaith niwed i’r amgylchedd yn ardal Amlwch.  Erbyn canol y 19eg ganrif roedd y nifer a gyflogwyd yn y gwaith wedi lleihau’n sylweddol ac fe’u caewyd ar ddechrau’r 20fed ganrif.[9][10][11]

Diwydiant Gwlân - Yn ystod degawdau cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg datblygodd ‘trefi gwlân’ yn y Canolbarth – y Drenewydd, y Trallwng a Llanidloes.  Roedd y melinau gwlân niferus a ymddangosodd yn Nyffryn Hafren yn medru manteisio ar y system gamlesi gyfagos a fyddai’n cludo nwyddau gwlan lan i Fanceinion.  Yn y Drenewydd roedd 35 o ffatrïoedd nyddu ac 82 o weithdai gweu.  Erbyn canol y ganrif roedd llewyrch y diwydiant yn prysur ddiflannu ac un o’r rhesymau am hynny oedd diffyg cyflenwad o lo agos i’r gweithdai a ffatrïoedd gwlân.[12]

Llechi Gogledd Cymru - Bu dynion yn cloddio llechi yng ngogledd Cymru ers dros 1,800 o flynddoedd. Yn ystod y chwyldro diwydiannol daeth galw mawr am lechi ac fe dyfodd y diwydiant llechi yn syfrdanol. Yn 1898 cyrhaeddodd y fasnach lechi yng Nghymru ei hanterth pan gynhyrchodd 17,000 o ddynion 485,000 tunnell o lechi. Cymru a gynhyrchai dros bedwar rhan o bump o holl lechi Prydain yn y cyfnod hwn, a Sir Gaernarfon oedd ar y brig ymhlith holl siroedd Cymru.  Roedd Chwarel y Penrhyn, ger Bethesda a Chwarel Llanberis wedi eu lleoli yn sir Gaernarfon ac yn enwog ar draws y byd am safon y lechen roedden nhw’n ei chynhyrchu.

 
Pwll Glo Morgannwg, Llwynypia, Rhondda yn 1905

Glo - Erbyn 1913 glo oedd prif ddiwydiant Cymru. Roedd cymoedd de Cymru yn mwyngloddio glo a oedd yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd.  Roedd y diwydiant haearn wedi tyfu gyfochr a’r diwydiant glo.  Erbyn 1913 roedd traean o weithwyr Cymru yn gweithio yn y pyllau glo ac roedd yn waith peryglus a brwnt.

Yn 1913, fe gyrhaeddodd pyllau glo Cymru uchafbwynt cynhyrchu glo. Cynhyrchwyd mwy o lo yn y flwyddyn hon nag ar unrhyw adeg arall yn ein hanes. Glo oedd tanwydd trenau, llongau a ffatrïoedd. Daeth de Cymru yn fan pwysig iawn ym Mhrydain a’r byd oherwydd y glo a gynhyrchwyd.[13]

Cyfraniad glo i dwf Caerdydd - Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, Caerdydd oedd yn un o’r cymunedau amlddiwylliannol mwyaf ym Mhrydain gyda’r fasnach lo ryngwladol yn denu ymfudwyr o fwy na 50 o wledydd gwahanol i’r ddinas. Cafodd glo Cymreig, yn enwedig glo stêm o’r Rhondda, ei allforio i bob cwr o’r byd. Yn wir, anfonwyd y llwyth cyntaf erioed o lo o Gaerdydd i ynysoedd bach Cape Verde oddi ar arfordir Gorllewin Affrica, ac roedd morwyr o’r ynysoedd hynny yn cyrraedd Tiger Bay mor gynnar â'r 17eg ganrif. Gwelwyd cynnydd mawr yn y glo a allforiwyd o Gaerdydd yn ystod y 19eg ganrif. Yn aml, câi’r llongau glo eu criwio gan bobl o wahanol rannau o’r ymerodraeth Brydeinig, yn enwedig y Caribî, Iemen, Somalia a Gorllewin Affrica, felly nid yw’n syndod bod rhai o’r morwyr hyn wedi ymgartrefu yn y porthladd. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn byw yn Tiger Bay neu Dre-biwt, ger y porthladd.[1]

Trafnidiaeth

golygu
 
Rhan o ddyfrbont Y Waun, 1795.

Gyda thwf diwydiant daeth gwelliant mewn ffyrdd o deithio gan fod angen cludo cynnyrch o un lleoliad I’r llall ar draws y wlad.  Bu camlesi yn gam mawr ymlaen o gymharu a cheffyl a chert fel dull cludiant fel y bu ar ddechrau’r Chwyldro Diwydiannol ganol y 18fed ganrif.  Adeiladwyd Camlas Sir Forgannwg yn ystod y 1790au a oedd yn cysylltu Merthyr gyda Chaerdydd ac roedd hyn yn ddull llawer fwy cyflym na chario nwyddau ar yr hewl.[14] Gyda phŵer stêm a glo daeth cyfnod y rheilffyrdd ac roedd y datblygiad yma yn rhoi mynediad i marchnadoedd ehangach.

Newidiodd trenau ffordd o fyw ac arferion gwaith bobl yn y 19eg ganrif.  Erbyn 1850 roedd tua 5,000 milltir o reilffordd wedi ei osod ym Mhrydain. Defnyddiodd cwmnïau mawr fel y rhai glo a haearn y rheilffyrdd i fynd a nwyddau o un lle i’r llall. Trawsnewidiwyd y dull o gludo glo o Ferthyr i Gaerdydd gyda agor Rheilffordd Cwm Taf yn 1841.[15]

Roedd angen glo hefyd i bweru’r rheilffyrdd ac yng nghanol y 19eg ganrif glo oedd y tanwydd pwysicaf yn y byd.  Yn ffodus yng Nghymru roedd digonedd o lo yn eistedd yn ddwfn yn y tir, ac roedd yn lo arbennig o dda.  De Cymru oedd un o brif ganolfannau i danwydd y byd yn yr 19eg ganrif.  Roedd y rheilffyrdd wedi gwneud hi’n hawdd allforio’r glo. Rhedai rheilffyrdd o’r cymoedd i borthladdoedd mawr, fel Caerdydd, ac wedyn rhoddwyd y glo ar longau i’w ddosbarthu i weddill y byd.  Roedd glo yn danwydd da ac yn ddefnyddiol i drenau, llongau, gwresogi cartrefi a ffatrïoedd haearn.

Amodau gwaith a byw yn y trefi diwydiannol

golygu
 
Tai i weithwyr yn Elliot's Town, Tredegar Newydd.

Un datblygiad arall a ddigwyddodd o ganlyniad i’r Chwyldro Diwydiannol oedd ymddangosiad trefi diwydiannol. Roedd amodau byw yn wael iawn mewn trefi diwydiannol. Symudodd pobl i fyw mewn trefi lle roedd ffatrïoedd. Am fod y datblygiad hwn yn digwydd mor gyflym,

adeiladwyd tai yn sydyn, yn agos i’r ffatrïoedd, heb fawr o sylw yn cael ei roi i’w hansawdd, a rhan amlaf heb gyflenwad o ddŵr glân na sustem garthffosiaeth.[16]

Doedd dim deddfau cynllunio pan gafodd y trefi eu hadeiladu ac oherwydd hyn roedd y tai'n aml wedi eu hadeiladu'n agos iawn at ei gilydd heb fawr ystyriaeth i'r bobl fyddai'n byw ynddyn nhw. Adeiladwyd nhw gan ddefnyddio deunyddiau adeiladu o ansawdd gwael, er enghraifft, tywodfaen, a oedd yn caniatau tamprwydd mewn i’r ty gan ei fod mor mandyllog. Doedd y tai ddim yn cael eu hadeiladu'n ddigon cyflym i'r nifer cynyddol o weithwyr, a byddai pobl yn aml yn symud i fyw at berthnasau a theuluoedd, ac roedd hyn yn arwain at orlenwi.

Canlyniad arall tai wedi eu hadeiladu'n wael a gorlenwi oedd bod heintiau'n gallu lledu'n gyflym. Lladdodd clefydau fel y frech goch a'r frech wen, lawer o bobl, yn enwedig y rhai ifanc iawn a'r henoed. Anfonodd y llywodraeth arolygwyr o gwmpas y wlad i ymchwilio i amgylchiadau'r trefi diwydiannol newydd am ei bod yn poeni am haint o'r enw colera. Pan gafwyd pla o golera yn 1849, roedd gan Ferthyr Tudful yr ail gyfradd marwolaeth uchaf yn y wlad. Dim ond yn Hull yn Lloegr roedd mwy o bobl yn marw.

Roedd amodau gweithio'n wael iawn yng Nghymru'r 19eg ganrif, er ei bod hi'r un fath dros Brydain gyfan. Roedd y gwaith yn aml yn beryglus iawn, ac roedd y cyflogau’n isel.  Achosodd amodau gwaith anfodlonrwydd mawr ymhlith y gweithwyr.  Yn y 19eg ganrif darganfyddwyd fod llawer iawn o blant yn gweithio o dan ddaear mewn pyllau glo neu'n cael eu defnyddio i roi help i wneud haearn. Roedd mwy o blant yn gweithio yn Ne Cymru nag mewn unrhyw ardal arall o Brydain. Nid oedd gweithio sifft o 16 awr yn beth anghyffredin, gyda phlant 5 mlwydd oed yn gweithio 14 awr y dydd.  Roedd gwaith y plant yn aml yn beryglus. Bydden nhw'n cael eu hanfon i'r gwaith yn ifanc iawn i roi cymorth i gynnal eu teuluoedd.[16]

Tensiynau a therfysgoedd

golygu

Achosodd y Chwyldro Diwydiannol lawer o ddioddefaint.  Rhan bwysig o’r chwyldro oedd bod peiriannau yn cael eu dyfeisio, a byddai’r rhain yn gwneud y gwaith yr arferai gweithwyr

ei wneud.  Golygai hyn bod pobol yn colli eu gwaith neu fan lleiaf yn gweld gostyngiad sylweddol yn eu cyflogau.[16] Achoswyd Terfysgoedd y Ludiaid (The Luddite Riots) yn Lloegr rhwng 1811-1817 oherwydd collodd nifer o weithwyr amaethyddol eu gwaith achos dyfodiad peiriannau mewn amaethyddiaeth. Dechreuodd y protestwyr falu’r peiriannau o dan arweinyddiaeth Ned Ludd.  Cosbwyd y protestwyr yn llym gyda rhai yn cael eu crogi yn 1813.[16]

Yng nghanolbarth Cymru roedd effeithiau’r Chwyldro Diwydiannol yn cael effaith ar y gweithlu yn y diwydiant gwlân.  Roedd amodau yn y melinau gwlân yn llym, ac roedd yr amodau byw yr un mor wael. Yn ogystal, roedd yr anfodlonrwydd cyffredinol tuag at gyflwyniad Deddf Newydd y Tlodion yn 1834 wedi arwain at ffurfio canghennau o’r Siartwyr yn y Canolbarth.  Sefydlwyd y gangen gyntaf yn y Drenewydd yn 1837.[17]

Roedd cefnogwyr y Teirw Scotch yn gweithredu yn ne-ddwyrain maes glo de Cymru ac yn cael eu hystyried yn fath o undeb llafur cyntefig. Gweithwyr yn y diwydiannau trwm oedd trwch yr aelodau ac roedd wedi dod i fodolaeth oherwydd y gwrthdaro rhwng cyflogwr a gweithiwr. Bwriad y ‘Teirw’ oedd sicrhau undod ymhlith y gweithwyr.[18]

 
Terfysg Merthyr yn 1831.

Ym Merthyr roedd cyfuniad o effeithiau’r Chwyldro Diwydiannol wedi arwain at Derfysg Merthyr yn 1831. Roedd yr amodau byw ffiaidd a’r amodau gwaith anheg wedi gyrru’r gweithwyr haearn i brotestio yn erbyn anghyfianwderau ac anhegwch eu sefyllfa.  Roedd yn gas ganddynt hefyd y System Dryc sef system a ddefnyddiwyd gan y meistri haearn i dalu’r gweithwyr mewn tocynnau yn hytrach nag mewn arian.  Achosaodd hyn iddynt fynd yn aml i ddyled ac oherwydd hynny byddai sawl un yn chwilio ei hun o flaen Llys y Deisyfion oedd yn atgas yng ngolwg llawer. Yn ychwanegol at hyn, roedd y ffaith nad oedd ganddynt bleidlais i ddangos eu hanfodlorwydd yn rhwystredigaeth arall oedd yn gwaethygu eu sefyllfa.

Cyn dechrau’r Chwyldro Diwydiannol, roedd y nifer fach o fewnfudwyr a ddaeth i Gymru wedi integreiddio’n hawdd i mewn i’w cymunedau lleol. Fodd bynnag, adeg y Chwyldro Diwydiannol, pan gyrhaeddodd nifer fawr o Wyddelod yn y 1840au achosodd hyn densiynau ac arweiniodd at y terfysgoedd hiliol cyntaf yng Nghaerdydd yn 1848 ar ôl i Gymro, Thomas Lewis, gael ei drywanu gan Wyddel, John Conners. Achosodd y mewnfudo o Iwerddon broblemau am nifer o resymau, er enghraifft, cyrhaeddodd y mewnfudwyr yn ystod dirwasgiad economaidd. Roedd gweithwyr lleol yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith ac yn honni bod y Gwyddelod yn barod i weithio am gyflog llai. Gwnaethant gyrraedd mewn niferoedd mawr ac mewn cyflwr enbydus. Pan gafwyd achosion o golera yng Nghaerdydd yn 1849, y Gwyddelod, a oedd yn byw yn slymiau tlotaf a mwyaf gorlawn y ddinas, gafodd y bai am ledaenu’r clefyd. Roedd papurau newydd lleol yn wrthwynebus ac yn cyfeirio atynt yn aml fel “Mud Crawlers” (oherwydd y ffaith eu bod yn cael eu gollwng weithiau wrth y draethlin gan gapteiniaid llongau, yn frwnt ac yn gorfod dod o hyd i’w ffordd eu hunain i’r dref agosaf.)

Roedd Cymru yn wlad Brotestannaidd, anghydffurfiol gan fwyaf ac roedd y rhan fwyaf o’r mewnfudwyr Gwyddelig yn Gatholigion Rhufeinig. Yn ystod y 19eg ganrif, byddai cynifer ag 20 o derfysgoedd gwrth-Wyddelig ledled y wlad, mewn lleoedd mor bell oddi wrth ei gilydd â Chaerdydd a Chaergybi. Roedd tensiynau ethnig yn eithriadol o wael yn Sir Fynwy a Morgannwg, lle cafodd y newydd-ddyfodiaid eu cyhuddo o weithio am gyflogau ȋs. Fodd bynnag, wrth i’r economi gryfhau, daeth yn haws i fewnfudwyr Gwyddelig ddod o hyd i waith. Roeddent yn fodlon gwneud gwaith anodd, yn aml o dan yr amodau mwyaf brwnt a pheryglus. Ledled Cymru, fe’u gwelwyd yn gweithio ar brojectau adeiladu et engraifft adeiladu dociau Caerdydd a’r rhwydwaith rheilffordd a oedd yn ehangu, yn ogystal ag yn y pyllau glo a’r gweithfeydd dur. Nid oes unrhyw dystiolaeth gadarn ychwaith bod y Gwyddelod wedi tandorri cyflogau gweithwyr lleol. Mae’n debygol mai bychod dihangol cyfleus oeddent pan fyddai pethau’n wael.[1]

 
Agnes[dolen farw] May Webber (13 oed) a'i chwaer fach yn chwilio ac yn aros am newyddion am ei thad yn Senghennydd.

Trychinebau

golygu

Un o’r digwyddiadau sy’n dangos mor beryglus oedd amodau gwaith y pyllau glo oedd Tanchwa Senghennydd, Hydref 14,1913.  Lladdodd y tanchwa 439 glowr yn siafft Lancaster, a oedd yn berchen i Bwll Glo Universal, yn Senghennydd, ger Caerffili. Roedd perchnogion y pwll glo wedi anwybyddu rhybuddion am y peryglon yn y pwll ychydig amser yn unig cyn y trychineb. Roedd Senghennydd yn adnabyddus am fod yn bwll lle roedd llawer o nwy a llwch. Cymaint oedd nerth y ffrwydrad cafodd pen y banciwr a oedd yn sefyll ar ben y pwll, ei dorri ffwrdd gan blanc o bren oedd wedi chwythu fyny gan gryfder y ffrwydrad. Teimlodd y pentref cyfan y ffrwydrad a thorrwyd ffenestri tua hanner milltir i ffwrdd. Roedd llawer o'r glowyr wedi cael eu llosgi mor ddrwg fel mae dim ond eitemau fel esgiadiau, tuniau baco neu oriawr oedd yn helpu'r achubwyr a'r teuluoedd i adnabod eu perthnasau. Dinistriodd y trychineb y gymuned a oedd yn un Gymraeg ei hiaith ar y cyfan. Collodd genhedlaeth o’i gweithwyr, yr oedd llawer ohonyn nhw’n ddynion ifanc ac yn fechgyn. Cymerodd dros fis i'r mwyafrif o'r cyrff i ddod i fyny i wyneb y pwll. O safbwynt nifer y coleddion Tanchwa Senghennydd yw'r drychineb waethaf yn hanes y diwydiant glo ym Mhrydain.[19] [20]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Patrymau mudo y cyd-destun Cymreig" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  2. 2.0 2.1 "Cymru, Prydain a'r Byd, 1913" (PDF). HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  3. "Abertawe a Chaerdydd" (PDF). HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.[dolen farw]
  4. "Yn y lle hwn - dathlu canrif o gasglu". www.webarchive.org.uk. Cyrchwyd 2020-04-03.
  5. "DAVIES, DAVID (1818 - 1890), Llandinam; | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-03.
  6. "THOMAS, DAVID ALFRED (1856 - 1918), yr is-iarll RHONDDA 1af | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-03.
  7. "Haearn a Glo yng Nghymru". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  8. "Abertawe a Chaerdydd". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  9. Rowlands, John. Copper Mountain. Cymdeithas Hynafiaethwyr Mon.
  10. Davies, John. Hanes Cymru. t. 314.
  11. "Uffern o le". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2015-01-23. Cyrchwyd 2020-04-03.
  12. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 409–410.
  13. "Cymru yn 1913". HWB. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  14. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 619.
  15. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 619.
  16. 16.0 16.1 16.2 16.3 "Gwleidyddiaeth a Llywodraeth 1780 - 1886". CBAC. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  17. "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  18. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 886.
  19. Peredur Lynch, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 842.
  20. Davies, John (1990). Hanes Cymru. t. 471.